| (1, 1) 79 | Mam!—— {yn gweld y Sergeant, ac yn tewi mewn syndod} |
| (1, 2) 111 | Deyd y cawn i beidio mynd i'r siop heddyw, am fod Bob yn dwad allan o'r jail. |
| (1, 2) 113 | 'Roedd mistar yn deyd ddoe yn y siop ei fod ef yn credu erbyn hyn fod Bob wedi cael dau fis o jail yn hollol ar gam. |
| (1, 2) 164 | Mi fydda Bob yn ffond iawn o gacen gyrans. |
| (1, 2) 256 | Cymer ofal, Wil. |
| (2, 2) 342 | Dacw Wil Bryan yn dwad. |
| (2, 2) 343 | Welodd o mona i. |
| (2, 2) 344 | Mi drof yn f'ol. |
| (2, 2) 345 | Na, fydde hynny ddim yn anrhydeddus at Wil, er fy mod wedi penderfynu peidio cymdeithasu âg ef mwyach. |
| (2, 2) 346 | Mi ddeudaf wrtho mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da. |
| (2, 2) 347 | Mi fydd yn siwr o fy ngwawdio, yn enwedig os deyda i wrtho mod i am fynd yn bregethwr. |
| (2, 2) 348 | Dylaswn fod wedi deyd yn onest wrtho er's misoedd, paham yr wyf yn ei osgoi. |
| (2, 2) 357 | Beth oedd yr helynt, Wil? |
| (2, 2) 397 | Wil, wyt ti ddim yn meddwl fod yn bryd i ni droi dalen? |
| (2, 2) 398 | Fedra i ddim deyd wrthat ti yn groew mod i wedi fy ail-eni, ond y mae fy meddwl wedi mynd dan gyfnewidiad rhyfedd yn ddiweddar. |
| (2, 2) 399 | 'Roeddwn i eisio cael deyd wrthat ti mod i wedi penderfynu bod yn fachgen da, os ca i help i fod felly, a does dim ar y ddaear a ddymunwn yn fwy nag i tithau neyd yr un penderfyniad. |
| (2, 2) 400 | Yr wyt bob amser wedi bod yn ffrynd mawr i mi, ond neiff hi mo'r tro i fynd ymlaen fel y buom ni,—mae hi yn siwr o ddiweddu yn ddrwg. |
| (2, 2) 401 | Fyddi di ddim yn meddwl am hynny weithie, Wil? |
| (2, 2) 403 | Nid pregeth mo honi, Wil, ond ymgom gyfeillgar. |
| (2, 2) 406 | Do siwr. |
| (2, 2) 455 | F'ewythr, pe ysgydwn law â chwi, disgwyliwn iddi fraenu y foment honno. |
| (2, 2) 456 | Yr wyf yn eich cashau â fy holl galon. |
| (2, 2) 457 | Gadewch i mi basio. |
| (2, 2) 461 | Pam, yn wir! |
| (2, 2) 462 | Gwyddoch yn burion. |
| (2, 2) 463 | Chi fu yr holl achos o'r holl drueni y bu fy mam ynddo. |
| (2, 2) 464 | Chi ddysgodd fy nhad i boachio. |
| (2, 2) 465 | Chi a'i dysgodd i segura. |
| (2, 2) 466 | Pa sawl gwaith y rhoddodd fy mam y swllt ola i chi er mwyn cael gwared o honoch? |
| (2, 2) 468 | I ble? |
| (2, 2) 469 | I'r Merica? |
| (2, 2) 471 | Siaradwch yn eglur. |
| (2, 2) 472 | Lle mae o? |
| (2, 2) 475 | Ydach chi'n deyd y gwir am unwaith? |
| (2, 3) 519 | O'r gore, Tomos Bartley. |
| (2, 3) 520 | Prysur iawn ydych o hyd, 'rwy'n gweld. |
| (2, 3) 522 | Esgidie pwy yw y rhai yna? |
| (2, 3) 533 | Mi leiciwn eich gweld chi yn arw iawn. |
| (2, 3) 536 | Nid dysgu pregethu mae nhw yno, Tomos Bartley. |
| (2, 3) 541 | Ieithoedd, Tomos Bartley. |
| (2, 3) 543 | Lladin a Groeg. |
| (2, 3) 546 | Nag ydw. |
| (2, 3) 550 | Lladin a Groeg. |
| (2, 3) 552 | Nage. |
| (2, 3) 554 | O, ieithoedd rhyw hen bobol sydd wedi marw er's canrifoedd. |
