| (1, 0) 22 | Hylo, Dici! |
| (1, 0) 25 | Ydi'r cwrw gen ti? |
| (1, 0) 27 | Wel, brysia 'ta, machgen i, brysia! |
| (1, 0) 35 | Mae dy "shar" di yn y badell ffrio. |
| (1, 0) 36 | Estyn y cwrw 'na i mi, Dici. |
| (1, 0) 44 | Ydw. |
| (1, 0) 46 | Mae' nhw wedi 'u clymu wrth fôn y pren helyg ymhen isa'r pwllyn. |
| (1, 0) 50 | Ydi. |
| (1, 0) 51 | Dodais hi yn y cart o'r golwg rhag ofn i Jenkins y Cipar neu Powel y Polis ddod heibio. |
| (1, 0) 59 | Mae e' wedi 'i rwymo lawr yna wrth y bont. |
| (1, 0) 60 | Galw arno i gael gweld os yw e' yno. |
| (1, 0) 64 | Gwrando arno─ar 'ngair i─yn dy ateb di 'nol cystal ag unrhyw Gristion mewn trowsus. |
| (1, 0) 65 | Y ffordd wyt ti'n gallu trafod creaduriaid─wel─mae tu hwnt i mi. |
| (1, 0) 68 | "Hold on," Dici bach, cymer bwyll, 'machgen i. |
| (1, 0) 69 | Gad dipyn ar ol yn y badell ffrio, da ti! |
| (1, 0) 72 | Ia─rhag ofn. |
| (1, 0) 73 | Ti wyddost yr enw sydd i ni fel potsiars. |
| (1, 0) 74 | Wel, os digwydd i rywun busnesllyd ddod y ffordd hyn, yna fe fydd y badell ffrio ar y tân mewn wincad, {yn dynwared y weithred} a dyma ni, Twm Tincer a Dici Bach Dwl, yn batrwm o ddau dincer teidi yn cael tamad gonest o swper ar fin y ffordd. |
| (1, 0) 78 | 'D yw 'r hen regen yr yd 'na ddim yn gweld rhyw lawer yn y syniad chwaith, feddyliwn i. |
| (1, 0) 79 | Welaist ti Price pan o't ti nol y cwrw? |
| (1, 0) 83 | Ynghylch y samwn, debig. |
| (1, 0) 85 | "Castle Hotel, Pontewyn. |
| (1, 0) 86 | Cyfrinachol. |
| (1, 0) 87 | Annwyl Twm Tincer, Gair bach i ddweyd bod popeth wedi ei drefnu ar gyfer y luncheon mae Mr. Venerbey-Jones yn ei roi i'r offeiriadon sy'n dod yma yfory i agor ysgoldy newydd Eglwys Dewi Sant." |
| (1, 0) 89 | Venerbey-Jones! |
| (1, 0) 90 | Fe garwn i pe bai'r 'ffeiradon 'na'n rhoi luncheon iddo fe ac yn dechreu drwy arllwys dos dda o wenwyn llygod i lawr corn gwddw'r hen gythraul! |
| (1, 0) 94 | "Yma yn y Castle y bydd y wledd a chofia fy mod yn dibynnu arnat ti am y samwn ac y talaf ddeg ceiniog y pound am dano. |
| (1, 0) 95 | Yn gywir, Robert Price." |
| (1, 0) 99 | Fe gadwa' i hwn rhag ofn iddo geisio gwadu'r pris. |
| (1, 0) 100 | 'Rym ni wedi addo dal samwn iddo fe, Dici, ac fe gaiff un hefyd. |
| (1, 0) 101 | Lawr 'na ym mhwllyn Venerbey-Jones {yn cyfeirio i'r cefn} mae samwns gora'r afon. |
| (1, 0) 102 | Weli di, Dici, mae'r cymylau'n crynhoi. |
| (1, 0) 103 | Ardderchog! |
| (1, 0) 104 | Bydd yn ddigon tywyll i ni gyda hyn. |
| (1, 0) 105 | Mae'r gwynt wedi troi i'r gorllewin. |
| (1, 0) 113 | Ia. |
| (1, 0) 114 | Gwelli ni baratoi. |
| (1, 0) 115 | Cladda dy swper, Dici. |
| (1, 0) 120 | Oes, fe guddiais i bopeth sydd eisieu tu cefn i'r clawdd 'ma. |
| (1, 0) 122 | Pren, clwtyn a pharaffin. |
| (1, 0) 124 | A dyma'r dryfer. |
| (1, 0) 128 | Beth glywi di? |
| (1, 0) 130 | Ble? |
| (1, 0) 134 | Fe? |
| (1, 0) 135 | Y mawredd annwyl! |
| (1, 0) 136 | Gad i ni guddio rhain. |
| (1, 0) 138 | Dwed wrth yr ast fach am fod yn dawel. |
| (1, 0) 141 | Dici bach, 'r wyt ti'n gallu spotio cipar neu blisman filltir o ffordd. |
| (1, 0) 142 | Ble felldith mae'r badell ffrio 'na? |
| (1, 0) 143 | A! |
