|
|
|
|
(1, 0) 42 |
Neith byw yn y wlad mo'r tro i mi o gwbl, a debyg iawn, na i byth ddygymod ag o. |
(1, 0) 43 |
Es i'r gwely ddeg o'r gloch neithiwr, a chysgais tan naw o'r gloch y bore ma, ac wedi'i holl gysgu mae fy mennydd yn glynud wrth esgyrn fy mhen ac felly yn y blaen. |
|
|
(1, 0) 45 |
Ac ar ôl cinio es i gysgu wedyn, megis ar ddamwain, ac rwan rwy'n llipa fel hen gadach ac wedi byddaru mewn gair. |
|
|
(1, 0) 56 |
Hynny yw, bydd y ci yn udo trwy'r nos heno eto. |
(1, 0) 57 |
Ches i rioed fyw yn y wlad yn ôl fy ffansi, dyna'r gwir amdani. |
(1, 0) 58 |
Yn yr hen ddyddiau, byddwn yn cael mis o wyliau ac yn dwad yma i orffwys ac felly yn y blaen, ond 'roedd hi mor annifyr yma, 'roedd arna i eisiau mynd o ma ben bore wedyn. |
|
|
(1, 0) 60 |
Roedd yn dda gin i gael mynd i ffwrdd, ond 'rwan, wedi imi gadw noswyl, 'does gin i unlle i fynd, mewn gair. |
(1, 0) 61 |
Ond licio neu beidio, rhaid imi fyw yma. |
|
|
(1, 0) 73 |
Ardderchog. |
|
|
(1, 0) 80 |
Dyna drasiedi fy mywyd i. |
(1, 0) 81 |
Pan oeddwn i'n ddyn ifanc, byddwn yn edrych fel pe bawn i wedi cael tropyn, ac felly yn y blaen. |
(1, 0) 82 |
Fyddai'r merched byth yn fy licio i. |
|
|
(1, 0) 84 |
Pam y mae fy chwaer mor ddrwg ei hwyl? |
|
|
(1, 0) 92 |
Dim perig, wir. |
|
|
(1, 0) 102 |
Rydych chi'n credu na licith hi mo'ch drama. |
(1, 0) 103 |
Byddwch dawel, mae'ch mam yn eich addoli chi. |
|
|
(1, 0) 115 |
Ond fedrwn ni ddim gwneud heb y ddrama. |
|
|
(1, 0) 124 |
Ar draws popeth sut ddyn ydi'r llenor yna? |
(1, 0) 125 |
'Dw i ddim yn ei ddallt o, chewch chi ddim gair o'i ben o. |
|
|
(1, 0) 128 |
'Rwy'n hoff iawn o lenorion. |
(1, 0) 129 |
Roedd gin i ddau nod unwaith, priodi a bod yn llenor, a ches i'r un o'r ddau. |
(1, 0) 130 |
Mae bod yn llenor bach well na dim, wedi'r cwbl. |
|
|
(1, 0) 148 |
Mae dagrau yn ei llygad hi, oes wir. |
(1, 0) 149 |
FIX Ha, ha, thâl peth fel na ddim. |
|
|
(1, 0) 156 |
Mi a i FIX nôl nhw ac felly yn y blaen, y munud yma. |
|
|
(1, 0) 158 |
"Dau Filwr ifanc gynt yn Ffrainc". |
(1, 0) 159 |
Ron i'n canu rywbryd ers talwm, a dyma J.P yn deud wrtha i, "Mae gynnoch chi lais nerthol, syr", ac wedi meddwl tipyn dyma fo'n deud wedyn: "ond hen lais go gas ydi o hefyd". |
|
|
(1, 0) 267 |
Ond fydd na ddim yn bod ymhen dau gan mil o flynyddoedd. |
|
|
(1, 0) 315 |
Irina bach, nid dyna'r ffordd i drin dyn ifanc balch fel y fo. |
|
|
(1, 0) 317 |
'Roeddych yn rhy gas o lawer. |
|
|
(1, 0) 319 |
Ond... |
|
|
(1, 0) 323 |
Ond ceisio rhoi tipyn o hwyl ichi oedd yr hogyn. |
|
|
(1, 0) 364 |
Bravo, bravo. |
|
|
(1, 0) 411 |
Da chi, rhoswch. |
|
|
(1, 0) 413 |
Rhoswch am un awr bach, ac felly yn y blaen. |
|
|
(1, 0) 420 |
Mae'n well i ninnau ei throi hi hefyd. |
(1, 0) 421 |
Mae gwayw yn y nghoesau i. |
(1, 0) 422 |
Mae'n damp yma. |
|
|
(1, 0) 428 |
Dacw'r ci'n cyfarth eto. |
|
|
(1, 0) 430 |
Da chi, deudwch wrth y gwas am ei ollwng o. |
|
|
(2, 0) 530 |
Wel? |
(2, 0) 531 |
Ydan ni'n hapus? |
