|
|
|
|
(1, 0) 187 |
Diar annwyl, Shadrach, chi sydd yna? |
(1, 0) 188 |
Heb eich gweld chi ers talwm. |
(1, 0) 189 |
Sut mae'r iechyd 'rhen ŵr? |
|
|
(1, 0) 191 |
Tewch â dweud! |
(1, 0) 192 |
'Rhen grydcymala' yna'n eich poeni chi o hyd? |
|
|
(1, 0) 194 |
Gawsoch chi gyngor gan y meddyg? |
|
|
(1, 0) 198 |
O mi ddowch eto gyda hyn. |
|
|
(1, 0) 203 |
Na, mae hynny'n ddigon gwir. |
|
|
(1, 0) 206 |
Mae gennym le i ddiolch, serch hynny, Shadrach. |
(1, 0) 207 |
Gogoniant yr haul acw'n machlud, er enghraifft. |
(1, 0) 208 |
A chwerthiniad plentyn, a llyfnder gloyw'r grawnwin. |
(1, 0) 209 |
A dyna'r cynhaeaf ardderchof 'r ydy' ni wedi'i gael — mi fu'r Bod Mawr ar flaena'i draed efo ni 'leni. |
|
|
(1, 0) 213 |
'R ydym wedi eu taflu nhw'n ôl cyn hyn. |
(1, 0) 214 |
Ac fe wnawn hynny eto ond i ni ddal yn gadarn. |
|
|
(1, 0) 219 |
'R ydach chi'n edrych braidd ar yr ochor ddu, 'r wy'n ofni, 'rhen ŵr. |
|
|
(1, 0) 224 |
Wel ydy', 'r ydach chi'n iawn. |
(1, 0) 225 |
Rhai digon dienaid ydyn' nhw at 'i gilydd. |
(1, 0) 226 |
Ond 'wn i ddim be' ddaw o'r Jonah yma. |
(1, 0) 227 |
Mae nhw'n dweud 'i fod o'n hogyn reit addawol. |
|
|
(1, 0) 229 |
Jonah—wyddoch chi—mab yr hen Amitai pan oedd o. |
|
|
(1, 0) 232 |
Na, mae o'n myfyrio ar ei ben ei hun i fyny yn y brynia' ers talwm. |
(1, 0) 233 |
Yn byw fel meudwy bron. |
(1, 0) 234 |
Newydd ddechra' mynd o gwmpas i bregethu mae o. |
|
|
(1, 0) 236 |
'Wn i ddim beth am hynny. |
(1, 0) 237 |
'D oes yna ddim golwg proffwyd arno fo mae'n rhaid i mi gyfadde'. |
(1, 0) 238 |
Ond dyna fo, 'fedrwch chi ddim dweud. |
(1, 0) 239 |
Mae o'n dwad yma nos 'fory 'r wy'n deall. |
(1, 0) 240 |
Mi gawn gyfle ardderchog i'w glywed o'n pregethu... |