Ciw-restr

Angel Pen Ffordd

Llinellau gan Charles (Cyfanswm: 108)

 
(2, 0) 312 Ia, be?
 
(2, 0) 315 Dyna welliant.
 
(2, 0) 317 Am bedwar munud union oeddet ti fod i ferwi'r ŵy 'ma.
 
(2, 0) 319 Paid â deud celwydd.
(2, 0) 320 Mae'n amlwg i mi bod yr ŵy yma wedi bod yn y dŵr am beth bynnag bedwar munud a hanner.
(2, 0) 321 Dos â fo o 'ma a gwna un arall!
 
(2, 0) 329 Mae yna ormod o lwch yn yr ystafell yma ac mae'r ffenestri angen eu glanhau.
(2, 0) 330 Chi sydd yn gyfrifol fod y gweision yn gwneud eu gwaith yn iawn a dach chi ddim yn gwneud eich job.
 
(2, 0) 332 Dwi ddim isio esgusion.
(2, 0) 333 Gewch chi fynd rŵan.
 
(2, 0) 337 Mae'r te yma yn oer.
(2, 0) 338 Cer i wneud peth ffres!
 
(2, 0) 346 Mi fydda i isio'r car mewn hanner awr.
 
(2, 0) 354 Helo David, sut ydach chi?
 
(2, 0) 356 Wrth gwrs mi wna' i ei ddarllen o'n syth.
(2, 0) 357 Wnewch chi anfon o yma?
 
(2, 0) 359 Diolch yn fawr.
(2, 0) 360 Hwyl.
 
(2, 0) 365 Mae yna adroddiad pwysig ar y ffordd.
(2, 0) 366 Tyrd â fo i mi yn syth pan y daw o.
(2, 0) 367 Mi ddyle fod yma mewn tua dau funud.
 
(2, 0) 373 Ymhell o fod yn berffaith ond mi wnaiff y tro.
 
(2, 0) 382 Rargian fawr!
 
(2, 0) 384 Car mewn pum munud.
 
(2, 0) 388 'Rydw i ar frys.
(2, 0) 389 Tyrd â fy sgidie du newydd i mi.
 
(2, 0) 393 Ewch i nôl fy nghôt fawr o'r llofft a dowch â thei hefyd.
 
(2, 0) 397 Rho nhw ar fy nhraed i.
(2, 0) 398 Rydw isio cario ymlaen i ddarllen.
 
(2, 0) 403 Rhowch y tei ymlaen.
 
(2, 0) 406 Dwi ddim yn gallu darllen, Beti.
(2, 0) 407 Mae'ch breichiau chi ymhob man.
 
(2, 0) 414 Tyrd a fo yma 'ta.
 
(2, 0) 417 Fedri di ddim gweld, mae 'nwylo i yn llawn!
(2, 0) 418 Bwyda fi!
 
(2, 0) 424 Bowler!
 
(2, 0) 426 Yr het bowler.
(2, 0) 427 Estynnwch hi!
 
(2, 0) 430 Rhowch hi ar fy mhen.
 
(2, 0) 505 Allan!
 
(2, 0) 507 Allan ddeudais i.
(2, 0) 508 Doris cliria'r bwrdd.
 
(2, 0) 514 Reit, cym on ferchaid.
(2, 0) 515 Mae yna ddigon o ystafelloedd eraill yn y tŷ.
(2, 0) 516 (Rhoi eu paneidiau yn eu dwylo a'u hebrwng at y drws.
(2, 0) 517 Beti yn dilyn)
 
(2, 0) 519 Rydw i yn disgwyl dau ffrind.
(2, 0) 520 Dwedwch wrth Doris am ddod â nhw i mewn yma yn syth.
 
(2, 0) 526 Hylo, Seimon.
(2, 0) 527 Hylo, Emlyn.
(2, 0) 528 Dowch i eistedd.
 
(2, 0) 531 Diolch Doris.
 
(2, 0) 533 Rydan ni yn lwcus iawn o gael Doris.
(2, 0) 534 Halen y ddaear wyddoch chi.
 
(2, 0) 538 Eisteddwch, gyfeillion.
 
(2, 0) 544 Diolch, gyfeillion.
 
(2, 0) 546 O, mi fuaswn i yn deud ─ bod yn garedig wrth bobol.
 
(2, 0) 548 Reit gyfeillion, beth am drafod busnes.
 
(2, 0) 551 Dyma blan o'r gwesty newydd, Bryn Awelon, fydd yn cael ei adeiladu y flwyddyn nesaf ar gyrion y dref.
 
