| (1, 0) 8 | Beth gythrel sydd yn bod, fenyw? |
| (1, 0) 11 | Wel, o'n i yn mynd i wisgo pan sgrechoch chi, a gredes i fod rhywun yn ych myrdro chi, fenyw. |
| (1, 0) 12 | A dere lawr o fanna, fenyw, ti'n edrych fel rhyw foniwment yn fanna. |
| (1, 0) 17 | O, fe edrycha i fory. |
| (1, 0) 19 | Hy. |
| (1, 0) 20 | Smo fi ofan rhyw damed o lygoden. |
| (1, 0) 21 | Rwy i'n cofio amser rhyfel, fe gydies i mewn llygoden ffyrnig yn... |
| (1, 0) 24 | Ti'n siŵr mai fan hyn ath hi? |
| (1, 0) 26 | Reit, reit. |
| (1, 0) 28 | Paswch y 'torch' i fi. |
| (1, 0) 30 | Ma' twll llygod yn y 'sgyrting board', ma' fe'n mynd trwyddo i'r cwtsh dan stâr. |
| (1, 0) 33 | O, fe rho i e i lawr fory. |
| (1, 0) 36 | Weles i eriod shwt ffys am lygoden. |
| (1, 0) 43 | Aw, aw... |
| (1, 0) 45 | Mae'r trap cythrel yma wedi cau am 'yn llaw i! |
| (1, 0) 47 | Tynnwch e yn rhydd gloi! |
| (1, 0) 57 | Pwy ryfedd? |
| (1, 0) 58 | Ti'n gwbod, Wil, ma' Marged yn bwydo fe trw'r dydd ar y Go Cat 'na fel nad oes 'na ddim mwy o go na donkey ynddo fe. |
| (1, 0) 59 | 'Sen i yn cael 'yn ffordd, fe gethe fe ddŵr, fe fydde fe yn Gone Cat wedyn. |
| (1, 0) 60 | Wel, ishte Wil. |
| (1, 0) 61 | Os rhyw newydd gyda ti? |
| (1, 0) 63 | Ond ma' John y gwas gyda ti i ofalu am honno. |
| (1, 0) 67 | O, ma' Marged yma yn credu gall hi neud rhyw ffortiwn wrth gadw fisitors. |
| (1, 0) 68 | Sen i'n cael 'yn ffordd, chawse dim un cythrel wely na brecwast yma. |
| (1, 0) 73 | Edrych 'ma, Wil, dw i ddim wedi cal brecwast 'yn hunan yn y gwely eriod, a dwi ddim yn meddwl cario brecwast i rhyw Jip Jachs ar holides, fi'n eitha siŵr, fe gân nhw godi pan fydd 'u bolie nhw'n galw. |
| (1, 0) 75 | Odd dim diolch amser hynny, on i'n rhy sâl i ddod lawr i moyn e. |
| (1, 0) 79 | Beth ti'n foddran bod hi'n risci? |
| (1, 0) 80 | Beth sy'n risci amboiti hi? |
| (1, 0) 86 | Ew, na dim syniad ─ beth? |
| (1, 0) 88 | A 'dôn nhw ddim wedi talu siŵr o fod. |
| (1, 0) 89 | Marged, os daw rhywun yma fydda i yn moyn 'yn nhalu cyn bod nhw'n mynd i'r gwely. |
| (1, 0) 91 | Crogi y ddou! |
| (1, 0) 92 | 'Na fe, Marged, wedes i ddigon wrtho ti y byse hi'n llawer gwell i ti fagu llo neu ddou i gael ceiniog ecstra... |
| (1, 0) 93 | Chroge rheiny ddim o ti 'ta beth. |
| (1, 0) 100 | Ugen mil efallai? |
| (1, 0) 101 | | |
| (1, 0) 105 | Bachgen, bachgen, fi ddim yn credu y galla i gysgu'r haf yma rhagor. |
| (1, 0) 106 | Marged, fydd rhaid bod yn ofalus wrth ateb y drws yn enwedig yn y | nos. |
| (1, 0) 109 | Weda i un peth, Wil, os daw rhywun î yma a cheisio ein crogi ni, fe eith e o'ma â blas powdwr ar 'i ben ôl. |
| (1, 0) 112 | Fi wedi gweud o'r dechre nad ydw i'n lico'r busnes yma... |
| (1, 0) 127 | Wyt ti ishe help? |
| (1, 0) 131 | Marged, ce'wch i neud cwpaned o de i fi, ma' Wil a'r stori yna wedi ypseto fi i gyd, chysga i byth pan fydd rhywun yn aros yma. |
