|
|
|
|
(1, 0) 21 |
Bob tro y do' i adre, dim ond yr un sŵn o hyd! |
(1, 0) 22 |
A thithau wedi dianc i fyd breuddwyd! |
|
|
(1, 0) 25 |
'Rwy' wedi blino. |
|
|
(1, 0) 27 |
Yn y labordy. |
(1, 0) 28 |
Ble arall! |
|
|
(1, 0) 32 |
'Rwyf heb fwyta ers hanner dydd. |
(1, 0) 33 |
Pam nad ei di i'r gegin fach i baratoi rhywbeth, yn lle segura fan hyn! |
|
|
(1, 0) 37 |
Ie... pam lai! |
|
|
(1, 0) 39 |
Yn yr un man y byddwn i. |
|
|
(1, 0) 44 |
Ond mae'r arbrofion yn galw! |
|
|
(1, 0) 46 |
Yn aruthrol bwysig. |
|
|
(1, 0) 50 |
Ydyw pethau cynddrwg â hyn'na? |
|
|
(1, 0) 53 |
Rwy'n gorfod talu'n ddrud am y camgymeriad a wnes i bedair blynedd yn ôl. |
|
|
(1, 0) 57 |
Tybed? |
(1, 0) 58 |
I feddwl 'u bod nhw wedi fy nghadw i i weithio ar bethau dibwys ers dros dair blynedd, a hynny, dim ond am i mi agor fy ngheg mewn parti. |
(1, 0) 59 |
'Ddywedais i ddim byd nad oedd yn hysbys i bawb. |
(1, 0) 60 |
Dim ond bod un o'r mân swyddogion wedi fy nghlywed i. |
(1, 0) 61 |
Mae'r peth yn ynfyd. |
|
|
(1, 0) 67 |
Mae gen ti dy ddiddordebau. |
|
|
(1, 0) 71 |
Yn well. |
(1, 0) 72 |
Efallai mai ti sy'n iawn wedi'r cyfan. |
(1, 0) 73 |
Efallai nad yw fy ngwaith i'n cyfri' o gwbl. |
(1, 0) 74 |
Does dim yn aros heddi'. |
(1, 0) 75 |
Mae dyn yn dod ar draws rhywbeth newydd, yn cael rhyw weledigaeth, ac mae hyn yn ei wefreiddio. |
(1, 0) 76 |
Ond 'dyw'r cyffro ddim yn aros. |
(1, 0) 77 |
Mae problemau newydd yn codi, ac mae'n rhaid mynd ar ôl y rheiny. |
|
|
(1, 0) 83 |
Diolch. |
|
|
(1, 0) 85 |
'Rwy'n teimlo weithiau nad oes angen mwy... |
(1, 0) 86 |
Ond mae rhyw ysfa yn fy ngorfodi i i weithio ymlaen, a churo'r lleill. |
|
|
(1, 0) 88 |
Yr hen glod. |
|
|
(1, 0) 90 |
A thi! |
(1, 0) 91 |
Mi fyddi dithau ar dy ennill pan fydda' i ar fy nhraed unwaith eto. |
|
|
(1, 0) 95 |
Fe ddaw hynny eto... ar ôl y llwyddiant. |
|
|
(1, 0) 99 |
'Does dim chwant bwyd arna' i erbyn hyn. |
|
|
(1, 0) 104 |
'Ddaw e' ddim draw heno? |
|
|
(1, 0) 107 |
Mae e'n ddigon o farn! |
|
|
(1, 0) 111 |
Mae dyn yn blino ar drafod yr un hen bethau o hyd. |
|
|
(1, 0) 114 |
Fe ddylai fod cywilydd arnat ti dy fod ti'n barod i gyfaddef hynny! |
|
|
(1, 0) 116 |
Mae dynion yn siarad. |
(1, 0) 117 |
Tref fach yw hon. |
|
|
(1, 0) 121 |
Ni hoffais i mo'th ffrindiau di erioed. |
|
|
(1, 0) 124 |
Am dy fod ti'n dymuno hynny. |
|
|
(1, 0) 132 |
Efa! |
(1, 0) 133 |
Maddau i mi! |
(1, 0) 134 |
Anghofiais yn llwyr! |
(1, 0) 135 |
Dyna ffŵl! |
(1, 0) 136 |
Y labordy 'na. |
|
|
(1, 0) 140 |
Beth? |
|
|
(1, 0) 142 |
Fe roddodd Josef anrheg i ti, i ddathlu dydd dy briodas! |
