| (1, 0) 12 | Fel arwydd o alar, mae mywyd i'n drist. |
| (1, 0) 17 | 'Does dim a nelo arian â'r peth. |
| (1, 0) 18 | Gall y tlawd fod yn hapus. |
| (1, 0) 23 | Mi fydd y ddrama yn dechrau cyn hyn. |
| (1, 0) 30 | Lol i gyd. |
| (1, 0) 32 | Rwy'n teimlo'ch cariad i'r byw ond fedra i mo'ch caru chi, dyna'r cwbl. |
| (1, 0) 34 | Cymwch binsiad. |
| (1, 0) 37 | Mae'n fwll, cawn ddrycin yn y nos. |
| (1, 0) 38 | 'Rydych chi fyth a hefyd yn athronyddu, ac yn sôn am arian. |
| (1, 0) 39 | Yn eich barn |chi|, 'does dim mwy truenus na thlodi, ond yn fy marn i, mae'n ganmil gwell i ddyn wisgo carpiau a hel cardod o dŷ i dŷ na ─ ond fedrwch chi ddim dallt peth fel 'na. |
| (1, 0) 50 | Deudwch air eich hunan wrth fy nhad, na i ddim. |
| (1, 0) 52 | Dowch, awn draw. |
| (1, 0) 353 | Mi a i i chwilio amdano fo. |
| (1, 0) 355 | Hei! |
| (1, 0) 356 | Constantin Gafrilofits! |
| (1, 0) 357 | Hei! |
| (1, 0) 358 | Hei! |
| (1, 0) 464 | Dowch i'r tŷ, mae'ch mam yn galw, mae hi'n anesmwyth. |
| (1, 0) 474 | Pan fydd dim mwy i'w ddeud, "ieuenctid, ieuenctid" dyna gewch chi gan bawb. |
| (1, 0) 477 | Rhoswch. |
| (1, 0) 479 | Mae gin i rywbeth i'w ddeud wrthoch chi. |
| (1, 0) 481 | Dw i ddim yn caru nhad, ond mae rhywbeth yn fy nhynnu atoch chi, 'rwy'n teimlo â'm holl galon eich bod chi'n agos ata i. |
| (1, 0) 482 | Helpwch fi neu mi naf rywbeth dychrynllyd i ddifetha mywyd i gyd, waeth gin i be ddaw ohona i, fedra i ddal ddim mwy. |
| (1, 0) 484 | 'Rwy'n diodde, 'dwyr neb faint. |
| (1, 0) 486 | 'Rwy'n caru Constantin. |
| (2, 0) 505 | Ond 'rydw i yn teimlo fel pe bawn i wedi ngeni filoedd o flynyddoedd yn ôl, a rydw i'n llusgo fy mywyd ar f'ôl fel cynffon ffrog laes. |
| (2, 0) 506 | Weithiau fydd arna i ddim isio byw o gwbwl. |
| (2, 0) 508 | Lol ydi hyna, wrth gwrs, rhaid imi styrio a bwrw peth felna heibio. |
| (2, 0) 556 | Mae o'n bur ddigalon. |
| (2, 0) 558 | Adroddwch rywbeth o'i ddrama o, os gwelwch chi'n dda. |
| (2, 0) 561 | Pan fydd o'n darllen rhywbeth, bydd tân yn ei lygad a'i wyneb fel y galchen. |
| (2, 0) 562 | Mae gynno fo lais swynol a thrist, ac y mae'n edrych fel bardd bob modfedd ohono. |
| (2, 0) 593 | Rhaid ei bod hi'n amser cinio bellach. |
| (2, 0) 595 | Mae nghoes i wedi cyffio. |
| (3, 0) 833 | 'Rwy'n deud hyn i gyd wrthoch chi fel llenor, gellwch neud defnydd ohono rywbryd. |
| (3, 0) 834 | Dyma'r gwir noeth ichi: pe gwyddwn i fod ei friwiau o'n beryglus, roswn i ddim munud mwy yn y byd, ac mi fedra i ddiodde llawer hefyd cofiwch! |
| (3, 0) 835 | 'R ydw i wedi penderfynu un peth: mi dynna i'r cariad ma allan o nghalon i, gnaf, i'r bôn, a'r gwraidd gydag o. |
| (3, 0) 837 | Trwy briodi, trwy briodi Simeon Medfedenco. |
| (3, 0) 839 | Ie. |
| (3, 0) 841 | Caru heb obaith, byw am flynyddoedd yn disgwyl i rywbeth ddigwydd – na! |
| (3, 0) 842 | Ac wedi imi briodi fydd na ddim amser i garu, bydd digon o ofalon newydd yn llyncu'r hen; mi ga newid bywyd, beth bynnag, gawn ni lasiad arall? |
| (3, 0) 844 | Twt, twt! |
| (3, 0) 846 | Peidiwch ag edrych arna i fel yna. |
| (3, 0) 847 | Mae merched yn diota yn amlach nag yr ydych chi yn ei feddwl, ond ychydig ohonyn nhw sy'n yfed yn gyhoeddus fel fi, yn y dirgel y bydd y rhan fwya ohonyn yn hel diod. |
