Ciw-restr

Castell Martin

Llinellau gan Isaac (Cyfanswm: 151)

 
(1, 0) 18 A shwt ych-chi heddy, Nathanial?
 
(1, 0) 21 Beth sy'n bod nawr?
 
(1, 0) 25 Wel, beth sy 'ta?
(1, 0) 26 Dyw Marged Ann ddim yn teimlo'n dda?
 
(1, 0) 29 Gesoch-chi newydd drwg odd'wrth Riannon?
 
(1, 0) 32 Wel, 'rych-chi'n tynnu gwep ofnatw.
(1, 0) 33 Beth gynllwn sy'n bod?
 
(1, 0) 35 Honno gwmpws dros ben cwar Shon Ifan?
 
(1, 0) 37 O gwn; y hi ath â'r |first prize| yn Llantrisant flynydda'n ol.
 
(1, 0) 39 Beth sy arni?
 
(1, 0) 41 Pam na fynnwch chi |vet| idd 'i gweld hi?
 
(1, 0) 44 'Dôs gita-chi ddim llawar o ffydd miwn |vets|, Nathanial.
 
(1, 0) 47 Fe ddylsach gisho i châl hi i fyta rwpath.
 
(1, 0) 49 Wel, pitwch a gofitio Nathanial; 'ryn-ni i gyd yn llaw Ragluniath, a dyna fel ôdd hi i fod.
(1, 0) 50 Ma-hi wedi bod yn fuwch dda i chi.
 
(1, 0) 52 A fe gesoch loi ardderchog odd'wrthi.
 
(1, 0) 54 A faint o arian nethoch-chi o'i llath hi, yn gaws a menyn?
 
(1, 0) 56 Wel pam andras ych-chi'n cwyno cymant!
(1, 0) 57 Welas-i eriod o'ch bath chi: fe allsach ffwrdo colli deg buwch y funad 'ma yn well na allsa llawar i ffarmwr golli cyw giar, a dyma chi, a'ch wynab c'yd â 'mraich i, am fod cratur dicyn yn anhwylus yn 'i henant.
(1, 0) 58 'Rwy'n synnu atoch-chi, Nathanial, a chitha'n meddwl sefyll lecshwn fel |Rural District Councillor|.
 
(1, 0) 62 Na wn-i.
 
(1, 0) 64 O, 'dych-chi ddim am fod yn |Councillor| nawr, o herwydd ychytig o bunna raid i chi wario.
(1, 0) 65 'Rych-chi'n folon i Siencyn Bifan i gâl hewl glir ar ol i chi dyngu y bysach-chi yn 'i faeddu-fa?
 
(1, 0) 68 Petar punt, saith swllt, a thair cinog, a chitha'n werth ych pwysa!
(1, 0) 69 Dishgwlwch 'ma, os na faeddwch-chi Siencyn, fe fyddwn yn destun sport i gôr Carmel tra bo canu'n bod.
 
(1, 0) 71 Dyna chi'n sharad rwpath yn depyg i reswm nawr.
 
(1, 0) 74 Naddo; ond 'rwy wedi bod yn meddwl.
(1, 0) 75 'Dych-chi damad gwell o fod miwn brys gita'r |address|, Nathanial.
(1, 0) 76 Ma'n rhaid i chi feddwl a meddwl.
(1, 0) 77 'Rwy wedi gofyn i Rhys Pritchard, Tomos Jones, a Dafydd Peters i ddod yma i'ch helpu chi, dynon o ddylanwad, bob un o honyn nhw.
(1, 0) 78 O otw, 'rwy wedi bod yn meddwl a chysitro.
 
(1, 0) 86 Gadewch y côr yn llonydd ar hyn o bryd, Nathanial.
(1, 0) 87 |Politics| yw-hi nawr, cofiwch, a nid cerddoriath.
(1, 0) 88 Ma'n rhaid i chi gisho meddwl fel fi.
(1, 0) 89 Fe fuas-i wrthi nithwr, ar asgwrn 'y ngefan yn y gwely, yn pondro a phondro, heb gysgu llygetyn nes bo'r wawr yn torri, a ma-hi'n dod i hyn: dôs 'na ddim llawar ynddi rhyngto chi a Siencyn yn y petwar capal, a felny, os gallwch-chi ennill fôts gwŷr yr Eclws, fe faeddwch Siencyn yn yffion.
 
