| (1, 0) 14 | Ellen. |
| (1, 0) 16 | Na, ma nhw lan llofft, yn partoi. |
| (1, 0) 18 | Ma William yn mynd i'r seiat. |
| (1, 0) 20 | A ma Miriam yn mynd i'r "pictures." |
| (1, 0) 22 | Wn-i ddim yn gwmws ble ma John yn mynd. |
| (1, 0) 26 | Dim ond roi tro i'n gweld ni, 'llwn feddwl. |
| (1, 0) 29 | Gwn; y wechad ar ucian o Fai. |
| (1, 0) 31 | Cofio, wel am otw, dyna ddydd priotas William a finna. |
| (1, 0) 34 | Otw, bid siwr. |
| (1, 0) 36 | 'Rwy wedi gneud nhw. |
| (1, 0) 38 | Wel di? |
| (1, 0) 42 | Wel, ma silver wedding rwpath yn depyg i ben blwydd, nag-yw-a? |
| (1, 0) 45 | Ellen fach, on-ni'n meddwl dim drwg. |
| (1, 0) 46 | Fe wyddast o'r gora nag wy-i byth am ryw lawar o |fuss|, a 'dos dim isha i fi wed fod croeso calon i ti ddod 'ma heno. |
| (1, 0) 48 | 'Dyw-a ddim wedi son dim hyd yn hyn; fe wyddast shwt ma William─ |
| (1, 0) 50 | Nawr Ellen, 'dwy-i ddim yn mynd i wrando arnot ti'n gwed dim yn erbyn William. |
| (1, 0) 53 | Do, fe gesoch-chi |silver wedding| hyfryd. |
| (1, 0) 55 | Nagyn: ond dyna, plant yw plant, wel-di, a 'dwy-i ddim yn cretu y gwyddan nhw'r dwarnod. |
| (1, 0) 58 | Bydd wrth gwrs 'ny, ond 'rwy'n bwriatu câl ticyn o ddifyrrwch gita nhw cyn gwed. |
| (1, 0) 64 | Mwy na thepyg y gall hi ngweld i. |
| (1, 0) 68 | Pam lai! |
| (1, 0) 69 | Ond 'dwy-i ddim yn cofio i mam ariod gâl silver wedding. |
| (1, 0) 72 | Ag 'rwyt ti'n cretu mod i'n depyg i mam? |
| (1, 0) 76 | Fydda-i byth yn depyg i mam. |
| (1, 0) 77 | Menyw dda iawn odd mam. |
| (1, 0) 81 | Pam? |
| (1, 0) 87 | 'Rwy'n falch iawn mod i'n fam i blant, a 'rwy wedi gofitio lawar na fysat titha─ |
| (1, 0) 91 | Rwyt ti'n wilia'n ryfadd iawn heno, Ellen. |
| (1, 0) 96 | Ia, cystlad ag ariod. |
| (1, 0) 99 | Ia. |
| (1, 0) 101 | Y fi─ond 'dodd fawr gwaith altro arni. |
| (1, 0) 103 | Wel, am wyt, a falla y daw Robert hefyd? |
| (1, 0) 106 | Yn barod i beth? |
| (1, 0) 108 | 'Don-i ddim wedi meddwl mynd i'r rwm genol. |
| (1, 0) 110 | Wel, man hyn 'rwy wedi bod yn ymdroi, yn mynd a dod, ar hyd y blynydda, dyma lle macson-ni'r plant, a phan daw William 'nol o'r gwaith yn y dwetydd, yn y cornal man'na y bydd a'n byta'i fwyd. |
| (1, 0) 113 | 'Dwy-i ddim yn disgwl presant, Ellen. |
| (1, 0) 117 | Ma gen-ti rai petha adews mam i ti, fe fysa'n dda gen-i gâl un o rheiny. |
| (1, 0) 120 | Dyna'r hen set lestri tê glas a gwyn─ |
| (1, 0) 123 | A dyna'r ddou gi |china| sy gen-ti ar y mamplis. |
| (1, 0) 125 | Chai di ddim gwario deg punt ar yn ran i. |
| (1, 0) 144 | Beth wyt ti'n mynd i neud nawr? |
| (1, 0) 145 | Cofia, 'dwy-i ddim am unrhyw |fuss|. |
| (1, 0) 150 | Fe allsa dyn neud llawar i wath peth. |
| (1, 0) 155 | Nawr Ellen, 'dwy-i ddim am i ti wed gair wrth William; gad-ti hynna i fi. |
| (1, 0) 163 | Oti. |
| (1, 0) 166 | Pam ych-chi wastod yn gwed petha cas am Ellen? |
| (1, 0) 169 | Ma Robert yn gwishgo |dressing-gown|, 'rwy'n cyfadda─ond ma fa ar y |Council|, ag yn |J.P.|, a os na all |J.P.| wishgo |dressing-gown|, ma hi wedi mynd! |
| (1, 0) 172 | Nagw-i─pam? |
| (1, 0) 177 | Ble gadewast ti ddi ddwetha? |
