|
|
|
|
(1, 0) 40 |
Wel, diolch i'r mawredd, dyna hwnna wedi 'i gwpla. |
(1, 0) 41 |
Rwy'i wedi sgrifennu at Lizzie Ann. |
(1, 0) 42 |
Fe fydd nol yma ddydd Llun. |
|
|
(1, 0) 45 |
Wel, fe fydd nol ddydd Llun, ta beth. |
|
|
(1, 0) 48 |
Dyna falch wy'i 'mod i wedi cwpla'r ddou lythyr yna. |
(1, 0) 49 |
Dyna jobyn nad oes geni gynnig iddo─sgrifennu llythyron. |
(1, 0) 50 |
Am na ches i fawr o ysgol ariod depig. |
|
|
(1, 0) 53 |
Wel am otw, merchi. |
(1, 0) 54 |
O'r diwadd! |
|
|
(1, 0) 58 |
Do, merchi, fe wetas hynny. |
|
|
(1, 0) 62 |
Paid â becso, Gwen fach. |
(1, 0) 63 |
Mynd fydd ora ar 'i les e. |
(1, 0) 64 |
Roet ti dy hunan yn clwad Dr. Willie Jenkins yn gweyd pwy ddydd yma mai'r rhan yna o Australia yw'r man gora yn y byd i ddyn yn y |decline|. |
(1, 0) 65 |
Lwc fawr oedd i Myfanwy gisho gita ni i hela fe mas yno, a hitha'n gwpod 'i fod e'n dost. |
|
|
(1, 0) 69 |
Wel, am do, Gwen, wrth gwrs hynny! |
|
|
(1, 0) 73 |
Ond meddwl, Gwen fach, beth fydd y canlyniad! |
(1, 0) 74 |
Dim ond cwpwl bach o flynydda, yna wedi'r holl weddïo taer a cholli dagra, fe ddaw nol atom ni eto─yn ddyn cryf ac iach! |
|
|
(1, 0) 80 |
Shwd mae spelian "endeavouring," Gwen? |
|
|
(1, 0) 87 |
Ho'n wir! |
(1, 0) 88 |
A gatal i ŵr Myfanwy feddwl 'mod i'n ffaelu wilia Sisnag, a ninna ddim yn wilia â'n gilydd pan madawson' nhw â Aberpandy? |
(1, 0) 89 |
Dim perig, wir! |
|
|
(1, 0) 91 |
Wel, wel, tyswn i ddim ond wedi cal ticyn o ysgol! |
(1, 0) 92 |
O'r cyfla mae'r plant yn 'i gal heddi─|Council School|, yr |Intermediate|, a'r |College|! |
|
|
(1, 0) 96 |
Yn dishgwl? |
(1, 0) 97 |
Pwy? |
|
|
(1, 0) 104 |
Gwen fach, rwyt ti byth a hefyd yn meddwl am y bechgyn yma. |
|
|
(1, 0) 112 |
Ia, dyna ti, y streic... |
(1, 0) 113 |
Un ar ol y nall─streic, streic, streic! |
(1, 0) 114 |
Allsat ti ddim cal ffowlyn ar hen gownt gan Parri'r Fish? |
|
|
(1, 0) 118 |
Ia, dyna ti! |
|
|
(1, 0) 120 |
A dyna'r criw mae Lewis ni yn byw ac yn bod gita nhw. |
(1, 0) 121 |
A dyn teidi fel fi sy wedi |Drill Hall| y funad yma yn dewish ymgeisydd Seneddol─a mae nhw'n siwr o ddewish un pert hed! |
|
|
(1, 0) 128 |
O, fe fydd yn ddicon |respectable| i Myfanwy ni, paid ti ofni hynny. |
|
|
(1, 0) 132 |
Mae fe rwpath yn depig, mae'n wir. |
(1, 0) 133 |
Ag all neb ama nag oes ganto lais hyfryd. |
|
|
(1, 0) 136 |
Wel am do! |
|
|
(1, 0) 138 |
"We are expecting our John Henry back from college─" |
|
|
(1, 0) 141 |
"From the University in Cardiff to-morrow or the day after. |
(1, 0) 142 |
I think I told you before that he is preparing for the ministry. |
(1, 0) 143 |
