| (0, 10) 511 | Mi fydda hi'n haws i chi, ac yn llai o waith i mi, pe byddech chi'n deud pob dim rwan, a wedyn mi gewch chi fynd nol at eich teulu. |
| (0, 10) 512 | Mi gewch chi ddychwelyd at eich dwy ferch ar ol cyflwyno'r wybodaeth briodol. |
| (0, 10) 514 | Dyna welliant! |
| (0, 10) 515 | Mae hi'n dipyn haws cydweithredu tydi? |
| (0, 10) 516 | Mae hi yma ond dydi hi ddim yn barod i'ch gweld chi eto. |
| (0, 10) 518 | Mae hynny'n dibynnu arnoch chi. |
| (0, 10) 519 | Rwan eich bod chi'n barod i siarad, mi gawn ni gychwyn ar y broses. |
| (0, 10) 520 | Ers pryd fuoch chi'n cuddio? |
| (0, 10) 522 | Da iawn. |
| (0, 10) 523 | A phwy arall oedd yna heblaw am eich teulu chi? |
| (0, 10) 524 | Dewch rwan! |
| (0, 10) 525 | Waeth i chi heb a mynd yn groes i'n dymuniadau ni. |
| (0, 10) 526 | Iawn, mi nawn ni holi eich gwraig. |
| (0, 10) 528 | A'i enw fo? |
| (0, 10) 530 | Waeth i chi heb a meddwl ein twyllo ni chwaith achos mi ydan ni yn tueddu i ffeindio bod merched yn plygu'n haws i dipyn o berswad. |
| (0, 10) 532 | A'i enw fo? |
| (0, 10) 534 | Enw cyntaf? |
| (0, 10) 536 | A phwy arall oedd yno? |
| (0, 10) 538 | Mi ydan ni'n gwbod be ydi enw'r hogyn. |
| (0, 10) 539 | Hogyn gwan iawn. |
| (0, 10) 540 | Mi fyddai ychydig o hyfforddiant milwrol yn help iddo fo. |
| (0, 10) 541 | Mi ydach chi'n ddyn dipyn cryfach ar ol ymladd yn y rhyfel dwytha. |
| (0, 10) 542 | Dallt sut mae'r pethau ma'n gweithio. |
| (0, 10) 544 | Ddown ni'n ol at hynny. |
| (0, 10) 545 | Pwy oedd yn dod a chyflenwadau i chi? |
| (0, 10) 547 | Mi wnaethoch chi lwyddo i fyw am ddwy flynedd heb i neb ddod a bwyd i chi? |
| (0, 10) 549 | Mae'r enwau'n ddigon. |
| (0, 10) 550 | Mater bach ydi ffeindio lle mae'n nhw'n byw. |
| (0, 10) 551 | Enwau! |
| (0, 10) 553 | Os na fel hyn mae ei dallt hi, mi fydd raid i ni alw eich gwraig. |
| (0, 10) 555 | Celwydd. |
| (0, 10) 557 | Celwydd eto! |
| (0, 10) 559 | Mi ydan ni angen y gwir. |
| (0, 10) 560 | Mi ddowch chi i ddallt yn diwedd. |
| (0, 11) 577 | Allan! |
| (0, 11) 578 | Allan rwan! |
| (0, 11) 580 | Unrhyw un sy'n teimlo'n flinedig ar ol y siwrnai, dewch draw ffor hyn. |
| (0, 11) 581 | Pawb mewn rhesi syth! |
| (0, 11) 582 | Dwi isio gweld pawb yn symud! |
| (0, 11) 583 | Symudwch! |
| (0, 11) 584 | Merched a phlant i'r chwith! |
| (0, 11) 585 | Dynion i'r dde! |
| (0, 11) 586 | Does na'm amser i loetran! |
| (0, 11) 587 | Pawb i symud! |
| (0, 11) 592 | Mi gewch chi eich cofrestru a chael archwiliad meddygol. |
| (0, 11) 593 | Yna cawod a chasglu eich gwisg briodol ar gyfer eich harosiad. |
| (0, 11) 594 | Gadewch eich holl eiddo yma. |
| (0, 11) 595 | Sbectols, dannedd gosod... |
| (0, 11) 599 | Rhosa! |
| (0, 11) 600 | Ti'n hogan fawr i fod yn gafael llaw! |
| (0, 11) 602 | S'ddim isio bod ofn! |
| (0, 11) 603 | Isio mwytha ti? |
| (0, 11) 605 | Fama'n gallu bod yn le unig i hogan ifanc! |
| (0, 11) 607 | Heblaw bo ti'n hogan sbesial! |
| (0, 11) 608 | Gadwa i'n llygad arna ti yli! |
| (0, 11) 610 | Dowch! |
| (0, 11) 613 | Mond sbio dwi! |
| (0, 11) 615 | Dyna pam dwi'n licio rhai newydd. |
| (0, 11) 616 | Neis gweld bach o gig arnyn nhw. |
| (0, 11) 618 | Ma nhw dda i wbath! |
| (0, 11) 622 | Ma isio bach o hwyl! |
| (0, 11) 624 | Symwch hi! |
| (0, 13) 661 | Cwyd ar dy draed! |
| (0, 13) 662 | Mae pawb i sefyll i gael eu cyfri. |
| (0, 13) 664 | Mi geith hi aros ei thro fel pawb arall. |
| (0, 13) 665 | Saf yn syth! |
| (0, 13) 667 | Y mochyn! |
| (0, 13) 668 | Y sglyfath budur! |
| (0, 13) 669 | Fydd y cwbwl ohonach chi'n sal rwan achos fod na un Iddew bach methu aros i gyrraedd y toilet. |
| (0, 13) 670 | Welis i fwy o urddas mewn ci. |
| (0, 13) 671 | Mi fydd raid i ti gael dy gosbi. |
| (0, 13) 672 | Penlinia ar lawr a chwyd dy freichiau yn yr awyr. |
| (0, 13) 675 | Mae pob un ohona chi'n wan! |
| (0, 13) 677 | Mi ydach chi gyd run fath! |
| (0, 13) 678 | Pob un ohonach chi'n faw isa'r doman. |
| (0, 13) 680 | Ddysgith hynna i ti fod yn ufudd! |
| (0, 13) 681 | Fydda i'n cadw llygad arna ti. |
| (0, 14) 702 | Allan! |
| (0, 14) 706 | 174, 175, 176… |
| (0, 14) 708 | 182…182? |
| (0, 14) 710 | 183…183 |
| (0, 14) 738 | Allan! |
| (0, 14) 739 | Rwan! |
| (0, 14) 742 | Dos di allan ta! |
| (0, 14) 745 | Gad hi! |
| (0, 14) 750 | Allan! |
| (0, 14) 755 | Allan! |
| (0, 14) 757 | Rwan! |
| (0, 14) 760 | Un arall di mynd! |
| (0, 14) 764 | Rel madam fach dwyt? |
| (0, 14) 765 | Isio ffor dy hun hefo bob dim! |
| (0, 15) 770 | Ma raid i ti symud yn gynt! |
| (0, 15) 771 | Cychwyn eto! |
| (0, 15) 774 | Elli di gario mwy na hynna! |
| (0, 15) 778 | Ar dy draed! |
| (0, 15) 779 | Cwyd ar dy draed! |
| (0, 15) 780 | Paid a sbio arna i! |
| (0, 15) 781 | Dwyt ti ddim i sbio i'n llygid i! |
| (0, 15) 782 | Ti'n y nghlywad i? |
| (0, 15) 783 | Cwyd! |