Ciw-restr

Adar o'r Unlliw

Llinellau gan Twm (Cyfanswm: 163)

 
(1, 0) 22 Hylo, Dici!
 
(1, 0) 25 Ydi'r cwrw gen ti?
 
(1, 0) 27 Wel, brysia 'ta, machgen i, brysia!
 
(1, 0) 35 Mae dy "shar" di yn y badell ffrio.
(1, 0) 36 Estyn y cwrw 'na i mi, Dici.
 
(1, 0) 44 Ydw.
 
(1, 0) 46 Mae' nhw wedi 'u clymu wrth fôn y pren helyg ymhen isa'r pwllyn.
 
(1, 0) 50 Ydi.
(1, 0) 51 Dodais hi yn y cart o'r golwg rhag ofn i Jenkins y Cipar neu Powel y Polis ddod heibio.
 
(1, 0) 59 Mae e' wedi 'i rwymo lawr yna wrth y bont.
(1, 0) 60 Galw arno i gael gweld os yw e' yno.
 
(1, 0) 64 Gwrando arno─ar 'ngair i─yn dy ateb di 'nol cystal ag unrhyw Gristion mewn trowsus.
(1, 0) 65 Y ffordd wyt ti'n gallu trafod creaduriaid─wel─mae tu hwnt i mi.
 
(1, 0) 68 "Hold on," Dici bach, cymer bwyll, 'machgen i.
(1, 0) 69 Gad dipyn ar ol yn y badell ffrio, da ti!
 
(1, 0) 72 Ia─rhag ofn.
(1, 0) 73 Ti wyddost yr enw sydd i ni fel potsiars.
(1, 0) 74 Wel, os digwydd i rywun busnesllyd ddod y ffordd hyn, yna fe fydd y badell ffrio ar y tân mewn wincad, {yn dynwared y weithred} a dyma ni, Twm Tincer a Dici Bach Dwl, yn batrwm o ddau dincer teidi yn cael tamad gonest o swper ar fin y ffordd.
 
(1, 0) 78 'D yw 'r hen regen yr yd 'na ddim yn gweld rhyw lawer yn y syniad chwaith, feddyliwn i.
(1, 0) 79 Welaist ti Price pan o't ti nol y cwrw?
 
(1, 0) 83 Ynghylch y samwn, debig.
 
(1, 0) 85 "Castle Hotel, Pontewyn.
(1, 0) 86 Cyfrinachol.
(1, 0) 87 Annwyl Twm Tincer, Gair bach i ddweyd bod popeth wedi ei drefnu ar gyfer y luncheon mae Mr. Venerbey-Jones yn ei roi i'r offeiriadon sy'n dod yma yfory i agor ysgoldy newydd Eglwys Dewi Sant."
 
(1, 0) 89 Venerbey-Jones!
(1, 0) 90 Fe garwn i pe bai'r 'ffeiradon 'na'n rhoi luncheon iddo fe ac yn dechreu drwy arllwys dos dda o wenwyn llygod i lawr corn gwddw'r hen gythraul!
 
(1, 0) 94 "Yma yn y Castle y bydd y wledd a chofia fy mod yn dibynnu arnat ti am y samwn ac y talaf ddeg ceiniog y pound am dano.
(1, 0) 95 Yn gywir, Robert Price."
 
(1, 0) 99 Fe gadwa' i hwn rhag ofn iddo geisio gwadu'r pris.
(1, 0) 100 'Rym ni wedi addo dal samwn iddo fe, Dici, ac fe gaiff un hefyd.
(1, 0) 101 Lawr 'na ym mhwllyn Venerbey-Jones {yn cyfeirio i'r cefn} mae samwns gora'r afon.
(1, 0) 102 Weli di, Dici, mae'r cymylau'n crynhoi.
(1, 0) 103 Ardderchog!
(1, 0) 104 Bydd yn ddigon tywyll i ni gyda hyn.
(1, 0) 105 Mae'r gwynt wedi troi i'r gorllewin.
 
(1, 0) 113 Ia.
(1, 0) 114 Gwelli ni baratoi.
(1, 0) 115 Cladda dy swper, Dici.
 
(1, 0) 120 Oes, fe guddiais i bopeth sydd eisieu tu cefn i'r clawdd 'ma.
 
(1, 0) 122 Pren, clwtyn a pharaffin.
 
(1, 0) 124 A dyma'r dryfer.
 
(1, 0) 128 Beth glywi di?
 
(1, 0) 130 Ble?
 
(1, 0) 134 Fe?
(1, 0) 135 Y mawredd annwyl!
(1, 0) 136 Gad i ni guddio rhain.
 
(1, 0) 138 Dwed wrth yr ast fach am fod yn dawel.
 
(1, 0) 141 Dici bach, 'r wyt ti'n gallu spotio cipar neu blisman filltir o ffordd.
(1, 0) 142 Ble felldith mae'r badell ffrio 'na?
(1, 0) 143 A!
 