He is now in his second year, and next year he will be trying for the B.A." |
|
|
(1, 0) 146 |
"Perhaps he will study for the B.D. afterwards, but that isn't quite settled yet. |
(1, 0) 147 |
Fortunately─ |
|
|
(1, 0) 149 |
fortunately, he won a County Exhibition, so that we don't have to keep him altogether." |
|
|
(1, 0) 153 |
Dyna brecath grand roes e inni Nadolig dwetha─precath ardderchog oedd hi. |
(1, 0) 154 |
Doedd Isaac Pugh ddim yn rhyw wresog iawn obeutu hi, ond roedd y diaconiaid erill yn 'i chanmol hi tuhwnt. |
|
|
(1, 0) 156 |
A hefyd, mae fe mor gyndyn dros roi galwad i Jones Dowlais. |
|
|
(1, 0) 160 |
Wn i ddim, Gwen, os wyt ti wedi taro ar yr un syniad a finna obeutu'r alwad yma. |
|
|
(1, 0) 164 |
Wel, fe fyddai'n ardderchog o beth tysa John Henry wedi cwpla yn y Coleg ac yn gallu cymryd yr eclws, on' byddai, Gwen? |
|
|
(1, 0) 171 |
Dere, Gwen fach, dere. |
(1, 0) 172 |
Does dim iws iti fecso felna. |
|
|
(1, 0) 212 |
Wel, Gwilym, ffordd mae hi nawr, machan i? |
|
|
(1, 0) 214 |
Rown i'n gweyd wrth dy fam ar ol cino y dylat ti fynd i orffws am spel bob diwetydd. |
|
|
(1, 0) 235 |
Yr hen Binkerton yna, spo. |
|
|
(1, 0) 266 |
Do, fe glywas. |
|
|
(1, 0) 269 |
Dynon fel fe sy'n felldith i'r wlad yma heddi. |
(1, 0) 270 |
Pwy yw e, sgwn i, i gal 'i hannar addoli? |
(1, 0) 271 |
Rwy' i wedi byw yn y cwm yma nawr am drician mlynadd. |
(1, 0) 272 |
Rwy' i'n cofio Aberpandy cyn byth i'r Powel Griffiths shinco'r pwll cynta. |
(1, 0) 273 |
Rwy'n cofio defid y Pandy'n pori'n dawal lle mae Pwll Bryndu nawr. |
(1, 0) 274 |
A chlywas i ariod sôn am y Pinkerton yma tan ryw ddwy ne dair blynadd yn ol. |
|
|
(1, 0) 278 |
Eitha gwir, Gwilym, y cwbwl wedi newid, a newid er gwath hed, mae'n flin gen i weyd. |
(1, 0) 279 |
Dyn da, stydi yw Evan Davies, dyn teidi, respectable, ac yn ddiacon ers ucian mlynedd. |
(1, 0) 280 |
Rwy'n cofio'r diwarnod pan ethom ni'n dou i lawr y cwm i weld Gladstone. |
|
|
(1, 0) 282 |
Ia, yr hen Gladstone! |
(1, 0) 283 |
Dyna ddyn i chi! |
(1, 0) 284 |
A drychwch ar yr hen Binkerton yma. |
(1, 0) 285 |
Glywsoch chi son iddo ariod dywyllu drws capal ne hyd yn oed eclws tysa fatar o hynny? |
(1, 0) 286 |
Pam na wnaiff e gynnal 'i hen gyfarfotydd ar ryw ddiwarnod arall heblaw'r Saboth? |
(1, 0) 287 |
Mae'n ddicon calad i gal pobol i'r capal ar ddydd Sul heb iddo fe gatw 'i hen gyfarfotydd. |
(1, 0) 288 |
"Chwe diwrnod y gweithi," medda'r Gair. |
(1, 0) 289 |
Ond dyna, mae petha felly mas o ddate heddi. |
|
|
(1, 0) 306 |
Clywas fod William Ewart chi wedi cal hwyl dda arni lan yn Treherbert pwy ddydd Sul 'ma. |