|
|
|
|
(1, 0) 140 |
'Dw i ddim yn hwyr, na, debyg iawn, 'dw i ddim yn hwyr? |
|
|
(1, 0) 143 |
'Dw i wedi bod mor anesmwyth trwy'r dydd, wedi dychryn, ofn i nhad fy nghadw yn y tŷ, ond mae o a mam-yng-nghyfraith wedi mynd allan. |
(1, 0) 144 |
Mae'r awyr yn goch a'r lleuad ar fin codi ac mi yrrais i'r ceffylau, mi yrrais i nhw, do. |
|
|
(1, 0) 146 |
'Rydw i mor falch. |
|
|
(1, 0) 150 |
O, dim o gwbl, welwch chi fedra i ddim cael ngwynt. |
(1, 0) 151 |
Rhaid imi fynd mhen hanner awr, mae'r amser yn brin. |
(1, 0) 152 |
Na, na, da chi, peidiwch â gneud imi aros. |
(1, 0) 153 |
Ŵyr nhad ddim mod i yma. |
|
|
(1, 0) 161 |
Mae nhad a'i wraig yn gwrthod gadael imi ddwad yma. |
(1, 0) 162 |
Mae nhw'n deud mai pobol go rydd ydych chi, ac y mae arnyn nhw ofn imi fynd yn actres ─ mae rhywbeth yn fy nhynnu i at y llyn fel gwylan. |
(1, 0) 163 |
'Rydych chi'n llond fy nghalon i. |
|
|
(1, 0) 166 |
Ond mae rhywun fan acw... |
|
|
(1, 0) 169 |
Pa goeden ydi honna? |
|
|
(1, 0) 171 |
Pam mae hi mor dywyll? |
|
|
(1, 0) 174 |
Fedra i ddim aros. |
|
|
(1, 0) 177 |
Na, rhaid ichi beidio, rhag i'r gwyliwr eich gweld chi. |
(1, 0) 178 |
'Dydi Trysor ddim yn eich nabod chi ac mi fydd yn cyfarth. |
|
|
(1, 0) 180 |
Isht, isht. |
|
|
(1, 0) 188 |
Ydi, mae o. |
|
|
(1, 0) 193 |
Ydw, yn arw iawn. |
(1, 0) 194 |
Waeth gin i am eich mam, 'does arna i mo'i hofn hi. |
(1, 0) 195 |
Ond mae Trigorin yma. |
(1, 0) 196 |
Mae arna i ofn, mae arna i gywilydd actio o'i flaen o. |
(1, 0) 197 |
Llenor enwog! |
(1, 0) 198 |
Ydi o'n ifanc? |
|
|
(1, 0) 200 |
A'r straeon gwych sy gynno fo! |
|
|
(1, 0) 203 |
Mae'n anodd actio'ch drama chi. |
(1, 0) 204 |
'Does na ddim cymeriadau byw. |
|
|
(1, 0) 207 |
Does na ddim digon o symudiad yn eich drama chi, dim yn digwydd, dim ond areithiau. |
(1, 0) 208 |
Yn y marn i rhaid cael cariad mewn drama, mae hynny'n anhepgor. |
|
|
(1, 0) 271 |
Mae dynion, llewod, eryrod a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed cop, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na aller y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd ─ aeth weithian filoedd o oesau heibio, a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r loer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer. |
(1, 0) 272 |
Ni chlywir mwyach ysgrech yr aran yn deffro ar y weirglodd na'r chwilod mân yn sio ar ddail y waglwyf. |
(1, 0) 273 |
Oer! oer! gwag, gwag, ofnadwy, ofnadwy, ofnadwy! |
(1, 0) 274 |
Aeth pob corff byw yn llwch, troes tragwyddol fater hwy oll yn gerrig, yn ddŵr ac yn gymylau, a'u heneidiau oll wedi llifo ynghyd. |
(1, 0) 275 |
