Ciw-restr

Adra

Llinellau gan Lisa (Cyfanswm: 143)

 
(1, 0) 19 Ia?
 
(1, 0) 22 Hei.
 
(1, 0) 25 Pobol.
 
(1, 0) 27 Pobol, gormod ohonyn nhw.
(1, 0) 28 Dwi'm yn, y, rhy hoff o bobol.
 
(1, 0) 30 Ia.
 
(1, 0) 32 Ddim yn bad de, prysur...
(1, 0) 33 Chditha?
 
(1, 0) 37 Ddois di fyny'n iawn?
 
(1, 0) 41 Na, chwara teg, doni'm isio tarfu ar dy blania di.
 
(1, 0) 44 Do.
 
(1, 0) 46 Be?
 
(1, 0) 48 Mi o'dd o'n ifanc, ma' pawb yn meddwl fod nhw'n nabod rhywun ifanc ddigon da i fynd i g'nebrwng.
 
(1, 0) 51 Ia, o'dd 'na olwg wrth eu bodda arnyn nhw doedd.
 
(1, 0) 53 Wn i.
 
(1, 0) 56 Ia.
 
(1, 0) 63 Lisa.
 
(1, 0) 73 O'dd dy un di yn un dda... Arwel?
 
(1, 0) 87 Chdi o'dd yn nabod o hira masiwr.
 
(1, 0) 115 Lisa.
 
(1, 0) 118 O'dd 'na restr?
 
(1, 0) 128 A fi, gwylnos de.
 
(1, 0) 131 Fydda pobol yn ista efo cyrff 'stalwm, drwy nos ar ôl iddyn nhw farw.
 
(1, 0) 133 Cofn i'r diafol fynd â nhw, ne rhag ofn bo nhw'n fyw.
 
(1, 0) 135 Nain o'dd yn sôn, ac am olchi'r corff a ballu, a sut bydda nhw'n gneud sŵn weithia.
(1, 0) 136 Hyd yn oed y meirw ddim yn ddistaw medda hi.
 
(1, 0) 138 Neith corff ddim byd i chdi.
 
(1, 0) 149 Dwi'n gêm.
 
(1, 0) 164 Sori?
 
(1, 0) 166 O ia, yr un fflat flwyddyn gynta, a'r un cwrs.
 
(1, 0) 168 Chditha?
 
(1, 0) 180 Doni'm yn gwbod, be o'dd y pwnc?
 
(1, 0) 201 Honna'n gynghanedd.
 
(1, 0) 205 Posh/
 
(1, 0) 216 Be nawn ni wan?
 
(1, 0) 223 Deud ti 'tha ni.
 
(1, 0) 229 Ddim rili.
 
(1, 0) 234 Doni'm yn weld o'n od fatha chi.
 
(1, 0) 236 Ddim yn uchal, naddo.
 
(1, 0) 238 So od di hynna de.
 
(1, 0) 253 Sut...
(1, 0) 254 Sut nath o?
 
(1, 0) 256 Sut ddigwyddodd o?
 
(1, 0) 259 Pam, dwi'n ddigwilydd am mod i isio gwbod sut nath ffrind i mi ladd ei hun yndw?
 
(1, 0) 261 Sori.
 
(1, 0) 264 Wel, dwisio.
 
(1, 0) 289 Dosna'm rhaid i chdi os ti'm isio.
 
(1, 0) 321 Yrrodd o negas i fi, dridia cyn iddo fo...
 
(1, 0) 325 Dwnim, ddim byd mawr... jesd holi sut o'dd petha'n mynd.
(1, 0) 326 Be o'n i'n neud a ballu.
(1, 0) 327 Tywydd, dwni'm.
(1, 0) 328 Nathom ni'm siarad llawar.
 
(1, 0) 330 O'dd o isio help dachi'n feddwl?
 
(1, 0) 345 Siop Magi Ann, ma' fatha bochi'n byw mewn rhyw raglan S4C shit ne Midsummer Murders ne wbath.
(1, 0) 346 Magi Ann.
 
(1, 0) 368 Ia, pitsa di blygu tha pasti.
 
