| (1, 0) 7 | Hen bethau di-ddim. |
| (1, 0) 9 | Nawr, beth sy' nesaf? |
| (1, 0) 10 | O ie. |
| (1, 0) 13 | Hy! |
| (1, 0) 18 | Be sy'n mater ar y diawl yma? |
| (1, 0) 19 | Agora'r cythraul! |
| (1, 0) 23 | Does dim posib agor y bocs pils yma. |
| (1, 0) 26 | Mae'r hen gaead wedi sticio neu rywbeth. |
| (1, 0) 29 | Sut yn y byd... |
| (1, 0) 32 | Paid ti â phoeni beth ŷn nhw. |
| (1, 0) 37 | Ie. |
| (1, 0) 39 | Maen nhw'n rhai newydd. |
| (1, 0) 40 | Gwella annwyd mewn chwinciad. |
| (1, 0) 42 | Pwy a ŵyr ─ falle gwna nhw rhyw les. |
| (1, 0) 48 | Paid ti â gwawdio, fy machgen i. |
| (1, 0) 51 | Paid â barnu pethau nad wyt ti'n deall. |
| (1, 0) 53 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 54 | Rhain yw'r unig beth sy' rhwngdda i a'r fynwent. |
| (1, 0) 56 | Rydw i'n mynd i'r gêm ─ a dyna ben ar y peth! |
| (1, 0) 61 | Does dim gwahaniaeth gen i os yw hi'n fodlon ai peidio! |
| (1, 0) 62 | Mae Ieuan Lloyd yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn, ac mae'n rhaid i mi fod yno. |
| (1, 0) 64 | Hwn fydd yr achlysur pwysicaf yn hanes y clwb ─ yr aelod cyntaf i chwarae dros ei wlad. |
| (1, 0) 66 | Wrth gwrs, ond dyw'r ferch yna sy' gen i yn deall dim. |
| (1, 0) 71 | Ydw, a phaid ag edrych arna i fel 'na ─ dw i ddim mor sâl â hynny. |
| (1, 0) 75 | Dafydd? |
| (1, 0) 77 | Fase'n bosib i mi gael cwpanaid o de? |
| (1, 0) 79 | Mi faswn i'n ddiolchgar iawn. |
| (1, 0) 82 | Mi fydde cael bisged siocled yn neis iawn hefyd. |
| (1, 0) 84 | |Chocolate Biscuit|. |
| (1, 0) 85 | Ma' nhw yn y cwpwrdd. |
| (1, 0) 87 | O... |
| (1, 0) 88 | Oes. |
| (1, 0) 89 | Mae Ann wedi ei cuddio nhw yn y cefn, tu ôl i'r fflŵr. |
| (1, 0) 93 | Na. |
| (1, 0) 98 | Megan, ti sy' yna? |
| (1, 0) 108 | Cystal â'r disgwyl am wn i. |
| (1, 0) 110 | Na ─ dim rhyw lawer. |
| (1, 0) 114 | Fel be? |
| (1, 0) 117 | Beth yw e'? |
| (1, 0) 120 | Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio rhyw bethau mae honno wedi'i gymysgu. |
| (1, 0) 121 | Duw a ŵyr be' sy' ynddo fe. |
| (1, 0) 124 | Wel, dw i ddim eisiau fe. |
| (1, 0) 127 | Ie, ac mi fu honno farw yn o sydyn hefyd. |
| (1, 0) 130 | Wyt ti'n meddwl y gwnaiff e' rhyw les? |
| (1, 0) 132 | Mae honno'n ddigon dwl i gredu rhywbeth. |
| (1, 0) 134 | Olreit... olreit... mi wna i. |
| (1, 0) 136 | Er mwyn dy blesio di. |
| (1, 0) 140 | Wel, rwy'n teimlo dipyn bach yn well... |
| (1, 0) 143 | Ar yr hen bethau papur 'ma mae'r bai ─ maen nhw mor ysgafn. |
| (1, 0) 145 | Paid ti â meiddio! |