| (1, 0) 136 | Ma' nhw yma, Marged, ma' nhw yma! |
| (1, 0) 138 | Haleliwia Angels, Marged. |
| (1, 0) 139 | Ble mae'r gwn? |
| (1, 0) 142 | Na, cer di a safa i fan hyn a'r bastwn yn barod, ac os treieth e dy grogi di, gwaedda. |
| (1, 0) 147 | Os moto beics gyda nhw, Marged? |
| (1, 0) 154 | Yes, well nice to see you. |
| (1, 0) 156 | O, nice to meet you, Mr. Bull. |
| (1, 0) 157 | Hei, Marged, ma hwn yn debyg i Hereford. |
| (1, 0) 158 | Ha ha. |
| (1, 0) 165 | No, never, but I've got a cousin living there. |
| (1, 0) 166 | His name is Dai. |
| (1, 0) 167 | He is a butcher. |
| (1, 0) 168 | You must have seen him, he is a big fat fellow, he is an expert for making faggots. |
| (1, 0) 172 | And before we forget, it's £10. |
| (1, 0) 174 | The bed and the breakfast, you know. |
| (1, 0) 180 | Yes, you might as well, in case. |
| (1, 0) 187 | A cushon, o, yes, here you are, that's it. |
| (1, 0) 188 | You've got a delicate behind, have you? |
| (1, 0) 189 | They say that a hard stool is much better for us than these soft chairs you know. |
| (1, 0) 193 | Well, it gets very dark here in winter and... |
| (1, 0) 198 | O, I see what you mean. |
| (1, 0) 199 | Well, I read a lot, and listen to the wireless, yes. |
| (1, 0) 201 | O, Marged and me we don't like it. |
| (1, 0) 202 | There's too many myrdyrs on the television, yes, and on Sunday of course we go to church three times. |
| (1, 0) 205 | O, are you? |
| (1, 0) 206 | Well, Marged and me are Methodists. |
| (1, 0) 209 | Yes, come on, come and have some tea and cakes and bring your cushion with you. |
| (1, 0) 218 | O yes, wel, you must have a big head before you can go to Oxford. |
| (1, 0) 224 | Have a cac. |
| (1, 0) 227 | Well, they are supposed to be hard, that's why they are called 'rock cakes'. |
| (1, 0) 229 | O you don't have to go upstairs, you can put powder in your nose down here. |
| (1, 0) 231 | Why have you got to go upstairs to do it? |
| (1, 0) 233 | Marged, dere ma. |
| (1, 0) 235 | Ma'r fenyw 'ma ise mynd lan stâr i roi powdwr yn 'i thrwyn, a rwyf i wedi gweud wrthi am roi e lawr fan hyn. |
| (1, 0) 236 | Pam mae hi yn moyn mynd lan stâr, Marged? |
| (1, 0) 238 | Wel, beth mae hi ise te, Marged? |
| (1, 0) 241 | O, o, I see what you mean now. |
| (1, 0) 242 | Well there is no point for you to go upstairs, because there is nothingthere. |
| (1, 0) 244 | Well, no, not exactly, I'm afraid it is further down than that. |
| (1, 0) 247 | Reit, fenyw, well, it's outside the green shed bottom of the garden. |
| (1, 0) 250 | Yes. |
| (1, 0) 252 | Yes, it is dark now. |
| (1, 0) 253 | I will come with you now with a torch. |
| (1, 0) 255 | Well, you better take the torch yourself. |
| (1, 0) 260 | Cer â nhw o'r golwg i rhywle, Marged. |