(2, 0) 553 Tua miliwn a hanner.
 
(2, 0) 556 Wel, mae'n rhaid iddyn nhw dalu am y gorau.
 
(2, 0) 559 Wrth gwrs, wrth gwrs.
(2, 0) 560 Dyna pam fy mod i wedi eich gwadd chi yma heddiw.
(2, 0) 561 Dach chi'n gwerthu dodrefn da, Emlyn, a chitha garpedi gwych, Seimon.
 
(2, 0) 563 Wrth gwrs, ond mae yna un broblem bach.
 
(2, 0) 565 Meddwl bod hi'n bryd i ni feddwl am newid y dodrefn a'r carpedi yn yr hen dŷ yma.
 
(2, 0) 568 Rydw i'n falch ein bod yn deall ein gilydd ffrindiau.
(2, 0) 569 Rŵan, rwy'n cynnig ein bod yn cael ychydig o fy ngwin cartref i ddathlu,
 
(2, 0) 571 Rydw i wedi cael hwyl ar wneud hwn.
(2, 0) 572 Fy un gorau i ers talwm.
 
(2, 0) 575 'Dych chi ddim wedi cyfarfod y wraig yn naddo?
(2, 0) 576 Mi af i'w nôl hi, mi fydd wrth ei bodd eich cyfarfod chi.
 
(2, 0) 585 Rwyf am i chi gyfarfod dau gyfaill i mi, cariad.
(2, 0) 586 Gyfeillion, dyma fy annwyl wraig, Beti.
(2, 0) 587 Beti, dyma Emlyn Prytherch a Seimon Pyrs.
 
(2, 0) 590 Mae Beti a fi wedi bod yn briod ers ugain mlynedd.
(2, 0) 591 Pob un ohonyn nhw y tu hwnt o hapus.
(2, 0) 592 Yntê, cariad?
 
(2, 0) 595 Gyfeillion, mae'ch gwydrau chi'n wag.
(2, 0) 596 Rhaid i chi gael mwy.
 
(2, 0) 599 Twt lol, mae gennych chi ddigon o amser am wydriad bach arall.
 
(2, 0) 604 Wel, lawr â fo gyfeillion.
(2, 0) 605 Fe awn ni rŵan i weld perchennog y gwesty.
 
(2, 0) 608 Gyfeillion, rwy'n synnu atoch chi.
(2, 0) 609 Mae yna lot o win ar ôl yn eich gwydrau.
(2, 0) 610 Dewch rŵan, dach chi ddim yn mynd i wastraffu gwin da!
 
(2, 0) 616 Dewch gyfeillion.
 
(2, 0) 618 Gwelaf chi yn hwyrach, siwgwr.
 
(2, 0) 709 Lle gebyst mae pawb?
 
(2, 0) 711 Lle mae'r merchaid 'ma?
 
(2, 0) 757 A dyma be mae fy ngweision i yn wneud pan rydw i'n troi fy nghefn.
(2, 0) 758 Talu cyflogau uchel iddyn nhw gael chwarae mig.
 
(2, 0) 760 Paid ti â meiddio fy ateb i yn ôl.
 
(2, 0) 763 A lle mae fy ngwraig i wedi mynd?
(2, 0) 764 Rydw i isio gair ymhellach gyda hi.
(2, 0) 765 Mae isio dysgu gwers iddi.
 
(2, 0) 767 Pan ddaw hi'n ôl, dwedwch wrthi fy mod isio ei gweld hi yn syth.
 
(2, 0) 833 Beti, Doris, Ben.
(2, 0) 834 Sut ydych chi erbyn hyn?
 
(2, 0) 837 Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i'n teimlo mewn mwd caredig iawn heddiw.
 
(2, 0) 839 Er fy mod i yn cael fy ngadael i lawr gennych mor aml, dw i ddim yn un am ddal dig am amser hir.
(2, 0) 840 Na, fel mae Mr Davies y Gweinidog yn ei ddweud, rhaid maddau yn yr hen fyd 'ma.
(2, 0) 841 Felly dyma anrhegion i chi'ch tri.
(2, 0) 842 I chi, Beti ─ côt ffyr.
(2, 0) 843 I ti, Doris ─ cyflog tri mis a bonws o gan punt.
(2, 0) 844 Ac i tithau, Ben ─ bonws o gan punt a watsh aur.
 
(2, 0) 850 Ardderchog.
(2, 0) 851 Mi ddo' i gyda chi.