Ciw-restr

Angel Pen Ffordd

Llinellau gan Beti (Cyfanswm: 165)

 
(1, 0) 11 Dyma'r bywyd yntê, Doris?
(1, 0) 12 Tydi'n braf heb Charles?
 
(1, 0) 14 Mi fydd yn ôl yfory.
 
(1, 0) 16 Ia, treulio gyda'r nos yn gwrando ar simffoni neu gwrando arno fo yn darllen Shakespeare.
 
(1, 0) 18 Na, dim ond pan mae o isio gweld y Proms.
(1, 0) 19 O, mae Charles yn medru bod yn boring.
 
(1, 0) 22 Codi am un ar ddeg,..
 
(1, 0) 24 Ie, mi 'rwyt ti wedi cael gormod o'r rheini.
(1, 0) 25 Fi ydi'r feistres cofia.
 
(1, 0) 27 A gadael dim dŵr poeth i mi.
 
(1, 0) 29 Ac ar ôl pryd bach ysgafn o salad "smoked salmon," yn ôl i'r tŷ i orffwys cyn cinio nos.
 
(1, 0) 32 Colli pwysa?
 
(1, 0) 40 Hy!
(1, 0) 41 Colli fasat ti!
(1, 0) 42 Mae 'mhwysa i yn iawn, beth bynnag.
 
(1, 0) 45 Paid â bod mor bersonol.
 
(1, 0) 48 Ew, ti'n iawn ─ mi rydw i wedi rhoi lot o bwysau ymlaen.
(1, 0) 49 O diar, mi wnaiff o hanner fy lladd i am hyn.
(1, 0) 50 Symud o'r ffordd.
 
(1, 0) 57 Ew, ti'n lwcus.
 
(1, 0) 69 Arian?
(1, 0) 70 Pa arian?
 
(1, 0) 74 Uchel?
(1, 0) 75 Be wyt ti'n feddwl?
 
(1, 0) 78 O taw, Doris!
(1, 0) 79 Ti'n siwr 'mod i wedi gwario'r holl arian 'na?
 
(1, 0) 84 O diar, be wna' i?
(1, 0) 85 'Ches i ddim gwisgo fy ngôt ffyr ora' gynno fo am i mi orwario y tro diwetha' roedd o i ffwrdd.
(1, 0) 86 Mi fydd y gosb yn waeth y tro yma.
 
(1, 0) 89 Rhaid i mi fenthyg o rywle.
 
(1, 0) 94 Mae'n rhaid fod y sŵp 'na yn wynias ─ roedd o'n gweiddi fel dyn o'i go'.
 
(1, 0) 100 O, rydw i wedi blino.
 
(1, 0) 102 O diar, dw i heb golli dim!
 
(1, 0) 107 Mi ga' i fenthyg gan fy chwaer.
 
(1, 0) 110 Dim ond tair mil.
 
(1, 0) 112 O taw, Doris bach, ─ ti'n ddigon i godi dychryn ar rywun.
 
(1, 0) 116 Tenerife...
(1, 0) 117 Fan'no faswn i yn hoffi mynd, ond 'ddaw o byth gyda fi.
 
(1, 0) 120 Haul drwy'r dydd... gorwedd ar dywod melyn...
(1, 0) 121 Be' ddeudaist ti?
 
(1, 0) 123 Paid â chellwair, Doris.
(1, 0) 124 Pryd wnes i hynny?
 
(1, 0) 126 Dw i ddim yn cofio.
 
(1, 0) 128 Fydda i byth yn yfed gormod o win.
 
(1, 0) 131 O diar, be wna i?
(1, 0) 132 Wnaiff o byth adael i mi fynd.
 
(1, 0) 137 O fedra i ddim, Doris.
(1, 0) 138 Dw i'n poeni, wsti.
 
(1, 0) 160 Heno!
(1, 0) 161 Paid â 'nychryn i Ben.
 
(1, 0) 164 Ers faint wyt ti gyda ni rŵan, Ben?
 