(1, 0) 145 Eistedd lawr, Dici, da ti, ac edrych mor ddiniwed ag y galli di.
(1, 0) 146 Maent yn eistedd yn dawel o bob tu'r tân gan ymddangos yn batrwm o ddiniweidrwydd,
 
(1, 0) 150 Wyt, Dici, 'rwyt ti yn llygad dy le.
(1, 0) 151 Fe ddylsa Dafis Ty Isha fod wedi cynnig mwy na chwe cheiniog am gyweirio'r hen fwced 'na.
 
(1, 0) 154 O, Jenkins y Cipar!
(1, 0) 155 Noswaith dda, Jenkins.
 
(1, 0) 162 Ffrio stêc a winwns.
 
(1, 0) 164 Winwns pwy?
(1, 0) 165 Fy winwns i.
(1, 0) 166 Winwns Dici.
(1, 0) 167 Ein winwns ni!
 
(1, 0) 169 Beth ych chi'n feddwl, Jenkins?
(1, 0) 170 Beth ych chi'n awgrymu?
 
(1, 0) 175 Pwy sy ar 'i hen dir e'?
 
(1, 0) 177 Y ffordd fawr yw hon, ontefe?
 
(1, 0) 181 Gall hynny fod.
 
(1, 0) 183 Chi sy'n dweud hynny.
 
(1, 0) 186 Fe wn i beth sy'n bod, Jenkins.
(1, 0) 187 Mae'ch meistr wedi bod yn achwyn nad oes gennych ddigon o blwc i wneud cipar da.
 
(1, 0) 189 O!─rwy' i wedi clywed!
(1, 0) 190 A dyma chi'n awr yn dechre dihuno ac yn dod i boeni dau dincer diwyd a gonest.
 
(1, 0) 194 Sipsiwns?
(1, 0) 195 Sipsiwns ddwedsoch chi?
 
(1, 0) 201 Wnewch chi byth mo hynny, Jenkins; 'rych chi wedi treio'n galed am ugain mlynedd.
 
(1, 0) 204 'Rym ninnau'n bwriadu symud oddiyma pryd y mynnwn ni, Jenkins, a dim eiliad cyn hynny.
 
(1, 0) 206 'Rwy'i bron â chredu mai chi ddylai 'i chychwyn hi, Jenkins, rhag ofn i mi golli gafael ar y badell ffrio 'ma.
 
(1, 0) 208 Diolch i chi am ddim, Jenkins.
(1, 0) 209 Noswaith dda, a melys bo'ch hun.
 
(1, 0) 215 'Rym ni wedi addo samwn i Price─Jenkins neu beidio.
 
(1, 0) 224 O'r gora, fe'i mentrwn hi.
(1, 0) 225 Fe ddo' i â'r taclau mas eto.
 
(1, 0) 236 Dyma'r clwtyn, dyma'r pren a'r paraffin; gwna ffagal.
 
(1, 0) 240 Oes matches gen ti?
 
(1, 0) 243 O'r gora 'ta.
 
(1, 0) 254 Wel, machgen i, gobeithio 'rwy' i na fydd yr un o honom ni yn y jail cyn brecwast bore fory.
 
(1, 0) 256 Dere mlaen.
 
(1, 0) 260 Darro'r bobol 'ma!
(1, 0) 261 Chaiff dyn ddim llonydd i fynd ymlaen a'i waith.
 
(1, 0) 263 Ble mae'r badell ffrio 'na?
 
(1, 0) 265 Pwy sy 'na nawr, Dici?
 
(1, 0) 272 Ciwrat?
 
(1, 0) 274 Ciwrat?
(1, 0) 275 Yr amser hyn o'r nos?
(1, 0) 276 Oes 'na ryw berigl tybed?
(1, 0) 277 Eistedd lawr, Dici bach, a threia edrych fel petae'n ddydd Sul.
 
(1, 0) 290 Noswaith dda.
 
(1, 0) 294 Tŷ Mr. Owen Matthews ych chi'n feddwl?
 
(1, 0) 297 Pugh?
(1, 0) 298 Ond mae fe'n byw yn y cwm arall.
 
(1, 0) 311 Ond oedd 'na neb yn cwrdd â chi, syr?
 
(1, 0) 318 Eisteddwch chi, syr, a chroeso.
 
(1, 0) 333 Wedi cerdded am ddwy awr a'r bag mawr trwm 'na?
 
(1, 0) 335 Dici, rhaid iddo gael beth sy' ar ol o'r stêc a'r winwns 'na.
 
(1, 0) 340 Peidiwch a son, syr.
(1, 0) 341 'Rym ni wedi cymryd ein swper ni.
(1, 0) 342 Estyn y plat 'na, Dici.
 
(1, 0) 356 Yh─Dici─
 
(1, 0) 371 Wel, Twm Tincer mae' nhw 'ngalw i.
 
(1, 0) 377 Fyswn i ddim yn dweyd wrth bawb, tawn i'n eich lle chi, syr.
 
