Ciw-restr

Angel Pen Ffordd

Llinellau gan Doris (Cyfanswm: 180)

 
(1, 0) 13 Yn tydi, meistres.
 
(1, 0) 15 Yn ôl i'r rwtîn.
 
(1, 0) 17 Dim teledu.
 
(1, 0) 20 A chas.
(1, 0) 21 Mi rydan ni wedi cael amser da ers pan aeth o.
 
(1, 0) 23 ...âr ôl brecwast yn y gwely.
 
(1, 0) 26 A gorwedd mewn bath wedyn am awr gyfa'.
 
(1, 0) 28 Wedyn Ben yn ein dreifio i'r dre i siopa yn hamddenol.
 
(1, 0) 34 Wel, ia.
(1, 0) 35 Mae o wedi prynu hwn yn sbeshial i chi golli pwysa a dach chi ddim wedi bod arno fo yr un waith ers pan aeth o i ffwrdd.
 
(1, 0) 37 Dyna fi wedi cyffwrdd 30 eto!
(1, 0) 38 Dwi'n fodlon betio pum punt na wnewch chi mo hynna.
 
(1, 0) 43 Hy!
(1, 0) 44 Dach chi wedi gweld eich pen-ôl yn ddiweddar?
 
(1, 0) 46 Wel cerwch i jecio ar y glorian.
 
(1, 0) 53 Hwre!
(1, 0) 54 Rydw i wedi colli pedwar pwys mewn wythnos.
 
(1, 0) 56 Be dach chi'n feddwl o'n ffigwr i, meistres?
 
(1, 0) 58 Gofalus, dim lwcus.
 
(1, 0) 60 Hei, dowch o'na.
(1, 0) 61 Dydach chi ddim yn cael stopio rŵan.
(1, 0) 62 Gamp i chi gyrraedd 30.
 
(1, 0) 65 Does gynnoch chi ddim clem ─ dach chi ddim wedi cyrraedd pymtheg eto!
 
(1, 0) 67 Dach chi'n cofio bod gynnoch chi broblem ariannol yn dydach?
 
(1, 0) 71 Wel yr holl arian dach chi wedi'i wario ers pan aeth o.
(1, 0) 72 Bag lledr £100; pum pâr o esgidiau ugain punt yr un a'r fodrwy 'na yn werth pum cant.
(1, 0) 73 Ac oedd rhaid i chi roi tips mor uchel?
 
(1, 0) 76 Wel, deg punt i'r hogan fach 'na am ddeud wrthach chi lle roedd y lle chwech, a deg punt i'r waiter 'na jest am i fod o'n debyg i'ch tad.
 
(1, 0) 80 Do, dros fil o bunnau mewn pythefnos.
 
(1, 0) 82 Hei, dewch o'na ─ dim slacio!
 
(1, 0) 87 A dach chi'n gwybod amdano fo.
(1, 0) 88 Mae o'n tjecio'ch cyfri banc chi yn gyson.
 
(1, 0) 90 Peidiwch ag edrych arna' i.
(1, 0) 91 Dw i ddim wedi cael cyflog ganddo fo ers tri mis.
(1, 0) 92 Ddim ers y diwrnod hwnnw y gwnes i golli sŵp ar ben ei siwt ora fo.
 
(1, 0) 96 Ew, oedd.
(1, 0) 97 Roedd o'n dawnsio o gwmpas y stafell 'ma fel dyn o'i go' hefyd.
 
(1, 0) 99 Hei, dim slacio ddeudais i.
 
(1, 0) 104 Doeddach chi rioed yn meddwl basach chi'n colli owns ar ôl hynna o ymdrech?
(1, 0) 105 Dewch o'na ─ yn ôl ar y beic 'ma.
 
(1, 0) 108 Dach chi'n meddwl bod honno yn bwll diwaelod.
(1, 0) 109 Faint sydd arnoch chi iddi ers y llynedd?
 
(1, 0) 111 Os daw o i wybod, 'chewch chi ddim gwisgo'r gôt ffyr 'na am ddeng mlynedd arall...
 
(1, 0) 114 A beth am Tenerife?
 
(1, 0) 118 Fan'no dach chi yn mynd, meistres...
 
(1, 0) 122 Dach chi wedi bwcio gwyliau yn Tenerife gyda Mrs Pryce-Smith.
 
(1, 0) 125 Y diwrnod fuoch chi yn ciniawa gyda hi.
 
(1, 0) 127 Rown i'n amau eich bod chi wedi cael gormod o win hefo'ch bwyd.
 
(1, 0) 129 Mi wnaethoch y diwrnod hwnnw.
(1, 0) 130 Ar ôl cinio yn y Grand, mi aethoch chi'ch dwy i'r "Travel Agent" mewn tacsi i roi blaendal ar wyliau yn Tenerife.
 