| (1, 0) 180 | Fe'i dotas hi yn y dror cenol. |
| (1, 0) 184 | Otyn, ma nhw man'na o dan y sciw. |
| (1, 0) 187 | Yn y golch; cymar un glan. |
| (1, 0) 190 | Falla mod i yn wir. |
| (1, 0) 193 | Fe'i gadawsoch hi ar ffenast y sculeri; dyna 'i ar y ford fach. |
| (1, 0) 197 | Na, ddim heno, William. |
| (1, 0) 199 | Otw, falla; ond yn ddweddar, ar ddiwadd y dydd, 'rwy wedi blino cymant, wn i ddim p'am, ond ma'n well gen i gymeryd spel man hyn ar yr aelwd. |
| (1, 0) 204 | Ia. |
| (1, 0) 208 | Fe'i gadewast a yn y gecin nithwr gita'r cripa. |
| (1, 0) 209 | Ma nhw lawr 'ma. |
| (1, 0) 213 | Fe'i gadawsoch-a ar y ford nos Fawrth. |
| (1, 0) 214 | Ma-fa o dan y canhwyllharn bach nawr. |
| (1, 0) 219 | 'Dwy-i ddim yn mynd i unman. |
| (1, 0) 225 | Fe gysgast lawar i awr ar honna pan ot ti'n fabi. |
| (1, 0) 227 | Yn y Beibl mawr ar y ffenast rhwng Matthew a Marc. |
| (1, 0) 230 | 'Dyw hi ddim yn newydd iawn. |
| (1, 0) 231 | William, otych-chi'n napod hon? |
| (1, 0) 236 | O, ma-hi gen-i ers cetyn. |
| (1, 0) 240 | Os, cymar un o'r ochor arall. |
| (1, 0) 246 | Fe'u helas nhw sha'r crydd. |
| (1, 0) 247 | Ma un o nhw'n gillwng dŵr, nag-os-a? |
| (1, 0) 249 | Gwishg dy scitsha Sul. |
| (1, 0) 252 | Nagw. |
| (1, 0) 254 | Nagw-i. |
| (1, 0) 267 | Beth sy'n bod? |
| (1, 0) 274 | Falla fod Mrs. Jones drws nesa yn gneud ffrois. |
| (1, 0) 277 | O, fe gewch rai, cyn hir. |
| (1, 0) 283 | Ryfadd iawn, ontefa? |
| (1, 0) 287 | Dim byd. |
| (1, 0) 291 | Wel─wel ma'ch dillad dwetydd chi dicyn yn gomon nawr, a'rwy wedi bod yn cisho 'u gwella nhw. |
| (1, 0) 299 | Wy-i am i chi wishgo rhain heno. |
| (1, 0) 302 | Dim ond─dim ond am y mod i'n gofyn i chi─dyna i gyd. |
| (1, 0) 306 | Miriam, 'rwy am i ti fynd â rhain at Mrs. Pwal. |
| (1, 0) 307 | Ma hi'n mynd i Dreforgan yfory, a fe foddlonws fynd a pharsal i Annie dy whar. |
| (1, 0) 309 | 'Dych-chi ddim yn folon William? |
| (1, 0) 310 | I'ch merch chi'ch hunan ma fa, neu i'r rhai bach, ta-pun. |
| (1, 0) 312 | Pitwch a wilia mor ffol. |
| (1, 0) 322 | Dos dim isha i ti wherthin ar ben gwlanen goch a sâm gwydd; fe achubson dy fywyd di unwaith, ondofa William? |
| (1, 0) 324 | Do fa, do, ama babi bach Annie yn peswch a pheswch a 'dyw'r doctor yn gneud dim lles iddo fa. |
| (1, 0) 328 | Wath i ti beth sy yndo fa. |
| (1, 0) 330 | Ma 'na flouse glân i ti yn y rwm genol. |
| (1, 0) 332 | Wyddast-ti yn y byd pwy gwrddi di yn nhŷ dy fotryb. |
| (1, 0) 333 | Newid-a. |
| (1, 0) 336 | Titha, John, wy-i am i ti fynd â rhain i'r post. |
| (1, 0) 339 | 'Dyw'r landris 'na ddim yn crasu'r dillad fel y dylsan-nhw. |
| (1, 0) 341 | Dewch, scrifennwch |address| ar hwnna. |
| (1, 0) 343 | Pwy waniath pryd? |
| (1, 0) 344 | Ma nhw'n barod nawr. |
| (1, 0) 346 | Wel, odd rhaid 'i gneud nhw, ond odd-a? |
| (1, 0) 353 | Da ti gad betha'n llonydd. |
| (1, 0) 355 | Nid dyma'r crys gest-ti yn y drôr gwilod. |
| (1, 0) 357 | Wyt ti'n siwr? |
| (1, 0) 358 | Dangos y llawas i fi. |
| (1, 0) 360 | Ia, dyna fe. |
| (1, 0) 370 | Llythyr oddiwrth y Cwrdd Mishol. |
