| (0, 1) 104 | Gymerwch chi bamffled? |
| (0, 1) 106 | Rhad ac am ddim. |
| (0, 1) 108 | Wel, ia mewn ffordd. |
| (0, 1) 111 | Mae gan bolitics ddiddordeb ynoch chi. |
| (0, 1) 667 | Ia, cariad? |
| (0, 1) 670 | Dim yn llewyrchus iawn ar hyn o bryd, cariad. |
| (0, 1) 671 | Ond siawns na fydd petha'n pigo i fyny pan ddaw'r sowldiwrs yn ôl. |
| (0, 1) 672 | Does yna ddim llawer o ddynion yn Athen y dyddia yma. |
| (0, 1) 673 | A'r rhan fwya o'r rheiny'n hen, ac wedi colli diddordeb braidd. |
| (0, 1) 674 | Hynny ydy — wel mi ydach chi'n gwybod be ydw i'n 'i feddwl... |
| (0, 1) 675 | Rhywbeth arall fedra 'i wneud ichi cariad? |
| (0, 1) 677 | Croeso, cariad. |
| (0, 1) 678 | Unrhyw dro. |
| (0, 1) 679 | Mi ydw i o gwmpas bob amser. |
| (0, 1) 681 | Hanner munud cariad. |
| (0, 1) 684 | Welwch chi hon sy'n dwad rwan? |
| (0, 1) 686 | Peidiwch â'i phoeni hi. |
| (0, 1) 687 | Mae hi newydd golli 'i gŵr a'i phlant yn y rhyfel, druan fach. |
| (0, 1) 688 | Dydi hi ddim efo ni, wyddoch chi... |
| (0, 1) 689 | Da boch, cariad. |
| (0, 2) 960 | Be sy'n bod hogia? |
| (0, 2) 963 | Dim syniad. |
| (0, 2) 965 | Hades! |
| (0, 2) 967 | I be yr ei di yno, cariad? |
| (0, 2) 968 | Tyrd efo fi, a mi gei di awr yn y nefoedd! |