| (1, 0) 304 | Harbona! |
| (1, 0) 308 | 'Synnwn i fawr. |
| (1, 0) 312 | Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona. |
| (1, 0) 315 | Awgrymu 'rwyt ti mai fi yw achos y Proclamasiwn? |
| (1, 0) 316 | Ie, mi all hynny fod. |
| (1, 0) 318 | Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi. |
| (1, 0) 320 | Ie. |
| (1, 0) 324 | Sachliain a lludw. |
| (1, 0) 325 | Arwyddion ymostyngiad a gweddi fy mhobol i. |
| (1, 0) 326 | Rhaid imi gael gair gyda'r Frenhines. |
| (1, 0) 328 | Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi. |
| (1, 0) 330 | Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin. |
| (1, 0) 332 | Mae'r Frenhines mewn perigl. |
| (1, 0) 335 | Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin. |
| (1, 0) 346 | O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau. |
| (1, 0) 350 | 'Glywaist ti'r Proclamasiwn? |
| (1, 0) 352 | Dy genedl di, Esther. |
| (1, 0) 356 | 'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu? |
| (1, 0) 359 | Mae hynny'n digwydd o hyd, ym mhob rhan o'r byd. |
| (1, 0) 360 | Lle bynnag y mae dynion, fe geir lladd plant bach a babanod. |
| (1, 0) 361 | Mae hwn heddiw yn wahanol iawn. |
| (1, 0) 364 | Nage. |
| (1, 0) 365 | Pa ots am hynny? |
| (1, 0) 366 | Ond cenedl Duw, Esther, cenedl Duw. |
| (1, 0) 369 | Yr unig Dduw. |
| (1, 0) 370 | Y Duw byw. |
| (1, 0) 371 | Duw Israel. |
| (1, 0) 372 | Ni yw ei dystion o. |
| (1, 0) 373 | Yr unig dystion sy ganddo drwy'r byd. |
| (1, 0) 374 | Dyna'n swydd ni, dyna'n gorchwyl ni ar y ddaear,─deud ei fod o'n bod. |
| (1, 0) 375 | Mae'r Proclamasiwn yma'n dileu hynny. |
| (1, 0) 380 | Pwy all ateb? |
| (1, 0) 381 | Mae'n amhosib ateb. |
| (1, 0) 383 | Cyfamod ydy' hi. |
| (1, 0) 384 | Trwom ni mae O'n gweithredu. |
| (1, 0) 385 | Ein tasg ni yw atal y perig. |
| (1, 0) 386 | Ni sy'n gyfrifol. |
| (1, 0) 388 | Fi'n gyfrifol? |
| (1, 0) 390 | Esther! |
| (1, 0) 393 | Sut hynny? |
| (1, 0) 395 | Mi wela' i. |
| (1, 0) 396 | Haman? |
| (1, 0) 401 | Maen' nhw'n iawn. |
| (1, 0) 402 | Dial Haman ydy' hwn. |
| (1, 0) 403 | Hen, hen gas. |
| (1, 0) 404 | Hen, hen ddial. |
| (1, 0) 405 | Y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt. |
| (1, 0) 407 | Be arall y galla' i ddeud? |
| (1, 0) 409 | Er mwyn hynny yr ydw' i yma. |
| (1, 0) 411 | Sut? |
| (1, 0) 415 | Esther! |
| (1, 0) 416 | 'Wyt ti'n wallgo? |
| (1, 0) 419 | Wyt ti wedi anghofio'r holl draddodiadau? |
| (1, 0) 420 | Popeth a ddysgais i iti? |
| (1, 0) 421 | Ymgrymu i Haman yr Agagiad? |
| (1, 0) 423 | 'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman? |
| (1, 0) 425 | 'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel. |
| (1, 0) 427 | Rhyngddo fo a Duw Israel mae cymod yn amhosib. |
| (1, 0) 428 | Rhyngddo fo a minnau mae cymod yn amhosib. |
| (1, 0) 429 | Y Duw byw ydy' ei elyn o. |
| (1, 0) 430 | Disodli Duw ydy' ergyd y Proclamasiwn yma. |
| (1, 0) 431 | Tewi'r dystiolaeth. |
| (1, 0) 432 | Dial a dileu cosb Duw ar Agag. |
| (1, 0) 433 | Dyna'r pam na fedra' i fyth ymgrymu iddo. |
| (1, 0) 434 | Mi fyddai ymgrymu iddo'n frad. |
| (1, 0) 435 | Mi wyddost ti hynny. |
| (1, 0) 437 | lddewes wyt tithau, fy nghyfnither. |
| (1, 0) 443 | A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth. |
| (1, 0) 446 | 'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl? |
| (1, 0) 452 | 'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder? |
| (1, 0) 454 | Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth? |
| (1, 0) 456 | Mi gefais i freuddwyd neithiwr. |
| (1, 0) 460 | 'Roedd 'na dwrw t'ranau a diwrnod tywyll, niwlog, cystudd ac ing, a thrallod mawr ar y ddaear. |
| (1, 0) 461 | A dyma ddwy ddraig yn dyfod allan i ymladd ac yn gwneud sŵn i ddychryn y byd. |
| (1, 0) 462 | Ac wrth y sŵn dacw'r holl genhedloedd yn paratoi i ymladd yn erbyn y genedl santaidd i'w difetha hi. |
| (1, 0) 463 | Gwaeddodd hithau ar ei Duw, ac ar hynny mi darddodd ffynnon fechan, ac o'r ffynnon fe ddaeth afon fawr a goleuni a chodiad haul, a'r rhai isel yn cael eu dyrchafu ac yn difa'r rhai mawrion trahaus. |
