| (1, 0) 31 | Un felna yw 'i mam? |
| (1, 0) 35 | O, dyna grand! |
| (1, 0) 36 | Mae'n raid bod nhw'n gyfoethog |
| (1, 0) 45 | O, drychwch, Jim, ond yw hwn yn bert? |
| (1, 0) 49 | Beth sy' mater arnoch chi? |
| (1, 0) 54 | Diws anwyl! |
| (1, 0) 55 | Alla i ddim gwishgo beth wi'n lico. |
| (1, 0) 57 | Rown i'n meddwl ych bod chi'n wastod yn lico'r hat hyn. |
| (1, 0) 58 | Jim |
| (1, 0) 59 | Sh-sh-sh! |
| (1, 0) 60 | Pidwch a iwso'r gair yna o flan Modryb Mary Jane. |
| (1, 0) 61 | Fydd hi'n ffilu deall lle gesoch chi'ch magu. |
| (1, 0) 62 | Pwff! |
| (1, 0) 63 | Geso' i'n magu yn well na hi ta beth! |
| (1, 0) 64 | Dim ond yr hen Ddaniel Trwyn Coch oedd i thad hi, wedi'r cwbwl. |
| (1, 0) 69 | Lwc na chafodd i thad ddim gafael ynddyn nhw i roi rhagor o baent ar ei drwyn! |
| (1, 0) 73 | Mi 'naf fy ngore, Jim. |
| (1, 0) 74 | Beth wedsoch chi wrtho i? |
| (1, 0) 77 | Dim ond un ddu wi'n wishgo mewn angladde. |
| (1, 0) 81 | Beth? |
| (1, 0) 84 | O! |
| (1, 0) 88 | Beth yw hynny i chi? |
| (1, 0) 93 | Allse 'ni ddim. |
| (1, 0) 94 | Oe'n nhw wedi mynd i gael i tapo. |
| (1, 0) 95 | Os nag yw nillad i digon da i'ch hen fodryb Mary Jane, well i fi fynd sha thre'. |
| (1, 0) 96 | Ma'r traed sy'n gwishgo'r sgitshe hyn lawer yn well na thraed merch yr hen Ddaniel Trwyn Coch. |
| (1, 0) 97 | 'Rwi ddim yn mynd i aros yma i gael fy sengi dan drad. |
| (1, 0) 103 | Allwch chi weud hynny! |
| (1, 0) 108 | Canpunt? |
| (1, 0) 109 | Pwy ganpunt? |
| (1, 0) 110 | Odi'ch modryb yn mynd i roi canpunt i fi am wishgo y'n sailor hat, a'n dress ddu, a'n sgitshe gore? |
| (1, 0) 111 | Nonsense! |
| (1, 0) 114 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 115 | Pidiwch a bod shwd ffwl! |
| (1, 0) 119 | Beth yw y canpunt 'na ych chi'n son am dano? |
| (1, 0) 120 | Pam na wedsoch chi wrtho i am dano o'r blan? |
| (1, 0) 123 | Cerwch ona, chi a'ch sgitshe, a'ch hat sailor, a'ch dress ddu! |
| (1, 0) 124 | Gwedwch wrtho i ar unwaith. |
| (1, 0) 125 | Oes ar ych modryb ganpunt i chi? |
| (1, 0) 128 | Y hi gadwodd e mas! |
| (1, 0) 130 | A 'dyw'r hen scriw ddim wedi talu nhw eto? |
| (1, 0) 133 | Falle na wnaiff hi ddim nawr. |
| (1, 0) 137 | A mi fu Mari Daniel Trwyn Coch fyw i fod bedwar ugen! |
| (1, 0) 140 | Pam 'ych chi wedi bod mor hir heb drio cal y canpunt? |
| (1, 0) 144 | O, dyna hen fenyw glos yw hi! |
| (1, 0) 146 | Stim o hi wedi rhoi dim i chi? |
| (1, 0) 149 | A fase ni'n rhyfeddu dim i bod hi'n mynd bob dydd Sadwrn i Abertawe i'r theatre, a thair gwaith yr wthnos i'r pictiwrs. |
| (1, 0) 151 | Beth ma hi wedi roi i chi? |
| (1, 0) 155 | Ingersoll's, Coron. |
| (1, 0) 156 | Yn mynd bob tro ych chi'n mynd. |
| (1, 0) 159 | Shidanyn wir! |
| (1, 0) 160 | Mercerised. |
| (1, 0) 164 | Oedd hwnnw ddim yn newydd pan gesoch chi e. |