(1, 0) 383 Ynh─hym─
 
(1, 0) 386 I fod yn onest â chi, falle dylswn i ddweyd un peth wrthoch chi, syr.
(1, 0) 387 Wnaiff hi ddim lles ichi, a chitha'n 'ffeirad, i neb eich gweld chi'n eistedd yma fel hyn gyda fi a Dici.
 
(1, 0) 464 Ciwrat neu beidio, syr, wnaiff hi mo'r tro i chi wrando gormod ar Dici Bach Dwl.
(1, 0) 465 Ar brydiau fe allai wneud eitha gang o botsiars o'r Deuddeg Apostol 'u hunain.
 
(1, 0) 474 Dici, Dici!
 
(1, 0) 545 Ond fe fu bron â'ch cael chi, syr.
 
(1, 0) 553 Bachden digon teidi yw Dici, syr, ond wrth gwrs mae'n rhaid cyfaddef bod na dipyn bach o wendid yn 'i ben e'.
 
(1, 0) 558 Mae ofn yn 'i galon y caiff e' 'i ddal un o'r nosweithiau 'ma.
(1, 0) 559 Mae' nhw'n son am 'i ddodi e' yn y wyrcws.
 
(1, 0) 561 Wrth gwrs, syr, ar ol yr hyn mae fe wedi ddweyd wrthoch chi heno, 'r ych chi'n gwybod digon i'n dodi ni yn llaw'r polis.
 
(1, 0) 573 'Dwyt ti ddim yn deall, Dici?
(1, 0) 574 Mae'r gwr bonheddig yn yr Eglwys.
(1, 0) 575 Der' a nhw i fi, Dici.
(1, 0) 576 Fe wna' i o'r gora â nhw.
 
(1, 0) 586 Ficer, falle?
 
(1, 0) 593 Wel, ar fy─
 
(1, 0) 597 Ond all Esgob ddim crwydro'r ffyrdd gefn nos fel dafad ar goll.
(1, 0) 598 Pam na ewch chi i aros gyda Mr. Venerbey-Jones, syr?
(1, 0) 599 Fe yw'r gwr mawr ffordd hyn.
 
(1, 0) 604 O, peidiwch a son.
(1, 0) 605 Cymrwch yr ail dro ar ol i chi groesi'r bont lawr fanna.
 
(1, 0) 620 Nage.
(1, 0) 621 Mae' nhw'n dweyd hynny am faer cyffredin.
 
(1, 0) 623 Beth?
 
(1, 0) 625 'Dyw hynny ddim yn ffol, wir, Dici.
 
(1, 0) 629 Ie, dyma'r ffagal.
 
(1, 0) 631 Beth yw'r swn 'na?
 
(1, 0) 634 'Rwy'n gobeithio nad yw'r hen foi ddim wedi cwympo i'r afon.
(1, 0) 635 Nawr te, Dici.
 
(1, 0) 642 Gan bwyll, boi bach, gan bwyll!
(1, 0) 643 Dere mlaen.
 
(1, 0) 788 Darro!
 
(1, 0) 799 Wel?
 
(1, 0) 801 Jenkins?
 
(1, 0) 806 Mae rhywun tu cefn i mi hefyd, Dici─mae' nhw wedi cauad o'n cwmpas ni.
 
(1, 0) 809 Na, paid.
(1, 0) 810 Falle nag yn' nhw ddim wedi ei weld e' eto.
 
(1, 0) 812 Wn i ddim.
 
(1, 0) 816 Diawch, Dici.
(1, 0) 817 Mae 'mhocedi i'n llawn o frithyllod hefyd.
 
(1, 0) 819 Ia, a mae llythyr Price gen i yn rhywle.
 
(1, 0) 821 Dyma jail i fi, a'r wyrcws i titha, Dici.
 
(1, 0) 834 Beth ych chi am wneud?
 
(1, 0) 843 Ac wedyn?
 
(1, 0) 846 Dici!
 
(1, 0) 852 Dyma Jenkins.
 
(1, 0) 854 Gwnawn, syr, fe ddown ni i'ch hebrwng chi i dy Mr. Lewis Pugh, gyda phleser.
 
(1, 0) 859 Yn yr afon?
 
(1, 0) 863 'Nol het y gwr bonheddig yma o'r dwr.
 
(1, 0) 908 Bydd ein pethau ni'n ddigon saff, Dici, nes i ni ddod 'nol.
(1, 0) 909 A nawr, f' Arglwydd, fe fydd yr asyn yn y cart mewn wincad; ac yna, f' Arglwydd, fe rown ni lifft i chi dros y bryn i dŷ Mr. Lewis Pugh, f' Arglwydd.
 
(1, 0) 917 Noswaith dda, Jenkins.
(1, 0) 918 A chymrwch air o gyngor yn garedig gen i; 'rych chi'n un o'r rheiny sy'n codi'n rhy gynnar.