Enaid y byd wyf |i|, ynof |i| mae Enaid Alecsandr Fawr, enaid Cesar, enaid Shakespeare, enaid Napoleon a phryfyn distatlaf y llwch; yn fy mherson i crynhowyd holl reddfau'r byw, ac adnewyddaf bob bywyd ynof i fy hun. |
|
|
(1, 0) 281 |
Nid oes neb byw ond myfi. |
(1, 0) 282 |
Unwaith yn y can mlynedd agoraf fy ngenau, dyrchafaf fy llais yn drist yn y diffeithwch, ac nid oes neb a'm clyw. |
(1, 0) 283 |
A chwithau, oleuadau gwelwon, ni chlywch fy llef, fe'ch cenhedlir gan y corsydd lleidiog cyn toriad dydd, a chrwydrwch hyd y wawr, heb feddwl, heb ewyllys, heb symudiad byw. |
(1, 0) 284 |
Ac wele'r diafol, tad tragwyddol fater, rhag i fywyd dreiddio hyd atoch, bob munud awr yn symud yr atomau o'ch mewn, megis yn y cerrig â'r dŵr, a chwithau'n newid agwedd yn ddi-baid, yn ddi-dor; yn yr holl greadigaeth nid erys ond un enaid yn ddigyfnewid a pharhaus. |
|
|
(1, 0) 286 |
Fel carcharor a fwriwyd i waelodion pydew gwag, ni wn ym mha le yr wyf, na pha beth a ddaw; un peth yn unig sydd hysbys imi yn yr ymdrech gyndyn greulon â'r diafol, pennaeth holl alluoedd mater, tynghedwyd i'm gorchfygu, ac yna gwelir mater ac enaid yn cyd-lifo yn un mewn cytgord, a sefydlir teyrnas rhyddid y byd. |
(1, 0) 287 |
Ond ni ddaw hyn i fod am oesau, filoedd hir, wedi i'r lloer a FIX Siriws disglair, a'r ddaear raddol droi yn llwch, o'r dyddiau hyn i hynny, braw, braw! |
|
|
(1, 0) 290 |
Wele fy ngwrthwynebwr cadarn, y diafol, yn FIX nesáu; gwelaf ei lygaid erchyll, coch. |
|
|
(1, 0) 297 |
Mae'n unig heb gwmni dyn. |
|
|
(1, 0) 361 |
Dyna bopeth ar ben, rhaid inni ddwad allan debyg. |
(1, 0) 362 |
Dydd da i chi. |
|
|
(1, 0) 370 |
Ie, dyna mreuddwyd i. |
|
|
(1, 0) 372 |
Ond ddaw o byth yn wir. |
|
|
(1, 0) 375 |
Mae'n dda gin i... |
|
|
(1, 0) 377 |
Mi fydda i'n darllen llawer ar eich llyfrau chi. |
|
|
(1, 0) 386 |
Drama ryfedd, yntê? |
|
|
(1, 0) 390 |
Oes. |
|
|
(1, 0) 392 |
Ond i'r sawl a brofodd win melys awduriaeth, mi ddylai popeth arall yn y byd golli ei flas, debygwn i. |
|
|
(1, 0) 398 |
Mae'n bryd imi fynd. |
(1, 0) 399 |
Nos dawch. |
|
|
(1, 0) 402 |
Mae tada'n fy nisgwyl i. |
|
|
(1, 0) 407 |
Taech chi'n gwbod mor drwm mae nghalon i wrth fynd! |
|
|
(1, 0) 410 |
O, na, na! |
|
|
(1, 0) 412 |
Fiw imi aros, Piotr Nicolaiefits. |
|
|
(1, 0) 415 |
Fedra i ddim. |
|
|
(2, 0) 537 |
'Rydw i mor hapus, 'rydw i'n un ohonoch chi rwan. |
|
|
(2, 0) 545 |
Wrth y llyn yn pysgota. |
|
|
(2, 0) 548 |
Be sy gynnoch chi fanna? |
|
|
(2, 0) 559 |
Beth, ond 'tydi hi mor ddwl. |
|
|
(2, 0) 605 |
Ardderchog, 'rwy'n eich dallt chi. |
|
|
(2, 0) 645 |
Gwrthod Irina Nicolaiefna, yr actres enwog! |
(2, 0) 646 |
Mae'n anodd credu'r fath beth. |
(2, 0) 647 |