|
|
(1, 0) 144 |
Fe ŵyr yn burion nad wyf i'n hoffi miwsig! |
|
|
(1, 0) 146 |
Pwy ddywedodd wrtho mai heddi' oedd y dydd? |
|
|
(1, 0) 150 |
Nid y fi. |
|
|
(1, 0) 152 |
Yr wyt ti'n dweud popeth wrth Josef. |
(1, 0) 153 |
Pob cyfrinach fach. |
(1, 0) 154 |
Yn cyfathrachu â rhyw grachach o estron sebonllyd. |
|
|
(1, 0) 156 |
Wyt ti'n gwadu mai estron yw e'? |
|
|
(1, 0) 163 |
Nage! |
|
|
(1, 0) 168 |
Yr wyt ti fel plentyn o hyd, yn byw ym myd breuddwydion. |
|
|
(1, 0) 178 |
Mae Josef yn ddiweddar. |
|
|
(1, 0) 181 |
Ydwyf. |
(1, 0) 182 |
Mi fydd ei bresenoldeb yn help i'th dawelu. |
(1, 0) 183 |
'Rwyf wedi sylwi, mai dim ond dy gynhyrfu di mae fy mhresenoldeb i. |
(1, 0) 184 |
A hynny ers misoedd bellach. |
|
|
(1, 0) 187 |
Ond heb lwyddo i greu dim. |
(1, 0) 188 |
Pe bai gennyt blentyn efallai na chawn glywed y siarad hwn. |
|
|
(1, 0) 190 |
Wel? |
(1, 0) 191 |
Wyt ti'n ofni cael dy ddadansoddi, a chael gwybod mor ddiffrwyth dy fywyd? |
(1, 0) 192 |
Yr wyt ti wedi sôn am dy ffrindiau. |
(1, 0) 193 |
Wfft i'r fath ffrindiau! |
(1, 0) 194 |
Pob un ohonynt yn freuddwydiwr a pharaseit. |
(1, 0) 195 |
Ac yr oedd yn rhaid i Josef Lobbock ddianc o'i wlad ei hun, a dod yma i freuddwydio. |
|
|
(1, 0) 197 |
Stori ramantus... i ferch anwadal. |
(1, 0) 198 |
Mi ddylai Josef fod wedi dal ei dir. |
|
|
(1, 0) 201 |
Efallai nad efe yw'r unig un sydd am ddianc. |
(1, 0) 202 |
Beth amdanat ti? |
|
|
(1, 0) 204 |
Beth yw hwn'na ond offeryn dianc! |
(1, 0) 205 |
Ond mae'n amheus gen i a yw e'n ddigon iti. |
(1, 0) 206 |
Eto, paid â phryderu. |
(1, 0) 207 |
Mae'r cyfle wedi dod i ti gael dianc yn gyfangwbl. |
|
|
(1, 0) 210 |
Bûm yn gweithio'n hwyrach nag arfer heno. |
(1, 0) 211 |
A wyddost ti pam? |
(1, 0) 212 |
Am fod fy ngwaith yn y labordy wedi gorffen. |
|
|
(1, 0) 214 |
Pam wyt ti'n dweud hyn'na? |
|
|
(1, 0) 216 |
Ateb! |
|
|
(1, 0) 219 |
Ac mae hynny'n wir. |
|
|
(1, 0) 221 |
'Rwyf wedi ymddeol. |
|
|
(1, 0) 223 |
'Rwyf heb benderfynu'n iawn. |
|
|
(1, 0) 227 |
Yn chwarae gyda'th deganau! |
|
|
(1, 0) 229 |
Na. |
(1, 0) 230 |
'Choelia i fawr! |
(1, 0) 231 |
'Dŷm ni'n dau ddim yn symud yn yr un byd. |
|
|
(1, 0) 233 |
Rwy'n dy ryddhau di, Efa fach. |
(1, 0) 234 |
Fe gei di aros 'ma gyda'th ffrindiau... gyda Josef, ramantus, sebonllyd. |
|
|
(1, 0) 236 |
Beth sy'n bod arnat ti? |
(1, 0) 237 |
Paid ag edrych mor ddigalon. |
(1, 0) 238 |
Beth am y record? |
(1, 0) 239 |
Gad i ni 'i chlywed hi gyda'n gilydd... am y tro cyntaf... a'r tro olaf. |
(1, 0) 240 |
Mi fydda' i'n mynd odd'ma. |
|
|
(1, 0) 243 |
