Ciw-restr

Adra

Llinellau gan Arwel (Cyfanswm: 223)

 
(1, 0) 60 Ffyc mi am dywydd.
(1, 0) 61 O, sori, o'n i'n meddwl na fi o'dd y cynta yma.
(1, 0) 62 Arwel dwi.
 
(1, 0) 65 Da chi'n iawn gobeithio?
(1, 0) 66 Wel, cystal a medar rhywun fod ia?
 
(1, 0) 68 Criw da doedd?
 
(1, 0) 70 Cystal teyrnged â'r un doedd.
 
(1, 0) 74 Ia, diolch.
(1, 0) 75 Fyddai'm yn un am sgwennu ond chwara teg, o'n i'n ffrindia gora... o'dd a ni'n ffrindia ers ysgol feithrin.
 
(1, 0) 78 Ia, rhen Ted.
(1, 0) 79 Mae o dal gen i, y tedi.
(1, 0) 80 Fyddai'm yn cysgu efo fo, sa hynny'n od basa, ond mae o gen i o hyd.
 
(1, 0) 82 Mewn cwpwrdd lly, sentimental de, gin pawb gwpwrdd felly does.
(1, 0) 83 Ella basia'i o'n mlaen.
(1, 0) 84 Y tedi.
(1, 0) 85 Dwi'n deud tedi lot braidd.
(1, 0) 86 Sori.
 
(1, 0) 88 Heblaw am 'i fam, ia, ella.
(1, 0) 89 Gollodd o'i dad, ond da chi'n gwbod hynny masiwr...
(1, 0) 90 Hen dlawd, oddi'n ffwc o sioc.
 
(1, 0) 92 I bawb deud gwir.
(1, 0) 93 Ta waeth, ma' 'na fwy ar y ffordd.
(1, 0) 94 Mai'n oer 'ma braidd, rhoswch funud.
 
(1, 0) 96 Ffyc it, tri bar am danni.
 
(1, 0) 99 Naddo?
(1, 0) 100 Da 'di letrig ffeiar.
 
(1, 0) 103 Yws.
 
(1, 0) 105 Welish i gip arnti'n capal ond ches i'm cyfla...
 
(1, 0) 107 Eitha de.
(1, 0) 108 Sori, dwi'm yn nabod, y...
 
(1, 0) 110 A dachi'n...?
 
(1, 0) 117 Ac Arwel dwi, dwi'n meddwl fod pawb yma yndi?
 
(1, 0) 119 Mewn ffordd.
(1, 0) 120 Hon ydi'r wêc.
(1, 0) 121 Yn ôl be dwi'n ddallt does 'na neb arall.
 
(1, 0) 123 A'r syniad ydi aros drw nos heno, ma' hon yma, ma' 'na fwy o stwff hefyd yn y ffrij.
 
(1, 0) 129 Ia.
 
(1, 0) 139 Dwi'n gwbod fod o'n fyr rybudd, ac yn niwsans mewn ffordd, ond ffycin niwsans ydi'r busnas ma o un pen iddo fo i'r llall.
(1, 0) 140 N'de?
(1, 0) 141 Tasa ni'n onast lly.
(1, 0) 142 Siŵr dduw fod na'm rhaid chi aros, ond do's na'm llawar ohona ni yma fel ma'i a peth lleia fedra i neud beth bynnag ydi ista 'ma heno am sbel.
 
(1, 0) 144 Mi sgwennodd o betha i lawr.
(1, 0) 145 Ddim byd swyddogol, ond mi oedd 'na damad o bapur a rhyw fanion erill.
 
(1, 0) 147 Oedd, ni'n benodol.
(1, 0) 148 Ond chi bia deud.
 
(1, 0) 183 Dyma ni lwch, helpa dy hun Sbic.
(1, 0) 184 A chitha fyd.
 
(1, 0) 188 O'n, rhyw fardd ne wbath ia?
(1, 0) 189 Fydda fo'n sôn weithia, dwi'm yn dallt rhyw betha fel'na.
(1, 0) 190 Hold on rwan, rosa ni i Aaron ia?
 