| (1, 0) 147 | Mae ei lond e' o... |
| (1, 0) 148 | Be' ti'n galw'r pethau 'na? |
| (1, 0) 150 | Nagie. |
| (1, 0) 151 | Germs ─ dyna'r gair. |
| (1, 0) 152 | Mae ei lond e' o germs, ac mae gen i hen ddigon o rheini yn barod. |
| (1, 0) 158 | Naddo. |
| (1, 0) 159 | Pam? |
| (1, 0) 165 | Fawr o golled i ti. |
| (1, 0) 167 | Fawr o golled i hwnnw chwaith. |
| (1, 0) 168 | Hen sguthan o ddynes oedd hi, a'i thrwyn ym musnes pawb. |
| (1, 0) 170 | Mae'n ddigon gwir i ti. |
| (1, 0) 171 | Er hynny, chwith meddwl fod hi wedi mynd. |
| (1, 0) 173 | Ie, debyg. |
| (1, 0) 174 | Y cyfan yn nwylo y Brenin Mawr. |
| (1, 0) 177 | Rwyt ti'n ofnadwy Megan, wyt wir. |
| (1, 0) 184 | Oes 'na brinder cwpanau? |
| (1, 0) 186 | Mi fydda i bob amser yn licio yfed te mewn cwpan. |
| (1, 0) 190 | Rhain... |
| (1, 0) 191 | Y... |
| (1, 0) 192 | Dim syniad. |
| (1, 0) 193 | Lle ges ti rhain Dafydd? |
| (1, 0) 197 | Digwydd gweld nhw yn y cwpwrdd, ynte Dafydd? |
| (1, 0) 200 | Meddwl y byddai dy hen Dad yn hoffi un. |
| (1, 0) 204 | Beth... |
| (1, 0) 205 | Ond dw i heb gael un eto! |
| (1, 0) 207 | Dim ond un? |
| (1, 0) 212 | Rwyt ti'n union fel dy fam... |
| (1, 0) 214 | Beth am ddangos ychydig o gydymdeimlad â'r rhai sy'n dioddef? |
| (1, 0) 219 | Megan ddaeth â hi. |
| (1, 0) 224 | Duw a ŵyr! |
| (1, 0) 228 | Wel... |
| (1, 0) 232 | Gobeithio bod ti'n iawn... |
| (1, 0) 247 | Reit. |
| (1, 0) 249 | Lle ti'n mynd 'te? |
| (1, 0) 251 | I beth? |
| (1, 0) 271 | Rwy'n sâl. |
| (1, 0) 273 | Wel, ma'n nhrwyn i yn rhedeg fel tap ac ma' mhen i bron â hollti'n ddau. |
| (1, 0) 274 | Hefyd, ma' ngwddwg i'n crafu... |
| (1, 0) 276 | Aaaaa! |
| (1, 0) 278 | Mae gen i boen fan hyn... |
| (1, 0) 280 | Fan hyn... |
| (1, 0) 282 | A fan hyn... |
| (1, 0) 284 | A weithiau fan hyn... |
| (1, 0) 286 | Doctor: |
| (1, 0) 288 | Beth am fan hyn? |
| (1, 0) 289 | Fyddai byth yn cael poen mor bell lawr â hynna. |
| (1, 0) 291 | Dech chi ddim yn meddwl fod hynna'n ddigon? |
| (1, 0) 294 | Rwy'n gwybod mai annwyd yw e' ─ does dim angen bod yn ddoctor i wybod hynny. |
| (1, 0) 295 | Y cwestiwn yw, beth dech chi'n mynd i wneud ynglŷn â'r peth? |
| (1, 0) 297 | Aros yn fy ngwely! |
| (1, 0) 298 | Ond mae'n rhaid i mi fynd i Gaerdydd ddydd Sadwrn. |
| (1, 0) 300 | I weld y gêm rygbi ryngwladol. |
| (1, 0) 303 | Mae mab Gerallt Lloyd, Pencwm, yn chwarae. |
| (1, 0) 304 | Ei gap cyntaf dros ei wlad. |
| (1, 0) 306 | Ac mae Gerallt wedi mynd i drafferth mawr er mwyn sicrhau fy mod i yn cael tocyn. |