Josef. |
(1, 0) 244 |
Paid â'i gadw i aros ar garreg y drws. |
(1, 0) 245 |
Pam wyt ti'n oedi? |
(1, 0) 246 |
Cer! |
|
|
(1, 0) 252 |
Noswaith dda, Josef. |
(1, 0) 253 |
Yr ŷm ni wedi bod yn 'ch disgwyl chi. |
|
|
(1, 0) 260 |
A ga'i 'i chwarae hi eto? |
(1, 0) 261 |
Mae Efa yn 'i hoffi hi'n fawr. |
|
|
(1, 0) 268 |
Dim eto, Josef. |
|
|
(1, 0) 274 |
Yn wir? |
|
|
(1, 0) 278 |
Fe ddylech chi fod yn gwybod, Josef. |
(1, 0) 279 |
Yr ych chi'n arbenigwr ar y cwestiwn, hynny yw, os yw ffoi a dianc yn gyfystyr. |
|
|
(1, 0) 287 |
Cydwybod efallai? |
|
|
(1, 0) 297 |
'Dwy i byth yn 'i yfed e. |
(1, 0) 298 |
Chi'r estroniaid sy'n hoff o goffi. |
|
|
(1, 0) 300 |
Paid ti â ffwdanu am fy swper i. |
(1, 0) 301 |
Mae gen i waith arall i'w wneud gynta'. |
(1, 0) 302 |
Gwaith pacio. |
|
|
(1, 0) 304 |
Mae'r gwaith yn galw am hynny. |
|
|
(1, 0) 308 |
Paid ti â dod. |
(1, 0) 309 |
Does dim angen. |
(1, 0) 310 |
Aros i drafod y record 'na gyda dy gyfaill. |
(1, 0) 311 |
Mae'r thema yn un mor addas i chi'ch dau. |
|
|
(1, 0) 316 |
Mae trigolion y pentref hwn yn rhy hoff o glebran. |
|
|
(1, 0) 318 |
Amser a ddengys. |
|
|
(1, 0) 322 |
I ddarganfod rhyfeddodau newydd. |
|
|
(1, 0) 328 |
Ar beth? |
|
|
(1, 0) 337 |
'Rwyf yn eich dyled. |
|
|
(1, 0) 339 |
Fe anghofiais i ba ddydd oedd e' heddi'. |
(1, 0) 340 |
Mi fyddai hwn wedi bod yn ddiwrnod siomedig iawn i Efa, onibai i chi gofio amdani. |
|
|
(1, 0) 348 |
Efallai mai i'r miwsig 'rwy'n ddyledus am hynny. |
|
|
(1, 0) 350 |
A gaf i chwarae'r record i chi 'to? |
(1, 0) 351 |
Beth wyt ti'n ddweud, Efa? |
|
|
(1, 0) 353 |
Fe wellith hwn ben tost. |
|
|
(1, 0) 355 |
Ac yn awr rhaid i chi'ch dau esgusodi i. |
(1, 0) 356 |
'Rwy'n mynd i fod yn brysur. |
|
|
(1, 0) 552 |
Beth sy' wedi digwydd i'r miwsig? |
(1, 0) 553 |
Ond efallai nad yw'r miwsig mor bwysig wedi'r cyfan! |
|
|
(1, 0) 556 |
Go dda! |
(1, 0) 557 |
Mynd a dod yn ôl 'ch mympwy. |
(1, 0) 558 |
Byd braf! |
|
|
(1, 0) 560 |
Amhosibl! |
(1, 0) 561 |
Ni fu arno frys erioed! |
(1, 0) 562 |
Dim ond pan ffodd allan o'i wlad... ac o berygl! |
|
|
(1, 0) 564 |
Oes gen i ddim hawl i'm barn? |
(1, 0) 565 |
Ac ar fy aelwyd fy hun! |
(1, 0) 566 |
Aelwyd pwy yw hon, Josef? |
|
|
(1, 0) 569 |
lefe? |
(1, 0) 570 |
'Rwy'n amau! |
(1, 0) 571 |
Bob tro y do i adre mae rhyw ddieithryn wedi cydio yn y lle. |
|
|
(1, 0) 575 |
Duw Mawr! |
(1, 0) 576 |
Mae gen ti a'r crachach hwn y wyneb i gyfathrachu â'ch gilydd, ac yna fwrw'r bai arna' i. |
|
|
(1, 0) 580 |
Gadewch y siarad sentimental er mwyn popeth! |
|
|
(1, 0) 582 |
Ac fe gawsoch. |
