Ciw-restr

Atgofion

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 48)

(1, 0) 1 GOLYGFA: Cegin JOHN GRIFFITHS.
(1, 0) 2 Mae popeth yn daclus a glân.
(1, 0) 3 Mae drws i'r gegin fach ar y dde i'r gynulleidfa, a drws arall (yn amlwg) i'r ystryd ar y chwith.
(1, 0) 4 Ar y wâl, yn amlwg i bawb, mae almanac.
(1, 0) 5 Mae llestri tê yn barod ar y ford.
(1, 0) 6 ~
(1, 0) 7 Cyfyd y llên ar ESTHER mewn ffedog fawr, neu "overall" â llewysau, yn dod i mewn o'r gegin fach gan gario bara, etc.
(1, 0) 8 Un bruddaidd ei gwedd yw ESTHER.
(1, 0) 9 Saif wrth y ford am ychydig, yna sych ddeigryn, a rhydd ochenaid.
(1, 0) 10 Yna daw curiad ar y drws ac ymddengys RACHEL, gwraig SAMUEL REES, drws nesaf.
(1, 0) 11 Ceisia ESTHER guddio ei gofid.
 
(1, 0) 80 Clywir lleisiau dynion tuallan yn pasio y drws.
 
(1, 0) 176 Agorir y drws a chlywir llais John.
(1, 0) 177 Edrychant i gyfeiriad y drws, heb ddweyd gair.
 
(1, 0) 280 Ychydig seibiant.
 
(1, 0) 426 SAM yn hanner mynd allan, ond yn troi yn ol eto.
 
(1, 0) 433 Y drws yn cau.
(1, 0) 434 Clywir ef yn canu, "Love for our dear country we cherish."
 
(1, 0) 444 JOHN yn cau y drws dan chwerthin.
 
(1, 0) 450 O hyn i ddiwedd yr Act rhaid i ysgogiadau JOHN arddangos brys mawr.
(1, 0) 451 Hefyd, ni ddylai'r ddialog fod yn rhy gyflym.
(1, 0) 452 Byddai yn fantais i'r chwarae i JOHN fwyta banana neu afal.
 
(1, 0) 478 A ESTHER allan.
 
(1, 0) 499 ESTHER yn mynd.
 
(1, 0) 506 Esteher yn ymddangos.
(1, 0) 507 Mae hi yn awr wedi diosg ei "overall," ac ymddengys yn ei gwisg ddu.
 
(1, 0) 548 Syrth cwpan i'r llawr ar ei dde yn ddarnau mân.
(1, 0) 549 Edrych y ddau ar y darnau am eiliad, heb symud dim.
 
(1, 0) 631 Rhydd ddatganiad o linell neu ddwy o'r "Comrades in Arms," yna cydia yn yr esgid arall, gan ddechreu datod y lasen.
(1, 0) 632 Yn ei frys tŷr y lasen.
 
(1, 0) 636 O'r gegin fach clywir sŵn y llestri.
 
(1, 0) 647 Tŷn allan lasen, ond wrth wneud hynny syrth doli fach i'r llawr.
(1, 0) 648 Saif JOHN heb symud am ychydig, â'i lygaid yn craffu ar y ddoli.
(1, 0) 649 Gweddnewidia, a chyda chyffro dwfn yn argraffedig ar ei wyneb, plyg yn araf a chwyd y ddoli i fyny.
(1, 0) 650 Saif felly am ysbaid, ac yna cerdda yn araf at yr almanac.
(1, 0) 651 Âr ol syllu arno rhydd "start" sydyn, ac yna daw yn ol yn ben-isel at y ford.
(1, 0) 652 Eistedda yn yr un gadair, ei holl ymddygiad yn arddangos dwyster.
(1, 0) 653 Gesyd y ddoli ar y ford.
(1, 0) 654 Yna, yn araf, "Tyn Yr Esgid Oddiam Ei Droed".
(1, 0) 655 Deil y ddoli yn ei law chwith, gesyd ei freichiau ar y ford â'i ben yn pwyso arnynt, ac wyla'n dawel.
(1, 0) 656 Ymddengys ESTHER, gan gario hêt JOHN yn ei llaw chwith, heb weld yn union fod dim o'i le; yna saif yn llonydd gan sylweddoli.
(1, 0) 657 Daw cyffro iw hwyneb.
(1, 0) 658 Neshâ yn araf y tu ol i JOHN, gan sychu ymaith ddeigryn.
(1, 0) 659 Gesyd yr hêt ar y ford, ac yna ei llaw chwith yn dyner ar y llaw sy'n dâl y ddoli.
(1, 0) 660 Cwyd JOHN ei law dde, heb godi ei ben, cydia ESTHER ynddo â'i llaw dde hithau, a chan ei gofleidio plyg ei phen nes pwyso ar JOHN.
(1, 0) 661 Yna, a'r ddau yn wylo yn dawel, disgyn, yn araf, y
(1, 0) 662 ~
(1, 0) 663 LLEN