| (1, 0) 308 | Un o'r seddi gorau ar y maes. |
| (1, 0) 309 | Dim byd ond y gorau i'w ffrind Tom. |
| (1, 0) 311 | Ond mae'n rhaid i mi fynd yno. |
| (1, 0) 314 | Fyddech chi'n fodlon cael gair ag Ann 'te? |
| (1, 0) 316 | Dyw hi ddim yn fodlon i mi fynd chwaith. |
| (1, 0) 317 | Ieuan Pencwm yn ennill ei gap cyntaf ─ ac mae pawb eisiau i mi aros yn y gwely drwy'r dydd! |
| (1, 0) 319 | Ond tasech chi'n dweud wrthi fod e'n olreit i mi daro draw, ac yna'n syth yn ôl i'r gwely... |
| (1, 0) 321 | Diolch yn fawr, Doctor. |
| (1, 0) 323 | Beth? |
| (1, 0) 324 | Ond Doctor...? |
| (1, 0) 326 | Ai dyna'r gorau y gallwch chi ei gynnig? |
| (1, 0) 328 | Dyw hyn ddim digon da. |
| (1, 0) 329 | Rwy wedi talu fy National Insurance ar hyd y blynyddoedd. |
| (1, 0) 331 | Rwy' wedi darllen hanes chi a'ch siort yn y papurau dydd Sul ─ cadw'r stwff gorau i'r cleifion preifat a gwrthod rhoi dim i'r dyn bach cyffredin. |
| (1, 0) 334 | Mae rhaid fod yna rhywbeth? |
| (1, 0) 339 | Ydyn nhw'n gwella annwyd? |
| (1, 0) 343 | Hm! |
| (1, 0) 344 | Ma' nhw yn rhai da. |
| (1, 0) 345 | Tipyn gwell na'r hen rhai yma beth bynnag. |
| (1, 0) 348 | Wel... |
| (1, 0) 349 | Ydw. |
| (1, 0) 351 | Maen nhw wedi bod yn y tŷ yma ers tipyn. |
| (1, 0) 353 | Dech chi'n meddwl? |
| (1, 0) 357 | Beth? |
| (1, 0) 358 | Ond... |
| (1, 0) 369 | Peidiwch â thaflu honna! |
| (1, 0) 373 | Ond Doctor... |
| (1, 0) 379 | Dim ond cadw'n gynnes? |
| (1, 0) 383 | Ond beth am Ann? |
| (1, 0) 387 | Ond Doctor, wyddoch chi faint yw gwerth tocyn i gêm rygbi rhyngwladol? |
| (1, 0) 388 | Byddai rhai bobol yn fodlon rhoi ffortiwn fach am gael un. |
| (1, 0) 396 | Hanna Morris, beth wyt ti wedi rhoi yn y botel yma, ysgwn i? |
| (1, 0) 397 | Does dim cyfarwyddiadau arni o gwbwl. |
| (1, 0) 398 | O, wel... |
| (1, 0) 399 | Er mwyn plesio Megan... |
| (1, 0) 402 | Pam fod rhaid i'r pethau llesol 'ma fod mor chwerw? |
| (1, 0) 404 | Un arall am lwc! |
| (1, 0) 409 | O damio, lle mae honna wedi mynd eto? |
| (1, 0) 413 | Rwy' wedi colli un o'r pils melyn. |
| (1, 0) 420 | Mae dy ddwylo di'n oer. |
| (1, 0) 424 | Bydd ychydig bach yn fwy gofalus, wnei di. |
| (1, 0) 429 | Beth? |
| (1, 0) 432 | Diolch byth. |
| (1, 0) 437 | Do fe? |
| (1, 0) 439 | Ond Ann... |
| (1, 0) 441 | Ond dyw'r Doctoriaid yma'n deall dim... |
| (1, 0) 444 | Ond Ann... |
| (1, 0) 448 | Pwy? |
| (1, 0) 450 | Morgans y siop! |
| (1, 0) 451 | Be ma' hwnnw eisiau? |
| (1, 0) 453 | Wel, dydw i ddim eisiau ei weld e. |