(1, 0) 583 |
Gyda hon! |
|
|
(1, 0) 585 |
Dyna gelwydd! |
(1, 0) 586 |
Ni feddylioch y fath beth. |
(1, 0) 587 |
Fe ddangosais i f'ochor i o'r dechrau. |
(1, 0) 588 |
Ni fu gen i erioed amynedd i ddelio â llwfrgwn. |
(1, 0) 589 |
Ydych chi am ddweud na sylwoch chi ar hynny? |
|
|
(1, 0) 591 |
Mi ddyweda' i pam! |
|
|
(1, 0) 595 |
Fe gawsoch 'ch dallu gan Efa! |
|
|
(1, 0) 597 |
Dyma chi eto. |
(1, 0) 598 |
Yr un hen siarad arwynebol! |
(1, 0) 599 |
Pam na gyfaddefwch chi'r gwir! |
(1, 0) 600 |
Dim ond fel merch y gwelsoch chi Efa'n ddiddorol. |
(1, 0) 601 |
A ellwch chi wadu? |
|
|
(1, 0) 603 |
Pam nad atebwch chi? |
(1, 0) 604 |
Ond beth wy'n ddisgwyl? |
(1, 0) 605 |
Fel i bob estron seimllyd arall, rhywbeth i'w ddiystyru yw'r gwir i chi. |
|
|
(1, 0) 607 |
Ac fe roist dithau bob anogaeth iddo. |
|
|
(1, 0) 610 |
Fe ddaw 'nôl. |
|
|
(1, 0) 612 |
Dyma newydd sydyn! |
|
|
(1, 0) 614 |
Ai hwnnw yw'r symbyliad? |
|
|
(1, 0) 618 |
Diddorol. |
(1, 0) 619 |
Felly, dyma ni wedi cyrraedd y groesffordd. |
(1, 0) 620 |
Un yn mynd ffordd 'na. |
|
|
(1, 0) 622 |
Y llall, y ffordd acw. |
|
|
(1, 0) 624 |
A beth amdanat ti, Efa. |
|
|
(1, 0) 626 |
Llwybr Josef? |
|
|
(1, 0) 628 |
A pham? |
(1, 0) 629 |
Rho dy resymau. |
(1, 0) 630 |
Carwn 'u clywed. |
(1, 0) 631 |
Beth ych chi'n ddweud, Josef? |
|
|
(1, 0) 634 |
Beth yw'r brys mawr ar ôl misoedd o oedi? |
|
|
(1, 0) 638 |
Beth a wyddoch chi am fywyd y labordy? |
|
|
(1, 0) 643 |
Anwiredd! |
|
|
(1, 0) 649 |
Pam nad ych chi'n dal swydd yn y wlad hon? |
(1, 0) 650 |
Mae prinder gwyddonwyr. |
|
|
(1, 0) 661 |
Ei ddyletswydd yw dychwelyd adre. |
(1, 0) 662 |
Gad iddo wneud un tro da yn ei fywyd! |
|
|
(1, 0) 673 |
Wyt ti'n siŵr nad wyt ti ddim am fynd ar 'i ôl e'? |
|
|
(1, 0) 676 |
Ond yr wyt ti 'n 'i garu e'. |
|
|
(1, 0) 678 |
'Rwy' wedi ymddwyn fel ffŵl! |
|
|
(1, 0) 680 |
Dyw' hi ddim yn rhy ddiweddar. |
(1, 0) 681 |
Mi alla' i fod yn wahanol o hyn allan. |
(1, 0) 682 |
Fe oedd yn fy nghynddeiriogi i. |
|
|
(1, 0) 684 |
Gwrando, Efa. |
(1, 0) 685 |
Mae'n rhaid i mi fynd i ffwrdd. |
(1, 0) 686 |
'Rwyf wedi ymddeol ar gais yr Awdurdodau! |
(1, 0) 687 |
'Dŷn' nhw erioed wedi ymddiried yno' i. |
(1, 0) 688 |
Digon da fy mod i'n mynd. |
(1, 0) 689 |
Fe ga' i ddigon o swyddi,—yn talu'n well hefyd. |
(1, 0) 690 |
Mewn diwydiant! |
|
|
(1, 0) 692 |
Dere gyda mi! |
(1, 0) 693 |
Dechrau o'r newydd. |
|
|
(1, 0) 695 |
Josef! |
|
|
(1, 0) 700 |
Nid oedd Josef yn haeddu gwell! |
|
|
(1, 0) 705 |
Mi fydda' i'n symud heno, Efa. |
|
|
(1, 0) 707 |
Ac mi fydda' innau'n aros. |