Ciw-restr

Adra

Llinellau gan Ywain (Cyfanswm: 122)

 
(1, 0) 106 O'n i'n gobeithio sa ti yma, ti'n cadw'n iawn?
 
(1, 0) 116 Ywain.
 
(1, 0) 127 Rosa i Tanci.
 
(1, 0) 134 Ffwc o beth di ca'l dy gladdu'n fyw.
 
(1, 0) 150 Un sesh eto de.
 
(1, 0) 158 Ar pwy wyt ti mêt?
 
(1, 0) 160 Rhaid ti fynd allan, os ei di lawr stryd de, at y bont, gin ti jans go lew yn fa'no.
 
(1, 0) 172 Cefndar, a nabod o eniwe lly, odda ni'n yr un criw yn r'ysgol hefyd, ond adewish i yn sicstîn, nath o ddal ati.
 
(1, 0) 174 O'dd 'i fam o mor falch pan a'th o i coleg, cynta o'r teulu.
(1, 0) 175 Heblaw am mrawd na'th sports science am bwl ond dodd hynny'm yn cyfri.
(1, 0) 176 Digri efo gafal ynddo fo, o'dd o'n gneud wbath wan fyd doedd?
 
(1, 0) 178 Cinhel ia?
(1, 0) 179 O'dd mam 'di sôn wbath.
 
(1, 0) 187 Odda chdi'n gwbod am y PhD ma Tanc?
 
(1, 0) 191 Mond i ben bont o'dd isio fo fynd.
(1, 0) 192 Ti'n siŵr na chymri di ddim Megan?
 
(1, 0) 204 Na finna chwaith, dwi'm isio deud gwir, lol posh uffar.
 
(1, 0) 212 Be dduda ni?
 
(1, 0) 220 O'dd o'n wahanol doedd.
 
(1, 0) 224 Dwnim, meddwl de, ia?
 
(1, 0) 232 Oedd mi oedd o'n glên, dda iawn efo'i fam.
 
(1, 0) 242 O'dd o bach yn od.
 
(1, 0) 244 Ddim mewn ffordd ddrwg.
(1, 0) 245 Ond pan odda ni'n blant, dwnim.
 
(1, 0) 258 Ffycin hel di hynna'm yn iawn, holi cwestiwn fel'na.
 
(1, 0) 292 Tŷ gwair o'dd o medda chdi.
 
(1, 0) 313 Na fina chwaith rili.
 
(1, 0) 316 Soniodd neb 'tha i.
 
(1, 0) 319 Ia ond, nes i 'rioed...
 
(1, 0) 336 Be gymri di?
 
(1, 0) 342 Yr OmniSaver ma'n feddwl.
 
(1, 0) 350 Hen gont oddi.
 
(1, 0) 352 Pawb yn sôn, golwg 'tha bo hi di ista ar ddildo weiran bigog arni hi, dyna fydda taid yn ddeud.
 
(1, 0) 354 Taid ddudodd ddim fi, a OmniSaver 'di hi rwan efo bîns own brand a congol i bobol pen yma werthu moron cam a wya' efo cachu arnyn nhw.
(1, 0) 355 Llanast de.
 
(1, 0) 357 A ma'r siop jips yn siop gebabs.
 
(1, 0) 359 Sgin i fawr o ffycin ddewis nagos!
(1, 0) 360 'Di mam ddim yn gneud swpar ar nos Wenar.
 
(1, 0) 372 Dio'm r'un fath.
 
(1, 0) 374 Nace.
 
(1, 0) 376 Di'r, peth, di'r sgodyn ddim r'un fath.
 
(1, 0) 378 Y ffycin batyr de coc oen!
(1, 0) 379 Dio'm cin neisiad, a ma'r chips yn deneuach, chips pacad.
 
(1, 0) 381 /a'r pys, di'r pys ddim r'un fath, o dunia ma' nhw'n dŵad.
 
(1, 0) 383 Achos ma nhw fatha ffycin pys tun!
(1, 0) 384 Dio ddim r'un fath!
 