| (1, 0) 456 | Ti'n gwybod yn iawn. |
| (1, 0) 458 | Fi fydde wedi ennill tase fe heb ganfasio hanner y pentre ─ a hynny ar ôl i ni gytuno fod neb yn mynd i wneud. |
| (1, 0) 459 | Yr hen greadur bach dauwynebog. |
| (1, 0) 462 | Ond dydw i heb anghofio a wna i ddim chwaith. |
| (1, 0) 466 | Beth wyt ti eisiau? |
| (1, 0) 480 | Be' sy' gen ti? |
| (1, 0) 482 | Grêps! |
| (1, 0) 483 | Grêps! |
| (1, 0) 484 | Gas gen i grêps! |
| (1, 0) 495 | Diolch. |
| (1, 0) 501 | Dydw i ddim yn hen gyfaill i ti. |
| (1, 0) 502 | Beth wyt ti eisiau? |
| (1, 0) 506 | Na, rwy i bob amser yn fy ngwely am ddeg o'r gloch yn y bore. |
| (1, 0) 508 | Wrth gwrs 'mod i'n sâl. |
| (1, 0) 510 | Rwy' wedi cael annwyd. |
| (1, 0) 512 | Mae hynny'n hen ddigon. |
| (1, 0) 514 | Be' ti'n feddwl? |
| (1, 0) 516 | Does dim byd yn gyffredin am yr hyn sy' gen i. |
| (1, 0) 518 | Dim mor ddrwg ag yr ydw i'n ei gael e. |
| (1, 0) 521 | Camddeall pwy? |
| (1, 0) 523 | Beth roedd pawb yn ddweud? |
| (1, 0) 530 | Do, chwarae teg iddo. |
| (1, 0) 532 | Mae hynny'n dibynnu os ca' i fynd, yn dyw e? |
| (1, 0) 534 | Fe ddywedodd y Doctor y dyliwn i aros yn y gwely. |
| (1, 0) 536 | Am rhyw ddiwrnod neu ddau o leiaf. |
| (1, 0) 540 | Ie, dyna ddywedodd y Doctor. |
| (1, 0) 543 | Fel hynny mae'n edrych rŵan. |
| (1, 0) 545 | Pam wyt ti'n holi? |
| (1, 0) 548 | Boenaist ti erioed am hynny cyn hyn. |
| (1, 0) 550 | A! |
| (1, 0) 551 | Rwy'n dechrau deall rŵan! |
| (1, 0) 554 | Roeddwn i'n amau dy fod ti eisiau rhywbeth. |
| (1, 0) 557 | Wel, yr ateb yw 'na'. |
| (1, 0) 558 | Taset ti'n mynd ar dy liniau i ofyn, 'na' fyddai'r ateb bob tro. |
| (1, 0) 561 | Waeth i ti heb, rwy'n dy nabod di'n rhy dda. |
| (1, 0) 562 | Bob amser eisiau rhywbeth! |
| (1, 0) 564 | Paid ti â rhoi "Ond Tomos!" i mi. |
| (1, 0) 565 | 'Na' yw yr ateb. |
| (1, 0) 566 | Wyt ti'n deall! |
| (1, 0) 567 | Na, na, na! |
| (1, 0) 569 | Chei di mo'r tocyn. |
| (1, 0) 571 | Byddai'n well gen i losgi'r diawl cyn ei roi i ti o bawb. |
| (1, 0) 573 | Chei di mo'r tocyn i'r gêm ddydd Sadwrn, waeth i ti heb na holi. |
| (1, 0) 574 | Nawr, cer o 'ma. |
| (1, 0) 575 | A cer â dy grêps gen ti. |
| (1, 0) 577 | Byth! |
| (1, 0) 578 | Wyt ti'n clywed! |
| (1, 0) 579 | Byddai'n well gen i... |
| (1, 0) 586 | Hanna Morris. |
| (1, 0) 588 | Hen stwff Hanna Morris. |
| (1, 0) 590 | Cwic! |
| (1, 0) 591 | Cer o'r ffordd! |
| (1, 0) 637 | Mae'n dda cael gwared o hwnna! |
| (1, 0) 639 | Chwarae teg i ti Megan. |
| (1, 0) 640 | Roedd e'n carlamu lawr y staer yna, tri step ar y tro. |
