|
|
|
|
(1, 0) 23 |
Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam? |
|
|
(1, 0) 26 |
Wel, rhaid ini gael lamp i'ch gweld chi beth bynnag, rhag ofn ych bod chi ar rhyw berwyl drwg. |
|
|
(1, 0) 28 |
Elin! Elin! |
|
|
(1, 0) 31 |
Dowch â thipyn o ola yma, neno'r taid; mae'r hen wraig i hun yn y fan yma fel pelican yr anialwch. |
(1, 0) 32 |
Mae hi'n wyth o'r gloch, ac yn dywyll fel bol buwch. |
|
|
(1, 0) 34 |
Welis i rioed siwn beth ag Elin yma ar ol i Emrys ddwad adre. |
(1, 0) 35 |
Mae hi wedi pendronni'n lân;—chafodd y moch yr un tamad o fwyd bore heddiw, mi gymra i fy llw,—a wyddoch chi beth, mam? roedd yna flas hir hel ar y menyn yr wythnos yma,— |
(1, 0) 36 |
oedd fel mae byw fi;—y tro cynta erioed ar ol i Elin ddwad i'r Sgellog. |
|
|
(1, 0) 51 |
Wel, tawn i'n llwgu ar y fan yma, dyma'r hen Elin yn dechra'i gweld nhw eto. |
(1, 0) 52 |
Rhyngoch chi i gyd—mam yn gweld petha yn y tân, ag Ann yn stydio Geiriadur Charles, ag Emrys yn mynd i wneud tŵr melin ag eglwys, a chitha eto Elin yn siarad fel Llyfr y Diarhebion, does gen ddyn glân o Gymro ddim siawns i roi'i big i fewn. |
|
|
(1, 0) 56 |
Pam na fasa fo'n mynd yn brygethwr ynte os ydi o mor awyddus am roi tro yng nghynffona pobol? |
|
|
(1, 0) 60 |
Wel, nid meddwl y mae o heno; mi gymra i fy llw mai troi'i draed tua'r Hafod y mae o. |
|
|
(1, 0) 62 |
Ydech chi'n meddwl y gneith hi wraig iddo fo, Elin? |
|
|
(1, 0) 64 |
Waeth befo, o ran hynny, mae genni hi ddigonedd o arian. |
|
|
(1, 0) 70 |
Paid a chadw cymin arno fo'r tro yma, 'ngeneth i. |
(1, 0) 71 |
Mae dy feistres wedi mopio wrth feddwl am Emrys, a mae rhyw bry yn dy gorun ditha, 'ddyliwn. |
|
|
(1, 0) 95 |
Rydw i yn ych clywed chi, Elin William. |
(1, 0) 96 |
Tasa fo'n i chael hi, fasa ddim rhaid iddo fo weithio'r un cnoc byth,—mae na le siort ora iddo fo roi'i het ar yr hoel. |
(1, 0) 97 |
Peidiwch ag ymyrraeth â'r hogyn; gadwch lonydd iddo fo. |
|
|
(1, 0) 110 |
Dyna hi eto! |
(1, 0) 111 |
Ar y fend i, chai ddim agor y ngheg heb i chi neidio i ngwddw i. |
(1, 0) 112 |
Does arni i ddim eisio fforsio'r hogyn—nag oes arna i, neno'r brensiach annwyl. |
(1, 0) 113 |
Eisio iddo fo gael chwara teg sy arna i. |
(1, 0) 114 |
Rydech chi'n gweld potsiars ym mhob twll a chongol,—ag Agnes yr Hafod ydi'r potsiar rwan, ddyliwn i. |
(1, 0) 115 |
Potsiar wir! |
(1, 0) 116 |
Ann |
|
|
(1, 0) 118 |
Mae Miss Vaughan yr Hafod yn dwad ar y buarth, mistres. |
(1, 0) 119 |
Brenin annwyl! lle mae ngholar i, Elin? |
(1, 0) 120 |
Ann! wyt ti wedi hiro fy sgidia gora i? |
(1, 0) 121 |
Mam! ydi'ch gwyneb chi'n lân? |
|
|
(1, 0) 126 |
Ydi, siwr iawn,—sein barrug; mae nghymala i yn pigo ers tridia. |
(1, 0) 127 |
Mae'n rhaid i mi roi tipyn o Oel Morus Ifan arnyn nhw. |