(1, 0) 387 Nacdi!
 
(1, 0) 390 Nacdi!
 
(1, 0) 392 Achos na ffycin pacis 'dy nhw!
 
(1, 0) 402 Pam?
 
(1, 0) 404 Dwi'm yn rêsist!
 
(1, 0) 406 Ond dyna ydyn nhw!
 
(1, 0) 410 /Dwi'n mynd am ffag.
 
(1, 0) 471 Dwi'n sori am weiddi'r petha 'na, ac am ddeud y gair 'na, dio'm yn un ddylia fod neb yn iwsio.
(1, 0) 472 Es i i hwylia a ma'i 'di bod yn gont o wsos.
 
(1, 0) 477 Sori.
(1, 0) 478 Dwi'm i fod i deimlo felma, dio'm yn iawn.
 
(1, 0) 484 Na, dio ddim yn iawn.
(1, 0) 485 Odda ni'n ffrindia, yn ffrindia gora, mots be ddudi di Arwel, ni o'dd y dybyl act, ni o'dd y ffrindia gora/
 
(1, 0) 487 /Ella bod hi i fi.
(1, 0) 488 Ar y pryd, ella'i bod hi.
(1, 0) 489 O'dd gin ti frodyr a chwiorydd doedd, ffrindia erill, fo o'dd y mrawd i a'n ffrind gora fi.
(1, 0) 490 Jesd gadwch fi ddeud hyn plîs.
(1, 0) 491 Odda ni'n gneud bob dim efo'n gilydd, ma'r rhes o gerrig rotho ni'n r'afon rhyw ha' pan odda ni tua deuddag dal yna.
(1, 0) 492 Gin i graith ar y nghoes lle frifish i efo beic a mi nath o gario fi adra, a fethish i...
 
(1, 0) 495 /Dwi'm 'di gorffan eto.
 
(1, 0) 497 O'n i'n disgwl y basa petha'n newid chydig wrth i fi adal ysgol ond odda ni'n dal i fynd i dai'n gilydd a wedyn mynd allan a ballu ac yn ca'l laff.
(1, 0) 498 Ond wedyn dyma fo'n mynd i ffwrdd a iawn oce, weld o bob holides, do'm ots gen i am hynny.
(1, 0) 499 Ond wedyn... fwya sydyn o'dd o fel tasa ni'n bagio o wrth yn gilydd.
(1, 0) 500 Rhyw Ddolig, dyma fi'n weld o'n dre, a do'dd o'm 'di deud fod o allan.
(1, 0) 501 A dyma ni'n siarad am y tywydd a prisia cwrw a be da ni'n neud mewn rhyw ffordd fel tasa ni'n mart lly.
(1, 0) 502 Odda ni'n ddiarth.
(1, 0) 503 A rhyw sgwrs llawn tylla, sgwrs sati'n gal hefo rhywun tu ôl i gowntar ne wrth dorri dy wallt oddi.
(1, 0) 504 Sut ddigwyddodd hynna?
(1, 0) 505 E?
 
(1, 0) 507 Yndyn, a ma nhw'n gadal ac yn ca'l jobsus ac yn gneud pres a grêt de.
(1, 0) 508 Ga nhw brynu tŷ efo llwyth o snobs erill a dod yn ôl i'r tylla tin pentrefi 'ma nhw 'di adal bob hyn a hyn i weld mam a dad sy'n mynd yn hen, yn colli'u lliw fatha'r adeilada, ac yn colli nabod arnyn nhw, a mi ddo nhw a rhyw blant sydd efo acan wahanol i weld nain a taid.
 
(1, 0) 511 Dwni'm, ond da chi di ca'l ych pregethu do.
(1, 0) 512 Tydw i ddim.
(1, 0) 513 O'dd gin i'm dewis, o'n i'n unig blentyn, mi o'dd 'na dir a dyna fo, tyff shit.
(1, 0) 514 Ddudodd neb hynny ond yn y fynwant 'na fedri di weld o'r iard ma na ddega o gyrff a'th i'r ddaear yn gynt fel fod y tir yna i fi, so pa ddewis o'dd gen i?
(1, 0) 515 Ma' nhw'n deud na rhaid ydi symud i ffwrdd ond ffycin lycshyri 'dio.
(1, 0) 516 Fedrith pawb ddim codi pac, chawn ni ddim.
(1, 0) 517 Da ni ar ôl.
(1, 0) 518 A dwi'm isio piti neb na gneud rhyw esgus jesd deud dwi.
 