| (1, 0) 165 | Gweles fod yr enw wedi cael i rwbo mas. |
| (1, 0) 168 | Pwff! |
| (1, 0) 169 | Lot o hen rwbish wedi i prynnu yn Woolworth's. |
| (1, 0) 170 | Oen ni wedi bod yn rhyfeddu lle cesoch chi nhw. |
| (1, 0) 172 | Mae digon o wallt 'da chi to beth, heb yr hen stwff 'na. |
| (1, 0) 173 | Falle taw peth ar ol ych ewyrth oedd e. |
| (1, 0) 176 | Wi i ddim yn gwbod, Jim Davies. |
| (1, 0) 177 | Rwi'n meddwl withe fod diaconied r'un peth a rhyw bobl arall, just fel chi a finne, ac yn colli i gwallt fel pobl arall. |
| (1, 0) 178 | Ond pam ych chi'n meddwl y bydd hi'n rhoi y canpunt nawr? |
| (1, 0) 180 | Wel, mae hynny'n all right, odi e ddim? |
| (1, 0) 184 | O, ych chi'n meddwl y bydd hi yn fy lico i? |
| (1, 0) 186 | O! |
| (1, 0) 188 | Dyna dreni i chi newis i, Jim. |
| (1, 0) 192 | Ych chi'n siwr, yr hen gariad? |
| (1, 0) 193 | Beth wnawn pan gawn i e? |
| (1, 0) 197 | O, Jim, ych chi'n meddwl fod e'n saff? |
| (1, 0) 205 | O, Jim, alla'i gredu hynna? |
| (1, 0) 207 | Pidwch a chyfri'ch cywion cyn bod nhw'n dod lawr, machgen i. |
| (1, 0) 208 | Mae'r canpunt gyda'ch modryb hydyn hyn. |
| (1, 0) 211 | Falle bydde'n well i chi weud wrtho i swd i bleso'ch modryb. |
| (1, 0) 214 | Mae'r Methodistiaid cystal a neb, ac yn well na rhai pobl fel y— |
| (1, 0) 217 | O, ro 'ni wedi anghofio. |
| (1, 0) 218 | Cerwch ymlan. |
| (1, 0) 220 | Pam? |
| (1, 0) 224 | Peth od nag yw hi'n byw yn y back! |
| (1, 0) 226 | Ond am beth ga i siarad, te? |
| (1, 0) 230 | Falle fydde'n well ifi gaead y mhen. |
| (1, 0) 233 | Pidwch a siarad rhagor am yn sgitshe. |
| (1, 0) 234 | Mae nhw dri size yn llai na sgitshe yr hen Adelina 'na. |
| (1, 0) 237 | O, ie, roe'n i wedi anghofio yr hen ganpunt. |
| (1, 0) 238 | Pe baech yn gofyn imi lyncu'n hat am y canpunt 'na, bydde rhaid i fi neud hynny. |
| (1, 0) 241 | O, ie! |
| (1, 0) 247 | Fyse'n i ddim yn rhyfeddu bod eich modryb ishe chi iddi Hadelina. |
| (1, 0) 254 | Pwff, yr hen fflirt mawr 'na. |
| (1, 0) 258 | Pwy wedodd wrthoch chi? |
| (1, 0) 262 | Odi'n wir! |
| (1, 0) 263 | Mae e'n cael dipyn o sport gyda'r merched. |
| (1, 0) 264 | Pam, y ffair ddwetha i gyd, fe tretodd fi ar y Gondolas, ac i Show y Lions, a phrynnodd brandy snaps i fi, ac Ystalyfera Rock, a grapes, a 'rodd e mor garedig pan bigodd pigwnnen fi. |
| (1, 0) 267 | Pwff, paid bod mor jealous. |
| (1, 0) 268 | Beth oeni i neud? |
| (1, 0) 269 | Alle chi ddim dod gyda fi. |
| (1, 0) 270 | A pheth arall, 'rodd e mor neis! |
| (1, 0) 273 | O, all right! |
| (1, 0) 274 | Mae mwy o bysgod yn y mor nag a ddaliwyd. |
| (1, 0) 276 | Falle fydde'r plyfyn yn edrych yn fwy genteel pe bawn i'n ddodi e dipyn yn ish lawr. |
| (1, 0) 277 | Dim ond wedi i binno mae e. |
| (1, 0) 302 | Williams. |
| (1, 0) 308 | I—I—not— |