(1, 0) 169 Mae o yn gas hefo ni i gyd yn tydi?
 
(1, 0) 174 O, paid wir.
(1, 0) 175 Mae'n 'sennau i yn brifo wrth feddwl am y peth.
 
(1, 0) 183 Ydi o'n chwaraewr da?
 
(1, 0) 185 Beth am ddechrau tacluso ychydig.
(1, 0) 186 Dan ni ddim isio gadael pethau tan y funud ola'.
 
(1, 0) 189 Fe wna inna glirio'r papura 'ma.
(1, 0) 190 Tyrd i helpu Ben.
 
(1, 0) 194 Ie, wrth gwrs, gad un neu ddau.
 
(1, 0) 196 'Rargian' fawr ─ ddim y 'News of the World'!
(1, 0) 197 Llosga fo'n reit sydyn!
(1, 0) 198 Lle mae'r 'Times'?
 
(1, 0) 201 Paid â deud ─ mae o'n siŵr o ofyn amdano fo.
 
(1, 0) 203 Ben, plîs dos i'w nôl o y munud 'ma.
 
(1, 0) 207 O diar, bydd yn ofalus Doris bach.
 
(1, 0) 212 Dos i'w smwddio fo.
 
(1, 0) 214 Ia, smwddio ddeudais i.
 
(1, 0) 221 O, bydd yn ofalus Doris bach.
(1, 0) 222 Os torri di honna mi fydd y byd ar ben.
(1, 0) 223 Mae hi'n gant oed ─ wedi ei chael hi ar ôl ei Nain.
 
(1, 0) 229 O diar ─ tyrd i lawr Doris bach.
(1, 0) 230 Gad i Ben drio.
 
(1, 0) 235 Daria di Doris, mi rwyt ti yn lletchwith.
(1, 0) 236 Ben bach, rydw i yn dy ddyled di am y gweddill o'm hoes.
(1, 0) 237 Rwyt ti'n haeddu codiad yn dy gyflog.
 
(1, 0) 239 Rho di hi i fyny 'ngwas i.
(1, 0) 240 Rydw i wedi colli ffydd yn Doris ─ mae hi'n nyrfs i gyd.
 
(1, 0) 247 Ddim eto.
(1, 0) 248 Mae gen i ofn iddo fo ddod yn ôl yn gynt wsti.
(1, 0) 249 Jest fel fo i drio rhyw dric fel yna.
 
(1, 0) 253 Naci wir!
(1, 0) 254 Mi fu bron i mi dy drechu di tro dwytha.
 
(1, 0) 258 Dyro record arall i droi.
(1, 0) 259 Rhywbeth hefo dipyn o fynd ami.
 
(1, 0) 265 Gna di yn well 'ta.
 
(1, 0) 267 Ti ddim gwell na fi.
 
(1, 0) 286 Rydw i wedi cael tair i mewn ar ôl ei gilydd.
 
(2, 0) 328 Be ga' i 'neud i chi, Charles?
 
(2, 0) 331 Ond Charles...
 
(2, 0) 394 Wrth gwrs, Charles.
 
(2, 0) 408 Sori, Charles.
 
(2, 0) 425 Pardwn.
 
(2, 0) 436 Welwn ni mono fo am rai oriau gobeithio.
(2, 0) 437 Ti'n cofio ein bod ni wedi gwadd mam a'i chwaer drosodd am baned a sgwrs.
 
(2, 0) 441 Well i ti osod y bwrdd yn barod.
 
(2, 0) 451 Mi ddylen nhw fod yma mewn tua phum munud.
 
(2, 0) 458 Mae 'mrawd, Dei, yn dod â nhw yn ei gar ─ ond dydi o ddim yn aros.
 
(2, 0) 461 Dyma nhw!
 
(2, 0) 473 Sut 'dach chi mam?
(2, 0) 474 Hylo, Anti Jên.
 
(2, 0) 477 Dewch at y bwrdd.
(2, 0) 478 Mae'n siŵr bod chi isio paned.
 
