Ciw-restr

Branwen

Llinellau gan Branwen (Cyfanswm: 105)

 
(1, 0) 5 Mi wyddost na fedr hyn ddim para.
 
(1, 0) 10 Ffwlbri, frawd bach.
 
(1, 0) 12 Cysgod y groth!
(1, 0) 13 Cysgod y bedd!
(1, 0) 14 Welaist ti rioed na'r naill na'r llall.
(1, 0) 15 Roedd dy lygaid di wedi'u cau yn y groth, ac mi fyddan wedi'u cau cyn dy fedd.
 
(1, 0) 21 Rwyt ti'n siarad mor rhwydd am angau am nad oes gen'ti ddim dychymyg.
 
(1, 0) 25 Dydy angau pobl eraill ddim yn angau i neb.
 
(1, 0) 28 Rydw i flwyddyn yn hŷn na thi.
 
(1, 0) 30 Craig wedi'i hollti.
 
(1, 0) 33 Paid â gofyn.
(1, 0) 34 Mi wyddost.
(1, 0) 35 Gan ein gwarth ni.
 
(1, 0) 38 Rwyt ti'n brifo.
(1, 0) 39 Paid!
 
(1, 0) 42 Be ddweda i?
 
(1, 0) 44 Gan ein cariad ni.
 
(1, 0) 46 Dianc fyddai hynny.
 
(1, 0) 48 Wn i ddim.
(1, 0) 49 Ti ydy 'mhechod i.
(1, 0) 50 Mae'n well gan i 'mhechod na 'mywyd.
 
(1, 0) 53 Mi wyddost na fedr hyn ddim para.
 
(1, 0) 56 Heb feddwl am farw?
 
(1, 0) 59 Fy nghariad i, paid â gwrthod 'y neall i.
(1, 0) 60 Yr unig farw sy'n anodd, sy'n boen, ydy'r marw y bydd dyn yn para'n fyw ar ei ôl o.
(1, 0) 61 Dyna'r unig wynebu angau nad ydy o ddim yn gelwydd.
(1, 0) 62 Cyn hir bydd yn rhaid i ti a minnau wneud hynny.
 
(1, 0) 64 Ti ddwedodd mai'n cariad ni ydy'n bywyd ni.
(1, 0) 65 Ein marw ni fydd tynnu'n cariad ni allan o'n bywyd ni... a mynd ymlaen i fyw ar ôl hynny.
 
(1, 0) 70 Hanner brawd wyt ti; nid brawd.
 
(1, 0) 75 Na.
(1, 0) 76 Fi piau fi...
(1, 0) 77 Ond rydw i wedi rhoi nghalon i ti.
 
(1, 0) 81 Mae dy eiriau fel y gwin.
 
(1, 0) 83 Ddwedi di hynny wrth 'y mrawd?
 
(1, 0) 85 Y brenin.
 
(1, 0) 87 Go brin.
(1, 0) 88 Rhaid imi dy gadw di yma tra bydda i yma.
 
(1, 0) 92 O na bai eto ryfel.
 
(1, 0) 94 Ti ydy'r penteulu a'r gorau sy gennyn ni.
(1, 0) 95 Fedr Brân ddim mynd i ryfel hebot ti.
(1, 0) 96 Rwyt ti'n anhepgor.
(1, 0) 97 Ond pan mae hi'n heddwch rwyt ti'n boen i'r brenin.
 
(1, 0) 99 Ti yw fy mhlentyn i.
(1, 0) 100 Dyna'r pam rwyt ti'n frenin arna i, y ngwas mawr i.
 
(1, 0) 102 Brawd.
(1, 0) 103 Brawd cyfan.
 
(1, 0) 105 Ond brenin.
(1, 0) 106 Mae ganddo gariad arall.
 
(1, 0) 109 Ei deyrnas.
 
(1, 0) 111 Arno fo.
(1, 0) 112 Arnaf innau.
(1, 0) 113 Nid arno fo mae'r bai mai rhywbeth i'w brynu a'i werthu ym marchnad y gwledydd ydy chwaer y brenin.
(1, 0) 114 I brynu heddwch neu selio cyfamod.
(1, 0) 115 Mae pob merch i frenin yn gwybod hynny'n ddeg oed.
(1, 0) 116 A gwae hi os na na bydd hi'n ddigon hardd ei gwedd i gostio gwlad.
 
