Cuesheet

Ei Seren Tan Gwmwl

Lines spoken by Rolant (Total: 213)

 
(1, 0) 11 Y llyfr 'ma, Sara, mae o'n ddigon â gwneud i'r marw chwerthin.
 
(1, 0) 13 "Seren tan Gwmwl".
 
(1, 0) 16 Dim syndod.
(1, 0) 17 'D oes yr un llyfr mwy doniol yn bod.
 
(1, 0) 21 Wel ie, diolch bod rhywun yn...
 
(1, 0) 23 Ie, Sara, ond wrth gwrs...
 
(1, 0) 26 Ydw.
(1, 0) 27 Er mai gwir neges y llyfr ydi dangos bod Seren Rhyddid a Chyfiawnder dan gwmwl yn yr hen wlad 'ma.
 
(1, 0) 30 Y nhw sy'n cyfrifol... y brenhinoedd, yr esgobion a'r arglwyddi.
(1, 0) 31 Cymer di'r ardal yma...
 
(1, 0) 35 Trefn yr Hollalluog, yn wir!
 
(1, 0) 37 I drefn yr esgobion a'r bobol fawr?
(1, 0) 38 Gwared ni!
(1, 0) 39 Darllen di waith Jac yn ymosod ar y tacle.
 
(1, 0) 42 Ma'r cnafon yn ddigon dig'wilydd i gymryd arian y bobol, ond heb ddeall un gair o'u hiaith nhw!
 
(1, 0) 45 Ydi, rhaid cyfaddef fod mei lord Hugh Foster yn ymostwng cymaint â hynny i'n plesio ni.
 
(1, 0) 48 Hy! Gweision i frenin yn nes atom o beth wmbredd ydi'r tacle!
 
(1, 0) 50 Mae Jac yn ei le, Sara.
(1, 0) 51 'R ydw i reit hoff o'r bachgen... 'r oedd 'i dad a minne yn ffrindie mawr erstalwm yng Ngherrig y Drudion.
(1, 0) 52 Chwarae teg iddo am brotestio yn erbyn gorthrwm y Llywodraeth, y trethi di-ddiwedd, a'r degwm.
 
(1, 0) 55 Sut y mae hi arno fo tua Llundain 'na tybed?
 
(1, 0) 58 Go dda yr hen Sara!
 
(1, 0) 60 Ond 'synnwn i flewyn na chaiff o'i erlid am sgrifennu'r |Seren|.
 
(1, 0) 63 Rhaid imi ddatgan fy marn.
 
(1, 0) 69 Ac nid yr unig un o lawer.
(1, 0) 70 'R wyt ti'n helpu cryn dipyn arni, Sara, chwarae teg iti.
 
(1, 0) 74 Yn y llofft, am wn i, yn pincio fel arfer.
(1, 0) 75 'D ydi o'n meddwl am ddim arall.
 
(1, 0) 77 'D oedd dim rhyw hen ffal-diral fel hyn pan oeddwn i wrthi erstalwm...
 
(1, 0) 80 Ydi, ond twt lol, wn i ddim be' ddaw o blant yr oes yma...
 
(1, 0) 97 Nid fel yna y mae iti siarad â'th fam!
 
(1, 0) 106 I fynd i dŷ'r Person am |afternoon tea|, wrth gwrs!
 
(1, 0) 108 'D ydw i ddim, 'ngwas i.
(1, 0) 109 'R wy'n falch dy fod ti'n ffrind i Janet y ferch.
(1, 0) 110 Mae hi'n eneth hoffus iawn.
 
(1, 0) 112 Yn bur wahanol i'w thad.
 
(1, 0) 115 Ydi!
(1, 0) 116 Cymeriad caled... fel haearn Sbaen.
(1, 0) 117 Dim owns o gydymdeimlad â'r werin bobl y mae o'n gyfrifol amdanyn' nhw.
 
(1, 0) 119 Ydi, chware teg iddi.
(1, 0) 120 Hi ddyle fod yn offeiriad plwy', ac nid Hugh Foster.
 
(1, 0) 123 Dyna hi eto!
(1, 0) 124 Be' ydi gwaith gwas yr Arglwydd, tybed?
(1, 0) 125 Hel bechgyn i'r Milishia?
 
(1, 0) 132 Ffordd yr hen Feti Ifans o fyw, er enghraifft?
(1, 0) 133 Yn hanner llwgu yn yr hofel bwthyn 'na!
(1, 0) 134 A miloedd o rai tebyg iddi yng Nghymru!
 
(1, 0) 138 Wel, wel!
(1, 0) 139 Hawdd gweld dy fod |ti| wedi cael y fraint o eistedd wrth draed Hugh Foster.
(1, 0) 140 "Yn erbyn yr Anghrist", yn wir!
 
