Ciw-restr

Beddau'r Proffwydi

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 50)

(1, 0) 1 YR ACT GYNTAF
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Cegin y Segellog Fawr tuag wyth o'r gloch y nos yn nechreu mis Tachwedd, rhyw ugain mlynedd yn ol.
(1, 0) 4 ~
(1, 0) 5 Nid yw'r canhwyllau wedi eu goleu clo, ond teifl y tân wawr gynnes tros yr ystafell.
(1, 0) 6 Ar y llaw dde, y mae'r tân,—tân coed isel yn llosgi'n ffyrnig.
(1, 0) 7 Ar y llawr o'i gylch, ar y pentanau, ac yn crogi ar gadwyni, y mae crochanau a llestri o'r fath.
(1, 0) 8 Nid oes yma ffender o gwbl, heblaw'r hen Bero, y ci, sy'n gorwedd ar ei hyd ar yr aelwyd.
(1, 0) 9 Wrth y lân, ac yn ein hwynebu, y mae setl dderw drom, ac arni'n eistedd hen wraig, MALI OWEN, yn gwau hosanau.
(1, 0) 10 Y maen amlwg bod ei dyddiau gweithio hi trosodd,—y mae'i dwylo'n crynnu wrth drin y gweill.
(1, 0) 11 Mae ganddi gap gwyn—y "cap lasiau" hen ffasiwn—am ei phen, a barclod stwff tywyll o'i blaen.
(1, 0) 12 Teifl ambell olwg ar y tân, a dyry ei gwau i lawr yn aml ar ei harffed, a syll yn bendrist i'r fflamau, fel pe bai'n gweled rhywbelh y tu draw iddynt.
(1, 0) 13 O flaen y tân, ac wrth law dde Mali Owen, y mae bwrdd crwn a lliain gwyn arno, yn barod at bryd.
(1, 0) 14 Y mae "bwrdd mawr" o flaen y ffenestr sy'n mhen draw yr ystafell, ac ystenau, dysglau, platiau, a chyllill yn dryblith arno.
(1, 0) 15 Ar ochr chwith y ffenestr y mae cwpwrdd tridarn, a phlatiau gleision ar y darn canol.
(1, 0) 16 Ar yr ochr chwith yn nes atom, y mae'r prif ddrws, yn arwain i ffrynt y ty; y mae drws arall y tu ol i'r sell yn agoryd i'r ty llaeth {neu'r briws} ac i ddrws y cefn.
(1, 0) 17 Troell bach yn y gongl wrth y drws chwith, a "chloc wyth" ar y pared wrth ddrws y briws.
(1, 0) 18 Cadeiriau derw yma ac acw ar hyd yr ystafell.
(1, 0) 19 Ar y pared, darluniau o rai o'r hen bregethwyr, ac almanac neu ddau yn cymell bwyd gwartheg, gwrtaith esgyrn, a nwyddau o'r fath.
(1, 0) 20 Mewn byr eiriau, gellir dywedyd bod y gegin yr un fath a phob cegin arall yn Sir Gaernarfon—neu Sir Fynwy—yng nghartre'r amaethwyr hynny sy dipin cyfoethocach na thyddynwyr, ac eto heb ddyfod yn agos i ardderchowgrwydd ffermwyr mawr Sir Fôn a Bro Morgannwg.
(1, 0) 21 ROBERT WILLIAM yn dyfod i mewn gyda llusern yr ystabl yn oleu yn ei law.
(1, 0) 22 Gwr bychan bywiog ei ysgogiadau, pwyllog ei leferydd: hawdd ei gythryblu, ond yn anghofio'n fuan: yn siaradllawer, ond yn gallu cadw ei gyfrinach cystal ag ungwr.
 
(1, 0) 65 Ann yn dyfod o'r ty llaeth, ac am eiliad yn aros i glywed ateb Elin William.
 
(1, 0) 137 Ann yn myned alian drwy ddrws y cefn.
(1, 0) 138 ~
(1, 0) 139 Curo wrth y drws.
(1, 0) 140 Elin William yn agor i Agnes Vaughan—merch ifanc landeg wedi'i gwisgo yn y ffasiwn.
 
(1, 0) 148 Agnes Vaughan yn eistedd wrth ochr Mali Owen ar y setl y tu ol i'r bwrdd crwn.
 
(1, 0) 216 Y drws yn agor.
(1, 0) 217 Emrys yn dyfod i fewn.
(1, 0) 218 Mae ganddo gôb fawr am dano, a'i choler wedi ei chodi.
(1, 0) 219 Gwr ieuanc sobr yr olwg, yn siarad yn bwyllog ond yn siriol.
(1, 0) 220 Mae ysgafnder ei dad yn amlwg ynddo, a meddwl treiddgar ei fam.
(1, 0) 221 Mae'n aros eiliad yn y drws cyn dyfod i fewn i'r gegin.
 
(1, 0) 277 Emrys ac Agnes yn cerdded at y drws, Emrys yn cario'r fasged.
(1, 0) 278 Pan ddont at y drŵs, dyna gwro trwm.
 
(1, 0) 282 Llaw Emrys ar y gliced.
 
(1, 0) 284 Robert William yn eu rhoi dan y glustog ar y setl.
(1, 0) 285 ~
(1, 0) 286 Emrys yn agor.
(1, 0) 287 Y Plisman, ac Alexander McLagan, y cipar, yn dyfod i mewn.
 
(1, 0) 295 Alexander yn eistedd ar y gadair y tu ol i'r bwrdd crŵn,—y plisman yn nes i'r drws.
 
(1, 0) 325 Y Plisman a'r Cipar yn troi ac yn edrych arno.
 
(1, 0) 359 Ann yn dyfod i mewn yn ddistaw gyda basged ar ei braich.
 
(1, 0) 364 Elin William yn rhoi 'i llaw i'w chadw i lawr.
 
(1, 0) 425 Agnes yn mynd drwy'r drws; Emrys yn syllu ar ei hol.
(1, 0) 426 Elin William yn wylo.
(1, 0) 427 Mali Owen â'i llaw ar fraich Emrys.
(1, 0) 428 ~
(1, 0) 429 LLEN