Ciw-restr

Hamlet, Tywysog Denmarc

Llinellau gan Ophelia (Cyfanswm: 58)

 
(1, 3) 605 A ydwyt ti yn anmheu yn nghylch hyn?
 
(1, 3) 613 Dim mwy na hyn?
 
(1, 3) 659 Myfi a gadwaf effaith dda dy wers,
(1, 3) 660 Fel gwyliwr ar fy nghalon: ond, frawd da,
(1, 3) 661 Na fydd fel rhai bugeiliad llwyr di-ras,
(1, 3) 662 Yn dangos im' yr erwin, ddreiniog ffordd
(1, 3) 663 I'r nefoedd; tra'n anlladwr gwag ei hun,
(1, 3) 664 Y rhodia ar friallaidd lwybr gwyn,
(1, 3) 665 Heb ddysgu gair o'i foesol wers ei hun.
 
(1, 3) 710 Mae 'n glöedig yn fy nghof,
(1, 3) 711 A chwi eich hun gaiff gadw ei allwedd ef.
 
(1, 3) 715 Os boddlawn genych, rhywbeth yn ynghylch
(1, 3) 716 Fy arglwydd Hamlet.
 
(1, 3) 727 Fe roes i mi, fy arglwydd, amryw o
(1, 3) 728 Gynygion yn ddiweddar o ei serch.
 
(1, 3) 733 Nis gwn, fy arglwydd, beth
(1, 3) 734 I'w feddwl.
 
(1, 3) 743 Fy arglwydd, fe ymbiliodd â myfi
(1, 3) 744 Mewn cariad pur, ac anrhydeddus ddull.
 
(1, 3) 746 Fy arglwydd, rho'dd i'w eiriau gadarnâd,
(1, 3) 747 A holl santeiddiaf addunedau 'r nef.
 
(1, 3) 776 Myfi a wnaf, fy arglwydd, ufuddâu.
 
(2, 1) 1299 O, fy arglwydd, f' arglwydd, mi
(2, 1) 1300 A ge's fy nychrynu 'n fawr.
 
(2, 1) 1303 Fy arglwydd, pan yr o'wn
(2, 1) 1304 Yn pwytho yn f' ystafell i fy hun,
(2, 1) 1305 F' arglwydd Hamlet, gyda'i wasgawd oll
(2, 1) 1306 Heb gael ei chau; heb het i guddio 'i ben;
(2, 1) 1307 Hosanau 'n fudron, heb ardysau, ac
(2, 1) 1308 Yn hongian fel cadwyni hyd ei ffêr;
(2, 1) 1309 Yn welw fel ei grys; ei liniau ef
(2, 1) 1310 Yn crynu yn nghyd; a chyda golwg mor
(2, 1) 1311 Druenus yn ei ystyr, a phe b'ai
(2, 1) 1312 Ef newydd d'od o uffern drist ei hun,
(2, 1) 1313 I ddweud ei dychrynfeydd, fe ddaeth o'm blaen.
 
(2, 1) 1315 Fy arglwydd, nis gwn i; ond wele, yn wir,
(2, 1) 1316 Yr wyf yn ofni hyn.
 
(2, 1) 1318 Gafaelodd yn fy ngarddwrn; daliodd fi
(2, 1) 1319 Yn galed; yna tynodd hŷd ei fraich
(2, 1) 1320 Yn ôl, a chyda ei law arall ef
(2, 1) 1321 Fel hyn uwchlaw ei ael, edrychai â
(2, 1) 1322 Y fath fanylrwydd i fy wyneb, fel
(2, 1) 1323 Pe buasai 'n meddwl ei arlunio. Hir
(2, 1) 1324 Arosodd felly; ac o'r diwedd âg
(2, 1) 1325 Ysgydwad ysgafn ar fy mraich, yn nghyd
(2, 1) 1326 A theirgwaith chwyfio i fyny ac i lawr
(2, 1) 1327 Ei ben,—fe ro'dd ochenaid oedd mor ddofn
(2, 1) 1328 A thruan, ag yr ymddangosai fel
(2, 1) 1329 Yn barod i deilchioni ei holl gorff,
(2, 1) 1330 A gorphen ei fodolaeth; wedi hyn
(2, 1) 1331 Gollyngodd fi; ac â'i ben wedi ei droi
(2, 1) 1332 Ar ei naill ysgwydd, ymddangosai fel
(2, 1) 1333 Yn gallu heb ei lygaid fyn'd i'w ffordd;
(2, 1) 1334 Aeth heb ddim cymhorth ganddynt drwy y drws,
(2, 1) 1335 Ac, hyd y diwedd, syllai arnaf fi.
 
(2, 1) 1345 Na ddo, fy arglwydd da, ond fel y gwnaech
(2, 1) 1346 Orchymyn, felly y gwrthodais ei
(2, 1) 1347 Lythyrau, gyda pheidio 'i dderbyn ef.