| (1, 0) 145 | Eistedd lawr, Dici, da ti, ac edrych mor ddiniwed ag y galli di. |
| (1, 0) 146 | Maent yn eistedd yn dawel o bob tu'r tân gan ymddangos yn batrwm o ddiniweidrwydd, |
| (1, 0) 150 | Wyt, Dici, 'rwyt ti yn llygad dy le. |
| (1, 0) 151 | Fe ddylsa Dafis Ty Isha fod wedi cynnig mwy na chwe cheiniog am gyweirio'r hen fwced 'na. |
| (1, 0) 154 | O, Jenkins y Cipar! |
| (1, 0) 155 | Noswaith dda, Jenkins. |
| (1, 0) 162 | Ffrio stêc a winwns. |
| (1, 0) 164 | Winwns pwy? |
| (1, 0) 165 | Fy winwns i. |
| (1, 0) 166 | Winwns Dici. |
| (1, 0) 167 | Ein winwns ni! |
| (1, 0) 169 | Beth ych chi'n feddwl, Jenkins? |
| (1, 0) 170 | Beth ych chi'n awgrymu? |
| (1, 0) 175 | Pwy sy ar 'i hen dir e'? |
| (1, 0) 177 | Y ffordd fawr yw hon, ontefe? |
| (1, 0) 181 | Gall hynny fod. |
| (1, 0) 183 | Chi sy'n dweud hynny. |
| (1, 0) 186 | Fe wn i beth sy'n bod, Jenkins. |
| (1, 0) 187 | Mae'ch meistr wedi bod yn achwyn nad oes gennych ddigon o blwc i wneud cipar da. |
| (1, 0) 189 | O!─rwy' i wedi clywed! |
| (1, 0) 190 | A dyma chi'n awr yn dechre dihuno ac yn dod i boeni dau dincer diwyd a gonest. |
| (1, 0) 194 | Sipsiwns? |
| (1, 0) 195 | Sipsiwns ddwedsoch chi? |
| (1, 0) 201 | Wnewch chi byth mo hynny, Jenkins; 'rych chi wedi treio'n galed am ugain mlynedd. |
| (1, 0) 204 | 'Rym ninnau'n bwriadu symud oddiyma pryd y mynnwn ni, Jenkins, a dim eiliad cyn hynny. |
| (1, 0) 206 | 'Rwy'i bron â chredu mai chi ddylai 'i chychwyn hi, Jenkins, rhag ofn i mi golli gafael ar y badell ffrio 'ma. |
| (1, 0) 208 | Diolch i chi am ddim, Jenkins. |
| (1, 0) 209 | Noswaith dda, a melys bo'ch hun. |
| (1, 0) 215 | 'Rym ni wedi addo samwn i Price─Jenkins neu beidio. |
| (1, 0) 224 | O'r gora, fe'i mentrwn hi. |
| (1, 0) 225 | Fe ddo' i â'r taclau mas eto. |
| (1, 0) 236 | Dyma'r clwtyn, dyma'r pren a'r paraffin; gwna ffagal. |
| (1, 0) 240 | Oes matches gen ti? |
| (1, 0) 243 | O'r gora 'ta. |
| (1, 0) 254 | Wel, machgen i, gobeithio 'rwy' i na fydd yr un o honom ni yn y jail cyn brecwast bore fory. |
| (1, 0) 256 | Dere mlaen. |
| (1, 0) 260 | Darro'r bobol 'ma! |
| (1, 0) 261 | Chaiff dyn ddim llonydd i fynd ymlaen a'i waith. |
| (1, 0) 263 | Ble mae'r badell ffrio 'na? |
| (1, 0) 265 | Pwy sy 'na nawr, Dici? |
| (1, 0) 272 | Ciwrat? |
| (1, 0) 274 | Ciwrat? |
| (1, 0) 275 | Yr amser hyn o'r nos? |
| (1, 0) 276 | Oes 'na ryw berigl tybed? |
| (1, 0) 277 | Eistedd lawr, Dici bach, a threia edrych fel petae'n ddydd Sul. |
| (1, 0) 290 | Noswaith dda. |
| (1, 0) 294 | Tŷ Mr. Owen Matthews ych chi'n feddwl? |
| (1, 0) 297 | Pugh? |
| (1, 0) 298 | Ond mae fe'n byw yn y cwm arall. |
| (1, 0) 311 | Ond oedd 'na neb yn cwrdd â chi, syr? |
| (1, 0) 318 | Eisteddwch chi, syr, a chroeso. |
| (1, 0) 333 | Wedi cerdded am ddwy awr a'r bag mawr trwm 'na? |
| (1, 0) 335 | Dici, rhaid iddo gael beth sy' ar ol o'r stêc a'r winwns 'na. |
| (1, 0) 340 | Peidiwch a son, syr. |
| (1, 0) 341 | 'Rym ni wedi cymryd ein swper ni. |
| (1, 0) 342 | Estyn y plat 'na, Dici. |
| (1, 0) 356 | Yh─Dici─ |
| (1, 0) 371 | Wel, Twm Tincer mae' nhw 'ngalw i. |