(2, 0) 532 |
'Rydan wrth yn bodd heddiw 'n tydan ni? |
|
|
(2, 0) 534 |
Mae ar ben ei ddigon. |
(2, 0) 535 |
Ein tad, a mam-yng-nghyfraith wedi mynd i rodio a ninnau'n rhydd am dri diwrnod cyfa. |
|
|
(2, 0) 539 |
Mae hi'n glysach na rioed heddiw. |
|
|
(2, 0) 566 |
Y? |
|
|
(2, 0) 568 |
Dim o'r fath beth. |
|
|
(2, 0) 571 |
Mi 'dw i'n ddigon parod i gymyd ffisig, ond cha i ddim gin y doctor. |
|
|
(2, 0) 573 |
Ond mae ar ddyn trigain oed eisiau byw. |
|
|
(2, 0) 582 |
Lol. |
|
|
(2, 0) 587 |
Digon hawdd i chi ymresymu, mi gawsoch chi fyw 'n do? |
(2, 0) 588 |
Ond beth amdana i? |
(2, 0) 589 |
Bûm mewn offis am wyth mlynedd ar hugain heb ddechrau byw, heb brofi dim, wrth gwrs, ac mae arna i eisiau byw, debyg iawn. |
(2, 0) 590 |
'Rydych chi wedi cael eich gwala ac felly yn ddi-daro; dyna pam 'rydych chi mor hoff o athronyddu; ac mae arna i isio byw; dyna pam y bydda i'n yfed glasiad o sieri amser cinio ac yn smocio sigar ac felly yn y blaen. |
|
|
(2, 0) 598 |
Fydd yr eneth druan yn cael fawr o bleser yn y byd ma. |
|
|
(2, 0) 600 |
'Rydych chi'n barnu fel dyn wedi cael digon o bethau da'r byd ma. |
|
|
(2, 0) 606 |
Wrth gwrs, mae'n well byw yn y dre. |
(2, 0) 607 |
Eistedd yn eich stydi, deud wrth y gwas am beidio â gadael neb ddwad i mewn heb ofyn caniatâd, teliffon, cerbydau yn y stryd, ac felly yn y blaen. |
|
|
(2, 0) 622 |
Ond y mae gynnoch chi geffylau cerbyd. |
|
|
(2, 0) 641 |
Y fath hyfdra digywilydd, a'u cipio nhw! |
(2, 0) 642 |
'Rydw i wedi laru, ac felly yn y blaen. |
(2, 0) 643 |
Dowch â'r ceffylau y munud ma! |
|
|
(2, 0) 653 |
Awn at fy chwaer a chrefwn arni beidio â mynd. |
(2, 0) 654 |
Yntê? |
(2, 0) 655 |
Fedra i ddim diodde'r dyn, rhaid iddo gael bod yn fistar ar bawb. |
|
|
(2, 0) 661 |
Ie, wir, dychrynllyd iawn, ond eith o ddim i ffwrdd, mi â i ato fo rwan am sgwrs. |
|
|
(3, 0) 919 |
Wedi i chi fynd, mi fydd yn annifyr iawn arna i yma. |
|
|
(3, 0) 921 |
'Does na ddim neilltuol yno; ond eto, mi fyddan yn gosod carreg sylfaen y Neuadd bentre newydd ac felly yn y blaen, cawn i ond dingyd am awr neu ddwy o'r hen dwll ma, 'r wy'n teimlo fel hen getyn wedi torri a'i daflu ar y domen. |
(3, 0) 922 |
'Rwy i wedi deud wrthyn nhw am gael y cerbyd yn barod ac mi awn o ma gyda'n gilydd. |
|
|
(3, 0) 930 |
Sut y medra i ddeud wrthoch chi? |
(3, 0) 931 |
Mae na resymau erill. |
(3, 0) 932 |
Welwch chi, gŵr ifanc ydi o, debyg iawn, yn byw yn y wlad, ym mhen draw'r byd, heb arian, heb safle, heb ragolygon o gwbl. |
(3, 0) 933 |
Mae'n segur ac mae arno gwilydd o'i segurdod. |
(3, 0) 934 |
'Rwy'n hoff iawn ohono, ac y mae o'n ddigon hoff ohonof innau hefyd, ond y mae o'n tybied, mewn gair, nad oes ar neb ei isio fo, dda gynno ddim byw ar fywyd pobol erill heb ennill ei damaid ei hun, hunan-barch, debyg iawn. |
|
|
(3, 0) 939 |
Mi greda i... mai'r peth... gorau... fel pe tae... fyddai ichi roi tipyn o arian iddo. |
(3, 0) 940 |
I ddechrau mi ddylai wisgo yn debycach i Gristion ac felly yn y blaen. |