(1, 0) 91 Ma'n rhaid iddyn nhw foto drosto-chi, ryw-shap ne'i gilydd.
(1, 0) 92 Os, ma'n rhaid i ni gâl fôts yr Eclws.
 
(1, 0) 94 Wel, 'rw-i wedi câl dicon o draffarth gita'r Eclws y bora 'ma, ta pun.
(1, 0) 95 Rwy wedi bod dros ddwy awr yn cisho cwiro hwn.
 
(1, 0) 97 O! 'r Ficar; brelo ryfadd yw hwn; 'rwy wedi bod yn 'i gwiro fa, o bryd i bryd, am ddeng mlynadd ne fwy.
 
(1, 0) 99 Ma-fa wedi bod yn sawl brelo odd'ar hynny; 'dôs 'na ddim o'r hen un ar ol nawr ond y ddolan.
(1, 0) 100 Odd-a i fod yn barod amsar cino, hefyd; peth od na fysa'r Ficar wedi galw.
 
(1, 0) 103 'Rwy'n 'i gwpla fa nawr, Mr. Jones.
(1, 0) 104 Dewch miwn.
 
(1, 0) 113 Dyna beth wy inna'n wêd hefyd, Mr. Jones; y |fight| ora fuws yn Llanybryn eriod.
(1, 0) 114 Shwt ma'r |Bazaar| yn dod mlân?
 
(1, 0) 118 Dim ond o bell, Mr. Jones.
 
(1, 0) 120 Wel, dyna beth yw postar, ontefa!
(1, 0) 121 Os dim un gita chi i spario, Mr. Jones?
 
(1, 0) 124 Pitwch a sôn, Mr. Jones, pitwch a sôn; a diolch yn fawr i chitha.
(1, 0) 125 Os ôs 'na rwpath y galla-i neud yn fy ffordd fach i, 'dôs gita-chi ddim ond gwêd hannar gair.
 
(1, 0) 127 Cato'n pawb!
(1, 0) 128 Arglwyddas Llanharan yn dod i acor y |Bazaar|!
(1, 0) 129 |Bazaar| ardderchog fydd hwn, Mr. Jones.
 
(1, 0) 132 Itha |right| hefyd: ond fe fydd 'na un enw'n isha, ddylsa fod ar y rhestar.
 
(1, 0) 135 Nathanial Morgan, |Esq|.
(1, 0) 136 Pam na ofynnwch-chi iddo fe gyfrannu rwpath?
 
(1, 0) 145 Fe wyddoch o'r gora, Mr. Jones, shwt ma'r ffermwyr 'ma: fe gewch fencyd ceffyl a cart am wthnos ne' racor a chroeso, ac os bydd hi'n galad iawn arnoch-chi, 'dôs fawr gwaniath gan amball i ffarmwr i |roi| ceffyl a chart i chi, ond ma'r un man i chi gisho câl wech ne swllt odd'wrthyn-nhw, a chasglu ffigys odd'ar ysgall.
(1, 0) 146 Ma gen-i well syniad na roi pum punt, lawar gwell.
 
(1, 0) 150 Fysa buwch o rhyw les i chi?
 
(1, 0) 152 Fysa buwch o ryw ddefnydd i chi?
 
(1, 0) 154 Ia, buwch.
 
(1, 0) 156 O ma 'na wmradd o betha y gallach-chi neud â buwch, Mr. Jones.
 
(1, 0) 158 Beth tsa-chi yn 'i rafflo-hi yn y |Bazaar|?
 
(1, 0) 161 Allwch-chi ddim doti buwch lawr yn y cyfraniata, falla, ond tsa chi ddim ond hysbysu yn y |Gazette| fod 'na fuwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd, idd 'i rafflo yn y |Bazaa|r, tocynna, wech chinog─na, beth wy'n sôn, tocynna, swllt yr un─fe fysa hynny'n ddicon gwell na phum punt i chi.
 
(1, 0) 164 'Dos dim raid i chi ofni, Mr. Jones.
 
(1, 0) 166 'Rych-chi'n folon roi buwch, on'd ych-chi Nathanial?
 
(1, 0) 170 A falla byddwch chi cystlad a chyhoeddi 'r un pryd, Mr. Jones, fod y cratur yn cal 'i rhoi gan Nathanial Morgan, |Esq.|, un o ymgeiswyr lecshwn y |Rural District Council|?
 