(1, 0) 194 Ffeif and dreif ydi hi pen yma.
(1, 0) 195 Ond chwara teg i chdi.
(1, 0) 196 Ma' 'na sgwash yma'n rwla os leci di.
 
(1, 0) 200 Think, don't drink and drive.
 
(1, 0) 202 Hawdd gweld sut es di'n ffrindia efo fo.
(1, 0) 203 Dwi'n dallt dim am betha fel'na.
 
(1, 0) 210 Da iawn, reit.
 
(1, 0) 213 Er cof dwi'n meddwl.
 
(1, 0) 221 M.
 
(1, 0) 225 Ia, o'dd o'n meddwl am betha ac yn deud rhyw betha doedd.
(1, 0) 226 Yn wahanol lly, ac yn cîn yn r'ysgol de.
 
(1, 0) 228 Odda chi'm yn weld o'n, wel, yn wahanol lly?
 
(1, 0) 235 Ddudish i od?
 
(1, 0) 237 Ddim bod o'n od, jesd, do'dd o'm yr un fath.
 
(1, 0) 239 Nace!
(1, 0) 240 Ma' od, wel, ma od yn deud mwy na gwahanol di.
 
(1, 0) 243 Ffyc sêc.
 
(1, 0) 246 Thalith hi ddim i siarad fel'ma.
(1, 0) 247 Cradur.
 
(1, 0) 251 Ia, wel.
 
(1, 0) 262 Na.
(1, 0) 263 Na, ma'n iawn i chdi holi, oni'n cymryd fod pawb yn gwbod ne ddim isio gwbod.
 
(1, 0) 266 Megan?
 
(1, 0) 268 Reit, wel.
(1, 0) 269 Y, ia.
(1, 0) 270 Crogi.
(1, 0) 271 Crogi nath o.
 
(1, 0) 278 Dwi'm yn dallt bob dim cofiwch, jesd digwydd bod o'n i o gwmpas.
(1, 0) 279 Dwi'm yn byw yn bell a mi a'th y ffôn, rhif tŷ fama o'dd o ac o'n i'n gweld hynny'n od braidd achos os bydda fo'n cysylltu ar me enger ne wbath fydda fo.
(1, 0) 280 Ond i fam o o'dd yno, o'dd i mewn bach o stad deud gwir.
(1, 0) 281 Oni'n methu dallt hi'n siarad.
(1, 0) 282 A dwnim os na achos bo hi'n crio ac yn gweiddi o'dd hynny ta jesd achos na fi o'dd o.
(1, 0) 283 Oni'n gwbod be o'dd.
 
(1, 0) 287 Ac eniwe, nes i frysio yma, ac oddi dal ar y ffôn yn sgrechian sgrechian ac o'n i'n deud wrthi hi am ffonio'r pôlîs, ffoniwch am ambiwlans medda fi ond fedra hi neud un dim ond gweiddi a fedrwn i neud dim ond gwrando arni hi.
 
(1, 0) 290 Dwi 'di dechra wan.
(1, 0) 291 A dyma fi i'r iard a fano oedd hi yn dal y ffôn yn sbio arno fo.
 
(1, 0) 296 Ia, yn hongian o'r distyn yn fan'o, a rhaff sa ti'n ddeud, rhaff go iawn lly am i wddw fo, ddim un blastig na'm byd felly.
(1, 0) 297 Dwn i'm lle ffwc gath o honno.
(1, 0) 298 O'dd 'na fwcad ar i hochor.
(1, 0) 299 Ffycinhel fedrai weld o rŵan.
(1, 0) 300 Bwcad o dan i draed o.
(1, 0) 301 Rhaff am ei wddw fo, dwi'n gwbod bod hynna'n amlwg lly ond...
(1, 0) 302 O'dd 'na olwg arno fo de, oddi wynab o'n ddu fel tasa fo di ca'l stîd.
(1, 0) 303 O'dd o di bod yno ers sbel medda nhw wedyn.
(1, 0) 304 Nes i dorri fo lawr a llacio'r rhaff a trio'r pethma, y CPR, ond dwi ond di weld o ar teledu ac oddi wynab o'n ddu ac o'dd o di chwdu a...
 