| (3, 0) 848 | Brandi ne wisci i mi! |
| (3, 0) 850 | Iechyd da! |
| (3, 0) 851 | Dyn clên ydych chi, mae'n ddrwg gin i eich bod chi'n mynd. |
| (3, 0) 854 | Gofynnwch iddi aros, ta. |
| (3, 0) 860 | Ie, ie, ond gwenwyn sydd yn y gwraidd. |
| (3, 0) 861 | Ond nid musnes i ydi hynny. |
| (4, 0) 1247 | Constantin Gafrilofits. |
| (4, 0) 1248 | Constantin Gafrilofits. |
| (4, 0) 1249 | 'Does neb yma. |
| (4, 0) 1250 | Mae'r hen ŵr yn holi am Costia bob munud, fedr o ddim byw hebddo fo. |
| (4, 0) 1254 | Mae tonnau fel mynyddoedd ar y llyn. |
| (4, 0) 1258 | Felly wir. |
| (4, 0) 1260 | Na, 'rydw i am fwrw'r nos yma. |
| (4, 0) 1264 | Lol i gyd. |
| (4, 0) 1265 | Gall Matriona ei fwydo fo. |
| (4, 0) 1267 | 'Rydych chi wedi mynd yn ddiflas. |
| (4, 0) 1268 | Athronyddu y byddoch chi ers talwm, ond "yr hogyn bach, mynd adre, yr hogyn bach, mynd adre", cheir dim ond hyna gynnoch chi rwan. |
| (4, 0) 1270 | Ewch adre'ch hun. |
| (4, 0) 1272 | Cewch, mi gewch, ond ichi ofyn. |
| (4, 0) 1275 | O'r gorau, o'r gorau, mi ddo i fory, 'rydych chi'n ddigon i... |
| (4, 0) 1277 | Be di hyn mam? |
| (4, 0) 1279 | Gadwch i mi, mi na i... |
| (4, 0) 1296 | Gadwch iddo fo, mam. |
| (4, 0) 1301 | Dyna chi wedi digio fo, 'doedd dim gofyn ichi ei flino fo. |
| (4, 0) 1303 | 'Dydi hynny fawr o help imi. |
| (4, 0) 1306 | Ffolineb noeth. |
| (4, 0) 1307 | Chewch chi mo'r fath beth â chatiad diobaith ond yn unig mewn nofelau. |
| (4, 0) 1308 | Lol botes. |
| (4, 0) 1309 | Does dim gofyn i neb ymollwng a disgwyl rhywbeth i ddigwydd fel dyn ar lan y môr yn disgwyl am wynt teg. |
| (4, 0) 1310 | Os ydi cariad wedi sleifio i'r galon, allan ag o! |
| (4, 0) 1311 | Mae nhw wedi addo symud y gŵr acw i ardal arall; ac wedi inni ymadael, mi anghofiaf bopeth, gnaf, mi dynna i'r hen gariad yma o'r gwraidd. |
| (4, 0) 1314 | Mynd o'i olwg o, dyna'r peth mawr, mam. |
| (4, 0) 1315 | Os symudan nhw Simeon, mi fydda i wedi anghofio popeth cyn pen y mis – lol ydi'r cwbwl. |
| (4, 0) 1325 | Aethoch chi ddim eto? |
| (4, 0) 1329 | Mae'n ddrwg gin i mod i rioed wedi'ch gweld chi. |
| (4, 0) 1331 | Mae'n fwy cyfleus i Constantin Gafrilits weithio yn y fan yma. |
| (4, 0) 1332 | Gall fynd allan i'r ardd, pan fyn, a myfyrio yno. |
| (4, 0) 1428 | Mae o'n nghofio i! |
| (4, 0) 1430 | Ydw, ers talwm. |
| (4, 0) 1452 | Tada, gadwch i Simeon gael ceffylau. |
| (4, 0) 1453 | Rhaid iddo fynd adre. |
| (4, 0) 1458 | Ond mae gynnoch chi geffylau erill. |
| (4, 0) 1460 | 'Does dim dichon eich trin chi. |
| (4, 0) 1492 | Ydi pawb wedi talu? |
| (4, 0) 1493 | O'r gorau, dyma fi'n dechrau, dau ar hugain. |
| (4, 0) 1495 | Tri! |
| (4, 0) 1497 | Tri? |
| (4, 0) 1498 | Wyth! |
| (4, 0) 1499 | Un a phedwar ugain. |
| (4, 0) 1500 | Deg! |
| (4, 0) 1503 | Pedwar ar ddeg ar hugain. |
| (4, 0) 1510 | Hanner cant. |
| (4, 0) 1516 | Dau ar bymtheg a thrigain. |
| (4, 0) 1520 | Un ar ddeg! |
| (4, 0) 1525 | Saith! |
| (4, 0) 1526 | Deg a phedwar ugain! |
| (4, 0) 1529 | Wyth ar hugain. |
| (4, 0) 1540 | Chwech ar hugain! |
| (4, 0) 1548 | Chwech a thrigain! |
| (4, 0) 1549 | Un! |
| (4, 0) 1555 | Wyth a phedwar ugain! |