| (2, 3) 558 | Na, yr wyf yn deyd y gwir yn onest i chi,—maent yn dysgu yr ieithoedd er mwyn y trysorau sydd ynddynt. |
| (2, 3) 563 | Mathematics. |
| (2, 3) 567 | Sut i fesur a phwyso, a gneyd cyfrifon a phethe felly. |
| (2, 3) 570 | Saesneg a Hanesiaeth. |
| (2, 3) 581 | Nid ydynt yn profeidio i neb. |
| (2, 3) 582 | Mae pawb yn gorfod gofalu am dano ei hun. |
| (2, 3) 585 | Nag ydynt; mae nhw yn cael mynd yma ac acw i brygethu, ac yn cael ychydig am hynny, ac yn byw arno. |
| (2, 3) 594 | Na, fydd arna i ddim angen, yn siwr, Tomos Bartley, diolch yn fawr i chwi. |
| (2, 4) 617 | Wel, mae yr amgylchiad oeddwn wedi ei hir ddisgwyl wedi pasio. |
| (2, 4) 618 | Yr wyf yn awr wedi fy ngalw gan eglwys Bethel i bregethu, ond beth wnaf?—dyna y cwestiwn. |
| (2, 4) 619 | Dydw i ddim ond bachgen tlawd, a rhaid cael arian i fynd i'r Coleg. |
| (2, 4) 620 | Hwyrach y dylwn i aros adref i gadw y busnes ymlaen efo Miss Hughes. |
| (2, 4) 621 | Mae hi wedi cynnyg cyflog dai mi; ond 'rwyf yn meddwl mai mynd i'r Coleg ddylwn er hynny, neu roi fling i'r pregethu yma am byth. |
| (2, 4) 622 | Dywedodd fy hen feistr, Abel Hughes, wrthyf lawer gwaith na ddylai yr un dyn ieuanc feddwl am bregethu, heb ar yr un pryd benderfynu treulio rhai blynyddoedd yn y Coleg. |
| (2, 4) 623 | Dywedodd Abel wrthyf na fuasai raid i mi fod eisiau dim tra yn y Coleg, ac y disgwyliai ef i mi wneyd Shop y Gornel yn gartref. |
| (2, 4) 624 | Ond waeth tewi am hynny. |
| (2, 4) 625 | Fuasai wiw i mi son wrth neb am hynny,—choelie nhw mona i. |
| (2, 4) 626 | Beth wnai? |
| (2, 4) 627 | Wn i ddim. |
| (2, 4) 628 | Yr ydw i yn synnu ata fy hun mor ddi-adnoddau ydwyf. |
| (2, 4) 629 | Hwyrach fy mod wedi arfer ymddiried mwy yn Abel Hughes nag mewn Rhagluniaeth. |
| (2, 4) 630 | Ydi o ddim ond rhyfyg arnaf fynd i'r Coleg heb ddim o fy nghwmpas ond dillad ac ychydig lyfrau. |
| (2, 4) 631 | Be ydw i'n siarad? |
| (2, 4) 632 | Y cwestiwn ydyw, "Beth a wna i am arian?" |
| (2, 4) 633 | 'Does gen i fawr; dyma nhw—{yn tynnu allan ei bwrs, ac yn cyfrif ei arian,—un, dwy, etc.}—chwe phunt a deg swllt a chwe cheiniog! |
| (2, 4) 634 | Erbyn byddaf wedi talu rhyw ychydig bethau, a phrynnu rhai ereill, fydd gen i ddim ond digon i dalu fy nhren i'r Bala. {yn dal ei arian yn ei law} |
| (2, 4) 637 | Arhoswch funud. |
| (2, 4) 638 | Mae gen i eisio siarad gair efo chwi. |
| (2, 4) 639 | Heb ofyn eich caniatad, yr wyf wedi gwneyd ymchwiliad lled fanwl i amgylchiadau eich diweddar frawd, ac yr wyf yn cael fod digon ar ol i chi fyw yn gysurus arno, ac i chi gael byw i fynd yn hen. |
| (2, 4) 640 | Fy nghyngor i ydyw,—gellwch ei wrthod os dewiswch,—gwerthu yr ystoc a'r busnes. |
| (2, 4) 641 | Yr wyf yn meddwl y gwn am gyfaill i mi y byddai yn dda ganddo gymeryd popeth oddiar eich llaw. |
| (2, 4) 642 | Mae allan o'r cwestiwn i mi aros yma i edrych ar ol y busnes. |