(1, 0) 394 Be?
 
(1, 0) 399 /ti'n ei amddiffyn o!
 
(1, 0) 403 Achos ma'n ffycin hiliol!
 
(1, 0) 405 Wyt os ti'n iwsio geiria felna!
 
(1, 0) 408 /So be, jesd am laff ti'n deud petha felna ia?/
 
(1, 0) 417 Fedrai'm coelio fod pobol fel'na'n bodoli.
(1, 0) 418 Be o'dd o'n weld yn rheinia duda?
 
(1, 0) 422 Be sgin ti griw fel'ma yn y pentra chwaral na nes di adael?
 
(1, 0) 425 Be?
 
(1, 0) 429 Naddo.
 
(1, 0) 435 Sa well taswn i heb aros.
 
(1, 0) 439 Dos i halio Aaron.
 
(1, 0) 442 Jesd ma'n anodd, am lot o resyma, a 'di stwff fel'na ddim yn helpu.
 
(1, 0) 445 Yr un gwreiddiol, nid fersiwn Nic Cage gobeithio.
 
(1, 0) 450 Rhaid ni gal noson ffilms shit eto.
 
(1, 0) 456 O'n i'n golchi'n nannadd bora ddoe a nath o jesd dod o nunlla.
(1, 0) 457 O'n i'n llanast.
(1, 0) 458 Gweld fi'n hun yn y drych o'dd o dwi'n meddwl.
(1, 0) 459 Dyna nath y drwg.
 
(1, 0) 463 Soniodd o am y goedan?
 
(1, 0) 465 O'dd ganddo fo rhyw goedan yn cefn medda fo lle o'dd o'n gallu gweld y môr, mi alla ni drio ffendio hi.
 
(1, 0) 476 Do.
 
(1, 0) 509 'Di hynna'm yn deg.
 
(1, 0) 532 Ma'n oce.
 
(1, 0) 535 Fysa'm yn well i ni drio chwara gêm ne wbath?
 
(1, 0) 538 Be gawn ni 'di peth?
 
(1, 0) 544 Snakes and ladders.
 
(1, 0) 549 Dria ni.
 
(1, 0) 551 Fydda'n gas ganddo fo fonopoli bydda.
 
(1, 0) 567 Shit, neidar eto.
 
(1, 0) 582 Be 'di honno?
 
(1, 0) 588 /biti na fasa na rhyw enw fwy bachog i hynna de/
 
(1, 0) 593 Wel swni'n synnu i weld ffycin epa de.
 
(1, 0) 612 Ia, a fi, odd Chernobyl yn hysh hysh am fisoedd doedd.
 
(1, 0) 624 Chi be, fedrai weld pam fod o'n joio dod adra cymaint, dwi'm 'di gweld neb cystal am falu cachu, ddim hyd yn oed fo.
 
(1, 0) 628 Oes, fedrai'm cofio, dim fel'na chwaith, rhyfadd.
 
(1, 0) 631 Dodda nhw ddim, ddim bob tro.
 
(1, 0) 634 /mi driodd o o'r blaen.
 
(1, 0) 636 I neud hyn, mi driodd o o'r blaen, o'n i yna.
 
(1, 0) 640 O'dd o cyn i chdi ddod ar y sin.
(1, 0) 641 Flwyddyn gynta odda ni, odda ni'n blant o hyd ne'n bobol ifanc be bynnag ffwc o'dd hynny.
(1, 0) 642 Dodd yn hannar ni ddim yn gwbod pwy, ne be odda ni, ond mi oedd o.
(1, 0) 643 Dwi'n meddwl fod o di ca'l ei eni yn gwbod be'n union oedd o a be o'dd am ddigwydd iddo fo.
(1, 0) 644 Diawl o beth 'di nabod chdi dy hun, ddigon a dy ddychryn di.
(1, 0) 645 R'adag honno oedd bob dim yn newydd, a chyfla i fod yn pwy bynnag odda chdisio a rhyddid ond mi oedd 'na ochor arall hefyd.
(1, 0) 646 Y gwaith, y stre, y ffraeo sdiwpid rhwng criwia a'r pwysa i fod yn rwbath, i fwynhau, i fynd allan, i fynd yn ffycd.
(1, 0) 647 Dodd hynna'm yn siwtio pawb ac yn washing mashîn y strydoedd lliw chwd na mi gafodd y ddau ohona ni'n taflu at ein gilydd, dwy hosan o'dd ddim yn matsio.
(1, 0) 648 Iawn de.
(1, 0) 649 Oddi'n braf gallu deud na wrth griw y drydedd pan odda nhw'n coinio dy beint di yn gwbod fod na oleia un person arall fasa'm yn meddwl bo chdi'n jibar.
(1, 0) 650 Felly ddaetho'n ni'n ffrindia.
 
