Ciw-restr

Beddau'r Proffwydi

Llinellau gan Elin (Cyfanswm: 60)

 
(1, 0) 30 Beth sydd eisio?
 
(1, 0) 38 Tewch â rhuo, Robert, am y menyn yna o hyd.
(1, 0) 39 Mae llawer mwy o hir hel wedi bod arno ar ol i roi ar y bwrdd na chynt, ddyliwn i.
(1, 0) 40 Ydi'r golau'n rhy gry i chi, nain?
 
(1, 0) 43 Peidiwch a chyboli wir, nain bach.
(1, 0) 44 Dydech chi ddim ond dechra byw eto.
(1, 0) 45 Ond oeddech chi'n deud, os ydech chi'n cofio, pan oedd Emrys yn mynd i ffwrdd i'r ysgol am y tro cynta na chaech chi byth i weld o wedyn,—a dyma fo wedi gorffen ac wedi cael i radd,—a chitha ddim blewyn gwaeth.
 
(1, 0) 48 Chware teg i'r hogyn; ceisio meddwl y mae o'n rhywle: fedar neb feddwl dim yn y tŷ yma,—a Robert yn clebran o hyd fel prep melin, ag Ann a finna'n clocsio o gwmpas hefo'r llaeth i'r lloiau.
(1, 0) 49 Ond marciwch chi fod gynno fo rywbeth mawr ar i feddwl; mae o'n sôn o hyd y mynn o wneud i ol ar y wlad yma,—a fynta wedi cael cyfle mor ardderchog.
(1, 0) 50 Ag mae eisio rhywun i ail-bobi tipin ar yr hen wlad, rhywun i ddysgu tipin arni, rhywun i roi tipin o gryfdwr yn asgwrn i chefn hi, a gewch chi weld mai Emrys ydi'r dyn.
 
(1, 0) 57 Mi fasa Emrys yn gneud cystal prygethwr a'r un ohonyn nhw {yn pwyntio at y lluniau} o ran hynny.
(1, 0) 58 Does gen neb air i ddeud yn erbyn i gymeriad o,—ond mae o'n deud y gneith o well gwaith y tu allan i'r pulpud.
 
(1, 0) 66 Twt, twt!—mae'n rhy fuan iddo fo feddwl am briodi am flynyddoedd eto,—ac mae'r hên Vaughan, welwch chi, yn disgwyl rhywbeth gwell i Miss Agnes na mab i ffarmwr...
(1, 0) 67 Ydech chi wedi gorffen, Ann?
 
(1, 0) 82 Tewch wir, nain; rydech chi'n 'y ngneud i'n bur drwblus yn i gylch o.
 
(1, 0) 84 Mae hi'n dywydd garw heno, a mae nhw'n deud fod peth wmbreth o ryw hen boachers o'r dre o gwmpas y wlad.
(1, 0) 85 Mae'r sgweier wedi addo ar i beth mawr ynta mai'i cosbi hyd eitha'r gyfraith gân nhw.
(1, 0) 86 Mae o o'i gô lâs am i fod o'n methu a'i dal nhw.
 
(1, 0) 88 Beth rydech chi'n ochneidio, deudwch?
 
(1, 0) 91 Waeth gen i o gwbwl—ond dydi hi ddim hanner digon da iddo fo,—yr hen beth larts benchwiban iddi hi.
(1, 0) 92 Does genni ddim golwg o gwbwl ar y teulu,—cribddeilwyr a chrintachod ydyn nhw o hil gerdd.
(1, 0) 93 Ond mae Robert wedi cymryd rhyw chwilen yn i ben am fod yna arian yn yr Hafod, ag mae o'n meddwl—
 
(1, 0) 99 Gadael llonydd iddo fo wir!
(1, 0) 100 Gadael llonydd iddo fo!
(1, 0) 101 Os medra i 'i gadw fo rhag syrthio i ddwylo'r Ismaeliaid, mi wna hynny, mi ellwch chi fod yn ddigon siwr.
(1, 0) 102 Ymyrraeth wir?
(1, 0) 103 Gan bwy mae'r hawl i ymyrraeth os nad gen i?
(1, 0) 104 Pwy fu'n cynhilo pob dima i yrru o i'r coleg, pan oedd i dad o'n grwgnach fel costog bob dydd?
(1, 0) 105 Pwy fu'n mynd i'r capel bob Sul yn llwm ag yn dlawd er mwyn i gadw fo yno fel roedd o'n haeddu?
(1, 0) 106 Pwy oedd yn credu y basa fo'n gneud gwyrthia yno, a phwy sy'n credu y bydd o'n broffwyd ac yn efangylydd yng Nghymru eto?
(1, 0) 107 Pwy ond i fam o?
(1, 0) 108 Mi ellwch chi roi caead ar ych piser yn ddigon di-lol o ran hynny!
 
(1, 0) 132 Na fydd, Ann.
 
(1, 0) 134 Dydi Miss Vaughan ddim yn deall yn dull ni yn y Sgellog.
(1, 0) 135 Mae hi'n trin Ann fel y mae nhw'n trin morynion yr Hafod—fel tasa nhw'n faw dan draed.
(1, 0) 136 Dyna ffordd byddigions, debig gin i.
 
(1, 0) 141 Sut rydech chi, heno, Miss Vaughan?
(1, 0) 142 Dowch i fewn.
(1, 0) 143 Mae hi'n dywyll iawn, ond ydi hi?
 
(1, 0) 159 Roedd o'n sôn i fod o'n mynd i weld ych tad i'r Hafod.
 
(1, 0) 162 Roedd yno ddigon o straeon, mi wranta.
(1, 0) 163 Mae Mrs. Davies—a Dafydd Dafis hefyd o ran hynny—yn gwybod hanes y byd a'r Bettws.
 
(1, 0) 173 Bai, Miss Vaughan?
(1, 0) 174 Ydech chi'n meddwl y dylid trin y |gentry|, chwedl chitha, yn wahanol i bobol erill?
 
(1, 0) 184 Hwyrach i fod o wedi mynd i gael sgwrs hefo'r gweinidog.
 
(1, 0) 189 Tewch, tewch, Robert.
(1, 0) 190 Rydech chi'n rhy bendew i wybod beth sy gan yr hogyn dan i fawd.
(1, 0) 191 Hogyn da ydi'r hogyn.
 
(1, 0) 208 Ia, nain bach, ond rydech chi'n hên wraig go dda yn ol yr hen ffasiwn a'r newydd.
 
(1, 0) 211 Mae Emrys yn deud y basa'n well ini fod yn debycach iddyn nhw, ym mhob peth ond i hanwybodaeth.
 
(1, 0) 231 Mae Miss Vaughan yn mynd i aros i gael tamaid o swper, a rhaid i titha fynd i danfon hi dros y gors.
(1, 0) 232 Tynn dy gôt, 'y machgen i.
 
(1, 0) 236 Lle cest ti rheina?
 
(1, 0) 281 Rhowch y ffesants yna o'r golwg, brysiwch!
 
(1, 0) 283 Rhowch nhw dan y glustog yma.
 
(1, 0) 315 Naddo.
 
(1, 0) 387 Miss Vaughan! ydech chi'n meddwl nad ydi Emrys yn deud y gwir?
 
(1, 0) 389 Wel, os nag oes dim ond un heblaw fo'n gwbod—y fi ydi'r un hwnnw.
(1, 0) 390 Dydi Emrys ddim wedi gorfod arfer deud celwydd wrth gribddeilio, fel rhai pobol, Miss Vaughan.
 
(1, 0) 402 Ann!