(1, 0) 308 Ddoth 'na ambiwlans, dwni'm pwy o'dd 'di gofyn am dani os na fi ta... a mi drio nhw ond o'dd o'n oer.
(1, 0) 309 O'dd o'n ffycin oer.
 
(1, 0) 315 Odda ti'n gwbod hanas ei dad o Sbic.
 
(1, 0) 317 Odda chdi'n gwbod nad o'dd o'n iawn fyd.
(1, 0) 318 Sut fedra ti beidio.
 
(1, 0) 329 Ac o'n inna o fewn hannar milltir iddo fo.
 
(1, 0) 332 Mai'n anodd iawn peidio.
 
(1, 0) 335 Ma' 'na soffa, ma' 'na gadeiria, carpad faint fynnir.
 
(1, 0) 338 Do's na'r un o'r rheiny yma, dwi'n farman shit sori.
 
(1, 0) 340 Rhaid ti frysio, ma' siop Magi Ann yn cau am ddeg.
 
(1, 0) 344 Be?
 
(1, 0) 347 Wel dyna o'dd i henw hi, cyn i Magi Ann farw.
 
(1, 0) 349 A ma'n bwysig cadw'r petha ma.
 
(1, 0) 351 Sut wydda ti?
 
(1, 0) 358 Ei di yno'r un fath.
 
(1, 0) 362 O gei di bitsa, a cebab, a ffycin, y, pethma... /
 
(1, 0) 364 /Reis crispies, ffyc off, calzone.
(1, 0) 365 Dyna o'dd gen i.
 
(1, 0) 367 Nace.
 
(1, 0) 369 Wel dio'm yn bitsa felly nacdi.
(1, 0) 370 Eniwe, ma' 'na ddewis, dyna o'dd gen i.
(1, 0) 371 A ma'nwn gneud, y, ffish a chips r'un fath.
 
(1, 0) 373 Sbic, welish i'r ffycin bobol yn cario'r ffreiars o siop Rich bach i'r lle cebabs dros ffordd a saff ti na'r un ffycin saim dio.
 
(1, 0) 375 Garantîd.
 
(1, 0) 380 Gwranda/
 
(1, 0) 382 Sut wyddost ti?
 
(1, 0) 385 Ma'n ddigon agos.
 
(1, 0) 388 Wel yndi!
(1, 0) 389 Ma'n iawn.
 
(1, 0) 391 O pam Sbic?
 
(1, 0) 396 Hold on rŵan.
 
(1, 0) 398 Nacdw, jesd/
 
(1, 0) 400 Na!
(1, 0) 401 Chei di'm deud petha fel'na Sbic.
 
(1, 0) 407 Dodd o'm yn meddwl dim byd wrth ddeud/
 
(1, 0) 414 A'i ar ei ôl o.
 
(1, 0) 470 Ma' gin Ywain wbath i ddeud.
 
(1, 0) 481 Oce Yws, 'na chdi, siŵr fod yr awyr fymryn sgafnach rŵan ac y bydd petha'n iawn.
 
(1, 0) 486 /Wel di'm yn gystadleuaeth nacdi/
 
(1, 0) 494 Yws/
 
(1, 0) 506 Ma' pobol yn newid.
 
(1, 0) 525 Yws, callia.
 
(1, 0) 533 Be am i ni drio ca'l rhyw chenj bach?
 
(1, 0) 537 Syniad da.
 
(1, 0) 548 Sa ddigon o gowntars a ballu?
 
(1, 0) 553 Collwr gwael.
 
(1, 0) 555 O, iesu do, a gweiddi.
 
(1, 0) 559 Dwnim.
(1, 0) 560 Cain ella?
 
(1, 0) 568 Felly weli di hi'n amal iawn {yn ysgwyd y deis} a dyma fina lawr efo chdi.
 
(1, 0) 573 Fel'na ma'i gneud hi!
 
(1, 0) 581 Ma' hon fatha'r un am y Ryshians na sgin ti.
 