| (1, 0) 372 | Nag-yw, ma-fa yn y got 'na, y bocad frest 'r ochor with. |
| (1, 0) 380 | Rych chi'n weddol iawn. |
| (1, 0) 385 | Otych, ond falla na cheso-i ddim gafal arnoch chi miwn pryd. |
| (1, 0) 387 | Beth sy'n bod, William? |
| (1, 0) 392 | Gwell i fi 'i gwisgho hi na gatal i'r pryfad 'i byta hi. |
| (1, 0) 396 | la. |
| (1, 0) 400 | Beth sy'n bod? |
| (1, 0) 410 | Beth sy arnoch chi bobun? |
| (1, 0) 412 | Rhowch lonydd i fi. |
| (1, 0) 416 | Na, na, wy'n teimlo o'r gora. |
| (1, 0) 417 | Cerwch chi i'r capal. |
| (1, 0) 424 | Wetan-nhw ddim byd. |
| (1, 0) 425 | Fe gretan ych bod chi wedi bod mewn ryw anglodd. |
| (1, 0) 434 | Der di 'nol ar ol bod yn nhŷ dy fotryb: gai di weld wed'ny. |
| (1, 0) 437 | Na, ddim nawr. |
| (1, 0) 449 | Allwch-chi ddim meddwl, William? |
| (1, 0) 452 | Na─nid John. |
| (1, 0) 454 | Nid Annie na Miriam. |
| (1, 0) 456 | Ia. |
| (1, 0) 462 | Otych, William, 'rych chi ym mish Awst. |
| (1, 0) 466 | Penblwydd hon, William. |
| (1, 0) 467 | Bum mlynadd ar ucian i heddy fe ddodsoch y fotrw 'na ar ym mys i. |
| (1, 0) 472 | Ma cyfrifon yr Ysgol Sul tu cefan i'r cloc. |
| (1, 0) 476 | I fi wed rwpath, William? |
| (1, 0) 480 | Dyna, dyna─on-i ddim yn meddwl rhoi teimlad i chi. |
| (1, 0) 481 | Dych chi byth yn meddwl am betha felna, 'rwy'n gwpod. |
| (1, 0) 484 | Ma'n ddrwg gen-i, William, mod i heb wed rwpath wrtho-chi. |
| (1, 0) 487 | Fuws eriod wraig fwy hapus na fi, William. |
| (1, 0) 490 | Fe adewsoch chitha'r blatur a'r arad i drafod mandral a rhaw'r pwll glo. |
| (1, 0) 495 | Ia, dyma hi. |
| (1, 0) 497 | Dyna, dyna─'dos dim raid i chi ofitio. |
| (1, 0) 500 | 'Dos gen i ddim un presant i chi, a 'dwy inna ddim yn disgwl presant oddiwrtho chitha. |
| (1, 0) 502 | Do, do, ond 'dyn ni ddim 'r un peth. |
| (1, 0) 506 | Beth am y creitha glo sy ar ych gwynab chitha, y cymala poenus, a'r peswch aiff â chi i'r bedd yng nghynt na phryd? |
| (1, 0) 507 | Lawr yn y pwll glo y cesoch chi rheina, wrth gisho ennill tamad i ni, i'r plant a fi. |
| (1, 0) 508 | Na William, 'dos dim raid i'n bath ni i brynu presants i'n gilydd. |
| (1, 0) 515 | Os, John, paid roi cusan i fi nawr─heno─cyn 'rai di i'r gwely. |
| (1, 0) 531 | Beth am gyfrifon yr Ysgol Sul? |
| (1, 0) 540 | Wyt ti'n garetig iawn, Ellen. |
| (1, 0) 543 | Arhoswch i fi gâl plat arall. |
| (1, 0) 549 | On i'n meddwl─fe wetast─fe wetast y delsat-ti a─ |
| (1, 0) 553 | Wyt-ti ddim yn rhoi rheina i fi! |
| (1, 0) 559 | John, gofala ar dy fywyd! |
| (1, 0) 560 | Ma 'na grac yn y ddolan. |
| (1, 0) 562 | 'Rwyt ti wedi 'i gwiro fa! |
| (1, 0) 565 | Ond wrth gwrs, fe fydd yn gryfach. |
| (1, 0) 578 | Ma fa ar yr ail |shelf| miwn─ |
| (1, 0) 582 | ─miwn cwtyn glas. |
| (1, 0) 586 | Hwnna yn dy law dde di. |
| (1, 0) 591 | Gad i fi dorri fa. |
| (1, 0) 606 | Os. |
| (1, 0) 609 | All Gomar a Annie ddim bod 'ma, fe wn, ond 'rwy am weld 'u cwpana nhw ar y ford. |
| (1, 0) 613 | Ag 'ma 'na un arall. |
| (1, 0) 617 | Mwy na thepyg 'i bod hi 'ma. |
| (1, 0) 618 | Synnwn-i fawr na ddath mam â hi. |