| (1, 0) 642 | Mistar Aled Morgan wrth gwrs! |
| (1, 0) 643 | Be ddywedaist ti wrtho fe? |
| (1, 0) 645 | Ma' fe'n hen greadur bach slei, ond roeddwn i'n amau o'r dechrau, fod e eisiau rhywbeth. |
| (1, 0) 647 | Wel, y tocyn wrth gwrs. |
| (1, 0) 649 | Tocyn gêm dydd Sadwrn. |
| (1, 0) 651 | Cyn gynted ag y clywodd e 'mod i'n sâl, dyma fe'n dod heibio... |
| (1, 0) 652 | Fe a'i baced grêps. |
| (1, 0) 654 | Meddwl y byddwn i'n ddigon dwl i'w rhoi iddo fe o bawb...! |
| (1, 0) 656 | Dim peryg! |
| (1, 0) 659 | Pryd? |
| (1, 0) 662 | Wel, ffindieth e 'run tocyn lawr fan 'na. |
| (1, 0) 664 | Ma' fe'n ddigon saff i ti. |
| (1, 0) 666 | Rhaid i ti ofyn i Ann. |
| (1, 0) 667 | Hi sy'n gwybod lle ma' popeth yn y tŷ yma. |
| (1, 0) 669 | Na, Ann sy'n gofalu am y cyfan. |
| (1, 0) 671 | Felly mae pawb yn dweud. |
| (1, 0) 674 | Beth? |
| (1, 0) 676 | Pam? |
| (1, 0) 679 | Beth? |
| (1, 0) 681 | Pam? |
| (1, 0) 683 | Ond pam? |
| (1, 0) 686 | Ond Megan... |
| (1, 0) 690 | Beth? |
| (1, 0) 691 | Ond Megan... |
| (1, 0) 692 | Dim dyma'r amser... |
| (1, 0) 695 | Ond Megan, beth pe tase... |
| (1, 0) 698 | Rwy'n siŵr ei fod e', ond 'wyt ti ddim yn meddwl... |
| (1, 0) 700 | Rwy wedi clywed sôn am lyfrau fel 'na! |
| (1, 0) 703 | Wn i ddim wir. |
| (1, 0) 704 | Rwy' wedi mynd braidd yn rhy hen i rhyw bethau fel hyn. |
| (1, 0) 706 | Be' ddywedaist ti? |
| (1, 0) 709 | Beth yw'r llyfr 'na? |
| (1, 0) 711 | Dim peryg! |
| (1, 0) 713 | Na. |
| (1, 0) 714 | Wyt ti'n deall? |
| (1, 0) 715 | Dwyt ti ddim yn mynd i ddechrau sticio nodwyddau ynddo' i. |
| (1, 0) 717 | Does gen i ddim gwahaniaeth beth yw e. |
| (1, 0) 718 | Cer i sticio dy nodwyddau yn rhywun arall. |
| (1, 0) 720 | Na ─ a dyna ben ar y peth. |
| (1, 0) 723 | Beth yw e'? |
| (1, 0) 725 | Gad i mi weld. |
| (1, 0) 728 | Troi'r gwely rownd? |
| (1, 0) 730 | Wel, paid ag edrych arna i, mae'n nghefn i'n rhy wael i symud yr un gwely. |
| (1, 0) 732 | Os wyt ti'n dweud. |
| (1, 0) 734 | Os oes rhaid troi'r gwely, gwell i ti basio'r ffon i mi. |
| (1, 0) 736 | Mae 'na fwy na un defnydd i ffon. |
| (1, 0) 738 | Un... dau... tri... pedwar... pump... chwech... saith... wyth... naw... |
| (1, 0) 741 | Mae angen troi'r gwely. |
| (1, 0) 746 | Paid â holi, Dafydd bach ─ jyst troia'r gwely. |
| (1, 0) 761 | Mae hwnna'n wlyb. |
| (1, 0) 764 | Wel ydw, wrth gwrs ond... |
| (1, 0) 775 | Wel be? |
| (1, 0) 778 | Dw i ddim yn credu... |