Ond tydi pob chwiw o'i heiddo hi yn bwysicach o lawer nag unrhyw waith ffarm. |
|
|
(2, 0) 657 |
Steddwch, steddwch. |
(2, 0) 658 |
Mi awn ni â chi yno. |
|
|
(2, 0) 660 |
Dychrynllyd, dychrynllyd! |
|
|
(2, 0) 684 |
Mae Irina Nicolaiefna yn crio a brest Piotr Nicolaiefits yn gwichian. |
|
|
(2, 0) 688 |
Cymwch nhw. |
|
|
(2, 0) 697 |
Mae'n syn gin i weld actres yn crio ac am beth mor ddibwys hefyd, a'r llenor enwog poblogaidd â'i enw yn y papur newydd a'i lun yn ffenestri'r siopau a'i lyfrau wedi eu cyfieithu mewn ieithoedd diarth, ac yntau'n pysgota o fore tan nos, ac ar ei ben ei ddigon os medr o ddal un neu ddau o silod mân. |
(2, 0) 698 |
'Ro'n i'n meddwl fod pobol enwog yn falch, yn cadw draw o'r byd, yn dirmygu'r dorf ac yn cymyd mantais o'u clod a'u henwogrwydd i ddial ar y dorf am ei bod yn gosod bonedd a chyfoeth yn uwch na phopeth arall yn y byd; ond dyma nhw'n crio, yn pysgota, yn chwarae cardiau; yn chwerthin a gwylltio fel pawb arall. |
|
|
(2, 0) 701 |
Nag oes. |
(2, 0) 702 |
Be di ystyr hyn? |
|
|
(2, 0) 705 |
Be sy arnoch chi? |
|
|
(2, 0) 708 |
'Dydw i ddim yn eich nabod chi heddiw. |
|
|
(2, 0) 711 |
'Rydych chi wedi mynd yn bigog ac yn siarad mewn damhegion, a dameg ydi'r wylan ma hefyd, mae'n debyg; peidiwch â digio, ond 'dydw i ddim yn dallt, 'rydw i'n rhy ddwl i ddallt. |
|
|
(2, 0) 726 |
Bore da, Boris Alecsiefits. |
|
|
(2, 0) 731 |
Mi garwn innau fod yn eich sgidiau chithau. |
|
|
(2, 0) 733 |
Imi gael gwbod sut y bydd llenor enwog a thalentog yn teimlo. |
(2, 0) 734 |
Sut ydych chi'n teimlo yn eich enwogrwydd? |
|
|
(2, 0) 738 |
Ond pan fyddwch yn gweld eich enw yn y papur? |
|
|
(2, 0) 740 |
Lle rhyfedd ydi'r byd ma. |
(2, 0) 741 |
Taech chi'n gwbod fel y mae arna i wenwyn, a'r fath wahaniaeth ym myd pobol! |
(2, 0) 742 |
Un yn pydru'n ddinod mewn rhyw gongol dywyll, lle y mae pawb fel ei gilydd a phawb yn anhapus, a'r lleill, chi er enghraifft, un o filiwn ydych chi, yn cael byw yn y golau – bywyd diddorol a phawb yn sylwi arnoch. |
(2, 0) 743 |
Yr ydych chi'n hapus. |
|
|
(2, 0) 748 |
Ond y mae'ch bywyd chi'n ardderchog. |
|
|
(2, 0) 778 |
Ydyn, mae sgwennu'n beth difyr; ac y mae darllen y proflenni'n ddifyr hefyd; ond pan fydd fy ngwaith mewn print tu hwnt i'm cyrraedd, byddaf yn canfod brychau, yn ei gondemnio fel methiant, yn credu mai camgymeriad dybryd oedd cyfansoddi'r fath druth, ac yn ddrwg fy hwyl, wedi laru ar bopeth. |
|
|
(2, 0) 780 |
A phan ddarllenir fy llyfr, dyma glywch chi, 'Ie, clws iawn, yn wir, mae yna dalent hefyd, ond mae "Tadau a Phlant" Twrgenieff yn well' a cheir dim ond 'clws a thalentog, clws a thalentog' nes pwyo'r hoelen ola ar gaead f'arch, a bydd fy nghyfeillion wrth fynd heibio fy medd yn deud: "yma y gorwedd Trigorin, llenor da, ond fedra fo ddim sgwennu fel Twrgenieff.' |