| (2, 4) 643 | Yr wyf yn benderfynol o fynd i'r Coleg. |
| (2, 4) 644 | Ac yr wyf yn sicr, pe gallech ymgynghori â fy hen feistr, y dywedai ef fy mod yn gwneyd yn fy lle. |
| (2, 4) 647 | Gwnaf; 'ran hynny, ddigies i 'rioed wrthoch chi. |
| (2, 4) 651 | Yr wyf yn sicr mai dyna y peth gore i chi, a mae yn dda gen i weld eich bod yn cydweld â mi. |
| (2, 4) 653 | Wn i ddim yn wir. |
| (2, 4) 655 | Dim. |
| (2, 4) 656 | Yr oeddwn ers mis wedi codi fy nghyflog, hyd i ddydd Sadwrn diweddaf. |
| (2, 4) 667 | Mi wyddwn, Wil, y cawn i'r hanes i gyd gennyt. |
| (2, 4) 668 | Sut y bu hi ar ol iddyn nhw ngyrru i allan? |
| (2, 4) 697 | Clywed be, Wil? |
| (2, 4) 698 | Dydw i ddim yn dy ddailt di. |
| (2, 4) 710 | Wil, yr wyt ti bron wedi cymeryd fy ngwynt! |
| (2, 4) 711 | Sut y daeth pethau i hyn? |
| (2, 4) 720 | 'Rwyt ti wedi ngneyd i'n brudd, Wil. |
| (2, 4) 721 | Wnei di dderbyn un cyngor? |
| (2, 4) 723 | Treia newid dy ffordd o fyw. |
| (2, 4) 729 | Wil bach—— |
| (3, 1) 795 | Reit iach, Tomos. |
| (3, 1) 796 | Pwy yn y byd mawr fase yn disgwyl y'ch gweld chi yn y Bala? |
| (3, 1) 809 | Trawsfynydd. |
| (3, 1) 812 | Ië. |
| (3, 1) 832 | Oes y mae, Tomos. |
| (3, 1) 841 | Mae hi yn dwad ymlaen yn eitha da hyd yn hyn, Tomos. |
| (3, 1) 842 | Sut mae Barbara, a sut na fase hi efo chi? |
| (3, 1) 847 | Beth ydych chi yn 'i feddwl o'r Bala, Tomos? |
| (3, 1) 857 | Oes debyg. |
| (3, 1) 858 | Mi ddanghosaf gymaint ag allaf. |
| (3, 1) 859 | Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi cael bwyd. |
| (3, 1) 861 | Well i mi 'molchi. |
| (3, 1) 866 | Fydda i 'run dau funud. {Ymneillduo am funud.} |
| (3, 1) 869 | Do, Tomos, mi ges fwyd yn Rhyd-y-fen. |
| (3, 1) 873 | Na, ty tafarn ydi Rhyd-y-fen,—hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog. |
| (3, 1) 878 | Diolch yn fawr i chwi, Tomos; a diolchwch i Barbara. |
| (3, 1) 881 | Hwyrach mai gwell fydda i chi beidio smocio yn y dre, Tomos. |
| (3, 1) 884 | 'Does dim drwg yn y peth, am wn i, Tomos; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hynny yma. |
| (3, 1) 895 | Fydde hynny ddim quite y peth. |
| (3, 1) 896 | Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag o o gwmpas. |
| (3, 1) 897 | Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre, mi fase yn dda iawn gen i. |
| (3, 1) 898 | Mi fydd pawb yn edrach ar y'n hola ni. |
| (3, 1) 904 | Gei di, wir! |
| (3, 1) 905 | Yr oeddwn ar fedr cynnyg pum swllt i ti am ddwad i gymeryd peth o'r cywilydd. |
| (3, 1) 913 | Paid a lolian, Williams. |
| (3, 1) 914 | Edrych, beth ddyliet ti yw hwn? |
| (3, 1) 915 | Gwahoddiad oddiwrth fy hen eglwys, Bethel, i fynd yn weinidog arni. |
| (3, 1) 918 | Beth ydi hwnnw, Williams? |
| (3, 1) 922 | Dyma lythyr o garchar Birmingham, yn dweyd fod yno berthynas i mi ar ei wely angeu, ac fod yn rhaid i mi fynd yno ar unwaith i'w weld. |
| (3, 2) 948 | He is not here, sir. |