| (1, 0) 263 | Yes, yes. |
| (1, 0) 264 | Garw byth. |
| (1, 0) 267 | Fi wedi byw yn gysurus yma am ugain mlynedd, a mae rhyw shinanis fel hyn yn dod a ddim yn gysurus am hanner awr. |
| (1, 0) 268 | O'n i'n gwybod mai fel hyn y bydde hi. |
| (1, 0) 270 | Helo, pwy sydd yna? |
| (1, 0) 274 | Ew, Mari, shwt wyt ti 'te. |
| (1, 0) 275 | Ble ma Dafydd gen' ti? |
| (1, 0) 277 | O, ti sydd â'r cês 'ma 'te? |
| (1, 0) 279 | Wel, meddwl mai... os rhywbeth yn bod? |
| (1, 0) 280 | Does dim o'i le ar Dafydd, os e? |
| (1, 0) 284 | B... b... beth wedest ti? |
| (1, 0) 289 | Marged fach, ma' hi wedi madel ag e. |
| (1, 0) 292 | Ma' hi wedi madel ag e, fenyw. |
| (1, 0) 297 | Lwmpe yn y pwdin! |
| (1, 0) 298 | Ti'n gweud wrtho i bod ti wedi dod adre heno achos iddo fe weud bod lwmpe yn y pwdin? |
| (1, 0) 299 | Ti'n sylweddoli mai dim ond mis sydd ers i ti ei briodi e? |
| (1, 0) 303 | Fi'n ofan mai chi Marged sydd wedi gwneud hynny ormod i hon. |
| (1, 0) 304 | Ti'n sylweddoli bod y briodas yna wedi costio mil o bunne i fi. |
| (1, 0) 305 | Odd Huws y Banc yn gweud echddo wrtho fi bod e yn falch mai dim ond un groten sydd gyda fi. |
| (1, 0) 311 | Achos ma' dou Hereford gyda dy fam yno. |
| (1, 0) 318 | Drychwch yma... |
| (1, 0) 323 | O, Dafydd bachan, dere mewn, dere mewn. |
| (1, 0) 337 | Marged, byddwch dawel, fenyw! |
| (1, 0) 339 | Byddwch dawel, fenyw. |
| (1, 0) 340 | Chi Marged wedi gweud wrtho fi am fod yn dawel am bum mlynedd ar hugain. |
| (1, 0) 341 | Nawr, gwrandwch chi arna i am unwaith. |
| (1, 0) 342 | Dafydd, iste fanna. |
| (1, 0) 343 | Nawr 'te, good girl, rwyf i yn credu bod ti wedi cerdded lawr i'r capel 'na fis yn ôl yn dy ffrog wen a dy fys yn dy ben heb feddwl dim ac yn credu mai rhyw fis mêl mowr odd priodi. |
| (1, 0) 344 | Iste lawr i fi gael gorffen. |
| (1, 0) 345 | Cyn priodi odd dim yn ddigon da i ti i'w gael yma, a heno dyma ti'n carlamu'n ôl yma gyda gwep fawr achos bod Dafydd wedi achwyn bod lwmpe yn y pwdin. |
| (1, 0) 346 | Dy drwbwl di eriod yw nad wyt ti'n gwybod mor lwcus wyt ti. |
| (1, 0) 347 | Wedi cael popeth yn rhwydd erioed, a nawr wedi priodi ma' tŷ pert gyda ti a car dy hunan. |
| (1, 0) 348 | Trwbwl chi yr oes hon ─ rwy'n golygu y ddou ohonoch chi yn awr ─ yw bod chi'n dechre'n rhy uchel. |
| (1, 0) 349 | Byse fe'n gwneud lles mawr i chi fod yn cael dechre fel gorfu i fi a Marged ddechre ─ dim ond dwy fuwch a beic a chaseg odd gyda ni, a doedd dim amser i feddwl am redeg adre ta faint o lwmpe fydde yn y pwdin. |
| (1, 0) 354 | Nawr, cofiwch un peth. |
| (1, 0) 355 | Mae croeso i chi ddod yma unrhyw amser gyda'ch gilydd, ond dim rhagor o nonsens fel heno byth eto. |
| (1, 0) 358 | O, popeth yn iawn, a gobeithio y cei di well pwdin fory. |
| (1, 0) 367 | Well pity for the mouse I say, ha ha! |