(2, 0) 781 |
Choelia i mo hyna, llwyddiant sydd wedi'ch difetha chi. |
|
|
(2, 0) 790 |
'Rydych chi'n gweithio'n rhy ddwys ac nid oes gennych amser nac ewyllys i werthfawrogi'ch gwaith. |
(2, 0) 791 |
Pa waeth os ydych yn anfodlon arno? |
(2, 0) 792 |
I eraill mae'n wych a mawreddog. |
(2, 0) 793 |
Pe tawn i'n llenor fel chi, mi gyflwynwn fy holl fywyd i'r werin, ac mi gai'r werin deimlo mai esgyn hyd ataf i yw ei hunig obaith am wynfyd, ac mi'm llusgai mewn cerbyd yn ei gorfoledd. |
|
|
(2, 0) 795 |
Ond imi gael bod yn llenores neu'n actres, mi aberthwn bopeth; 'rwy'n barod i oddef adfyd, a chasineb, ac angau a siom, ac i fyw ar fara sych mewn twll dan y to, a chydnabod holl ddiffygion ac amherffeithrwydd fy ngwaith, os caf glod, clod gwirioneddol yn taraddu... |
(2, 0) 796 |
Mae'n bendro arna i... ych! |
|
|
(2, 0) 805 |
Welwch chi'r tŷ ar ardd cw ar y lan? |
|
|
(2, 0) 807 |
Dyna dŷ fy mam druan. |
(2, 0) 808 |
Yna y'm ganwyd i, ac 'rydw i'n nabod pob ynys arno. |
|
|
(2, 0) 812 |
Gwylan a saethodd Constantin Gafrilits. |
|
|
(2, 0) 816 |
Be dych chi'n neud? |
|
|
(2, 0) 828 |
Breuddwyd gwag! |
|
|
(3, 0) 874 |
Un ta dwy? |
|
|
(3, 0) 877 |
Na, un bysen sy gin i. |
(3, 0) 878 |
'R'on i'n trio cael gwbod a ddylwn i fynd ar y stage ai peidio. |
(3, 0) 879 |
Mae arna i isio cyngor. |
|
|
(3, 0) 882 |
Dyma ni'n mynd bawb ei ffordd ei hun. |
(3, 0) 883 |
Welwn ni mo'n gilydd eto, mae'n debyg. |
(3, 0) 884 |
A fyddwch chi cystal â chymyd y fedal bach yma i gofio amdana i? |
(3, 0) 885 |
Mae nhw wedi torri'ch enw arni ar un ochor ac ar yr ochor arall mae teitl eich llyfr chi 'Nos a Dydd.' |
|
|
(3, 0) 888 |
Meddyliwch amdana i weithiau. |
|
|
(3, 0) 891 |
Ie, yr wylan. |
|
|
(3, 0) 893 |
Ond dyna ben ar ein sgwrs ni, mae nhw'n dŵad – ga i ddau funud bach gynnoch chi cyn ichi fynd i ffwrdd, peidiwch â gwrthod. |
|
|
(3, 0) 1219 |
'R o'n i'n gwbod ein bod am gael gweld ein gilydd. |
|
|
(3, 0) 1221 |
Boris Alecsiefits, 'r ydw i'n mynd ar y stage. |
(3, 0) 1222 |
Welir mona i yma fory, 'r wy'n gadael fy nhad a phopeth ac yn dechrau byw o'r newydd. |
(3, 0) 1223 |
Fel chi, 'r wyf innau'n mynd i Mosco. |
(3, 0) 1224 |
Mi gawn weld ein gilydd yno. |
|
|
(3, 0) 1228 |
Hanner munud. |
|
|
(4, 0) 1604 |
Mae rhywun yma. |
|
|
(4, 0) 1606 |
Rhowch glo ar y drws, neu mi ddaw rhywun. |
|
|
(4, 0) 1608 |
Mi wn fod Irina Nicolaiefna yma. |
(4, 0) 1609 |
Rhowch glo ar y drws. |
|
|
(4, 0) 1614 |
Gadwch imi gael golwg arnoch chi. |
(4, 0) 1615 |
Mae'n braf ac yn gynnes neis. |
(4, 0) 1616 |
Yma 'roedd y parlwr gorau. |