| (4, 1) 1019 | Waeth i mi droi i edrych am lety.—{Clywed chwibiannu.} |
| (4, 1) 1020 | Dyna'r hen "Gaersalem". |
| (4, 1) 1021 | Wyddwn i ddim fod y Saeson yn ei harfer o'r blaen. |
| (4, 1) 1022 | Mi gaf weld,—mae y chwibianwr yn dwad ffordd yma. |
| (4, 1) 1030 | Na wn i. |
| (4, 2) 1067 | Wel, mi ges lythyr fod 'ne rywun yn y Carchar yna wedi marw, ac yn gofyn am danaf cyn marw. |
| (4, 2) 1068 | Dois yma ar unwaith, ac aethum i'r Carchar, a phwy oedd yno ond fy ewythr James Lewis wedi marw. |
| (4, 2) 1069 | Prin y medrwn i gredu ei fod wedi marw o ddifrif; ond mai rhyw gynllun cyfrwysddrwg oedd ganddo i ddyfod allan o'r carchar. |
| (4, 2) 1070 | Er mwyn bod yn sicr, teimlais ei ddwylaw a'i dalcen, ac yr oeddynt can oered a'r muriau llaith oedd o'n cwmpas. |
| (4, 2) 1071 | Yr oedd cyn farwed a hoel, ac er ei fod yn ewythr i mi, frawd fy nhad, mae arnaf ofn na ddodwyd ond ychydig o'i waeth rhwng pedair ystyllen. |
| (4, 2) 1072 | Fedra i ddim llai na theimlo yn falch, nad all ef fy mlino i mwy. |
| (4, 2) 1073 | Mi ddois allan o'r Carchar, ac mi wyddost y gweddill. |
| (4, 2) 1078 | Wel, Wil bach, wyt ti wedi dwad i hyn? |
| (4, 2) 1084 | Te. |
| (4, 2) 1098 | Wel, 'rwan, Wil bach, dywed dipyn o dy hanes i mi. |
| (4, 2) 1129 | Yr oeddwn yn deall fod dy dad bron a thalu ei holl ddyled, ond bychan y gwyddwn i dy fod di yn 'i helpu o. |
| (4, 2) 1130 | Yr wyt yn gwneyd yn dda iawn, ond fe wnaet yn well pe ddoit adref. |
| (4, 2) 1132 | Be ddyliet, Wil, yr wyf fi wedi cael galwad i fod yn fugail yr hen eglwys y cawsom ein dau ein magu ynddi. |
| (4, 2) 1133 | A fuasai ddim yn well gennyf, os atebaf yr alwad yn gadarnhaol, na dy gael di unwaith eto yn aelod ohoni. |
| (4, 2) 1140 | 'O na, mae'n debyg ei fod yn gweld nad oeddym yn gwneyd drwg, ac wedi ein rhoi i fyny. |
| (4, 2) 1145 | 'Does dim i'w wneyd ond deyd y gwir, a chymeryd y canlyniadau. |
| (4, 2) 1146 | Ond mi fynnaf wybod pwy oedd ar y gwely yn y ty yna, dae raid i mi fynd i ben y ffenestr eto. |
| (4, 2) 1173 | Nag ydw i'n wir. |
| (4, 2) 1185 | Mi wn fod yr hen Niclas yno. |
| (4, 2) 1190 | Na fuaswn! |
| (4, 2) 1191 | Ond yr ydw i wedi gwneyd addewid. |
| (4, 2) 1192 | Buaswn. |
| (4, 2) 1195 | Wel, mi awn; ond aros di, Wil, 'does gen i ddim llawer o amser i ddal y tren, achos rhaid i mi fynd yn ol i'r Bala yn ddiymdroi, am fod yr Exam gennon ni drwy'r wythnos nesaf. |
| (4, 3) 1214 | Wel, gyfeillion bach, sut yr ydach chi heddyw? |
| (4, 3) 1218 | Wel, yr ydw i yn disgwyl y cawn ni gyfarfod Seth eto. |
| (4, 3) 1221 | Mae'n ddrwg gen i nad ydi Barbara ddim gwell. |
| (4, 3) 1222 | Mi ddowch |chi| i'r capel, Tomos? |
| (4, 3) 1231 | Dowch i fewn. |
| (4, 3) 1249 | Rhaid i chi ddim swilio'ch dau. |
| (4, 3) 1250 | Ydi o'n wir? |
| (4, 3) 1255 | O na, mi fydd yn bleser gen i roi fy hun at eich gwasanaeth a'ch cyfleustra chwi eich dau. |
| (4, 3) 1260 | Ydw. |