Ciw-restr

Castell Martin

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 47)

(1, 0) 1 ADEG: Y presennol, prynhawnddydd haf.
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 LLE: Siop y Barbwr yn Llawybryn.
(1, 0) 4 ~
(1, 0) 5 Y mae ISAAC LEWIS, y barbwr, yn cyweirio glawlen ac mewn tipyn o helbul gyda'r gorchwyl.
(1, 0) 6 Gŵr tua thrigain oed ydyw ISAAC, cymharol dal, teneu, yn magu dwy locsen gochlyd, ei wallt yn britho ac yn tueddu i ddiflannu yng nghwmpas ei gorun.
(1, 0) 7 ~
(1, 0) 8 Saif y siop ar sgwâr y pentre, a thrwy ei ffenestr lydan, gwelir esgyn-faen neu garregfarch.
(1, 0) 9 Dyma areithfa gwleidyddwyr y pentref ers oesau, os nad eu pulpud hefyd.
(1, 0) 10 Yn wir, honnri gan rai i Hywel Harris, ac hyd yn oed Whitefield bregethu oddiarni yng nghyffroad mawr y ddeunawfed ganrif, er nad oes sicrwydd diymwad o hynwy.
(1, 0) 11 ~
(1, 0) 12 Parthed yr ystafell; cadair eillio yn agos i'r ffenestr, ac offer arferol barbwr ar fwrdd gerllaw; meinciau oddiamgylch, ac addurnir y muriau â gwahanol almanaciau, hysbysebau ynglŷn â ffeiriau, bwydydd a meddyginiaethau gwartheg, defaid, moch a cheffylau.
(1, 0) 13 Drws y siop yn y cefn ar y dde, ac un arall yn arwain i gorff y tŷ.
(1, 0) 14 ~
(1, 0) 15 Yn union, ymddengys NATHANIEL MORGAN o'r tu allan.
(1, 0) 16 Cymro byr, gwydn, a chryn led yn ei ysgwyddau ydyw NATHANIEL, tua hanner camt oed; ei ymadrodd yn gyflym, a'i symudiadau, fel rheol, ym chwim.
(1, 0) 17 Eithr cerdd yn awr braidd ym llesg, a golwg ofidus ar ei wynepryd.
 
(1, 0) 79 NATHANIEL yn gollwng ei adenydd elo.
 
(1, 0) 105 Y FICER yn dod i mewn, a rhôl hir o bapurau dan ei gesail.
(1, 0) 106 Cardi cadarn iua'r canol oed ydyw'r FICER.
(1, 0) 107 Cenfydd NATHANIEL.
 
(1, 0) 134 Ysguba ISAAC ei fraich yn fawreddog i gyfeiriad NATHANIEL, yr hwn sydd wedi bod yn ddigon call i beidio lluddias dim ar waith da yr eilliwr drwy yngan gair.
 
(1, 0) 197 Erys ISAAC a NATHANIEL yn llowydd am dipyn.
(1, 0) 198 Saif ISAAC ar ganol y llawr, gan ledu es goesau yn falch a meistrolgar, a'i fodiau dan ey geseiliau.
 
(1, 0) 255 Dychwel ISAAC, ac yn union daw TOMOS JONES, RHYS PRITCHARD, a DAFYDD PETERS i mewn.
(1, 0) 256 Ar ol cyfarch gwell, eisieddant ar y meinciau.
(1, 0) 257 Gŵr tal, henaidd, sobr ei wedd ydyw PRITCHARD.
(1, 0) 258 Y mae PETERS yn iau,─tua deugain oed─yn fwy trwsiadus a bywiog.
(1, 0) 259 TOMOS JONES yn dew, ychydig yn hŷn na PHETERS; ac yn afler a diog ei olwg.)
 
(1, 0) 341 Ymddengys ISAAC yn anfodlon.
 
(1, 0) 379 Tua'r fan yma, neu yn gynt os mynnir, gellir caniatâu i Isaac i ddechreu shafo Nathaniel.
(1, 0) 380 Os cedwir y gorchwyl o fewn terfynau rhesymol, gall fod yn achlysur llawer o ddifyrrwch diniwed.
 
(1, 0) 383 Ymddengys merch ieuanc tua 22 oed wrth ddrws y siop.
(1, 0) 384 Cofier mai dynes ieuanc ydyw RHIANNON, yn credu'n ffyddiog 'y gellid gwella ac aildrefnu'r byd yn rhwydd mewn rhyw wythnos neu lai.
 
(1, 0) 442 Clywir llais dwfn yn gofyn y tu allan, "Otych-chi wedi hoci y rasar, Isaac?"
 
(1, 0) 444 Ymddengys SIENCYN BIFAN, gŵr tal, corffol, hanner cant, llewyrchus a neilltuol o iach yr olwg.
(1, 0) 445 Gwelir ei fod yn dalp o hynawsedd a rhadlonrwydd pan y cerdd i mewn yn hamddenol â'i ddwylo yn llogelli ei lodrau.
(1, 0) 446 Saif yn syn pan wêl y cwmpeini.
 
(1, 0) 450 Dilynir SIENCYN gan eì fab, yr M.O.H., gŵr ieuanc tua 27.
(1, 0) 451 Sylwer ei fod ef a RHIANNON yn llawen iawn o weld ei gilydd.
(1, 0) 452 Ymgomiant yn fywiog, er drwy sisial, heb dynnu sylw y lleill.
 
(1, 0) 461 Yn ystod y sgwrs ganlynol gyda SIENCYN mae NATHANIEL yn para i neidio i fyny ac i lawr yn ei gadair.}
 
(1, 0) 525 NATHANIEL a'i bwyllgor yn chwerthin.
 
(1, 0) 528 NATHANIEL a'i bwyllgor yn crechwenu a chwerthin.
(1, 0) 529 Clywir sŵn cloch criwr y tu allan.
(1, 0) 530 Pawb yn distewi ac yn talu sylw.
 
(1, 0) 541 LLEN