(4, 0) 1617 |
Ydw i wedi newid yn arw? |
|
|
(4, 0) 1624 |
'Roedd arna i ofn eich bod yn fy nghasau i; mi fyddwn yn breuddwydio bob nos eich bod yn sbio arna i ac yn gwrthod fy nabod. |
(4, 0) 1625 |
Taech chi'n gwybod! |
(4, 0) 1626 |
'Rydw i wedi bod yma bob dydd – wrth y llyn, ac wrth y tŷ ma hefyd lawer gwaith; ond feiddiwn i ddim dŵad i mewn. |
(4, 0) 1627 |
Gadwch inni eistedd a sgwrsio, sgwrsio. |
(4, 0) 1628 |
Mae hi'n glyd ac yn gynnes braf yma. |
(4, 0) 1629 |
Glywch chi'r gwynt? |
(4, 0) 1630 |
Mae Twrgenieff yn deud yn rhywle "gwyn ei fyd y gŵr sydd ganddo dŷ a tho ac aelwyd gynnes ar noson fel hon". |
(4, 0) 1631 |
Gwylan ydw i – na, thâl hyna ddim. |
(4, 0) 1632 |
Lle'r oeddwn i hefyd? |
(4, 0) 1633 |
O, ie, Twrgenieff: 'A'r Arglwydd a ofala am bob crwydryn heb le i roi ei ben i lawr' – Waeth befo... |
|
|
(4, 0) 1636 |
Waeth befo, mi neith les imi. |
(4, 0) 1637 |
Chriais i ddim ers dwy flynedd. |
(4, 0) 1638 |
Mi es i'r ardd neithiwr i weld a oedd ein theatr ni yno, ac yno y mae hi hefyd. |
(4, 0) 1639 |
Mi griais i am y tro cynta ers dwy flynedd ac 'ro'n i'n teimlo'n sgafnach wedyn, a llai o bwys ar y nghalon i. |
(4, 0) 1640 |
Welwch chi, 'dwy ddim yn crio rŵan. |
(4, 0) 1641 |
A dyma chi'n llenor, chi'n llenor a finnau actores, yn mynd gyda'r lli ein dau. |
(4, 0) 1642 |
'Roeddwn i mor hapus ers talwm, yn canu fel plentyn ben bore, yn breuddwydio am glod, a rŵan – rhaid imi fynd i Ielets yfory, third class gyda'r gweithwyr, ac mi fydd siopwyr diwylliedig y dre yn fy nghanlyn i ac yn dechrau caru a hel lol. |
(4, 0) 1643 |
Bywyd isel yntê? |
|
|
(4, 0) 1645 |
Mae gin i engagement yno am y gaea, ond mae'n bryd imi fynd. |
|
|
(4, 0) 1651 |
Pam y mae o'n siarad fel hyn, pam y mae o'n siarad fel hyn? |
|
|
(4, 0) 1657 |
Mae'r cerbyd wrth y giât. |
(4, 0) 1658 |
Peidiwch â dŵad gyda mi, mi a i fy hun. |
|
|
(4, 0) 1660 |
Ga i lymaid o ddŵr? |
|
|
(4, 0) 1663 |
I'r dre. |
(4, 0) 1664 |
Ydi Irina Nicolaiefna yma? |
|
|
(4, 0) 1667 |
Pam y deudsoch chi y byddwch yn cusanu'r pridd y bu fy nhraed arno? |
(4, 0) 1668 |
Mi ddylid fy lladd i. |
(4, 0) 1669 |
O! 'rydw i wedi blino. |
(4, 0) 1670 |
Gawn i orffwys... gorffwys. |
(4, 0) 1671 |
Gwylan ydw i – nage actres ydw i. |
|
|
(4, 0) 1673 |
O! |
(4, 0) 1674 |
Mae o yma. |
(4, 0) 1675 |
Wel, waeth befo... |
(4, 0) 1676 |
Doedd o ddim yn credu yn y theatr a byddai'n chwerthin am ben fy mreuddwydion, ac o dipyn i beth mi gollais innau fy ffydd a thorrais fy nghalon – a gofalon serch, cenfigen, a phryder am yr hogyn bach yn fy mlino ddydd a nos – a minnau'n isel ysbryd, a'r actio'n druenus ac ynfyd, wyddwn i ddim sut i ddal fy nwylo, fedrwn i ddim sefyll yn iawn ar y stage, 'doedd gin i ddim meistrolaeth ar fy llais chwaith. |
