| (1, 2) 356 | Fy Arglwydd Frenin, 'rwyf finnau'n dweyd mai cywilydd yw i ni fod y fath ddeddf yn bod. |
| (1, 2) 358 | A chywilydd mwy i'r neb a fanteisia, er ei les ei hun, ar gyfraith mor anheg. |
| (1, 2) 360 | Ond, f'Arglwydd Farnwr, nid oes raid er hyn ddyfarnu'n erbyn De Glendore. |
| (1, 2) 363 | Na, nid felly chwaith, ond erys Mortimer fel cynt yn foneddwr syml, yn parchu ei wlad a'i chlod. |
| (1, 2) 364 | 'Rwy'n deall fod y Barnwr doeth yn gwrthod llw Syr Owen de Glendore fel Cymro? |
| (1, 2) 367 | Ond er mai Cymro yw Syr Owen de Glendore, mae ef yn fwy na Chymro, am ei fod yn un o bendefigion Lloegr. |
| (1, 2) 368 | Ac er na all y Barnwr dderbyn llw y Cymro, yn sicr ni all wrthod llw yr un pendefig? |
| (1, 2) 397 | Apeliaf finnau, er mwyn anrhydedd Lloegr, am i'r achos hwn gael gwrandawiad llawn a theg ar ffeithiau gwir, ac nid ei benderfynu ar lythyren deddf. |