(1, 0) 133 Twt, mi feddyliwn ni am rhywbeth.
(1, 0) 134 Dowch i ni gael dawnsio.
 
(1, 0) 136 Dewch, meistres.
 
(1, 0) 140 Cym on.
(1, 0) 141 Anghofiwch o.
(1, 0) 142 Mi gawn ni boeni amdano fo yfory.
 
(1, 0) 144 Wel, am wyneb hir.
 
(1, 0) 146 Beth am dipyn o wên?
 
(1, 0) 149 Ben!
(1, 0) 150 Tyrd, joinia i mewn.
 
(1, 0) 156 Faint o'r gloch mae o'n cyrraedd yfory?
 
(1, 0) 166 O, chefaist ti mohoni?
 
(1, 0) 172 Meddyliwch am y meistr yn dawnsio i fiwsig fel yna.
 
(1, 0) 177 Ew, be mae Steve Davis yn mynd i'w wneud?
 
(1, 0) 187 Mi ddechreua i gyda'r llestri 'ma.
 
(1, 0) 202 'Rydw i bron yn siŵr ei fod o yng nghanol y bwndel roesoch chi yn y bun bore 'ma.
 
(1, 0) 208 Sori, meistres.
 
(1, 0) 219 Rhaid i mi roi y jwg yma yn ôl.
 
(1, 0) 228 Nac oes, sgen i ddim math o'i ofn o.
 
(1, 0) 231 Na rydw i'n iawn.
 
(1, 0) 245 Ew, rydw i wedi blino ar yr hen glirio 'ma.
(1, 0) 246 Beth am gêm arall o tidli wincs?
 
(1, 0) 250 Ddaw o ddim tan yfory ─ peidiwch â phoeni.
 
(1, 0) 252 Ofn cael cweir 'dach chi 'te?
 
(1, 0) 255 Dewch 'ta, ella gwnewch chi ennill y tro yma.
 
(1, 0) 263 Dach chi'n hopless Meistres.
(1, 0) 264 Methu bob tro.
 
(1, 0) 269 Wyt ti isio gêm o tidli wincs, Ben?
 
(1, 0) 274 'Does gennoch chi ddim llawer o glem meistres.
(1, 0) 275 Rydw i yn ffansio gêm bach o snwcer.
 
(1, 0) 284 Cadw dy hen ddwylo i ti dy hun.
(1, 0) 285 Mi wna i yn iawn fy hun.
 
(1, 0) 289 Wel, mae rhaid i mi drio curo hynna.
 
(2, 0) 311 Ia?
 
(2, 0) 314 Ia, meistr?
 
(2, 0) 316 Be dach chi isio?
 
(2, 0) 318 Dyna wnes i.
 
(2, 0) 322 O-ce.
 
(2, 0) 336 Dim ond dwy funud mae o wedi bod!
 
(2, 0) 339 Ar y ffordd allan gyda'r tebot a'i chefn at Charles.}
(2, 0) 340 'Di hwn byth yn fodlon.
 
(2, 0) 372 Ydi hwnna'n well!
 
(2, 0) 376 Taswn i yma am gan mlynedd wna' i byth blesio hwn.
 
(2, 0) 390 Iawn.
 
(2, 0) 399 Be nesa!
 
(2, 0) 413 'Dach chi ddim wedi gorffen eich ŵy meistr.
 
(2, 0) 419 Wel, agorwch eich ceg 'ta.
 
(2, 0) 438 Cofio?
(2, 0) 439 Wrth gwrs.
(2, 0) 440 A finnau wedi gwneud tarten afalau yn arbennig iddyn nhw.
 
(2, 0) 442 Iawn.
 
(2, 0) 447 Pryd ydach chi'n eu disgwyl nhw?
 
(2, 0) 455 Sut maen nhw'n dod?
 
(2, 0) 462 Mi a' i i'w ateb o.
 
(2, 0) 466 Na, peidiwch â phoeni.
(2, 0) 467 Dydi o ddim yma.
 
(2, 0) 470 Hei, beth am eich cotiau chi.
(2, 0) 471 Dowch â nhw i mi.
 
(2, 0) 485 Sut mae'r darten yn plesio?
 
(2, 0) 489 Pam?
 
(2, 0) 495 Da iawn, meistres.
(2, 0) 496 Mae'n bryd i rywun ddal ei dir yn ei erbyn.
 
(2, 0) 511 Oedd Hitler yn waeth na hyn deudwch?
 
(2, 0) 536 'Welodd rywun un mor ddau wynebog â hwn.
 
(2, 0) 621 Mae'r merchaid newydd fynd gyda Dei.
 
(2, 0) 624 Dach chi wedi cael eich siâr am y flwyddyn yma felly.
 
(2, 0) 629 Mae o wedi gadael ei blan ar ôl.
 
(2, 0) 631 Hwn fan hyn.
 
(2, 0) 634 Sut wyt ti'n gwybod am hwnnw?
 
