| (1, 0) 4 | |Habeo ad Dominum|. Nid fy nghalon sy'n drom, |
| (1, 0) 5 | Ond er pan lusgodd Adda ei ddeudroed oediog drwy borth Eden, |
| (1, 0) 6 | Ni bu gan bechadur draed trymach. |
| (1, 0) 9 | I Dduw y bo'r diolch; |
| (1, 0) 10 | Mae'r cyrn yn gori ar fy nhraed. |
| (1, 0) 15 | Nid oes neb ar yr heol, a gweigion yw'r gwinllannoedd. |
| (1, 0) 16 | Ai cysgu mae ciwdod Auxerre dan haul canol dydd? |
| (1, 0) 17 | Neu a oes heddiw ŵyl, neu angladd tywysog, |
| (1, 0) 18 | Neu wledd, a dynnodd y trefwyr i neuadd neu eglwys? |
| (1, 0) 20 | A drws y fynachlog. |
| (1, 0) 21 | Penliniwn. Cusanwn y trothwy a droedia'r saint. |
| (1, 0) 27 | Enaid, dyma derfyn y daith: |
| (1, 0) 28 | Pan glywom y barrau'n symud ar y drws draw, |
| (1, 0) 29 | Bydd tynged gwlad y Brythoniaid yn ein haros ni yma. |
| (1, 0) 32 | Gwrando. |
| (1, 0) 34 | Fy mrawd, ar frys: dyro sbonc ar y drws. |
| (1, 0) 36 | A adweini di'r llais? |
| (1, 0) 40 | A'r funud hon rhoir iddo gusan tangnefedd |
| (1, 0) 41 | A'i arwain â halelwia o'r gangell i'r clas. |
| (1, 0) 42 | Bydd yno esgobion Gâl a llond ffair o offeiriaid; |
| (1, 0) 43 | Trefnwyd awr dda inni ddyfod. |
| (1, 0) 52 | Dinasyddion Rhufain a chaethion ein Harglwydd Crist. |
| (1, 0) 55 | Tros fôr a thiroedd o eithaf yr ymerodraeth, |
| (1, 0) 56 | Cenhadon o wlad y Brythoniaid. |
| (1, 0) 97 | Fy arglwydd a'm tad, taled Duw iti'r pwyth; |
| (1, 0) 98 | Iawn yw i ninnau roi iti hynaws ufudd-dod, |
| (1, 0) 99 | Ond yn y peth hwn a erchaist, erfyniaf faddeuant. |
| (1, 0) 101 | Llw a dyngasom ar sgrin yng Nghaerlleon ar Ŵysg, |
| (1, 0) 102 | Ar feddrod Alban ferthyr, ein seren fore. |
| (1, 0) 105 | Llw na phrofem saig na thorri ympryd |
| (1, 0) 106 | Ond unwaith y dydd, ar fara a dŵr, cyn noswylio, |
| (1, 0) 107 | Oni thraddodem i esgobion Gâl |
| (1, 0) 108 | Druenus gri ffyddloniaid Crist yng Nghymru. |
| (1, 0) 122 | Fy arglwydd a'm tadau, |
| (1, 0) 123 | Yr wyf i, Paulinus, yn hen, yn hanner cant oed, |
| (1, 0) 124 | Â phan edrychaf o'm blaen, nid i'r byd hwn yr edrychaf, |
| (1, 0) 125 | Byr fydd fy nyddiau yma, |
| (1, 0) 126 | Digon im' yma mwy yw ufuddhau ac aros. |
| (1, 0) 127 | A phan edrychaf yn ôl, yn ofer y llafuriais, |
| (1, 0) 128 | Blin fu fy nyddiau yma, |
| (1, 0) 129 | Ac nid oes a garaf oddieithr atgofion mebyd: |
| (1, 0) 130 | Pedair oed oeddwn i ar fraich fy nhad yng Nghaerlleon |
| (1, 0) 131 | Yn gwylio byddinoedd Macsen Wledig ac Elen, ymerodres Arfon, |
| (1, 0) 132 | Yn rhodio allan o'm dinas, |
| (1, 0) 133 | Allan dan lygaid y ddinas, |
| (1, 0) 134 | Allan ar gerrig Sarn Elen o glyw y ddinas, |
| (1, 0) 135 | A dywedodd fy nhad, dyma'r byd a wyddom yn darfod, |
| (1, 0) 136 | Darfod hir hwyl yr haul, |
| (1, 0) 137 | Darfod sefydlogrwydd, |
| (1, 0) 138 | Darfod y naddu meini i'r tai parhaol, |
| (1, 0) 139 | Darfod di-ddarfod ganrifoedd Rhufain a'i heddwch; |
| (1, 0) 140 | Ac wylodd fy nhad. |
| (1, 0) 141 | Ond atebodd fy mam: |
| (1, 0) 142 | Pan ddarffo heddwch Rhufain fe saif tangnefedd ein Harglwydd; |
| (1, 0) 143 | Offrwm beunyddiol offeiriaid Crist yw meini saernïaeth ein dinas, |
| (1, 0) 144 | A chredo ddisyflyd yr Eglwys balmanta undod gwareiddiad. |
| (1, 0) 145 | Gwir fu ei gair. Canys wedyn, |
| (1, 0) 146 | Wedi cilio o'r canwriaid a'r llengoedd a baneri'r eryr, |
| (1, 0) 147 | A'n gado'n weiniaid i gadw'r ffin, |
| (1, 0) 148 | A'r barbariaid yn tynnu'n nes dros y tir, |
| (1, 0) 149 | A'r Sgotiaid yn hyach o hyd dros y môr, |
| (1, 0) 150 | Wele, er hynny, y pryd y blagurodd dysg a dwyfoldeb |
