| (1, 0) 11 | Pam 'rydych chi'n gwisgo du bob amser? |
| (1, 0) 13 | Sut y gall hynny fod? |
| (1, 0) 15 | Fedra i ddim dallt. |
| (1, 0) 16 | Rydych yn iach, 'dydi'ch tad ddim yn gyfoethog, mae'n wir, ond mae gynno fo ddigon at ei fyw, mae'n gletach o lawer arna i, dwy bunt a chweswllt yn y mis o gyflog, a rhaid iddyn nhw gael rhan o'r rheini at fy mhensiwn; ond 'dydw i ddim yn gwisgo du. |
| (1, 0) 19 | Digon gwir ar bapur; ond nid fel yna y mae hi pan driwch chi fyw; dyna fi a mam a dwy chwaer a mrawd bach yn gorfod byw ar ddwy bunt a chweswllt y mis. |
| (1, 0) 20 | Rhaid cael bwyd a llyn, debyg? |
| (1, 0) 21 | Te a siwgr a baco; go gyfyng yntê? |
| (1, 0) 24 | Bydd. |
| (1, 0) 25 | Mi fydd Zarietsnaia yn actio, a Chonstantin Galfrilofits ydi'r awdur. |
| (1, 0) 26 | Mae nhw'n caru ei gilydd, a bydd eneidiau'r ddau yn llifo ynghyd yn eu hymdrech i roi mynegiant i'r un campwaith; on'd oes dim a FIX dynn ein heneidiau ni at ei gilydd. |
| (1, 0) 27 | 'Rwy'n eich caru, fedra i ddim aros yn y tŷ yn fy hiraeth amdanoch; byddaf yn cerdded pedair milltir bob dydd i gael golwg arnoch a phedair milltir yn ôl, ond 'rydych |chi| yn hollol ddidaro. |
| (1, 0) 28 | Debyg iawn, 'does gin i ddim arian, ac mae gin i deulu mawr. |
| (1, 0) 29 | Sut y gellir disgwyl i eneth briodi dyn, ac yntau heb ddigon o fwyd yn y tŷ. |
| (1, 0) 35 | Na, fydda i ddim. |
| (1, 0) 54 | Cofiwch adael inni wbod mewn pryd. |
| (1, 0) 333 | 'Does dim dichon ysgaru enaid a mater, 'dydi'r enaid ei hun, mae'n debyg, ddim ond cyfuniad o atomau materol. |
| (1, 0) 335 | Eitha peth, wyddoch chi, fyddai sgwennu drama a'i hactio, i ddangos sut y mae dyn fel fi yn byw. |
| (1, 0) 336 | Bywyd caled ydi bywyd athro, ie, bywyd caled iawn. |
| (1, 0) 434 | Be di cyflog aelod o'r côr? |
| (2, 0) 581 | Mi ddylai Piotr Nicolaiefits roi gorau i smocio. |
| (3, 0) 984 | Dyma ichi bos: yn y bore ar bedwar troed, ganol dydd ar ddau droed, yn yr hwyr ar dri throed... |
| (3, 0) 988 | Dowch, dowch, dim lol! |
| (3, 0) 1187 | Mi gerdda innau i'r stesion, i'ch gweld yn cychwyn. |
| (3, 0) 1188 | 'D oes na fawr o ffordd. |
| (4, 0) 1251 | Mae arno ofn bod yn unig. |
| (4, 0) 1253 | Y fath dywydd ofnadwy, ac wedi para am ddeuddydd hefyd. |
| (4, 0) 1255 | Mae'n dywyll yn yr ardd. |
| (4, 0) 1256 | Rhaid deud wrthyn nhw am dynnu'r stage 'cw i lawr; mae hi'n llwm a hagr fel skeleton a'r llen yn fflapio yn y gwynt. |
| (4, 0) 1257 | Pan ddois i heibio neithiwr, 'roedd fel tae rhywun yn crio yno. |
| (4, 0) 1259 | Gadwch inni fynd adre, Masia. |
| (4, 0) 1262 | Dowch Masia. |
| (4, 0) 1263 | Meddyliwch am yr hogyn bach, mae arno isio bywyd feallai. |
| (4, 0) 1266 | Mae'n biti gin i drosto fo, am dair noson heb ei fami. |
| (4, 0) 1269 | Dowch adre, Masia. |
| (4, 0) 1271 | Ond cha i ddim ceffylau gin eich tad chi. |
| (4, 0) 1273 | Wel mi ofynna iddo fo, ac mi ddowch chithau fory? |
| (4, 0) 1283 | Mi 'dwi'n mynd. |
| (4, 0) 1284 | Nos dawch, Masia. |
| (4, 0) 1285 | Nos dawch, mam. |
| (4, 0) 1318 | Mae gin i chwech ohonyn nhw yn y tŷ, a phris y blawd wedi codi. |
| (4, 0) 1320 | Digon hawdd i chi fod yn ddireidus – mae gynnoch chi lond tŷ o arian. |
| (4, 0) 1327 | Sut y medra i fynd heb gerbyd? |
| (4, 0) 1368 | Pa dre oedd yr orau gynnoch chi pan oeddech chi'n rhodio'r byd? |
| (4, 0) 1402 | Do, mi gwelais i hi, yn mynd tua'r dre. |
| (4, 0) 1403 | Mi dynnais fy het iddi a gofyn iddi pam na ddoi hi i edrych amdanom ni, ac mi ddeudodd hithau ei bod hi am ddwad. |
| (4, 0) 1461 | Mi gerdda i, Masia, wir... |
| (4, 0) 1466 | 'Does na ddim ond pedair milltir. |
| (4, 0) 1467 | Nos dawch. |
| (4, 0) 1469 | Nos dawch, mam bach. |
| (4, 0) 1470 | Faswn i ddim yn aflonyddu ar neb oni bai am yr hogyn bach... |
| (4, 0) 1471 | Nos dawch, bawb ohonoch. |
| (4, 0) 1472 | (Exit.) |