| (1, 0) 464 | Dyna fy mreuddwyd i. |
| (1, 0) 467 | Y ddwy ddraig ydw' i a Haman. |
| (1, 0) 468 | Y cenhedloedd ydy'r rheini ym mhob cwr o'r ymerodraeth sy'n paratoi 'rwan i ddifetha cenedl Duw. |
| (1, 0) 469 | Heddiw ydy'r diwrnod tywyll niwlog a'r Proclamasiwn y bore 'ma ydy'r sŵn t'ranau. |
| (1, 0) 471 | Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther. |
| (1, 0) 476 | Trwy iti fynd i mewn at y Brenin a chyffesu mai Iddewes wyt ti, ac ymbil dros einioes dy bobl. |
| (1, 0) 477 | Ti'n unig 'fedr ein hachub ni. |
| (1, 0) 480 | Esther! |
| (1, 0) 482 | Pam na? |
| (1, 0) 485 | Ti yw'r Frenhines. |
| (1, 0) 487 | Dyna lythyren y gyfraith. |
| (1, 0) 488 | Ac yn y ddeddf ei hunan y mae eithriad. |
| (1, 0) 492 | Ond mi all ddigwydd. |
| (1, 0) 493 | Mae'r gyfraith yn darpar ar gyfer hynny. |
| (1, 0) 495 | Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron? |
| (1, 0) 497 | 'Rwyt ti'n meddwl y gelli di ddianc rhag angau yn nhŷ'r Brenin. |
| (1, 0) 498 | Mi fydd calaneddau dy genedl yn syrthio fel tom ar wyneb y tir, a thithau yng ngwely'r ymerawdwr. |
| (1, 0) 500 | 'Fedri di ddim dianc. |
| (1, 0) 501 | Os tewi wnei di a chuddio dy dras 'rwan, fe ddaw ymwared i'r Iddewon o rywle arall, ac fe'th gollir dithau a thŷ dy dad am byth. |
| (1, 0) 504 | Mae'r Proclamasiwn yn glir a phendant. |
| (1, 0) 505 | 'Chaiff neb Iddew ddianc. |
| (1, 0) 507 | Felly rhaid iti farw |heb| fynd at y Brenin. |
| (1, 0) 508 | 'Does gennyt ti ddim i'w golli. |
| (1, 0) 510 | Rhaid iti farw heb fynd ato. |
| (1, 0) 511 | O fentro a mynd ato, y mae siawns, siawns, iti achub dy fywyd dy hun ac einioes dy genedl. |
| (1, 0) 512 | Hynny yw, y mae siawns iti achub popeth. |
| (1, 0) 513 | 'Fedri di ddim colli ond yr hyn sy eisoes wedi ei golli. |
| (1, 0) 514 | 'Wyt ti ddim yn gweld? |
| (1, 0) 515 | 'Does gennyt ti ddim i'w golli, ac fe elli ennill dy fywyd dy hun a'r ddaear i bobl Dduw. |
| (1, 0) 517 | Beth ydyn' nhw? |
| (1, 0) 521 | 'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau? |
| (1, 0) 524 | Nid unrhyw ŵr priod ydy' yntau. |
| (1, 0) 525 | Brenin ac ymerawdwr. |
| (1, 0) 527 | Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon. |
| (1, 0) 530 | Cystal i tithau ddygymod. |
| (1, 0) 532 | Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat. |
| (1, 0) 534 | 'Rydw i'n cydnabod hynny. |
| (1, 0) 536 | 'Dydw i ddim yn gwadu. |
| (1, 0) 537 | Yr ydyn ni i gyd, bob Iddew byw, dan ddedfryd marwolaeth. |
| (1, 0) 540 | Be sy arnat ti ei ofn? |
| (1, 0) 541 | Beth na fedri di ddim ei ddiodde? |
| (1, 0) 544 | Nid merch ydw' i. |
| (1, 0) 545 | Rhaid deud. |
| (1, 0) 547 | 'Fedra'i mo'th ddilyn di. |
| (1, 0) 556 | A rwan? |
| (1, 0) 562 | 'Wyt ti'n poeni? |
| (1, 0) 566 | Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl? |
| (1, 0) 573 | Pam felly nad ei di ato? |
| (1, 0) 574 | Pa raid iti ofni angau ar ei law o? |
| (1, 0) 577 | Angau ydy ystyr hynny. |
| (1, 0) 580 | Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin. |
| (1, 0) 582 | Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw. |
| (1, 0) 589 | Pam na wnei di wynebu ffeithiau? |
| (1, 0) 590 | 'Rwyt ti'n deud hynny er mwyn dy gysuro dy hun ac er mwyn dy argyhoeddi dy hun. |
| (1, 0) 591 | A 'dwyt ti ddim yn ei gredu o. |
| (1, 0) 596 | Mae bywyd dy genedl di, mae'r addewid i'r byd, mae gobaith, unig obaith y ddynoliaeth, yn dibynnu ar ei fod o'n wir. |
| (1, 0) 597 | Rydw i'n dy herio di i brofi ei fod o'n wir. |
| (1, 0) 601 | 'Rwyt ti'n deud celwydd wrth dy galon dy hun. |
| (1, 0) 602 | Y mae prawf. |
| (1, 0) 603 | Mi wyddost tithau fod prawf. |
| (1, 0) 604 | Cariad neu angau. |
| (1, 0) 606 | A 'dyw cariad ddim dan y ddeddf. |
| (1, 0) 607 | Mae cariad yn rhydd o'r ddeddf. |
| (1, 0) 609 | Oes, mae gen' ti hawl, gan dy fod ti'n mentro dy fywyd. |
| (1, 0) 610 | Ond 'does gen' ti mo'r ffydd. |
| (1, 0) 611 | 'Dwyt ti ddim yn credu yn ei gariad o. |
| (1, 0) 612 | 'Feiddi di ddim. |