|
|
(1, 0) 129 |
D'eisio di?—bydd debig iawn wir,—i neud cwpaned o dê i Miss Vaughan. |
(1, 0) 130 |
Beth wyt ti'n rhythu arna i, dwad, fel bwch ar drana? |
|
|
(1, 0) 144 |
la, dowch i fewn Miss Vaughan, a steddwch wrth y tân. |
|
|
(1, 0) 146 |
Cerdd o 'ma, Pero,—'rwyt ti am y lle gora bob amser, yr hen ffagwt. |
(1, 0) 147 |
Steddwch, Miss Vaughan. |
|
|
(1, 0) 152 |
Mae'r hen wraig yn i gweld nhw heno. |
|
|
(1, 0) 168 |
Ho, felly wir! |
(1, 0) 169 |
Mi gafodd damad go chwerw i gnoi gen yr hen lanc, mi dyffeia io. |
|
|
(1, 0) 182 |
Ydi fel bol—, fel |y tu fewn| i fuwch, Miss Vaughan. |
(1, 0) 183 |
Mi ddaw Emrys toc. |
|
|
(1, 0) 185 |
Wn i ar y ddaear sut y mae'r ddau yn medru cyd-dynnu,—mae Emrys yn mynd yn anffyddiwr glân, mae arna'i ofn. |
(1, 0) 186 |
Dydi o'n credu dim yn y morfil, Miss Vaughan. |
|
|
(1, 0) 188 |
Morfil Jona, wrth gwrs—wn i ddim beth ddaw ohono fo. |
|
|
(1, 0) 214 |
Mi geith mei lord ddwad â'i swper hefog o gen i fod o'n troi 'i draed mor hwyr. |
(1, 0) 215 |
Wn i ddim lle andros y geill o fod yn ymdroi, na wn i byth o'r fan 'ma. |
|
|
(1, 0) 235 |
Yr argian fawr! |
|
|
(1, 0) 244 |
Sut ar wyneb daear y daethon nhw i'r clawdd, tybed? |
|
|
(1, 0) 251 |
Hy! cinio wir! |
(1, 0) 252 |
Fasa waeth gen i gau ngheg am y gwynt nag am betha felna. |
|
|
(1, 0) 254 |
Dydech chi ddim yn paratoi swper i Miss Vaughan, Elin? |
|
|
(1, 0) 257 |
Taid annwyl, bedi'r brys? |
(1, 0) 258 |
Dydech chi ddim wedi clywed Emrys yn pregethu eto ar yr hyn mae o'n mynd i neud yn y wlad yma. |
|
|
(1, 0) 265 |
Neb. |
|
|
(1, 0) 268 |
Bedi'r acsus sy arnat ti, yr hen lob gwirion? |
(1, 0) 269 |
Clywad ogla'r ddau ffowlyn mae o, mam. |
|
|
(1, 0) 280 |
Pwy gaclwm sy'n tyrfu'r adeg yma o'r nos, tybed? |
|
|
(1, 0) 292 |
Hel at y Feibl Gymdeithas, myn fend i! |
(1, 0) 293 |
Wyddwn i ddim fod yr un ohonoch chi'n perthyn i'r seiat,—ond steddwch, nen dyn. |
(1, 0) 294 |
Cadwch ych hetiau, ddynion. |
|
|
(1, 0) 298 |
Wats y mae o'n feddwl, Mr. McLagan. |
|
|
(1, 0) 308 |
Diar annwyl bach, Robaits, rydech chi'n glasurol ofnatsan lâs. |
(1, 0) 309 |
Rhaid ych bod chi'n ola fel latern. |
(1, 0) 310 |
Ydi'ch llygad chi ar y pulpud, deudwch? |
|
|
(1, 0) 312 |
Y fi? |
(1, 0) 313 |
Naddo, nen taid annwyl, ddyn glân. |
(1, 0) 314 |
Fum i ddim allan ar ol swpera, yn naddo bobol? |
|
|
(1, 0) 343 |
'Run fan a'r lle cawsoch chi'ch locsyn, ddyliwn i. |
(1, 0) 344 |
Fuost ti yn Scotland yn ddiweddar, Emrys? |
|
|
(1, 0) 383 |
Oes, debig iawn, wir,—neu mae petha wedi mynd yn od ofnatsan. |
(1, 0) 384 |
Nenor Rasmws mawr, os na cheith dyn tlawd godi dau dderyn wedi marw oddiar y clawdd mewn gwlad efengyl, mae hi wedi mynd, |
|
|
(1, 0) 411 |
Am y tro, am y tro! |