| (1, 0) 12 | Wyt ti wedi cael tê, Esther? |
| (1, 0) 15 | Dim ond am ychydig o funudau. |
| (1, 0) 16 | Mae Sam ar fynd i'r steddfod. |
| (1, 0) 18 | Fi? |
| (1, 0) 19 | Dim perigl. |
| (1, 0) 20 | Wfft iddi nhw a'u hên ganu ac adrodd. |
| (1, 0) 21 | 'Rwyf am fynd lawr i'r dre' i weld Mari, fy chwaer. |
| (1, 0) 23 | 'Dyw'r Genedlaethol yn ddim i'w chymharu â hi. |
| (1, 0) 24 | Mi fyddai'n falch i weld yfory. |
| (1, 0) 26 | Dim ond 'steddfod, a |male voice|, a |rallentando| glywir yn ein tŷ ni o fore tan nos. |
| (1, 0) 28 | Wyddost ti, mae Sam fel pe bae wedi ynfydu. |
| (1, 0) 29 | Wrth gwrs, y mae John yn mynd? |
| (1, 0) 32 | A tithau hefyd, wrth gwrs. |
| (1, 0) 34 | Beth? |
| (1, 0) 35 | A'r fath gantores fuost ti erioed! |
| (1, 0) 36 | A ti wyddost am gystadleuaeth y |male voice| heno; ni bu ei bath erioed! |
| (1, 0) 39 | Ond, Esther, fe fydd canu da yn y gystadleuaeth heno! |
| (1, 0) 42 | Wel, wel, dyna un ôd wyt ti, a dweyd y lleiaf. |
| (1, 0) 43 | Gall'swn feddwl—. |
| (1, 0) 45 | O, ie, wrth gwrs. |
| (1, 0) 47 | Faint sy 'nawr oddiar y bu Neli fach farw? |
| (1, 0) 50 | Blwyddyn i heno! |
| (1, 0) 51 | Yr annwyl, annwyl. |
| (1, 0) 52 | Druan fach! |
| (1, 0) 53 | Fel mae'r amser yn mynd! |
| (1, 0) 55 | Cannwyll llygad John oedd Neli fach. |
| (1, 0) 58 | Nid wyf yn cofio'n iawn—ai nid yn dy freichiau di y bu Neli fach farw? |
| (1, 0) 61 | Wrth gwrs, wrth gwrs; nawr 'rwy'n cofio. |
| (1, 0) 62 | Peth òd fod John yn mynd heno, Esther! |
| (1, 0) 65 | Dd'wedi di rywbeth wrtho i'w atgofio, Esther? |
| (1, 0) 69 | Gâd i fi ddweyd wrtho. |
| (1, 0) 72 | Hwyrach mai ti sy'n iawn, Esther. |
| (1, 0) 73 | Nyni, y menywod, sy'n cofio ac yn hiraethu. |
| (1, 0) 74 | Dyna yw'n tynged ni ar y ddaear yma. |
| (1, 0) 76 | Mae yna lawer o lawenydd yn ddyledus i ni yn y byd arall, gall'swn feddwl. |
| (1, 0) 77 | Oes, sicr o fod. |
| (1, 0) 82 | Maent yn dod o bobman; weles i ddim o'r fath beth erioed. |
| (1, 0) 83 | Mae'r ddau gôr lleol wedi rhoddi'r goron ar y cyfan. |
| (1, 0) 86 | Byddai'n dân goleu 'ma rhwng Sam a John, pe bae un ohonynt ym |Male Voice| Dwynant, a'r llall yng Nghôr Pentwyn. |
| (1, 0) 88 | Hyd yn oed fel y mae pethau, dim ond sôn am roddi "whiff" i hên gôr John y mae Sam, nos a dydd. |
| (1, 0) 89 | Ydi John yn siarad rhywbeth am y corau? |
| (1, 0) 92 | Dyna fe! |
| (1, 0) 93 | |Comrades in Arms| sydd yn fy nghlustiau innau byth ac hefyd. |
| (1, 0) 94 | Gwyn fyd na buasai'r gân heb ei chyfansoddi erioed. |
| (1, 0) 97 | |Martyrs of the Arena| yn wir! |
| (1, 0) 98 | Mae'n bryd i ryw fenyw gyfansoddi darn o'r enw |Martyrs of the Kitchen|! |
| (1, 0) 99 | Ydi'n wir. |
| (1, 0) 102 | Wrth gwrs, wrth gwrs. |
| (1, 0) 103 | Ond trueni fod dynion yn cweryla â'u gilydd am ychydig o hên ganu. |
| (1, 0) 104 | 'Nawr... |
| (1, 0) 108 | Os daw Sam i mewn, ar dy fywyd paid a sôn am |Comrades in Arms|. |
| (1, 0) 112 | Cael sgwrs fach gydag Esther 'roedd i cyn mynd i'r dref. |
| (1, 0) 120 | Rho lonydd i'r |male voice|, da ti. |
| (1, 0) 121 | 'Rwyf bron a gwirioni wrth glywed y tragwyddol |Comrades in Arms|. |
| (1, 0) 123 | Dyna fi wedi'i gwneud hi! |
| (1, 0) 128 | Gloiaist ti ddrws y ffrynt cyn dod allan? |
| (1, 0) 136 | O'r nefoedd! |
| (1, 0) 137 | Dôs i'r 'steddfod, er mwyn popeth, a phaid â phoeni Esther â dy lol. |
| (1, 0) 138 | 'Rwy'n mynd i'r dre, Esther, allan o sŵn |Comrades in Arms|. |
| (1, 0) 139 | Noswaith dda, Esther. |