(1, 0) 652 Naethon ni rioed, dwi'm yn meddwl.
(1, 0) 653 Ond mi o'dd o yno i fi pan gafodd n'chwaer ddamwain ac oni... jesd yno.
(1, 0) 654 Do'dd o byth ddim byd penodol rili, jesd rhyw syniad fod 'na wal ynddo fo'n rwla neu garpad lle odd petha'n cael eu stwffio.
 
(1, 0) 656 Un peth fedra ni gytuno arno fo.
 
(1, 0) 661 Ond fuodd na bwl lle o'dd o'n hyd'n oed gwaeth... a...
(1, 0) 662 O'dd o'm di bod yn y darlithoedd, ddim di bod yn dangos llawar ar ei wynab rili o gwbwl.
(1, 0) 663 Nes i gynnig siarad droeon ond ches i'm atab.
(1, 0) 664 Iawn de.
(1, 0) 665 Ffain.
(1, 0) 666 Ond un noson dyma fo'n gweiddi'n enw fi.
(1, 0) 667 Odd o'n gwaedu, ond heb neud job iawn ohonni.
(1, 0) 668 Ac, odd o'n ofn dwi'n meddwl?
(1, 0) 669 Ne yn difaru?
(1, 0) 670 Dwi'm yn gwbod.
(1, 0) 671 Ond gorish i gwffio am y rasal efo fo.
(1, 0) 672 Gorish i thynnu hi o'i ddwylo fo.
(1, 0) 673 Nes o'n i'n goch i gyd.
 
(1, 0) 675 Ges i hi, a mynd a hi i'm mathrwm a'u rhoi hi yn y bin tampons.
(1, 0) 676 Wedyn nes i llnau'i waed o o'n nwylo fi ar ôl ca'l warden ato fo.
(1, 0) 677 Pam nes i'm hynny'n gynt, dwi'm yn gwbod.
(1, 0) 678 Panic.
(1, 0) 679 O'dd rhaid mi ll'nau...
(1, 0) 680 Wedyn es i i shower a chrio am awr.
(1, 0) 681 Jesd toriada bach odda nhw, ond o'dd o'n deud fod o am neud mwy.
(1, 0) 682 Ma' toriada bach yn gwaedu lot.
 
(1, 0) 684 Doni'm yn gwbod be'i neud.
(1, 0) 685 Na wedyn chwaith, ond ma'n rhaid mi goelio fod o'm isio gneud go iawn.
(1, 0) 686 No we swni di gallu tynnu nhw o'i fysadd o sa fo 'di trio cwffio'n iawn.
(1, 0) 687 Ond naethon ni rioed sôn am y peth wedyn.
(1, 0) 688 A dwi 'di bod yn meddwl, am y ffordd nes i ymatab a taswn i di bod yn gallach ella fasa hyn ddim 'di digwydd, ella basa fo 'di gweiddi arna'i eto.
 
(1, 0) 690 Sa fo hefyd.
 
(1, 0) 692 Ond di helpu ddim yn ddigon nacdi, weithia.
 
(1, 0) 694 Faint o gloch di?
(1, 0) 695 Dwi am fynd i biso.
 
(1, 0) 798 Bob dim yn iawn 'ma?
 
(1, 0) 876 Oes 'na rwla i ga'l brecwast o gwmpas fama Arwel?
 
(1, 0) 898 Ni 'di...