(1, 0) 119 Rwyt ti yma yn y llys ddwy flynedd heb ddysgu dim.
(1, 0) 120 Yn anghyfrifol fel mellten.
(1, 0) 121 Cyfle i hwyl a miri yw rhyfel iti.
(1, 0) 122 Dyna yw'r llys iti.
(1, 0) 123 Dyna ydw innau iti.
 
(1, 0) 125 Fel plentyn gyda thegan.
 
(1, 0) 127 Profiad?
 
(1, 0) 130 Dwyt ti ddim yn frenin.
 
(1, 0) 132 Fedri di ddim gofyn i 'mrawd am fy llaw i.
 
(1, 0) 136 Act wleidyddol ydy priodi.
(1, 0) 137 Does a wnelo'r peth ddim oll â charu.
(1, 0) 138 Rhaid profi i'r brenin a'i gyngor fod y peth yn fantais i'r llywodraeth.
 
(1, 0) 143 I hynny y'm magwyd i.
(1, 0) 144 I hynny y'm dysgwyd i a 'ngwisgo a 'nghynefino bob dydd o 'mywyd.
(1, 0) 145 Dydw i ddim yn cofio dim arall...
(1, 0) 146 Yr hyn ddrysodd y cwbl oedd i ti ddod i'r llys yn llanc.
 
(1, 0) 148 Ydy.
(1, 0) 149 Fe fydd madael...
 
(1, 0) 153 Bore heddiw mi welais longau'n hwylio tuag yma, llongau brenhinol.
(1, 0) 154 Welaist ti?
 
(1, 0) 156 Erbyn hyn maen nhw wedi glanio.
 
(1, 0) 158 O Iwerddon.
 
(1, 0) 164 Oed eu teidiau yw gwŷr priod breninesau.
 
(1, 0) 168 Rydw i'n 'y ngweld fy hun fel un o'r caethion a werthaist ti.
 
(1, 0) 170 Pwy ŵyr?
 
(1, 0) 172 A pha les fydd hynny?
 
(1, 0) 175 Rydw i'n edrych ar yr hyn sydd o'n blaen ni.
(1, 0) 176 Rydw i'n gwneud 'y ngore i'th gael dithau i wynebu'r peth.
 
(1, 0) 179 O'r gore, mi heria i di.
 
(1, 0) 181 Os dod yma mae Matholwch i ofyn amdana i'n wraig tyrd gyda mi i'r cyngor a dweud wrthyn nhw mai dy ordderch di, fy hanner-brawd, ydw i; mai ti fu gyda mi yn y gwely yma drwy'r nos neithiwr, ac nad oes gan neb arall hawl arna i.
 
(1, 0) 184 Pam?
 
(1, 0) 186 Fedra innau ddim chwaith.
 
(1, 0) 188 Nid am ddim y medra i ymfalchïo ynddo.
(1, 0) 189 Ond nid dyna fy natur i.
(1, 0) 190 Fedrwn i ddim peidio â syrthio mewn cariad â thi pan ddest ti gynta i'r llys.
(1, 0) 191 Welais i monot ti'n blentyn.
(1, 0) 192 Damwain oedd inni'n dau fod yn yr un groth.
(1, 0) 193 Dydw i'n gofidio dim am hynny.
(1, 0) 194 Ti ydy unig gariad 'y mywyd i.
(1, 0) 195 Ond rydw i'n ferch i frenin; rydw i'n chwaer i frenin.
(1, 0) 196 Fy nhynged i ydy bod yn fam i frenin.
(1, 0) 197 Fedra i ddim wrth y peth.
(1, 0) 198 Mi wyddost fod gwrthod yn ymarferol amhosib.
(1, 0) 199 Ond heblaw hynny, brad fyddai gwrthod.
 
(1, 0) 201 Efnisien, paid â ffraeo.
(1, 0) 202 Bob tro yr ei di i frwydr rwyt tithau'n taflu'n serch ni i'r tân.
(1, 0) 203 Cwlwm nad ydy o ddim yn dal ydy cariad.
(1, 0) 204 Rhaid i gleddyf neu briodas ei dorri o neu ei ddatod.
(1, 0) 205 Mae'n well gen i dorri na datod.