| (1, 0) 780 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 808 | Rwy'n credu mod i'n teimlo'n well yn barod. |
| (1, 0) 811 | Ond Ann... |
| (1, 0) 813 | Ond mae'n drueni gwastraffu'r tocyn. |
| (1, 0) 817 | Ti wedi gwneud beth? |
| (1, 0) 821 | I pwy? |
| (1, 0) 823 | Na, i pwy? |
| (1, 0) 827 | B... B... Beth? |
| (1, 0) 829 | Wnes i ddim cytuno i'r fath beth. |
| (1, 0) 832 | Ddylet ti ddim... |
| (1, 0) 833 | Fy nhocyn i oedd e'... |
| (1, 0) 835 | Doedd gen ti ddim hawl... |
| (1, 0) 836 | Wyt ti'n clywed, doedd gen ti... |
| (1, 0) 837 | Am faint? |
| (1, 0) 840 | Ar y llaw arall... |
| (1, 0) 841 | Roedd hi'n drueni ei wastraffu. |
| (1, 0) 844 | Ie, wel... |
| (1, 0) 846 | Mae'n rhaid cyfaddef, mae e'n syniad neis iawn. |
| (1, 0) 853 | Mae hynny'n ddigon gwir... |
| (1, 0) 855 | Ac mewn gwirionedd, doedd hi ddim yn sedd mor dda â hynny. |
| (1, 0) 858 | Wel, diolch yn fawr i ti, 'ngeneth i. |
| (1, 0) 862 | Wyddost ti beth Ann, roeddwn i'n dweud wrth y Doctor gynne fach 'mod i'n ddyn ffodus iawn. |
| (1, 0) 864 | Dy gael di yma i ofalu ar fy ôl. |
| (1, 0) 865 | Mae hynny'n mynd yn beth anghyffredin iawn y dyddiau yma wyddost ti. |
| (1, 0) 867 | Nid pawb fyddai'n fodlon aros gartre er mwyn gofalu ar ôl ei hen Dad. |
| (1, 0) 868 | Rwy'n gwybod bod ni'n cael ambell i air croes weithiau ond paid ti â meddwl 'nad ydw i yn gwerthfawrogi yr hyn wyt ti'n wneud i mi. |
| (1, 0) 869 | Pan ddei di i fy oedran i, rwyt ti'n dod i sylweddoli pa mor bwysig yw y pethau yma. |
| (1, 0) 870 | Y pethau bach, rheini sy'n bwysig. |
| (1, 0) 874 | Gerallt! |
| (1, 0) 875 | Be' sy'? |
| (1, 0) 877 | Dyw Ieuan ddim yn sâl? |
| (1, 0) 879 | Dyw e' ddim wedi torri ei goes neu rhywbeth? |
| (1, 0) 881 | A ma' fe yn chwarae dydd Sadwrn? |
| (1, 0) 884 | Wel, dweda be' sy'n bod 'te. |
| (1, 0) 889 | Wel be' sy' 'te? |
| (1, 0) 891 | Be' ti'n feddwl? |
| (1, 0) 893 | Tocyn ffug? |
| (1, 0) 896 | Tocyn ffug! |
| (1, 0) 899 | Ond mae hyn yn fendigedig... |
| (1, 0) 902 | Gwrthod derbyn y tocyn wrth y gât. |
| (1, 0) 903 | Glywaist ti hynna Dafydd... |
| (1, 0) 913 | I Morgan y siop. |
| (1, 0) 915 | Ie. |
| (1, 0) 916 | Am hanner canpunt. |
| (1, 0) 918 | Wyddost ti be' Dafydd, rwy'n teimlo'n dipyn gwell erbyn hyn. |
| (1, 0) 923 | Ie Megan? |
| (1, 0) 925 | Do. |
| (1, 0) 926 | Wedi yfed rhyw lwyaid neu ddwy... hen beth digon sur yw e' hefyd. |
| (1, 0) 929 | Do. |
| (1, 0) 930 | Pam? |
| (1, 0) 932 | Beth? |
| (1, 0) 933 | Ond... ond... |
| (1, 0) 934 | Dafydd? |
| (1, 0) 936 | Rwy'n teimlo'n sâl!! |