| (1, 0) 151 | Fel gwanwyn hwyr yn ein gwlad. |
| (1, 0) 152 | Atom yn gyson, i Ddyfed a Gwent a Morgannwg, |
| (1, 0) 153 | Y ffoes ac y ffy athrawon gramadeg a dysgodron y gyfraith |
| (1, 0) 154 | O barthau'r goresgynwyr ac o'r dinasoedd llosg, |
| (1, 0) 155 | Ac megis blodau'r pren ceirios yw'n llannau a'n hysgolion, |
| (1, 0) 156 | A brwd y croesewir gan Emrys, Gwledig Caerlleon a'r Deau, |
| (1, 0) 157 | Etifeddion huodledd Quintilianus a Fferyll |
| (1, 0) 158 | A duwiol ddilynwyr Sierôm o Fethlehem. |
| (1, 0) 163 | Wylwch, fy nhadau, wylwch. |
| (1, 0) 164 | Troes ein golau yn dwyll. |
| (1, 0) 165 | Un ohonom ni, mynach o'r clas ym Mangor, |
| (1, 0) 166 | Thuser dysgeidiaeth, |
| (1, 0) 167 | Y tafod aur, |
| (1, 0) 168 | Treisiwr y nefoedd |
| (1, 0) 169 | A'i ympryd a'i einioes yn un, |
| (1, 0) 170 | Hwnnw, Pelagius y Brython, a beryglodd undod cred. |
| (1, 0) 177 | Gweddiwch hefyd, fy arglwydd, dros gyfyngder fy ngwlad. |
| (1, 0) 178 | Tra na bo ond rhuthr y barbariaid o barthau'r rhew a'r dwyrain |
| (1, 0) 179 | Yn cau arnom ni a chwithau a'r Rhufeiniaid oll, |
| (1, 0) 180 | Gallwn, â chalon ddur, amddiffyn ein hetifeddiaeth; |
| (1, 0) 181 | Canys Crist yw ein Rhufain mwy, ac Ef biau dysg y Groegiaid, |
| (1, 0) 182 | Ac undod yr Ysbryd Glân yn ei Eglwys fydd sail dinasyddiaeth cred. |
| (1, 0) 183 | Ond pallodd ein dewredd a'n pwyll; |
| (1, 0) 184 | Daeth atom ddysgawdwr, |
| (1, 0) 185 | Glân ei fuchedd a nerthol o air, |
| (1, 0) 186 | Disgybl Pelagius, Agricola, |
| (1, 0) 187 | A denodd, o'n myneich ac o deulu'r Ffydd, dorf ar ei ôl. |
| (1, 0) 188 | Pa gwrs a gymerem, fy mrodyr? |
| (1, 0) 189 | Nid rhydd yw i ni ddadwreiddio'r efrau o'r cae. |
| (1, 0) 190 | A rwygwn ni unwe'r Eglwys yng ngŵydd y paganiaid, |
| (1, 0) 191 | Neu ddatod rhwyd y Pysgotwr cyn cyrraedd glan? |
| (1, 0) 192 | Na ato Duw; |
| (1, 0) 193 | Ymbil mewn amynedd sy'n gweddu'n well. |
| (1, 0) 194 | Ond unpeth, nis medrwn chwaith─ |
| (1, 0) 195 | Gweld nodd y Winwydden, |
| (1, 0) 196 | Y Wir Winwydden sy â'i cheinciau drwy wledydd cred, |
| (1, 0) 197 | A'r nodd sy'n undod ei cheinciau, |
| (1, 0) 198 | Y nodd sy'n sug y grawnsypiau, |
| (1, 0) 199 | Ei weld yn diffygio, a diffrwytho cainc y Brythoniaid, |
| (1, 0) 200 | A gwywo o gainc y Brythoniaid, |
| (1, 0) 201 | A'r gangen yn pydru o'r pren. |
| (1, 0) 202 | ~ |
| (1, 0) 203 | Yn fab, fy mrodyr, mi wylais fod Rhufain fy nhadau |
| (1, 0) 204 | Yn bradwyo, a'i braich yn byrhau; |
| (1, 0) 205 | Ond Rhufain newydd, ysbrydol, Dinas ein Duw, |
| (1, 0) 206 | Etifedd ei thegwch a'i dysg, |
| (1, 0) 207 | A welais yn llamu o'i llwch; |
| (1, 0) 208 | Ac iddi gwrogodd fy ngwlad, |
| (1, 0) 209 | Ynddi mae iechyd fy ngwlad, |
| (1, 0) 210 | Yn undod un ffydd, un bedydd, un offrwm, un Arglwydd. |
| (1, 0) 211 | A welaf i yn fy mhenwynni ein deol o hon? |
| (1, 0) 213 | Am hynny, fy nhadau, |
| (1, 0) 214 | Yn eisteddfod abadau fy ngwlad, |
| (1, 0) 215 | 'Nôl ympryd a phenyd ac offeren a chymuno ynghyd |
| (1, 0) 216 | Dewiswyd Illtud a minnau i erchi i grefyddwyr Gâl: |
| (1, 0) 217 | Deuwch drosodd i'n cymorth, |
| (1, 0) 218 | Gyrrwch inni esgob i gyhoeddi i'n gwerin y ffydd a ddaliasom erioed, |
| (1, 0) 219 | Fel na bo na sect nac ymraniad yng ngwlad y Brythoniaid, |
| (1, 0) 220 | Eithr pawb o'r ffordd hon, |
| (1, 0) 221 | Yn cerdded wrth yr un rheol, yn synio'r un peth. |
| (1, 0) 222 | Wele, traddodais i chwi apêl fy mhobl; |
| (1, 0) 223 | A'r awron, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, |
| (1, 0) 224 | Yn ôl dy air. |