|
|
|
|
17 |
Mae 'r giwed yna wedi bod wrthi eto, Rachel. |
|
|
20 |
Pwy ond y nhw? |
|
|
22 |
Saethu Rofer. |
|
|
26 |
Ifan gadd afael arno—yn tynnu ei anadl ola yn y Waun Fawr. |
27 |
Doedd ganddyn nhw ddim digon o ddynoliaeth i'w orffen yn iawn—fe'i gadawsant i drigo bob yn dipyn. |
28 |
Druan o Rofer! |
|
|
30 |
Roedd Ifan yn meddwl ei fod wedi dilyn cwningen i mewn i gaeau Rhydyfran ac i un ohonynt ei saethu yno. |
31 |
Fe glywodd ergyd yn gynnar yn y prynhawn, medde fe. |
|
|
33 |
Gwybod! |
34 |
Gwn yn iawn, cystal a phetawn i wedi'i gweld nhw wrth yr anfadwaith. |
|
|
36 |
Wnaeth e ddim drwg i neb—ei unig fai oedd mai ein ci ni ydoedd. |
|
|
39 |
Fydd yma ddim anghofio fyth, Rachel, ac fe ddylit ti o bawb wybod hynny. |
|
|
43 |
Tra bo un o'r Morgansiaid yn ffermio dros y clawdd ffin i'r fferm hon, mi wna fy ngorau i wneud iddyn nhw fel y maen nhw wedi gwneud i mi a'm teulu. |
44 |
Ac nid yw Rofer druan, ond un marc arall i'w roi yn y cownt gyferbyn â'u henwau. |
|
|
46 |
Mae'n gymaint i'r plant ag yw e i ti a minnau. |
|
|
48 |
Ni all neb o'r teulu hwn edrych ar wŷr Rhydyfran ond fel gelynion, Rachel. |
49 |
Beth wyt ti'n feddwl a fydd Dafydd yn ei ddweud pan ddaw e adre o'r ysgol yn y man a dim Rofer yn ei gwrdd ym mhen draw'r cae? |
|
|
52 |
Fe fynn gael gwybod. |
53 |
Ac y mae ganddo hawl i gael gwybod. |
54 |
Ei gi ef oedd Rofer. |
|
|
60 |
Wyt ti'n anghofio beth a ddigwyddodd i'w tad? |
|
|
65 |
Dydw i ddim yn gweld bai arnat ti, Rachel. |
66 |
Ond, weld di, dwyt ti ddim wedi dod yn un o'r teulu yma eto ac ni ddoi di fyth, greda i. |
67 |
Ni fuost ti erioed yn teimlo tuag at wŷr Rhydyfran fel yr ydw i ac fel yr oedd Dafydd dy ŵr yn teimlo. |
68 |
A phan ddaethant ar ei draws y noson honno... |
|
|
73 |
Rydw i mor sicr mai un o'r Morgansiaid a ollyngodd ergyd ar ôl yr ebol yr oedd Dafydd yn ei farchogaeth... |
|
|
75 |
Rydw i wedi dweud wrthyt ganwaith, fe saethwyd ergyd ar ôl yr ebol i godi ofn arno ac fe daflodd Dafydd ar ei ben. |
76 |
Dyna beth a ddigwyddodd ac yr wyf mor sicr o hynny ag yr ydw i fod yr haul yn mynd i godi fory. |
77 |
A phan fydda i a thithau wedi mynd, fe fydd Dafydd ac Olwen yn cofio'r hyn a wnaethpwyd i'w tad, a'u plant hwy yn cofio hefyd, a thra bo Morgansiaid yn Rhydyfran, fe fydd rhywun yn gallu pwyntio bys atynt a'u hatgoffa o'r hyn a wnaethant y noson honno. |
|
|
83 |
Rhaid i ti gofio y gofala gwŷr Rhydyfran na chânt fod yn eu hanwybodaeth yn hir. |
84 |
Na, tra bo'r ddau deulu yn ffermio y naill ochr i'r clawdd ffin, y mae mor amhosibl i anghofio'r hyn a fu ac yw hi i'r ci a'r hwch fwyta o'r un cafn. |
|
|
87 |
Symud o Gwmhelyg? |
|
|
91 |
Dwyt ti ddim ddim yn un o'r tylwyth, Rachel, neu ni fuasit yn meddwl am y fath ynfydrwydd. |
92 |
Ymadael â'r lle yma?—fferm fy nhad a 'nhadcu yn unig oherwydd pobl Rhydyfran? |
93 |
A wyt ti'n meddwl y gallwn i ddioddef gorfoledd y gethern yna petawn i'n sôn am symud? |
94 |
A wyt ti am i Dafydd allu dannod i mi pan fydd e'n ugain oed fy mod i'n credu na fyddai'n ddigon o ddyn i wrthsefyll gelyniaeth y Morgansiaid? |
|
|
98 |
Mae gwaed fy mab yng ngwythiennau Dafydd ac ni fuaswn i ddim yn gwneud fy nyletswydd tuag ato petawn i ddim yn dweud wrtho am yr hyn a ddigwyddodd i'w dad. |
|
|
102 |
Rachel fach, ddoi di fyth i deimlo tuag at y tylwyth yna fel yr ydym ni fel teulu yn teimlo ac fel y bydd Dafydd ac Olwen yn teimlo ar ôl cael gwybod y cwbl. |
103 |
A wyt ti'n meddwl y bydd Dafydd yn fodlon colli Rofer? |
|
|
105 |
Mae'n rhaid iddo gael gwybod rywbryd, Rachel. |
|
|
126 |
Naddo, machgen i. |
127 |
Wnaeth Rofer ddim drwg erioed. |
|
|
129 |
Fe ddweda i wrthyt ti maes o law. |
|
|
140 |
Fi! |
141 |
Nage, machgen i, fuaswn i ddim yn debyg o wneud hynny. |
|
|
143 |
Cael ei saethu wnaeth e, Dafydd; Ifan a'i cafodd yn gorwedd yn... |
|
|
149 |
Fe fynn gael gwybod ac y mae ganddo hawl i gael gwybod. |
150 |
Ei gi ef oedd Rofer. |
|
|
157 |
Mae'n rhaid iddo gael gwybod, Rachel. |
|
|
160 |
Mae'r cyfrifoldeb am farwolaeth ei dad arnom ni i gyd. |
|
|
165 |
Shincyn Rhydyfran a'i saethodd e, Dafydd. |
|
|
167 |
Wnaeth e ddim drwg o gwbl. |
|
|
170 |
Fe ddoi di i wybod y rheswm wedi i ti dyfu i fyny, Dafydd. |
|
|
191 |
Dere allan gen i, Dafydd. |