| (1, 0) 49 | |Dominus vobiscum|. |
| (1, 0) 51 | Croeso i chwi, eneidiau. Pwy ydych chwi? |
| (1, 0) 53 | Bendigedig yw'r neb sy'n dyfod yn enw'r Arglwydd. |
| (1, 0) 54 | O ba wlad y daethoch, wŷr da? |
| (1, 0) 57 | Undod yw gwledydd cred. |
| (1, 0) 58 | Cyd-ddinasyddion yw gwerin Crist. |
| (1, 0) 59 | Derbyniwch gusan tangnefedd. |
| (1, 0) 65 | I Dduw y bo'r clod: heddiw'r bore |
| (1, 0) 66 | Cysegrwyd Lupus offeiriad yn esgob Troyes. |
| (1, 0) 67 | Garmon ein tad a'i cysegrodd. |
| (1, 0) 68 | Daeth yma breladiaid Gâl yn gôr gorseddog, |
| (1, 0) 69 | A'r awron eisteddant i ginio ar lawnt y clas. |
| (1, 0) 70 | Chwithau, westeion, a roddaf i yno i eistedd |
| (1, 0) 71 | Ar ddeheulaw Esgob Auxerre, |
| (1, 0) 72 | Deuwch i'r byrddau. Mae'r cwmni ar hir gythlwng. |
| (1, 0) 73 | Nid oes ond croesi'r hiniog i ymuno â hwy ar y lawnt. |
| (1, 0) 79 | Gosteg. |
| (1, 0) 81 | Fy arglwydd esgob, f'arglwyddi a'm tadau oll, |
| (1, 0) 82 | Dygaf i chwi westeion o gyrrau pella'r Gristnogaeth, |
| (1, 0) 83 | Myneich o wlad y Brythoniaid a gurodd yn awr ar ein porth. |