(1, 0) 142 Meddwl?
(1, 0) 143 'Ddaru o 'rioed feddwl yr un eiliad!
(1, 0) 144 Dim ond ail-adrodd pregeth yr hen Foster fel parot.
(1, 0) 145 Yn enw'r Mawredd, dysga feddwl drosot dy hun, ngwas i!
 
(1, 0) 147 Wel... ie... pam?
 
(1, 0) 150 Mi fydde'n iechyd iti ddarllen |Seren tan Gwmwl|.
 
(1, 0) 155 Beth?
(1, 0) 156 Bradwr?
 
(1, 0) 159 'Chaiff neb alw Jac Glan-y-Gors yn fradwr yn y tŷ yma!
 
(1, 0) 165 Pwy glywest ti'n galw Jac yn fradwr?
 
(1, 0) 169 Pwy?
 
(1, 0) 172 Ateb... PWY?
 
(1, 0) 174 Brysia... pwy oedd o?
 
(1, 0) 176 Pwy arall?
 
(1, 0) 178 Na, 'feiddiai neb yn y pentre' heblaw Hugh Foster alw Jac yn fradwr.
 
(1, 0) 182 'Daswn i'n gwybod dy fod ti'n galw Jac yn fradwr o argyhoeddiad, mi fedrwn faddau iti, ond cymryd gair y person...
 
(1, 0) 184 Lle aflwydd ma' dy asgwrn cefn di, dywed?
 
(1, 0) 186 'D oes dim hanner digon o hwnnw yng Nghymru heddiw.
(1, 0) 187 Diodde' pob anghyfiawnder a thrais heb brotest yn y byd!
 
(1, 0) 203 Dim ond y gwir.
 
(1, 0) 206 Nac ydi, Sara.
 
(1, 0) 209 Mae gen i ofn mai fel hyn y bydd o weddill i oes, yn greadur dof, di-asgwrn-cefn, sbeitlyd, anniolchgar....
 
(1, 0) 212 Mi ddaw hynny i ben pan fydd y Wyddfa i gyd yn gaws!
 
(1, 0) 215 'Sgwn i pam y ma'r cradur hwnnw eisiau fy ngweld heno?
 
(1, 0) 217 Na, rhywbeth llawer mwy pwysig na hynny!
 
(1, 0) 220 Tacluso?
(1, 0) 221 Ar gyfer rhyw ddyn fel...
 
(1, 0) 223 Wel hwyrach dy fod ti'n iawn, Sara.
 
(1, 0) 225 Rhy hwyr!
(1, 0) 226 Dyna'r hen Foster, os nad wy'n methu.
 
(1, 0) 236 Wrth gwrs, Mr. Foster, Dowch i mewn.
 
(1, 0) 239 Eisteddwch yma, Mr. Foster.
 
(1, 0) 251 Gwyddom hynny'n dda Mr. Foster.
(1, 0) 252 Beth yw eich neges, os gwelwch yn dda?
 
(1, 0) 256 Ewch ymlaen.
 
(1, 0) 258 Wel?
 
(1, 0) 261 Ac felly?
 
(1, 0) 264 Mr. Foster, siaradwch yn blaen, da chi.
(1, 0) 265 Awgrymu yr ydych y dylwn ddangos mwy o frwdfrydedd at y rhyfel yn erbyn Ffrainc?
 
(1, 0) 267 Fy nghydwybod i fy hunan, ac nid offeiriad y plwy sy'n arfer â dangos i mi fy nyletswydd.
 
(1, 0) 272 Ie, ac y mae un peth pendant iawn y dywed fy nghydwybod wrthyf na ddylwn ei wneud.
 
(1, 0) 274 Hel ieuenctid yr ardal i'r Milishia, fel y gwnewch chi, Mr. Foster.
 
(1, 0) 278 'R wy'n amcanu felly, yn ôl fy syniad i am grefydd.
 
(1, 0) 280 Mr. Foster, 'r ydym wedi clywed y bregeth yma o'r blaen, gan Ifor.
 
(1, 0) 283 Wel?
 
(1, 0) 287 Beth?
 
(1, 0) 290 F...f...fy mab i yn y Milishia?
 
(1, 0) 297 Na, 'chaiff yr un mab i mi ymuno â'r Milishia!
 
(1, 0) 299 Gwehilion cymdeithas!
 
(1, 0) 301 Lladron, dihirod, treiswyr merched!
 
(1, 0) 303 A'u drygioni yn drewi drwy'r sir!
 
