| (1, 0) 23 | O'r andras! |
| (1, 0) 24 | A oedd yn rhaid i ti ddod i mewn i'r ystafell hon a minnau wedi cael tipyn o lonyddwch am dro? |
| (1, 0) 26 | Nawr y cysgais i a dyna tithau... |
| (1, 0) 28 | E! |
| (1, 0) 29 | Beth ddwedaist ti? |
| (1, 0) 31 | Dwn i ddim am beth yr wyt ti'n siarad. |
| (1, 0) 35 | Geinor, Geinor, rwy'n dymuno arnat... |
| (1, 0) 37 | Celwydd yw'r cwbl, dim ond celwydd. |
| (1, 0) 38 | Pobl y lle yma'n llunio stori fy mod yn yfed oherwydd fy mod yn mynd i Dre-cyll ambell waith. |
| (1, 0) 43 | Geinor, aros, aros ferch. |
| (1, 0) 46 | Ond dwyt ti ddim yn credu'r storïau yma am dy Nwncwl, wyt ti? |
| (1, 0) 48 | Fy ngweld i! |
| (1, 0) 49 | Doeddwn i ddim yn agos i'r lle neithiwr. |
| (1, 0) 55 | Pa amser oedd hyn? |
| (1, 0) 59 | Ond, doeddwn i ddim yno, rwy'n ei ddweud wrthyt. |
| (1, 0) 61 | Wyt ti ddim yn fy nghredu? |
| (1, 0) 66 | Oedd crwt Mari'r Siop gyda thi? |
| (1, 0) 68 | Dyna ddiwedd arni, nawr. |
| (1, 0) 69 | Mae Mari yn sicr o ddweud wrth dy fodryb. |
| (1, 0) 74 | Paid, paid a dychmygu'r fath beth. |
| (1, 0) 77 | Cadw di'r peth yn ddistaw, ac fe gofia i amdanat ti, Geinor. |
| (1, 0) 82 | Mae hi a dy fodryb Jane wedi mynd i weld Ann, Tŷ-gwyn─fe aethant â thipyn o gawl a rhyw lintach o gig iddi. |
| (1, 0) 83 | Fe fyddai'n well gan Ann druan beidio â gweld eu hwynebau, ond y mae'n rhaid iddynt gael meddwl eu bod yn fenywod mawr yn y lle. |
| (1, 0) 85 | Ust. |
| (1, 0) 86 | Ddylet ti ddim galw hynna arno. |
| (1, 0) 87 | Dydy e ddim yn leicio'r enw Ianci. |
| (1, 0) 90 | Mae rhyw fusnes ymlaen ganddo yntau hefyd. |
| (1, 0) 91 | Ddwedodd e'r un gair amdano, ond mae rhyw haearn ganddo yn y tân y pnawn yma. |
| (1, 0) 94 | Ble mae Demetrius? |
| (1, 0) 95 | Ydy e ddim yn y golwg yn rhywle? |
| (1, 0) 96 | Fe dreuliai fe brynhawn yn dy gwmni gyda phleser. |
| (1, 0) 98 | Fe wnait wraig dda i bregethwr, Geinor─Mrs. Demetrius Jones! |
| (1, 0) 100 | Nawr, rwy'n begian arnat, Geinor. |
| (1, 0) 101 | |Rhaid| i ti beidio â |meddwl| amdano. |
| (1, 0) 102 | Mae clustiau gan y muriau. |
| (1, 0) 105 | Dydw i ddim am dy wneud yn wraig pregethwr os nad wyt ti am fod. |
| (1, 0) 109 | Diolch am hynny. |
| (1, 0) 114 | Hei! |
| (1, 0) 116 | Hei! |
| (1, 0) 117 | Fy nrôr i ydy hwnna. |
| (1, 0) 118 | Aros. |
| (1, 0) 120 | Mae'n hercian i dynnu'r allweddau o'i dwylo gan gloi'r drôr ac yna yn codi'r droed sydd heb esgid gan dynnu tintac allan ohoni.} |
| (1, 0) 121 | Pwy ddiawl adawodd hon... |
| (1, 0) 129 | Iaith! |
| (1, 0) 130 | Fe fyddai unrhyw angel yn defnyddio'r un iaith petai e'n rhoi ei droed ar ben tintac. |
| (1, 0) 132 | Beth ydych chi'n peidio ag edrych ar ôl y tŷ yma'n iawn yn lle cario cawl ar hyd y pentre? |
| (1, 0) 133 | Colli tintacs ar hyd yr holl le gynnau! |
| (1, 0) 135 | Peth bach, ddwetsoch chi! |