| (1, 0) 324 | Fues yma unwaith mewn Cyrdde Mawr gyda'r Methodistiaid, a geson bregethe da iawn. |
| (1, 0) 325 | Mae pregethwyr da gyda'r Methodistiaid. |
| (1, 0) 326 | [Yn stopio yn sydyn ac yn rhoddi ei llaw ar ei genau.} |
| (1, 0) 339 | Nag w i. |
| (1, 0) 342 | Mae digon o liw 'da fi yn naturiol. |
| (1, 0) 344 | O! |
| (1, 0) 351 | Dyna un pert yw hwnna! |
| (1, 0) 352 | Beth yw e? |
| (1, 0) 361 | Mae'n bert hefyd. |
| (1, 0) 362 | Weles un yn gwmws 'run peth yn Ben Evans, a 'rodd e'n costu 9s 11d. |
| (1, 0) 364 | O—o! |
| (1, 0) 370 | Brynodd Mr. Price e? |
| (1, 0) 387 | Ie. |
| (1, 0) 388 | Jolls-Joyce yw e—y car mwya expensive alle neb gal. |
| (1, 0) 389 | Mae Adelina yn wastod yn gweud wrtho i mor gyfforddus mae e—cushions o plush, a silver vase i ddodi y blode, a chloc bach—dyna glefer mae dynon 'nawr! |
| (1, 0) 390 | Mae Adelina wedi bod sawl gwaith 'da fe yn y motor. |
| (1, 0) 391 | Mae'n gweud i fod e'n gallu drifo yn splendid. |
| (1, 0) 393 | Ar yr un pryd, mae chauffeur 'da fe. |
| (1, 0) 395 | Y Mr. Price yna glywsom ni yn canu yn y concert ym Mhontardawe? |
| (1, 0) 403 | Mae'n neis i allu canu. |
| (1, 0) 410 | Odyn nhw wdi 'mygagio? |
| (1, 0) 429 | Nag ŷn nhw, wir? |
| (1, 0) 448 | Odw, os gwelwch yn dda. |
| (1, 0) 455 | Tipyn o dishen, os gwelwch yn dda. |
| (1, 0) 470 | Un a'r hugen. |
| (1, 0) 474 | Ond 'rwi wedi cadw ty nhad er pan own i'n beder a'r ddeg. |
| (1, 0) 483 | Diws! |
| (1, 0) 484 | Dyna fi wedi gneud hi nawr! |
| (1, 0) 502 | O, mae'n flin iawn genni! |
| (1, 0) 503 | Alla i'ch helpu chi? |
| (1, 0) 518 | Na, dim diolch... |
| (1, 0) 519 | 'Rwi wedi cal itha digon. |
| (1, 0) 540 | Rwi'n credu y dyle ni fynd nawr. |
| (1, 0) 542 | Ryn ni wedi aros digon hir lle nad oes dim o'n ishe ni. |
| (1, 0) 543 | Ag os gwas ffarm oedd y nhad, oedd e'n onest ta pun, a lawer mwy respectable na Daniel Trwyn Coch. |
| (1, 0) 544 | (Mrs Davies yn codi mewn tymer). |
| (1, 0) 545 | Cadwch ych hen ganpunt. |
| (1, 0) 546 | Allwn ni neud yn brion hebddo, a byw yn gyfforddus. |
| (1, 0) 547 | Dewch, Jim! |
| (1, 0) 583 | Cerwch ona, Mr. Price! |
| (1, 0) 584 | Rych chi'n wastod yn rhy ffond o jocan! |
| (1, 0) 617 | O nagych, Mr. Price. |
| (1, 0) 618 | Ych chi'n ddigon melys i fi, ta beth. |
| (1, 0) 627 | O, dyna un greedy ych chi! |
| (1, 0) 628 | Chewch chi ddim o hwnna. |
| (1, 0) 629 | Ble ma'ch manners chi? |
| (1, 0) 630 | Raid i chi gymryd yr ucha. |
| (1, 0) 652 | O, diolch yn fawr, Mr. Price. |
| (1, 0) 653 | Dyna neis! |
| (1, 0) 654 | Shteddwch lawr, Jim. |
| (1, 0) 662 | Cerwch ona, Mr. Price, yn galw draenen arno i. |
| (1, 0) 664 | O, Mr. Price, mindwch na gollwch chi 'ch te ar y carped! |
| (1, 0) 665 | Edrychwch beth netho i. |
| (1, 0) 694 | Odw, dipyn bach, ond nid o Operas Italian. |
| (1, 0) 695 | Mae caneuon Cymraeg yn fwy yn yn line i. |
