|
|
|
|
(1, 0) 55 |
Mae yna ddigon yn barod. |
(1, 0) 56 |
Arhoswch fan hyn, ferched. |
|
|
(1, 0) 81 |
Taw sôn, Mary Jane, â dy gleber. |
(1, 0) 82 |
Mae'r bad wedi mynd mâs ddwseni o weithiau, ac wedi bod mewn llawer storm cynddrwg a heno, a phawb wedi dod 'nol yn ddiogel. |
(1, 0) 83 |
Cwn dy galon, da ti. |
|
|
(1, 0) 86 |
~ |
(1, 0) 87 |
"Tydi fu gynt, Anfeidrol Iôr, |
(1, 0) 88 |
Yn cau anesmwyth donnau'r môr, |
(1, 0) 89 |
Gan erchi i'r dyfnder llydan, maith |
(1, 0) 90 |
Aros yn ei derfynau llaith. |
(1, 0) 91 |
O! clyw ein cri dros rai, ein Iôr, |
(1, 0) 92 |
Sydd mewn enbydrwydd ar y môr." |
|
|
(1, 0) 135 |
Wn i yn y byd. |
(1, 0) 136 |
Mae'n edrych yn llong lled fawr. |
(1, 0) 137 |
O b'le mae'n dod? |
(1, 0) 138 |
Mae rhyw wragedd bach yn rhywle mewn pryder mawr heno ynghylch y rhai sydd fan draw yn disgwyl y bad i ddod. |
|
|
(1, 0) 153 |
Hanner cant o weithia yw heno, felly. |
|
|
(1, 0) 164 |
Dyna'r trysor gore gafodd Capten Jones neu unrhyw un arall o'r môr. |
(1, 0) 165 |
Dewch yn nês i gysgod y graig, ferched, mae hi'n dechre bwrw glaw eto, a mae'r gwynt yn ofnadwy. |
|
|
(1, 0) 170 |
Ie, dau dda ydynt hwy. |
(1, 0) 171 |
Wfft shwd ddynion! |
(1, 0) 172 |
'Nawr maent yn dod, ar ol i'r bad fynd mâs. |
|
|
(1, 0) 186 |
Dere fan hyn, Beti, i ni weddïo ar i Dduw eu cadw, a'u dwyn yn ol. |
|
|
(1, 0) 210 |
Isht! clywch hwy'n gwaeddi! |
(1, 0) 211 |
Dyna'r bad wedi troi! |
(1, 0) 212 |
Maent i gyd yn y dŵr! |
(1, 0) 213 |
Mae ar ben ar y bad! |
(1, 0) 214 |
Beth allwn ni wneud? |
(1, 0) 215 |
Rhywun! |
(1, 0) 216 |
Rhywbeth! |
|
|
(1, 0) 235 |
O! mae rhywun yn y dŵr─draw fan yna. |
|
|
(1, 0) 260 |
Ydych chi'n galw'ch hunain yn ddynion! |
(1, 0) 261 |
Na, babis ydych eich tri! |
(1, 0) 262 |
Rhag cywilydd i chi! |
(1, 0) 263 |
Ach-a-fi! |
|
|
(1, 0) 271 |
Gadewch i fi fynd! |
|
|
(1, 0) 274 |
Beth os mai Wil ni sydd fan draw ar ei oreu druan bach, yn treio dod 'nol ataf fi a'r plant. |
|
|
(1, 0) 284 |
Weli di e' 'nawr, Bess? |
|
|
(1, 0) 320 |
Faint mwy wyt ti am wneud? |
(1, 0) 321 |
Dyna i gyd mae'r Brenin Mawr am i ni wneud─gweddïo a gweithio. |
(1, 0) 322 |
Dal dy afal yn y Dwyfol, ond paid ag anghofio y rhaff ddynol sydd yn dy law. |
|
|
(1, 0) 371 |
Tynnwch i gyd! |
(1, 0) 372 |
Dewch! dewch! |
(1, 0) 373 |
Dyna nhw ar y traeth! |
(1, 0) 374 |
Mae'r rhaff yn |slack|. |
(1, 0) 375 |
Tyn y clwm hyn yn rhydd, Nel, i fi gael rhedeg i'w cwrdd. |
|
|
(1, 0) 377 |
O! dyna Nel wedi mynd. |
(1, 0) 378 |
Torrwch y clwm, wnewch chi─rhywun, dyma fi yn mynd. |
|
|
(1, 0) 398 |
Ewch ag ef i dŷ Mari. |
(1, 0) 399 |
Mae popeth yn barod. |