| (1, 0) 377 | Fyswn i ddim yn dweyd wrth bawb, tawn i'n eich lle chi, syr. |
| (1, 0) 383 | Ynh─hym─ |
| (1, 0) 386 | I fod yn onest â chi, falle dylswn i ddweyd un peth wrthoch chi, syr. |
| (1, 0) 387 | Wnaiff hi ddim lles ichi, a chitha'n 'ffeirad, i neb eich gweld chi'n eistedd yma fel hyn gyda fi a Dici. |
| (1, 0) 464 | Ciwrat neu beidio, syr, wnaiff hi mo'r tro i chi wrando gormod ar Dici Bach Dwl. |
| (1, 0) 465 | Ar brydiau fe allai wneud eitha gang o botsiars o'r Deuddeg Apostol 'u hunain. |
| (1, 0) 474 | Dici, Dici! |
| (1, 0) 545 | Ond fe fu bron â'ch cael chi, syr. |
| (1, 0) 553 | Bachden digon teidi yw Dici, syr, ond wrth gwrs mae'n rhaid cyfaddef bod na dipyn bach o wendid yn 'i ben e'. |
| (1, 0) 558 | Mae ofn yn 'i galon y caiff e' 'i ddal un o'r nosweithiau 'ma. |
| (1, 0) 559 | Mae' nhw'n son am 'i ddodi e' yn y wyrcws. |
| (1, 0) 561 | Wrth gwrs, syr, ar ol yr hyn mae fe wedi ddweyd wrthoch chi heno, 'r ych chi'n gwybod digon i'n dodi ni yn llaw'r polis. |
| (1, 0) 573 | 'Dwyt ti ddim yn deall, Dici? |
| (1, 0) 574 | Mae'r gwr bonheddig yn yr Eglwys. |
| (1, 0) 575 | Der' a nhw i fi, Dici. |
| (1, 0) 576 | Fe wna' i o'r gora â nhw. |
| (1, 0) 586 | Ficer, falle? |
| (1, 0) 593 | Wel, ar fy─ |
| (1, 0) 597 | Ond all Esgob ddim crwydro'r ffyrdd gefn nos fel dafad ar goll. |
| (1, 0) 598 | Pam na ewch chi i aros gyda Mr. Venerbey-Jones, syr? |
| (1, 0) 599 | Fe yw'r gwr mawr ffordd hyn. |
| (1, 0) 604 | O, peidiwch a son. |
| (1, 0) 605 | Cymrwch yr ail dro ar ol i chi groesi'r bont lawr fanna. |
| (1, 0) 620 | Nage. |
| (1, 0) 621 | Mae' nhw'n dweyd hynny am faer cyffredin. |
| (1, 0) 623 | Beth? |
| (1, 0) 625 | 'Dyw hynny ddim yn ffol, wir, Dici. |
| (1, 0) 629 | Ie, dyma'r ffagal. |
| (1, 0) 631 | Beth yw'r swn 'na? |
| (1, 0) 634 | 'Rwy'n gobeithio nad yw'r hen foi ddim wedi cwympo i'r afon. |
| (1, 0) 635 | Nawr te, Dici. |
| (1, 0) 642 | Gan bwyll, boi bach, gan bwyll! |
| (1, 0) 643 | Dere mlaen. |
| (1, 0) 788 | Darro! |
| (1, 0) 799 | Wel? |
| (1, 0) 801 | Jenkins? |
| (1, 0) 806 | Mae rhywun tu cefn i mi hefyd, Dici─mae' nhw wedi cauad o'n cwmpas ni. |
| (1, 0) 809 | Na, paid. |
| (1, 0) 810 | Falle nag yn' nhw ddim wedi ei weld e' eto. |
| (1, 0) 812 | Wn i ddim. |
| (1, 0) 816 | Diawch, Dici. |
| (1, 0) 817 | Mae 'mhocedi i'n llawn o frithyllod hefyd. |
| (1, 0) 819 | Ia, a mae llythyr Price gen i yn rhywle. |
| (1, 0) 821 | Dyma jail i fi, a'r wyrcws i titha, Dici. |
| (1, 0) 834 | Beth ych chi am wneud? |
| (1, 0) 843 | Ac wedyn? |
| (1, 0) 846 | Dici! |
| (1, 0) 852 | Dyma Jenkins. |
| (1, 0) 854 | Gwnawn, syr, fe ddown ni i'ch hebrwng chi i dy Mr. Lewis Pugh, gyda phleser. |
| (1, 0) 859 | Yn yr afon? |
| (1, 0) 863 | 'Nol het y gwr bonheddig yma o'r dwr. |
| (1, 0) 908 | Bydd ein pethau ni'n ddigon saff, Dici, nes i ni ddod 'nol. |
| (1, 0) 909 | A nawr, f' Arglwydd, fe fydd yr asyn yn y cart mewn wincad; ac yna, f' Arglwydd, fe rown ni lifft i chi dros y bryn i dŷ Mr. Lewis Pugh, f' Arglwydd. |
| (1, 0) 917 | Noswaith dda, Jenkins. |
| (1, 0) 918 | A chymrwch air o gyngor yn garedig gen i; 'rych chi'n un o'r rheiny sy'n codi'n rhy gynnar. |