| (1, 0) 697 | O, drychwch Mr. Price, mae yna ddyn dierth yn ych cwpan chi. |
| (1, 0) 698 | Pwy yn e, wish? |
| (1, 0) 700 | Newch hast i gwpla'ch te ichi glywed y'ch ffortiwn. |
| (1, 0) 705 | O dim am amser mawr. |
| (1, 0) 706 | Wi'n gweld pum amser yn y cwpan hyn. |
| (1, 0) 707 | Alle i ddim gweud pun ai pum mlynedd ne pum mish yw e. |
| (1, 0) 708 | Neu falle taw pum wythnos. |
| (1, 0) 709 | Ond mae ofan arna i taw pum mlynedd. |
| (1, 0) 710 | Ma nhw'n dishgwl yn hir iawn, ta beth. |
| (1, 0) 711 | Druan ohonoch chi, Mr. Price. |
| (1, 0) 715 | Ond mae yna un fenyw sydd yn eglur iawn. |
| (1, 0) 716 | Dyna hi! |
| (1, 0) 717 | Mae hi'n dal—yn ole iawn—ac yn dene—ŷch chi'n cofio am rywun fel yna?—un yn siarad lot—allwch chi ddim cal gair mewn... |
| (1, 0) 725 | O, dyna ddyn od ych chi, Mr. Price. |
| (1, 0) 727 | Shwd ych chi'n gallu gweud ei bod hi'n gallu canu? |
| (1, 0) 732 | Raid i chi fod yn ofalus iawn, Mr. Price. |
| (1, 0) 733 | Mae merch dywyll yn byw dim ond dau gam oddiwrthoch—a dau gam byrr iawn ŷn nhw hefyd—a wnaiff hi ddim da i chi. |
| (1, 0) 734 | Raid i chi gwylio hi. |
| (1, 0) 749 | Ond allwn ni ddim. |
| (1, 0) 750 | Dos dim digon o arian gyda ni. |
| (1, 0) 751 | A dyna'ch mam hefyd, Jim. |
| (1, 0) 754 | Ych chi'n gweld, Mr. Price, odd chance da i Jim ddodi arian mewn Cinema, ond fydda ishe canpunt o leiaf. |
| (1, 0) 755 | Dim pawb sydd yn gallu dodi i llaw ar ganpunt y dyddie hyn, ie fe, Mr. Price. |
| (1, 0) 759 | Falle dwa i! |
| (1, 0) 767 | Ond ŷn ni'n lawer rhy ifanc. |
| (1, 0) 768 | 'Dyw Jim ond 22 a finne yn 21, a falle fyddwn ni wedi newid yn meddwl mhen wech mish, a ni'n doi wedi cwmpo mewn cariad a rywun arall erbyn y Nadolig nesa. |
| (1, 0) 769 | Ond allen ni, Mr. Price? |
| (1, 0) 776 | Ond falle gwrdda i rywun fydda i'n licio'n well. |
| (1, 0) 777 | A pheth arall, mae pobl weithe yn anghofio'u haddewidion. |
| (1, 0) 778 | Mae deryn mewn llaw yn werth doi mewn llwyn. |
| (1, 0) 783 | Ugen—deg-ar-hugen—m—m —Canpunt! |
| (1, 0) 784 | Odi, mae'n all right, Jim. |
| (1, 0) 785 | Wel, nawr, Modryb Mary Jane, mae'n amser i ni fynd. |
| (1, 0) 786 | Beth yw hi o'r gloch? |
| (1, 0) 788 | O, mae digon o amser. |
| (1, 0) 789 | Ddalwn y train yn rhwydd, wedi'r cwbl. |
| (1, 0) 790 | Good-bye, Mr. Price. |
| (1, 0) 793 | Na, dim heno, diolch. |
| (1, 0) 794 | Falle gewn ni'r ride yna rywbryd eto. |
| (1, 0) 796 | Dwedwch goodbye wrth Mr. Price, Jim. |
| (1, 0) 797 | Fe ddylsech fod yn ddiolchgar iawn iddo fe. |
| (1, 0) 799 | Goodbye, Modryb Mary Jane. |
| (1, 0) 800 | Mi ofynnwn i chi ddod i'r briodas. |
| (1, 0) 801 | Goodbye, Adelina. |
| (1, 0) 803 | Dere mlan, Jim bach. |
| (1, 0) 804 | Chi ydi 'nghariad i, wedi'r cwbl, ond rown i wedi penderfynu cal y canpunt 'na! |