(3, 0) 941 |
Styriwch y peth, yr un hen gôt sy gynno fo ers tair blynedd, a d'oes gynno fo ddim top côt ar ei elw. |
|
|
(3, 0) 943 |
Eitha peth hefyd fyddai iddo fo fynd i weld tipyn ar y byd, i wlad bell, chostiai hyna fawr ichi. |
|
|
(3, 0) 952 |
Wel, wel, peidiwch â digio. |
(3, 0) 953 |
Mi goelia i hynny. |
(3, 0) 954 |
Gwraig ardderchog, nobl ydych chi. |
|
|
(3, 0) 957 |
Tae gin i arian, wrth gwrs, mi cai nhw, ond 'r ydw i ar y clwt, 'does gin i ddim ffadan. |
(3, 0) 958 |
Mae pob dimai o mhensiwn yn mynd i'r stiward i'w sgwandro ar drin y tir, magu anifeiliaid a gwenyn, a dim o gwbl yn dŵad i mewn. |
(3, 0) 959 |
Mae'r gwenyn yn marw, y gwartheg yn marw, a cha i ddim ceffylau gynnyn nhw. |
|
|
(3, 0) 961 |
Gwraig annwyl, dda, ydych chi, 'r wy'n eich parchu chi'n fawr, ydw... o... mae o'n dŵad trosto i eto... |
(3, 0) 962 |
mae mhen i'n ysgafn. |
|
|
(3, 0) 964 |
'Rwy'n teimlo'n sal ac felly yn y blaen. |
|
|
(3, 0) 973 |
Dim byd, dim byd. |
|
|
(3, 0) 975 |
Mae o wedi mynd heibio rŵan, ac felly yn y blaen. |
|
|
(3, 0) 981 |
Rhaid, am funud neu ddau, ond 'r ydw i am fynd i'r dre wedi gorwedd tipyn bach, debyg iawn. |
(3, 0) 982 |
(Cychwyn allan a'i bwys ar ei ffon.) |
|
|
(3, 0) 986 |
Felly'n union, ac yn y nos ar wastad ei gefn. |
(3, 0) 987 |
Diolch yn fawr ichi, ond mi fedra i gerdded fy hun. |
|
|
(3, 0) 1184 |
Irina annwyl, rhaid inni beidio bod yn hwyr. |
(3, 0) 1185 |
Mi a i i eistedd am funud neu ddau. |
|
|
(4, 0) 1334 |
Ble mae fy chwaer? |
|
|
(4, 0) 1336 |
Os oedd gofyn ichi anfon am fy chwaer, rhaid mod i'n ddifrifol o wael. |
|
|
(4, 0) 1338 |
Dyma fel y mae hi, 'rwy'n ddifrifol o wael ac eto cha i ddim tropyn o ffisig gennyn nhw. |
|
|
(4, 0) 1341 |
Dyma chi'n dechrau bwrw drwyddi hi unwaith eto, rêl plâg. |
|
|
(4, 0) 1343 |
I mi mae hwn? |
|
|
(4, 0) 1345 |
'Rwy'n ddiolchgar iawn ichi. |
|
|
(4, 0) 1348 |
Mae gin i destun stori i Costia: 'The Man Who Would.' Pan o'n i'n hogyn, breuddwydiwn am fod yn llenor; cheis i ddim bod yn llenor: breuddwydiwn am fod yn areithiwr huawdl, a dyma fi'n siarad fel y gog ar yr un hen nodyn ac felly yn y blaen, felly yn y blaen, mewn gair, mewn gair, ac yn chwys diferud bob tro y codaf ar fy nhraed; breuddwydiwn am briodi, a dyma fi'n hen lanc ar y silff, breuddwydiwn am fyw yn y dre a dyma fi'n pydru ym mherfedd y wlad ac felly yn y blaen. |
|
|
(4, 0) 1351 |
Ie, heb geisio, nelais i rioed at hynny. |
|
|
(4, 0) 1354 |
'Rydych chi'n ddyn styfnig. |
(4, 0) 1355 |
Mae arna i eisiau byw, cofiwch hyna. |
|
|
(4, 0) 1357 |
Digon hawdd i chi siarad, mi gawsoch chi lond eich bol, 'does ryfedd eich bod mor ddifater. |
(4, 0) 1358 |
Ond mi fydd arnoch chithau ofn marw. |
|
|
(4, 0) 1363 |
Wyth mlynedd ar hugain, os gwelwch chi'n dda. |
|
|
(4, 0) 1409 |
Geneth ardderchog oedd hi. |
|
|
(4, 0) 1411 |
Geneth ardderchog oedd hi. |
(4, 0) 1412 |
Bu Sorin Esgweiar, J.P. yn ei charu hi ers talwm. |