(1, 0) 306 Pam nag arferwch eich sêl ryfelgar i ymladd anghyfiawnder a thrais yr uchelwyr yn y wlad hon?
 
(1, 0) 309 Y mae'r ddau yn fyw yma yng Nghymru, a chwithau'r Eglwysi yn ymladd o'u plaid!
 
(1, 0) 313 Pa le mae llais yr Efengyl heddiw?
 
(1, 0) 317 Treftadaeth!
(1, 0) 318 Pa faint sydd gan drueiniaid tlawd y pentref hwn, er enghraifft?
(1, 0) 319 'R ydych chwi a'ch degymau a'ch trethi wedi ei ddwyn oddi arnynt!
 
(1, 0) 322 Peryglus i bwy, tybed?
 
(1, 0) 324 Dau ddyn yn ddigon dewr i sefyll dros gyliawnder!
(1, 0) 325 Fe wnai les i chwi ddarllen y llyfryn hwn, Mr. Foster.
 
(1, 0) 332 Yn nes at yr Efengyl na'r eiddo chwi!
 
(1, 0) 340 Bradwr?
 
(1, 0) 342 Ond nid gelyn i gyfiawnder!
 
(1, 0) 349 Gwnewch a fynnoch, 'r wyf yn berffaith dawel fy mod yn iawn.
 
(1, 0) 359 Pam, 'neno'r dyn?
 
(1, 0) 361 A dyna'r cwbl sy'n dy boeni di?
 
(1, 0) 363 Mae llawer mwy yn y fantol na helynt Ifor a Janet, coelia di fi.
 
(1, 0) 365 Digon posibl.
(1, 0) 366 Ma' Janet yn llawer rhy dda i fod yn ferch i'r hen Foster.
 
(1, 0) 370 Diolch bod rhywun yn gallu meddalu mymryn arno.
(1, 0) 371 Ond cofia, 'd ydi Hugh Foster ddim yn ddyn drwg, Sara.
(1, 0) 372 Mae o'n eitha' cydwybodol, yn ymddwyn yn ôl ei argyhoeddiad...
 
(1, 0) 374 Dichon 'i fod o.
(1, 0) 375 Eto, 'synnwn i ddim nad ydi o yn ddistaw bach yn fy mharchu am ddal fy nhir.
 
(1, 0) 379 Ond mae'n rhaid imi sefyll...
 
(1, 0) 382 Mi gawn weld...
 
(1, 0) 384 O'r annwyl, 'r oeddwn i wedi edrych ymlaen heno am noson go dawel yng nghwmni'r Seren.
(1, 0) 385 Gresyn 'mod i wedi colli fy nhymer, hefyd.
 
(1, 0) 391 Y gre'dures!
(1, 0) 392 Yr hen ryfel felltith 'ma!
(1, 0) 393 Pobol yn hanner llwgu.
 
(1, 0) 395 Pam aflwydd y ma'r Person yna mor ddall!
 
(1, 0) 398 O wel...
 
(1, 0) 422 Jac!
(1, 0) 423 Be ar y ddaear...
 
(1, 0) 426 Sh!
(1, 0) 427 Paid â bloeddio!
 
(1, 0) 432 Be' ydi ystyr hyn, helgwn y gyfraith?
 
(1, 0) 437 A dod yr holl ffordd o Lundain?
 
(1, 0) 442 O, ofn i rywun dy weld, Jac.
 
(1, 0) 447 Wel... na, ond mae'n ddrwg gen' i drosot ti, Jac.
 
(1, 0) 454 Mae'n g'wilydd dy fod ti'n gorfod ffoi oddi cartre' am sefyll dros yr hyn sy'n iawn.
 
(1, 0) 457 'R wyt ti mewn tipyn o helynt heno.
(1, 0) 458 Be' oedd yr achos?
(1, 0) 459 |Seren tan Gwmwl|?
 
(1, 0) 464 'R oeddwn i'n amau o'r dechre mai i hyn y bydde' hi'n dod.
 
(1, 0) 469 Rhag c'wilydd iddo, pwy bynnag oedd.
(1, 0) 470 Dyna un sgerbwd na fedra' i ei ddiodde' byth... bradwr!
 
(1, 0) 474 Â chroeso, Jac.
(1, 0) 475 'R wyt ti'n haeddu gorffwys... mi ge'st amser digon caled, mi'wn.
 
(1, 0) 480 Mae'r werin yn dy hanner addoli.
 
(1, 0) 486 Mi fyddi'n berffaith sâff yma, Jac.
(1, 0) 487 Hwyrach bod Ifor y bachgen 'ma yn deud y drefn amdanat ti ambell dro, ond mi ofala'i y bydd |o| yn iawn.
(1, 0) 488 Mae pawb yn yr ardal yn cyd-weld â thi, ond |un|...
 
