|
|
|
|
(1, 0) 87 |
'Dydw i ddim ond am dy weld di am ddwy funud; rhaid i fi ddal y bus tri i Dreharri. |
(1, 0) 88 |
Ble mae Gwilym? |
|
|
(1, 0) 90 |
'Wyt ti'n meddwl y gallwn i ei weld am bum munud cyn amser y bus? |
|
|
(1, 0) 94 |
'Elli di gadw |secret|? |
(1, 0) 95 |
Fe'th dalaf yn dda ond i ti sgwaro Gwilym drosof. |
|
|
(1, 0) 97 |
Fe wyddost fy mod i wedi entro'r milgi am y |Silver Cup| yn Nhreharri nos yfory? |
|
|
(1, 0) 101 |
Swllt! |
(1, 0) 102 |
Os galla i gael pethau fel rwy' am, fe elli fentro rhoi dy grys arno. |
(1, 0) 103 |
Dyna paham yr wyf am dy help di. |
|
|
(1, 0) 105 |
Mae'r ci yna sydd gan Harri Tycrwn wedi mynd yn gloff. |
(1, 0) 106 |
Nawr, dim ond y ci cythrel yna sydd gan Hopkins sydd arna i ofn. |
(1, 0) 107 |
Rhaid i Gwilym wneud yn siŵr na fydd hwnnw ar ei orau. |
(1, 0) 108 |
Fe ŵyr sut. |
(1, 0) 109 |
Ac yna fe elli di a minnau, a Gwilym o ran hynny, wneud ffortiwn yn olreit. |
|
|
(1, 0) 112 |
Pam lai? |
(1, 0) 113 |
Mae Hopkins yn gwneud hynny'n aml, a Gwilym sy'n edrych ar ôl y cŵn iddo. |
|
|
(1, 0) 118 |
Torri'r gyfraith i gythrel! |
(1, 0) 119 |
Nid dyma'r tro cynta i ti na minnau wneud arian wrth wneud hyn. |
(1, 0) 120 |
Faint o arian sy' gen ti wrth law? |
|
|
(1, 0) 126 |
Hanner coron! |
(1, 0) 127 |
Dyma dy gyfle di, fachgen─cyfle na weli di mo'i debyg eto─fe gei |6 to 1| yn erbyn fy nghi i hyd nes y daw'r hanes allan nad yw ci Harri yn treio. |
(1, 0) 128 |
A mae Harri wedi addo cadw'r peth yn ddistaw. |
(1, 0) 129 |
Mae yntau hefyd am wneud ceiniog. |
(1, 0) 130 |
Fe ddylit roi pum punt o leiaf. |
|
|
(1, 0) 133 |
Dy fusnes di yw hynny. |
(1, 0) 134 |
Os na fydd gen ti swm go lew ar fy nghi i cyn hanner dydd fory, 'rwyt ti'n fwy o blydi ffŵl nag a feddyliais ì erioed. |
|
|
(1, 0) 138 |
'Rwy'n mynd. |
(1, 0) 139 |
Cofia, 'rwy'n dibynnu arnat ti i setlo Gwilym. |
(1, 0) 140 |
Dyna dy siâr di o'r fargen. |
|
|
(1, 0) 142 |
Wrth gwrs y gwnaiff e os gwêl e siawns i wneud arian. |
(1, 0) 143 |
Paid â bod mor ddwl─mae e wedi bod yn glerc i Hopkins am ddigon o amser i ddysgu'r gêm i gyd. |
|
|
(1, 0) 145 |
Mae e'n wahanol i ti. |
(1, 0) 146 |
Y peth sy'n rhyfedd amdanat ti yw bod dy wreiddiau di yn y capel o hyd─yn methu anghofio dy fod wedi dy fagu yn y Band of Hope a'r seiat─a ffat lot o les mae nhw wedi bod i ti. |
(1, 0) 147 |
'Roedden nhw'n ddigon da tra oedd digon o waith yn y lle yma, ond faint o fara a chaws a chwrw gest ti allan ohonyn nhw wedi i ti fynd ar y dôl? |
|
|
(1, 0) 150 |
Nagwyt, mi wn. |
(1, 0) 151 |
Wel, os yw'n well gen ti, gwaria dy arian ar gadw pregethwyr a ffeiradon neu'r bobl yna sydd ar hyd y lle yma yn ceisio gwneud beth mae nhw'n alw'n |Social Service|. |
(1, 0) 152 |
|Social Service|, myn uffern i! |
(1, 0) 153 |
'Dyw'r bobl yna ddim yn gwybod beth yw bod yn |social|. |
(1, 0) 154 |
Mae'n well gen i gadw milgi. |
|
|
(1, 0) 158 |
Dim ond taro i mewn i ddal pen rheswm â Ianto, Mrs. Hughes, a'r ddadl yn mynd dipyn yn boeth─dim byd o'i le, dim byd o'i le, Mrs. Hughes. |
|
|
(1, 0) 161 |
Os dilynith e fy nghyngor i... |
|
|
(1, 0) 177 |
Y clerc yn actio fel |chauffeur|, ai e? |
(1, 0) 178 |
Ond cyn i ti fynd i newid, Gwilym, dere lawr yr hewl gen ì am funud. |
(1, 0) 179 |
'Rwy'n gorfod dal y bus tri, a rwy' am dy weld di. |
|
|
(1, 0) 186 |
Mae'n rhaid i mi dy weld nawr, Gwilym. |
(1, 0) 187 |
'Wnaiff hi ddim o'r tro bore 'fory. |
(1, 0) 188 |
'Fyddi di ddim munud, a 'fyddi di ddim ar dy golled. |
(1, 0) 189 |
Fe all dy feistres aros munud i ti. |