(2, 0) 482 Does 'na neb i guro Doris am darten 'fala.
 
(2, 0) 491 Yn barod?
 
(2, 0) 493 Wel, mi gaiff o fynd i'r rŵm ffrynt.
(2, 0) 494 Dan ni ddim yn symud.
 
(2, 0) 504 Gwrandwch arna' i, Charles.
 
(2, 0) 506 Ond...
 
(2, 0) 521 Wrth gwrs, Charles.
(2, 0) 522 Yn mynd allan.}
 
(2, 0) 589 Falch o'ch cyfarfod chi.
 
(2, 0) 594 Ia, Charles.
 
(2, 0) 603 Dach chi'n meddwl?
 
(2, 0) 622 Wyddost ti beth nath y cena?
(2, 0) 623 Fy nghusanu i o flaen y dynion 'na.
 
(2, 0) 630 Pa blan?
 
(2, 0) 636 'Chaiff o mohoni mae'n debyg.
(2, 0) 637 Os nad ydi o yn nabod y bobol iawn.
 
(2, 0) 646 Be ddylai o fod?
 
(2, 0) 649 Ac mi roedd rhywun wedi copio y plan pan oedd o yn y swyddfa?
 
(2, 0) 655 Be wyt ti'n feddwl?
 
(2, 0) 657 I Charles?
 
(2, 0) 659 Ond does 'na ddim wedi'i brofi.
 
(2, 0) 661 Ond dial wnaiff o ─ ti'n gwybod amdano fo.
 
(2, 0) 664 Practeisio be?
 
(2, 0) 666 Well gen i beidio.
 
(2, 0) 672 Reit, be wyt ti isio imi ei wneud?
 
(2, 0) 676 Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
 
(2, 0) 683 Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
 
(2, 0) 687 Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
 
(2, 0) 714 Charles, rydan ni...
 
(2, 0) 718 Wn i ddim.
(2, 0) 719 Ella ei fod o wedi mynd i'r ystafell ffrynt.
 
(2, 0) 721 Rydw i yn dechrau cael traed oer wsti.
 
(2, 0) 741 Ydw.
(2, 0) 742 Mi wrthododd o wrando, a'n anfon i oddi yna bron yn syth.
 
(2, 0) 744 Deud mai ei blan o ydi o, a neb arall.
 
(2, 0) 746 Be fedar o'i wneud?
 
(2, 0) 751 Iawn.
 
(2, 0) 778 Snwcer?
(2, 0) 779 Na, mae'n rhaid eich bod chi wedi gwneud camgymeriad ─ dydi Charles ddim yn chwarae snwcer.
 
(2, 0) 781 O, sori.
(2, 0) 782 Ben 'dach chi isio.
(2, 0) 783 Pwy sy'n siarad.
 
(2, 0) 785 Sion Powys, ia.
(2, 0) 786 Sut ydach chi, Mr Powys.
(2, 0) 787 Daliwch y lein, mi a'i i'w nôl o i chi rŵan.
 
(2, 0) 789 Sion Powys sydd yna isio trefnu gem snwcer.
 
(2, 0) 792 Gaiff o ffonio chi'n ôl Mr Powys?
(2, 0) 793 Diolch yn fawr.
 
(2, 0) 803 O diar, gobeithio na fydd yna ymladd.
 
(2, 0) 807 Be mae hi isio?
 
(2, 0) 809 O!
(2, 0) 810 Tenerife.
 
(2, 0) 812 O, fedra i 'mo'i gweld hi.
(2, 0) 813 Be wna' i Doris?
 
(2, 0) 815 O Doris, rwyt ti'n werth y byd.
 
(2, 0) 823 Lwcus?
 
(2, 0) 828 Dim o gwbwl.
 
(2, 0) 848 Syniad gwych.
(2, 0) 849 Well ini fynd i newid yn sydyn.
 
(2, 0) 853 Gewch chi aros adref Charles.
(2, 0) 854 Mae yna ddigon o fwyd yn y gegin.
 
(2, 0) 858 Hwyl, Charles.