| (1, 0) 136 | Mae blaen y tintac yna wedi mynd hanner modfedd i mewn i'n nhroed i. |
| (1, 0) 137 | Synnwn i fawr na aeth hi a thipyn o'r hosan i mewn gyda hi a dyna "blood-poisoning." |
| (1, 0) 138 | Ie, peth bach fydd e pan fydd fy nhroed i wedi chwyddo fel casgen. |
| (1, 0) 142 | Dydych chi ddim yn mynd i gael rhoi ïodin arno. |
| (1, 0) 143 | Beth gwell fyddwch chi? |
| (1, 0) 144 | Mae'r drwg hanner modfedd i mewn, a faint o les fydd ïodin ar y croen. |
| (1, 0) 146 | Na chei. |
| (1, 0) 147 | Does arna i ddim o'i eisiau. |
| (1, 0) 158 | Fi! |
| (1, 0) 159 | Fi! |
| (1, 0) 160 | Yn Nhre-cyll! |
| (1, 0) 161 | Ni fuais i'n agos i'r lle. |
| (1, 0) 162 | Mae pwy bynnag a ddwedodd wrthych chi yn dweud celwydd. |
| (1, 0) 163 | Celwydd noeth! |
| (1, 0) 166 | O, gofyn aie! |
| (1, 0) 167 | Wel, beth oedd pwynt y gofyn? |
| (1, 0) 169 | Na welais i ddim ohoni. |
| (1, 0) 170 | Sut gallwn i? |
| (1, 0) 171 | Doeddwn i ddim yno fy hunan. |
| (1, 0) 173 | Oedd. |
| (1, 0) 174 | Yr oedd hi hefyd. |
| (1, 0) 177 | E! |
| (1, 0) 178 | O... y... fe'i gwelais yn cerdded ar hyd y ffordd tua Thre-cyll. |
| (1, 0) 181 | Diwedd ar beth? |
| (1, 0) 184 | Sara, dydw i ddim yn mynd i'ch gadael chi a Jane i wneud i Geinor briodi Demetrius Jones na neb arall os nad yw hi am. |
| (1, 0) 189 | A dydy fy marn i yn cyfri dim? |
| (1, 0) 193 | O! rwy'n ddigon da i helpu, hefyd. |
| (1, 0) 196 | O, oes, y mae ganddi dipyn o olwg ar ei hen Nwncwl. |
| (1, 0) 200 | Ond beth gwell fydda i i ddweud hynny. |
| (1, 0) 201 | Mae'n gwybod yn iawn nad oes gen i ddim hawl ar yr arian. |
| (1, 0) 202 | Mae'r holl bentre yn gwybod. |
| (1, 0) 203 | Fi wedi safio a chrafu i grynhoi arian yn Llundain a chithau wedi mynnu'r hawl iddynt bob dimai. |
| (1, 0) 204 | Rwy'n sport y pentre. |
| (1, 0) 205 | Dallaf i ddim seinio siec fy hunan. |
| (1, 0) 207 | Digon hawdd i chi siarad. |
| (1, 0) 208 | Fi sy'n gorfod dioddef. |
| (1, 0) 209 | Fi sydd heb arian poced. |
| (1, 0) 210 | A'r cwbwl oherwydd i mi gael un anlwc a cholli deucant ar y "Stock Exchange." |
| (1, 0) 212 | Wyddoch chi nad oes gen i'r un geiniog yn fy mhoced nawr. |
| (1, 0) 213 | Dyn yn werth ei filoedd yn gorfod dibynnu ar haelioni ei wraig am arian poced! |
| (1, 0) 215 | Beth yw chweugain? |
| (1, 0) 217 | Hanner coron yr wythnos! |
| (1, 0) 218 | Dyna i gyd rwy'n ei gael. |
| (1, 0) 219 | Ac y mae Pensiwn Hen Bobol yn chweugain! |
| (1, 0) 221 | Pwy safiodd yr arian? |
| (1, 0) 222 | Dwedwch hynny. |
| (1, 0) 223 | Pwy fu'n slafio ac yn meddwl am ddim ond am reteiro am flynydde. |
| (1, 0) 224 | Ac i beth? |
| (1, 0) 225 | I dreio byw ar hanner coron yr wythnos. |
| (1, 0) 229 | Ond feddyliais i erioed bod gen i wraig a fyddai mor annynol â rhoi dim ond hanner coron yr wythnos i mi. |
| (1, 0) 231 | Wna i ddim ohono dan bunt. |
| (1, 0) 233 | Pryd y mae'r codiad i ddechrau? |