(2, 0) 641 Sut wyt ti'n gallu deud?
 
(2, 0) 643 Ia.
 
(2, 0) 651 Wel, y coblyn tywyllodrus.
 
(2, 0) 654 Reit ─ dyma'n cyfle ni.
 
(2, 0) 656 Ein cyfle ni i dalu'n ôl.
 
(2, 0) 658 Ie, os collwn ni'r cyfle yma, mi fydd isio sbïo'n pennau ni.
 
(2, 0) 660 Mi fydd, gewch chi weld ─ dim ond mater o amser.
 
(2, 0) 662 Ddim ar ôl i mi orffen hefo fo.
(2, 0) 663 Reit meistres, beth am bractis bach.
 
(2, 0) 665 Beth i'w ddweud wrth y meistr.
 
(2, 0) 669 'Rydw i wedi fy siomi ynoch chi meistres.
(2, 0) 670 Wyddwn i ddim eich bod chi mor ofnus.
 
(2, 0) 673 Gwych, meistres.
(2, 0) 674 Reit, deudwch ar fy ôl i ─ Charles, rydan ni yn mynnu cael ein trin yn well gennych chi.
 
(2, 0) 677 Twt, twt, meistres.
(2, 0) 678 Fuasech chi ddim yn dychryn robin goch fel yna.
(2, 0) 679 Brest allan, ysgwyddau'n ôl.
(2, 0) 680 Triwch eto.
(2, 0) 681 Codwch eich llais.
 
(2, 0) 684 Peidiwch â gweiddi gormod.
(2, 0) 685 Unwaith eto.
 
(2, 0) 688 Da iawn.
 
(2, 0) 693 Yn y swyddfa?
 
(2, 0) 695 Dyna fo wedi'i brofi.
(2, 0) 696 Mi fedrwn ni gario ymlaen rŵan.
 
(2, 0) 698 Ei gyhuddo fo o dwyll.
(2, 0) 699 Ac os nad ydi o yn newid ei ffordd, mi rydan ni am ei riportio fo.
 
(2, 0) 702 Reit, pawb allan.
(2, 0) 703 Ar ôl iddo fo setlo, mi gaiff meistres ddod i mewn ato fo.
 
(2, 0) 717 Lle mae o?
 
(2, 0) 720 Ar ei ôl o meistres.
 
(2, 0) 723 Nac ydych, siŵr.
(2, 0) 724 Mi wnewch chi'n iawn.
(2, 0) 725 Pob lwc.
 
(2, 0) 731 Pwy sydd 'na?
 
(2, 0) 734 Be sydd arnat ti dwad?
(2, 0) 735 Mae yna amser a lle i bopeth.
(2, 0) 736 Be wyt ti isio?
 
(2, 0) 738 Ddim yn fan hyn gwboi.
 
(2, 0) 740 Ew, dach chi yn ôl yn sydyn meistres.
 
(2, 0) 745 Pam na ofynnwch i'ch brawd Oscar ddod yma i setlo fo.
 
(2, 0) 747 Wel mae o'n ddyn mawr ac mi rydw i wedi cael yr argraff erioed fod gan y meistr dipyn o'i ofn o.
(2, 0) 748 Ac ar ben hynny, mae o'n ddyn papur newydd.
 
(2, 0) 754 Paid.
(2, 0) 755 Mae rhywun yn dod.
 
(2, 0) 759 Hy, be ydi cyflog?
 
(2, 0) 771 Mae o newydd fod yma yn gofyn amdanoch chi meistres.
 
(2, 0) 775 Ffordd hyn.
 
(2, 0) 802 Mae yna leisiau uchel yn dod o'r ystafell ffrynt 'na.
 
(2, 0) 804 Fasa'r meistr ddim yn meiddio codi dwrn at Oscar.
 
(2, 0) 811 Wedi dod am y gweddill o'r arian gwyliau mae'n siŵr.
 
(2, 0) 814 Peidiwch â phoeni ─ mi ga' i wared ohoni.
 
(2, 0) 822 'Dach chi'n lwcus meistres.
 
(2, 0) 825 Ia, mae hi isio canslo y gwyliau.
(2, 0) 826 Gofyn os dach chi'n meindio.
 
(2, 0) 829 Mae hi am ddod yn ôl 'fory i egluro.
 
(2, 0) 836 Fasach chi'n meddwl nad ydi o ddim wedi'n gweld ni ers chwe mis.
 
(2, 0) 838 Tro cynta ers naintin-sicsti!
 
(2, 0) 845 Ew, dw i ddim wedi cael gymaint o arian ers talwm.
 
(2, 0) 847 Beth am i ni gyd fynd allan i ginio.
 
(2, 0) 855 Ac os ydach chi isio ŵy wedi'i ferwi, cofiwch adael o yn y dŵr am bedwar munud union.