| (1, 0) 371 | Look here you two fairies. |
| (1, 0) 372 | I have had it up to here with you. |
| (1, 0) 373 | First you complain about the food, then it was the Ty Bach, and now it's a mouse, if you're so fussy you should have stayed at home. |
| (1, 0) 375 | Yes, go on, hop it guick, before I turn Carlo out. |
| (1, 0) 377 | And next time you go on holiday, go to hell. |
| (1, 0) 379 | Edrych 'ma, Marged, paid ti dechre 'to. |
| (1, 0) 381 | Marged, fi ddim wedi teimlo fel hyn o'r blaen. |
| (1, 0) 382 | A gan bo fi yn oeri nawr, deallwch chi un peth, os dim rhagor o'r Bed and Breakfast i fod 'ma. |
| (1, 0) 383 | Mae'r arwydd 'na i ddod lawr heno, os wyt ti am gario brecwast lan stâr i rhywun, ma well i ti gario fe lan i fi. |
| (1, 0) 384 | A pheth arall ─ rwy'n mynd i dynnu y trap o dan y cwpwrdd yna achos mae'r hen lygoden yna wedi dod a gwaredigaeth i'r tŷ 'ma heno. |
| (1, 0) 385 | Mae'n haeddu cael byw ta beth. |
| (1, 0) 391 | Nagoes, maen nhw yn chwilio gwell lle yma heno na mynd i drape. |
| (1, 0) 395 | Ie, ma'n nhw wedi mynd ffordd reit nawr. |
| (1, 0) 396 | Ddo'n nhw ddim nôl ffordd hyn rhagor. |
| (1, 0) 398 | Naddo, achan. |
| (1, 0) 399 | Wel beth yw hanes Blodwen te? |
| (1, 0) 401 | Ew, go lew achan. |
| (1, 0) 402 | Marged! |
| (1, 0) 403 | Marged! |
| (1, 0) 406 | Glywoch chi? |
| (1, 0) 407 | Dou lo gyda Blodwen. |
| (1, 0) 408 | Un fenyw, a un gwryw. |
| (1, 0) 411 | Beth wyt ti'n mynd i neud â nhw te? |
| (1, 0) 414 | Reit te, faint ti moyn amdanyn nhw te? |
| (1, 0) 416 | Wel, gwed bachan, faint ti moyn? |
| (1, 0) 418 | Wel, bachan, mae rhyw syniad gyda ti, bownd o fod. |
| (1, 0) 419 | Gwed faint ti'n ddal bachan? |
| (1, 0) 421 | Reit te, heno amdani, a ma ise mynd i dynnu yr arwydd lawr o ben lôn arna i. |
| (1, 0) 423 | Ie, na pam rwy i am dynnu e lawr cyn gwelith neb arall e, achos mae well i Marged a fi fagu lloi yn stabl na chadw lloi lan stâr. |
| (1, 0) 424 | Marged, Marged! |
| (1, 0) 426 | Gwisgwch got a dewch â cot i finne achos ni'n mynd i weld y ddou lo gyda Wil ac os setlwn ni, rwyn mynd i'w prynu nhw i chi. |
| (1, 0) 429 | Marged, fydd dim amser fory, mae ise mynd i desto yn llyged arna i fory? |
| (1, 0) 431 | Dewch mlân nawr yn lle ymddantan o hyd. |
| (1, 0) 432 | Cofia un peth, Wil, odd lloi yn eitha tsiep mart diwetha. |
| (1, 0) 434 | Ie, ie, ond hen darw potel yw 'u tad nhw. |
| (1, 0) 437 | Beth ti'n siarad, bachan? |
| (1, 0) 438 | Na, dwi ddim yn credu dim yn yr hen darw potel yna. |
| (1, 0) 439 | Fi wastad yn gweud os wyt ti yn rhoi tarw i fuwch rho darw reit iddi, ti'n gwbod beth ti'n gael wedyn. |
| (1, 0) 442 | Barod. |
| (1, 0) 443 | Ew Marged, os pryna i y lloi yma gyda Wil, chi'n gwybod beth fi yn mynd i galw nhw? |
| (1, 0) 445 | Jeremy a Patsy Bull. |