|
|
|
|
(1, 0) 76 |
Mi feddylis mod i'n clywad sŵn ych llais chi, Dafydd. |
|
|
(1, 0) 78 |
Hylo, be di'r matar arnoch chi heno? |
(1, 0) 79 |
Ma'ch gwynab chi cyn goched a chrib ceiliog; be sy wedi codi'ch gwrychyn chi rwan? |
|
|
(1, 0) 81 |
Wel, yn wir, o'r holl greduriaid sydd ar y ffarm chi'r dynion ydi'r rhai rhyfedda! |
(1, 0) 82 |
Chi ddynion yn fodau rhesymol─chi sy'n colli'ch tempar y funud yr ewch i drio ymresymu? |
|
|
(1, 0) 85 |
Felly wir; mi fuoch, decini, yn deyd wrtho fo'r fath golled i'r eglwys ydi bod heb ddyn fel y fo? |
|
|
(1, 0) 87 |
Mi fuoch yn dangos y fath fraint i'r eglwys fasa medru bachu samon mawr fel Gruffydd ni? |
(1, 0) 88 |
Begera aeloda y galwa i beth fel na; fasa Paul byth yn plygu i gardota pobol i'r eglwys yn y ffordd yna; ac er bod Gruffydd ma'n burion dyn, nid wrth i gosi o a phorthi i falchtar o y medrwch chi i gael o i mewn i'r eglwys; y gwir plaen ydi─ |
|
|
(1, 0) 91 |
Y gwir plaen ydi─ma Gruffydd yn credu i fod o'n ddigon o eglwys i hunan. |
|
|
(1, 0) 93 |
Peidiwch a chellwar hefo petha na wyddoch chi ddim am danyn nhw; byddwch yn fodlon i fod yn awdurdod ar fenyn a chaws a ffowls. |
|
|
(1, 0) 95 |
Dafydd, glywsoch chi fod Mr. Evans yn |agent| dros y cwmni na yn Llunden? |
|
|
(1, 0) 97 |
Yn eno'r tad, y cwmni mawr sydd a chymin o sôn am dano'n talu'r llog arian uchel. |
|
|
(1, 0) 99 |
Dyna fo. |
|
|
(1, 0) 102 |
Ia, pam lai? |
(1, 0) 103 |
Does dim o le yn y swydd, oes yna? |
(1, 0) 104 |
Mi wyddoch fod dega lawer o weinidogion y gwahanol enwada yn |agents| i'r |Auxiliary|. |
|
|
(1, 0) 114 |
"Pa fodd i wneud y goreu o'r ddau fyd." |
|
|
(1, 0) 117 |
Peidiwch a boddro am Huw mor amal; mi rydw i wedi laru'ch clywad chi byth a hefyd yn barnu crefyddwyr wrth Huw, a chitha'n gwbod ma un o chwyn yr eglwys ydi o. |
|
|
(1, 0) 125 |
Morus, y bachgan ma, roth hum i mi. |
|
|
(1, 0) 127 |
Felly ma nhw'n deyd. |
(1, 0) 128 |
Mi fydd Morus yn lwcus i chael hi, achos mi ŵyr sut i gadw tŷ; dyma hi wedi cadw'r tŷ i'w thad byth er pan bu farw i mam. |
|
|
(1, 0) 133 |
Cnafon twyllodrus, yn wir! |
(1, 0) 134 |
Ma'r cwmni'r un mwya parchus yn y wlad, ac ma rhai o'r bobol ora ynglŷn a fo. |
(1, 0) 135 |
Dyna'r pen dyn, Mr. Francis, yn aelod seneddol ac yn proffesu crefydd, a mawr o arian mae o'n gyfrannu o hyd at achosion crefydd. |
|
|
(1, 0) 139 |
Wfft fawr i'ch coegni chi. |
(1, 0) 140 |
Mi wn be ydw i'n ddeyd; ma'r papura newydd yn llawn o'r gymdeithas bob wsnos. |
(1, 0) 141 |
Mi welis yn "Utgorn Cymru'' y dydd o'r blaen fod Mr. Francis yn rhoi pum mil o bunnau at wahanol gymdeithasa cenhadol, roedd o hefyd yn gosod carreg sylfaen dau ne dri o gapeli yn Llunden chydig yn ol. |
|
|
(1, 0) 146 |
Da chi, Gruffydd, rhowch ben ar y gwawd annuwiol na; peidiwch a sylwi arno fo, Mr. Evans. |
|
|
(1, 0) 159 |
Dafydd, dydw i ddim o gwbl o'r un farn a chi. |
|
|
(1, 0) 179 |
Rhag cywilydd i chi Gruffydd!─yn siarad fel pagan yng ngŵydd Mr. Evans fel hyn. |
|
|
(1, 0) 185 |
Rydw i wedi dilyn hanes y Gymdeithas ers misoedd, ymhell yn wir cyn bod sôn am dani yma hefo ni. |
(1, 0) 186 |
Mae gen i frawd yn Lerpwl fentrodd arni'n bur ddwfn, ac mae'r lloga'n dwad i mewn yn gyson fel y cloc. |
(1, 0) 187 |
A dydi Gruffydd ma chwaith wedi cael fawr o lonydd ers plwc byd, mi rydw i'n gneud y ngora i gael ganddo roi deucant ne dri i mewn yni hi. |
(1, 0) 188 |
Pam y rhaid i ni golli petha gora'r byd a chrafu a chynhilo a phinsio'n hunain a dim uwch bawd troed yn y diwedd? |
|
|
(1, 0) 198 |
Go lew wir, thenciw; newch chi ddim eista funud? |
|
|
(1, 0) 211 |
Tewch, y Iolyn gwirion. |
(1, 0) 212 |
Nos dawch, Miss Evans. |
|
|
(1, 0) 216 |
Cloch bach yn canu yn ych clust chi, wir! |
(1, 0) 217 |
Canu yn ych stumog chi y bydd hi amlaf. |
(1, 0) 218 |
Wn i ar y ddaear fawr pam rydach chi'n petruso, achos ma'r Gymdeithas fel y Banc o Ingland, ac mi gewch weld y gnaiff Mr. Evans |agent| rhagorol. |