| (1, 0) 126 | Celwydd meddaf eto! | 
| (1, 0) 127 | 'Rydym mor fyw â chwithau pob tipyn. | 
| (1, 0) 128 | Y presennol dd'wedsoch chi? | 
| (1, 0) 130 | Heriwch faint â fynnoch. | 
| (1, 0) 131 | Beth am y presennol i chi? | 
| (1, 0) 132 | 'Ydych chi'n fodlon arno fo? | 
| (1, 0) 133 | Chi, sydd mewn poen meddwl ers misoedd. | 
| (1, 0) 138 | Yn hollol! | 
| (1, 0) 139 | Myn enaid, 'ydych chi'n meddwl mai hanner dwsin o erthylod ydy' ni? | 
| (1, 0) 141 | Gan bwyll, o ddiawl! | 
| (1, 0) 142 | 'Rwy' wedi diodde' digon oddiar ei law heb iddo goroni'r cyfan â'i sarhad! | 
| (1, 0) 145 | Os wyt ti am awgrymu dwad i delerau, Lewis, cei arbed dy wynt. | 
| (1, 0) 146 | 'Does yna ddim cyfaddawd i fod. | 
| (1, 0) 150 | Fe fydd yma unrhyw funud 'rwan. | 
| (1, 0) 151 | Paid â phryderu, mae o yng ngofal Sioned. | 
| (1, 0) 152 | 'Chaiff o ddim cam. | 
| (1, 0) 182 | Synnwyr cyffredin...! | 
| (1, 0) 208 | Nid dyma'r amser i ffraethineb. | 
| (1, 0) 229 | Na fedrwch byth! | 
| (1, 0) 231 | 'Rydych wedi methu hyd yma. | 
| (1, 0) 247 | Ai dyna'r cyfan sy' gennych i' ddweud? | 
| (1, 0) 249 | Mi fedra'i wneud heb dy ymyrryd parhaus, Lewis. | 
| (1, 0) 250 | Edrych ar dy wraig; 'wyt ti am adael i hwn ei gwawdio? | 
| (1, 0) 251 | 'Oes gennyt ti ddim mymrun o asgwrn-cefn? | 
| (1, 0) 254 | Gafael yn ei war a'i daflu allan. | 
| (1, 0) 258 | Pam na fedrwn ni? | 
| (1, 0) 264 | Ar fy llw! | 
| (1, 0) 293 | Am ei fod yn haeru mai rhywle arall ydy' o, 'nhad. | 
| (1, 0) 304 | Wel, 'goeliwch chi rwan? | 
| (1, 0) 325 | 'Dydych chi ddim yn edrych mor hyderus rwan. | 
| (1, 0) 326 | Dechra' gweld y gwirionedd hwyrach? | 
| (1, 0) 334 | A pheidiwch â rhygnu ar y busnes creu yna. | 
| (1, 0) 335 | Oni fedre' ni haeru mai nyni a'ch dewisodd chi i'n dibenion ein hunain. | 
| (1, 0) 336 | Mai chi ydy'r cysgod wedi'r cyfan! | 
| (1, 0) 340 | Safwch yn y fan yna. | 
| (1, 0) 342 | 'Rwy'n eich herio. | 
| (1, 0) 353 | Symuda' i 'run fodfedd. | 
| (1, 0) 356 | Ond 'nhad, 'dydych chi ddim yn deall! | 
| (1, 0) 386 | O peidiwch ag edrych mor hurt, da chi! | 
| (1, 0) 387 | Os ydych yn holl-wybodol pam 'rydych chi'n gofyn? | 
| (1, 0) 388 | Chi ydy'r Awdur: fe ddylech wybod pwy ydy' hi... | 
| (1, 0) 389 | 'Ydy'r enw Mabli yn golygu rhywbeth i chi? | 
| (1, 0) 428 | 'Does a wnelo Dr. Morus ddim â fo, Mabli. | 
| (1, 0) 429 | Gad iddo. | 
| (1, 0) 439 | 'Dydy' o ddim mor syml â hynna. | 
| (1, 0) 441 | Un cyfeiriad bach sy'n eich drama am f'amser i yn y fyddin. | 
| (1, 0) 442 | 'Ydych chi'n meddwl y medrwch chi gronni pedair blynedd o uffern i hanner dwsin o eiriau? | 
| (1, 0) 448 | Paid! | 
| (1, 0) 463 | Nid plant diymgeledd ydy' ni. | 
| (1, 0) 464 | 'Thâl y tric yna ddim chwaith. | 
| (1, 0) 493 | Yn rhydd, a'r dyfodol yn ein dwylo! | 
| (1, 0) 502 | A 'does dim peryg' i hynny ddigwydd. | 
| (1, 0) 503 | Pa garcharor fynnai fynd yn ôl i'w gell a'i gyffion? | 
| (1, 0) 504 | O'r nefoedd, prin y galla' i goelio! | 
| (1, 0) 505 | Rwy'n teimlo fel dawnsio,—dowch Sioned! | 
| (1, 0) 508 | Bywyd, 'rhen chwaer, bywyd! | 
| (1, 0) 517 | Dim "ond" o gwbwl. | 
| (1, 0) 518 | Mae hyn yn haeddu ei ddathlu â gwin. | 
| (1, 0) 520 | Dowch, Sioned, helpwch fi efo'r gwydrau yma. | 
| (1, 0) 522 | Te ar adeg fel hyn? | 
| (1, 0) 523 | Dim o'r fath beth! | 
| (1, 0) 524 | Cadwch de i gyn'ebrwn'. | 
| (1, 0) 525 | Mae yna fflam i mewn yn y botel yma, Sioned, a mi ydw' i'n dyheu am 'i gwres. | 
| (1, 0) 526 | "Gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn." | 
| (1, 0) 527 | Gwaed y grawnwin a heulwen y de! | 
| (1, 0) 540 | Ia, 'rhen Sioned druan! | 
| (1, 0) 542 | Pan ddaw ei hamser, fe fydd yn cyrraedd y Porth Aur yn 'i siwt Ysgol Sul a'i sana' duon gwlan... | 
| (1, 0) 543 | Dyma chi, Ann. | 
| (1, 0) 548 | Na, 'waeth i chi heb na chynnig dim i 'nhad, chwaith. | 
| (1, 0) 549 | Tipyn o hen Biwritan ydy' ynta' hefyd. | 
| (1, 0) 555 | Wel, ydy' ni'n barod? | 
| (1, 0) 556 | Mi ydw' i am gynnig llwnc-destun i Ryddid! | 
| (1, 0) 561 | Ia, gwell cael bendith yr hen batriarch! | 
| (1, 0) 585 | I beth? | 
| (1, 0) 587 | Oes rhaid i ti ddifetha'r cyfan? | 
| (1, 0) 589 | 'Fedra'i ddim bod yn rhesymol heno. | 
| (1, 0) 593 | O, o'r gora' os wyt ti'n mynnu. |