|
|
|
|
(1, 0) 87 |
Hwyrach yr hoffit ti fynd yn fugail, Jonah? |
(1, 0) 88 |
Dyma ni ar ochr y bryn, a'r dyffryn yn graith ddu oddi tanom. |
|
|
(1, 0) 91 |
Gwelaf—diolch i'r cymorth amdano! |
|
|
(1, 0) 93 |
Tyrd 'r hen leuad, paid ag oedi. |
(1, 0) 94 |
Pwysa d'ên ar figyrnau'r clogwyn, gwna dy hun yn gysurus. |
(1, 0) 95 |
Mi gei aros yma tan y wawr os mynni! |
|
|
(1, 0) 99 |
Pelydrau'r lleuad ar rimyn o fôr, machgen i. |
(1, 0) 100 |
'Wyt ti wedi penderfynu nad ei di ddim yn llongwr? |
|
|
(1, 0) 103 |
Wel'd oes dim amdani felly ond bugail neu ffermwr. |
|
|
(1, 0) 106 |
O? |
(1, 0) 107 |
Canmoladwy iawn. |
(1, 0) 108 |
Ond mi hoffwn i awgrymu'n garedig iti, Jonah, mai prin y gall dyn ddewis bod yn Broffwyd. |
(1, 0) 109 |
Mae hynny yn nwylo'r Bod Mawr, wyddost ti. |
|
|
(1, 0) 111 |
Felly? |
(1, 0) 112 |
'Wn i ddim yn iawn sut i ateb hynna! |
|
|
(1, 0) 115 |
'Wyt ti'n meddwl y bydd Yr Hollalluog vn barod i dderbyn yr amod yna? |
|
|
(1, 0) 117 |
O? |
(1, 0) 118 |
Wel, mae popeth yn iawn felly! |
(1, 0) 119 |
Ond amser a ddengys 'machgen i, amser a ddengys! |
|
|
(1, 0) 121 |
Aros! |
(1, 0) 122 |
'Weli di rywbeth yn symud i fyny acw? |
|
|
(1, 0) 124 |
Draw wrth ymyl y twmpath drain. |
|
|
(1, 0) 126 |
Ia—cadw dy lygaid yn agored. |
(1, 0) 127 |
Gafr Eliasar wedi crwydro eto, mi ddalia' i am siecel. |
(1, 0) 128 |
Ia—dyna hi'n dwad i'r golwg ar y gair! |
|
|
(1, 0) 132 |
Y cnaf mileinig, wedi cripian i lawr o'r ochor arall! |
|
|
(1, 0) 134 |
Fe fydd wedi'i llarpio cyn i mi fynd ganllath. |
(1, 0) 135 |
B'le mae fy ffon i?... |
(1, 0) 136 |
'Rwan, aros di wrth y gorlan yma rhag bod ei gymar o gwmpas. |
|
|
(1, 0) 138 |
Cofia paid â symud ar fôn dy fywyd. |
(1, 0) 139 |
Mi dria' inna 'i ddychryn o i fwrdd, |