(1, 0) 491 Person y plwy.
 
(1, 0) 496 Ie, efallai.
(1, 0) 497 Dim symud arno ar gwestiwn y wladwriaeth a'r Eglwys.
(1, 0) 498 Cyfiawnhau'r rhyfel...
 
(1, 0) 500 "Crwsâd sanctaidd yn erbyn yr i Anghrist"...
 
(1, 0) 503 Ond mae hwn yn llawer mwy galluog na'r cyffredin.
(1, 0) 504 Mae o'n ddyn i'w |ofni|.
 
(1, 0) 526 Y... y... dyma Miss Foster.
 
(1, 0) 528 D... Dyma Mr.... Mr.... |Williams|!
 
(1, 0) 537 Y... ie... Mr. Williams.
 
(1, 0) 541 Wel ie, am wn i... yn wir.
 
(1, 0) 556 Wel... y... eisteddwch am funud, Janet.
 
(1, 0) 564 Mae Mr.... y... Williams a minnau yn hen gyfeillion, Janet.
(1, 0) 565 'R oeddwn i'n adnabod ei dad yn dda erstalwm.
(1, 0) 566 Mae Mr. Williams ar ymweliad â mi, fel hyn...
 
(1, 0) 571 Wel na, rhyw... y... wneud ei feddwl i fyny'n sydyn wnaeth Mr. Williams, yntê?
 
(1, 0) 588 Wel do... am wn i... wir.
 
(1, 0) 643 Mae Sara wedi mynd ag un pecyn i'r hen Feti...
 
(1, 0) 645 Wel, 'rhoswch chi, 'rŵan.
 
(1, 0) 657 Na Janet, 'fedra'i weld yr un pecyn yn unman...
 
(1, 0) 663 Ar bob cyfrif, Janet.
(1, 0) 664 'Fyddai'r un dau funud.
 
(1, 0) 690 Mae o'n beth od, Janet, ond 'fedra'i yn fy myw da...
 
(1, 0) 705 Ie.
(1, 0) 706 Biti dy fod ti wedi dweud...
 
(1, 0) 711 Diolch i'r nefoedd nad oedd hi'n sylweddoli pwy oeddet ti, Jac!
(1, 0) 712 "Mistar Williams"!
(1, 0) 713 Mi fum i'n glyfar yn meddwl am hwnna!
 
(1, 0) 717 Do, yn wir.
 
(1, 0) 720 Wel ie... ond...
 
(1, 0) 727 'Neno'r dyn, be' sy'n bod?
(1, 0) 728 Wyt ti'n sâl?
 
(1, 0) 736 Ffoi?
 
(1, 0) 738 Ofn yr hen Foster?
 
(1, 0) 741 'Neno'r dyn, Jac...
 
(1, 0) 745 Wel do... ond...
 
(1, 0) 753 Ond beth sydd a wnelo Tom Paine...
 
(1, 0) 757 Twt lol Jac, 'r wyt ti'n eitha' sâff yma...
 
(1, 0) 769 Y... y... 'd wyt ti ddim yn 'i 'nabod o, Sara?
 
(1, 0) 781 Mae Jac ar ymweliad â'r pentref, ac wedi galw...
 
(1, 0) 788 Na, mae'n rhaid i Jac fynd ar unwaith.
 
(1, 0) 794 Wel, chware teg iti Ifor, ond...
 
(1, 0) 797 Yn anesmwyth.}
(1, 0) 798 Na... mae Jac ar gychwyn...
 
(1, 0) 810 Pwy sy' 'na, tybed?
 
(1, 0) 825 Ifor, beth yw hyn?
 
(1, 0) 834 Dyna Hugh Foster,
 
(1, 0) 836 Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac...
 
(1, 0) 839 Beth yw ystyr hyn, Mr. Foster?
 
(1, 0) 851 A gwyddom erbyn hyn pwy ydyw.
 
(1, 0) 857 Ti, felly, bia'r |clod| am hyn!
 
(1, 0) 862 Fy mab i fy hun yn bradychu ei deulu... bradychu fy nghyfaill!
(1, 0) 863 Ac yn cymryd arno ei fod yn falch o'i weld...
 
(1, 0) 870 'D oes dim enw yn bod ar y weithred ffiaidd yma...
 
(1, 0) 874 Na, melltith a gwawd!
 
(1, 0) 883 Mae'n ddrwg gen' i am hyn, Jac...
 
(1, 0) 922 Ie... fy mab i fy hun...
 
(1, 0) 938 Nage, gwaith bradwr!
(1, 0) 939 'D oes arna'i byth eisiau ei weld eto!