(1, 0) 583 Deud ti, Yws, dwi'm yn chofio hi'n ddigon da.
 
(1, 0) 585 Na, nawn ni ddim.
 
(1, 0) 592 Yr unig beth dwi'n ddeud ydi sa rhywun yn deud fod na fwnci yn dy dŷ di a sa ti'n mynd i parlwr a gweld chimp yna fasa ti'm yn synnu.
 
(1, 0) 597 Achos bo nhw'n cerddad ar lawr yn ôl Iolo Williams yn fama.
 
(1, 0) 602 /ffoc mi/
 
(1, 0) 615 Ia, oce, ella bo chi'n coelio honna ond no wê bo nhw yn rhoi llai o'r stwff melyn yn ganol crîm egs bob blwyddyn.
 
(1, 0) 617 Sa pobol yn sylwi!
 
(1, 0) 621 Diolch!
 
(1, 0) 627 O'dd o'n joio'i hun yna doedd, siŵr fod gen ti straeon Lisa.
 
(1, 0) 630 Dyddia gora dy fywyd di medda nhw.
 
(1, 0) 637 Do?
 
(1, 0) 655 O'dd o'n un cyndyn i sgwrsio'n iawn.
 
(1, 0) 696 Fyny grisia, ail ar y dde, paid a cloi chos ma'r drws yn mynd yn sdyc.
 
(1, 0) 699 Deud hanas wrtha fi am dano fo.
 
(1, 0) 701 Plîs.
 
(1, 0) 705 Sut odda chdi'n nabod o ta?
 
(1, 0) 708 O.
(1, 0) 709 Peint yn ddrud yno medda fo 'tha ni.
 
(1, 0) 713 Reffryns o'dd o, paid â phoeni.
 
(1, 0) 726 Lot yn fa'ma r'un fath.
(1, 0) 727 Diawl mi o'n i.
 
(1, 0) 729 Ai, jesd ddim 'di gneud lot rioed os ti'n dallt be sgin i.
(1, 0) 730 Methu cychwyn arni ne o'dd wbath yn teimlo'n chwithig, dwnim.
(1, 0) 731 Dwi efo rhywun wan lly, a ma'n grêt.
(1, 0) 732 Jesd oni'n poeni weithia.
 
(1, 0) 734 Ia, fedrai'm deud pam, o'dd pawb arall doedd efo rhywun lly.
(1, 0) 735 Pwysa ella?
(1, 0) 736 Ond nace chwaith.
(1, 0) 737 O'dd 'na rhywun yn byw wrth ymyl ni stalwm, ben 'i hyn.
(1, 0) 738 Hen lanc, fydda fo'n dod heibio nain bob hyn a hyn, jesd i weld rhywun am wn i, ac o'dd o wastad bach yn od wsti.
(1, 0) 739 Fydda ni'n mynd draw efo bagia Kwics gwag yn yr haf i hel eirin i'w ardd o.
(1, 0) 740 Welist ti rioed le taclusach, Saeson sy 'na rŵan a mai'n gwilydd i weld.
(1, 0) 741 Fydda ni'n hel yr eirin 'ma, a rhei ohonyn nhw mor barod i'w byta nes bo nhw'n bystio wrth i chdi dwtsiad nhw, fydda ni'n cal llond bag bob un mond fod y dyn ma'n ca'l pot ne ddau o jam.
(1, 0) 742 O'n i fymryn o ofn y boi ma, un tro o'n i'n chwara mewn rhyw hen doman dywod, o'dd dad di prynu tywod i neud sment ond 'di adal o a'i lond o o gachu cath erbyn diwadd.
(1, 0) 743 Ta waeth o'n i'n chwara yn y tywod 'ma, ac o'dd y dyn 'ma, Robat odd i enw fo, yn siarad efo dad wrth ymyl.
(1, 0) 744 A dyma fo draw a llenwi'n welingtons i efo'r tywod 'ma a chwerthin, o'n i'n gwisgo nhw gyda llaw.
(1, 0) 745 A chwerthin o'dd o.
(1, 0) 746 Fatha fod o'r peth fwya hileriys ac o'n i ofn am mywyd.
(1, 0) 747 Dwi di anghofio'n mhoint wan.
 