(1, 0) 520 Nagon i, ond dodd o'm o'i blaid o chwaith.
(1, 0) 521 Ond sti be, ma'r cerrig na'n yr afon ers dros ddeg mlynadd a chydig ar y diawl o ddŵr ma nhw'n sdopio rhag mynd i'r môr.
 
(1, 0) 524 Ywain di'n enw fi!
 
(1, 0) 526 Dio jesd ddim yn deg Tanc, dos na'm byd yn ffycin deg.
 
(1, 0) 531 Sori bois.
 
(1, 0) 541 Ffycin hel.
 
(1, 0) 547 Ofn ca'l stîd mae o.
 
(1, 0) 554 Gath o sterics rhyw dro efo twister do, ti'n cofio?
 
(1, 0) 557 Ia, tua pump o'dd o cofiwch.
(1, 0) 558 Parti pwy o'dd o?
 
(1, 0) 570 Fatha' rhan fwya o betha.
 
(1, 0) 576 Dwi'n deud 'tha chi, dyna ydi o.
(1, 0) 577 Ma' nhw'n trefnu'r petha 'ma.
 
(1, 0) 584 Jesd cymyd y pi newch chi.
 
(1, 0) 586 Iawn, oce, so.
(1, 0) 587 Adag y Cold War, oddi'n ras fawr i fynd i sbês doedd/
 
(1, 0) 589 /taw.
(1, 0) 590 Felly odd y Ryshans a'r Mericans yn trio cal pobol yn y gofod doedd, a cŵn a mwncis a ffycin... dwni'm... chimps a ballu.
(1, 0) 591 A dydyn nhw ddim r'un peth Tanc, dwi 'di deud o'r blaen, so ffyc off, ma David Attenbrough 'di deud.
 
(1, 0) 595 Ma' gin ffycin, y, ma' gin fwnci gynffon reit, i falansio mewn briga a ballu, sgin chimps ddim.
 
(1, 0) 598 Ia, a ffyc off eto achos adar a shit felna mae o'n lecio.
(1, 0) 599 A ma' nhw yn gneud fwy ar lawr na mwncis.
 
(1, 0) 601 Eniwe so Ryshans/
 
(1, 0) 603 /Chdi o'dd isio.
(1, 0) 604 Felly ma'r Ryshans yn deud, 'o, dani di gyrru Yuri Gagarin i'r gofod a ma di landioi'n ôl yn saff, ma'n coc ni'n fwy na un neb arall.'
(1, 0) 605 A ma Merica'n mynd 'o shit lle ma Stanley Kubrick i ni gal cogio landio ar y lleuad'/
 
(1, 0) 607 /Ia, ond y point ydi de.
(1, 0) 608 Fod 'na fwy o bobol, a cŵn a ballu 'di cal eu hel i fyny 'na ond bo nhw heb ddod yn ôl ne 'di llosgi.
(1, 0) 609 So ma' 'na lond gwlad o Ryshans yn y gofod 'na, 'di marw, ne 'di ca'l 'u lladd wrth landio a dosna'm sôn o gwbwl am danyn nhw.
 
(1, 0) 616 Ffycin ma' nhw!
 
(1, 0) 618 Aaron!
 
(1, 0) 622 Mae o'n fwy rich.
 
(1, 0) 626 Na, yn brifysgol o'dd i betha fo, do'dd o byth adra wedyn jesd.
 
(1, 0) 711 Fejiterian Tecs/
 
(1, 0) 880 Ffyc off.
 
(1, 0) 882 Sa well i minna fynd adra fyd.
 
(1, 0) 887 Ia, be o'dd hynny?