(4, 0) 1677 |
Gwylan ydw i – na, thâl hyna ddim – ydych chi'n cofio saethu'r wylan? |
(4, 0) 1678 |
Daeth dyn heibio ar ddamwain, a'i gweld hi am nad oedd ganddo ddim gwell i'w wneud – ei difa hi. |
(4, 0) 1679 |
Testun stori fer. |
(4, 0) 1680 |
Na, thâl hyna ddim. |
(4, 0) 1681 |
Lle'r oeddwn i hefyd? |
(4, 0) 1682 |
O, ie, yn sôn am y stage. |
(4, 0) 1683 |
Ond 'rydw i wedi newid erbyn hyn. |
(4, 0) 1684 |
'Rwyf yn wir actres, yn cael blas ar actio, yn llawn gorfoledd, wedi meddwi ar y stage ac yn teimlo fy mod yn gampus. |
(4, 0) 1685 |
Ac er pan ddois yma, 'rwyf yn cerdded o gwmpas ac yn myfyrio ac yn teimlo fod nerthoedd f'enaid yn tyfu bob dydd. |
(4, 0) 1686 |
'Rwyf wedi dysgu gwers, Costia, yn ein gwaith ni ar y stage neu wrth y ddesg, nid clod, nid rhwysg llwyddiant, nid yr hyn y byddem gynt yn breuddwydio amdano sy'n bwysig, ond y gallu i ddioddef. |
(4, 0) 1687 |
Dysg godi'r groes a chredu. |
(4, 0) 1688 |
Mae gennyf ffydd, ac felly mae'r loes yn llai, a phan feddyliaf am fy ngalwad, nid oes arnaf ofn byw. |
|
|
(4, 0) 1692 |
Sh!... |
(4, 0) 1693 |
'Rydw i'n mynd. |
(4, 0) 1694 |
Nos dawch. |
(4, 0) 1695 |
Pan fydda i'n actres enwog, dowch i ngweld i – ydych chi'n addo dŵad? |
(4, 0) 1696 |
Ond hyd hynny... |
(4, 0) 1697 |
Mae hi'n hwyr. |
(4, 0) 1698 |
Prin y medra i sefyll 'rydw i wedi blino, mae arna i isio bwyd. |
|
|
(4, 0) 1700 |
Na, na! |
(4, 0) 1701 |
Peidiwch â dŵad hefo mi chwaith. |
(4, 0) 1702 |
'Dydi'r cerbyd ddim ymhell. |
(4, 0) 1703 |
Mae hi wedi dŵad â fo yma felly? |
(4, 0) 1704 |
Wel, waeth gin i. |
(4, 0) 1705 |
Pan welwch chi Trigorin, peidiwch â deud dim wrtho fo – 'rydw i'n ei garu o, yn ei garu o'n fwy nag erioed. |
(4, 0) 1706 |
Testun stori fer... |
(4, 0) 1707 |
'Rydw i'n ei garu o'n wyllt, yn angerddol. |
(4, 0) 1708 |
'Roedd hi mor ddifyr yma ers talwm, ydych chi'n cofio Costia? |
(4, 0) 1709 |
Bywyd golau, cynnes, llon. |
(4, 0) 1710 |
A'r fath deimladau! |
(4, 0) 1711 |
Teimladau fel blodau, tyner, gwych, ydych chi'n cofio. |
|
|
(4, 0) 1713 |
~ |
(4, 0) 1714 |
'Mae dynion, llewod, eryrod, a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed copyn, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na all y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd. |
(4, 0) 1715 |
Aeth weithian filoedd o oesau heibio a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r lloer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer. |
(4, 0) 1716 |
Ni chlywir mwyach ysgrech garan yn deffro ar y weirglodd na'r chwilod mân yn sio ar ddail y waglwyf.' |