(1, 0) 749 O nace, y point o'dd, bod y boi ma 'di arfar ei hun gymaint nes fod o 'di mynd yn ormod o fo'i hun, tha sa fo'n jam 'di berwi gormod lly.
(1, 0) 750 Dwi'm isio bod fel'na sti.
 
(1, 0) 752 Ond da ni'n hapus, ma hi'n gneud y peth athrawon 'ma wan.
(1, 0) 753 Da ni'n meddwl ca'l tŷ, ne oleia llun o un i roi ar wal wrth i ni safio pres am yr ugian mlynadd nesa.
 
(1, 0) 755 Sian.
 
(1, 0) 757 Siani Flewog dwi'n galw hi achos, wel, hy.
 
(1, 0) 759 Sori, dwi'n gwbod bo ni'n deud rhyw betha sydd ddim yn iawn.
(1, 0) 760 Tynnu ar ein gilydd yda ni, dio'm yn gas sti.
 
(1, 0) 762 Fel'na ma'i.
(1, 0) 763 Rhan o'r hwyl am wn i.
 
(1, 0) 768 Odda chi'n agos lly?
 
(1, 0) 771 O, wel, naddo.
(1, 0) 772 Doni'm yn... ond iawn de, chwara teg.
 
(1, 0) 774 Biti fod o heb sôn deud gwir.
 
(1, 0) 776 Y?
 
(1, 0) 781 'Di hynna'm yn deg.
 
(1, 0) 783 Iawn oce, ma na lot o betha gwirion yn cal 'u deud ond no wê, no wê na jesd 'pobol pen yma' be bynnag ffwc ydi hynny sydd wrthi.
(1, 0) 784 Ma' 'na bobol yn bob man, a ma' 'na lot mwy sydd yn dal i feddwl y petha ma'i gyd mond bo nhw di dysgu peidio'u deud nhw, ne dysgu sut ma'i ddeud o mewn ffordd sy'n dal yn iawn.
(1, 0) 785 Jesd, paid a'n meirniadu fi plîs.
(1, 0) 786 Gawn ni drafod a ma hynny'n iawn, ond dwi'm isio ffraeo.
(1, 0) 787 Yr unig wahaniath rhyngtha chdi a Yws yn fana ydi cyfla, a lwc mul bo chdi di cal mynd i rwla i ddysgu sut ma' bihafio.
(1, 0) 788 A dwi'n gwbod fod o'n nob sy'n deud petha gwirion ond mae o'n foi iawn hefyd a ma posib bod y ddau beth.
 
(1, 0) 790 Sori, dwi'n teimlo mod i 'di pregethu.
 
(1, 0) 795 Dwn i'm.
(1, 0) 796 Dwi'n meddwl hynna lot fy hun.
 
(1, 0) 799 Yndi tad.
 
(1, 0) 877 Ma na weatherspoons yn dre, ne os ddowch chi acw na'i wbath i chi.
 
(1, 0) 879 Deffra twat!
 
(1, 0) 884 Y?
 
(1, 0) 888 Dwni'm os dio werth...
 
(1, 0) 890 Doddna'm llythyr, na esboniad, heblaw am betha o'dd o'n sgwennu eniwe.
(1, 0) 891 O'dd ei fam o'n confinsd fod rheiny'n wbath ond dodda nhw ddim, jesd sgwennu, ond fod 'na wreiddia go iawn iddo fo.
(1, 0) 892 Ond gafo ni betha'n ôl, ei ddillad o a ballu.
(1, 0) 893 Ac yn bocad ei drwsus o, rhoswch mae o gen i yn fy walat, dwnim pam, jesd, odd isio fo fod yn rwla saff.
 
(1, 0) 895 Dyma ni.
 
(1, 0) 899 Enwa a rhifa ffôn y pump ohona ni.
(1, 0) 900 Ma'raid fod o di meddwl... ond ddath na'm byd o hynny.