| (1, 0) 235 | A beth os na wnaiff hi addo? |
| (1, 0) 247 | E! |
| (1, 0) 248 | Sut gwyddost ti? |
| (1, 0) 250 | Ydy pawb yn y pentre yn gwybod, Geinor? |
| (1, 0) 253 | Haws dweud na gwneud. |
| (1, 0) 254 | Fi wnaeth y cawl, weld di. |
| (1, 0) 256 | Roeddwn ar y pryd yn ofni na wellwn i ddim o'r dwymyn ac ar awr wan fe seiniais y weithred yn rhoi pob hawl ar yr arian i'th fodryb, a dyma fi, hanner coron yr wythnos. |
| (1, 0) 259 | Ond fe elli di wella pethau'n rhwydd. |
| (1, 0) 262 | Dwed di'r gair ac fe fyddi'n Mrs. Demetrius Jones cyn gynted ag y gellir cyhoeddi'r gostegion. |
| (1, 0) 266 | Oni ddwedais i wrthyt ti am beidio â sôn... |
| (1, 0) 268 | Dy les di oedd gen i mewn golwg. |
| (1, 0) 270 | Wel, nac ydw, efallai ond... |
| (1, 0) 272 | Mae yn hen bryd i ti roi heibio'r syniad o fynd i Lundain. |
| (1, 0) 274 | Os ei ymlaen fel hyn, ni fydd gennym yr un pwnc i sôn amdano─bydd yn rhaid i ni fod yn fud yng nghwmni'n gilydd. |
| (1, 0) 279 | Rwy'n gweld na fydda i damaid gwell o siarad â thi. |
| (1, 0) 281 | Rwyt wedi etifeddu penstiffrwydd dy fam ac elfen dy dad am actio. |
| (1, 0) 282 | Ond cofia, welodd e druan erioed mo'i enw mewn llythrennau llachar. |
| (1, 0) 283 | Digon tenau fu eu bywyd hwy a'th un dithau nes i ti ddod i fyw at dy fodryb Jane. |
| (1, 0) 285 | Nage, efallai. |
| (1, 0) 286 | Ond y mae arian yn llawer. |
| (1, 0) 287 | Petait yn gorfod byw ar hanner coron yr wythnos o arian poced... |
| (1, 0) 289 | Rwyt yr un ffunud â'th fam; rwy'n cofio fel petai ddoe am dy fodryb yn pregethu wrthi cyn iddi briodi─roedd y cwbl fel dŵr ar gefn hwyad. |
| (1, 0) 292 | Fe wnâi ond i ti roi hanner cyfle iddo. |
| (1, 0) 300 | Ust, gwrando. |
| (1, 0) 301 | Mae rhywun yn siarad â'th fodryb. |
| (1, 0) 302 | Pwy sydd yna? |
| (1, 0) 307 | Da thi, paid â'i alw wrth yr enw yna. |
| (1, 0) 311 | Roeddent yn dipyn o gyfeillion. |
| (1, 0) 314 | Gwylia di dy gamre. |
| (1, 0) 315 | Nid dyn i chwarae ag ef yw Rhys. |
| (1, 0) 316 | Un gwyllt iawn oedd e cyn mynd i America. |
| (1, 0) 318 | Ddim cymaint efallai, ond ni ellid ei alw yn grwt distaw, diymhongar o bell ffordd. |
| (1, 0) 320 | Wel, roedd e'n eitha cyfeillgar â'i theulu hi pan oedd yn fachgen. |
| (1, 0) 321 | Ac, wrth gwrs, mae dy fodryb yn hoffi cwmni dynion ariannog. |
| (1, 0) 323 | Beth wn i? |
| (1, 0) 324 | Dydw i ddim yn gwybod ei chyfrinachau. |
| (1, 0) 325 | Gofyn iddi─dyma hi'n dod. |
| (1, 0) 352 | Bedyddiwyd ef yn Rhys Rees─yn America yn rhywle y cafodd e afael ar yr enw Carnolyn. |
| (1, 0) 365 | Mae rhyw fusnes neu'i gilydd ymlaen ganddo y pnawn yma. |
| (1, 0) 366 | Fe wrthododd ddweud ble'r oedd yn mynd? |
| (1, 0) 378 | Dwed wrthyf i, Rhys, ydy hi yn arfer yn America i gario morthwyl yn lle ffon wrth gerdded? |
| (1, 0) 383 | Ond beth yw amcan y morthwyl? |