(1, 0) 175 Ma'n rhaid i chi gal |handbills|, Mr. Jones,; a'u dosbarthu nhw ym mhobman.
(1, 0) 176 Chwalwch nhw i betwar cwr y byd.
(1, 0) 177 Sôn am |Fazaar|, hwn fydd y mwya fu eriod yng Nghymru; fe newch hannar can-punt o'r fuwch yn y man lleia─tocynna swllt yr un, ddim dima'n llai.
 
(1, 0) 180 A ma'r un man i chi hysbysu ar y tocynna a'r |handbills| mai rhodd Nathanial Morgan yw y fuwch.
 
(1, 0) 182 Hannar can punt, yn wir, fe newch gan-punt o heni yn ddidraffarth; nid yn unig y plwyf, fe fydd yr oll shir yn y |Bazaar|.
 
(1, 0) 192 Dim yn y byd, Mr. Jones, dim o gwbwl; fuas-i ddim tair munad wrtho-fa.
 
(1, 0) 200 Dyna ni wedi 'i gneud-hi, Nathanial: 'ryn-ni wedi ennill y lecshwn acha un ercyd!
(1, 0) 201 Be'chi'n feddwl amdano i nawr?
(1, 0) 202 Ond wetas-i wrthoch-chi─yn y byd politicadd, ma'n rhaid i ddyn feddwl a chysitro.
 
(1, 0) 204 Fe wyddoch o'r gora 'runig dalu'n ol wy-i'n moyn {yn dymer iawn} gwetwch air bach drosto-i wrth Marged Ann.
 
(1, 0) 210 Alla-i ddim help, Nathanial.
(1, 0) 211 'Rwy'n gryf ymhob ffordd arall, ond os caiff cariad afal ar ddyn, 'dyw-a damad gwell, ys gwetws yr Ysgrythur, o wingo yn erbyn y symbyla.
(1, 0) 212 'Rwy wedi achub yn dda iawn ar hyd y blynydda, hyd yn hyn, ond 'nawr, dim ond i fi feddwl am Marged Ann, ne weld 'i shôl hi'n hongian ar y lein, 'rwy'n teimlo mod-i'n mynd yn yffion.
 
(1, 0) 214 Gwetwch air bach drosto-i, Nathanial, 'rwy wedi ennill y lecshwn i chi.
 
(1, 0) 216 'Rwy'n siwr o hynny.
(1, 0) 217 Pwy fuwch roiwch-chi?
 
(1, 0) 219 Pwy fuwch roiwch-chi?
 
(1, 0) 222 Do, do; odd yn rhaid i fi wêd rwpath.
(1, 0) 223 Ond fysach chi byth o'r gydwypod i roi hen fuwch â thair côs iddi yn y bedd i |Fazaar| yr Eclws!
 
(1, 0) 226 Ddim eriod.
 
(1, 0) 228 Dim enad byw.
 
(1, 0) 230 Aliwch chi byth a roi'r hen gratur 'na!
 
(1, 0) 234 Os gita-chi ddim un Castall Martin arall?
 
(1, 0) 236 Na wyddwn-i.
(1, 0) 237 Beth os bydd hon farw?
 
(1, 0) 241 Fe fydd rhaid i chi roi buwch arall wetyn.
 
(1, 0) 244 O'r gora, o'r gora; dim gair arall!
(1, 0) 245 Fe af-fi ar ol y Ficar nawr cyn cyraeddiff-a'r printar, a fe esbonia-i bopath wrtho-fa.
(1, 0) 246 Fe gaiff ynta esbonio wrth wŷr yr Eclws, shwt o'ch-chi'n bwriatu roi hen fuwch afiach iddyn-nhw, a wetyn, fe gewn weld faint o fôts gewch chi.
(1, 0) 247 Y gwir ag e yw hyn: 'dych-chi ddim yn moyn maeddu Siencyn Bifan.
 
(1, 0) 249 Nagych; 'rych-chi'n folon i gôr Carmal i glochtar drosto-ni tra bo ni byw.
(1, 0) 250 Dyma fi'n mynd!
 
(1, 0) 261 Dyna chi eto, wastod miwn brys, yn poenia gofitio.
(1, 0) 262 Ma 'na ddicon o amsar, llawn dicon.
(1, 0) 263 Wel, gyfeillion, 'rwy wedi gofyn i chi ddod yma i fod yn bwyllgor i Nathanial Morgan.
(1, 0) 264 Y fi yw 'i agant-a, chi'n gweld.
(1, 0) 265 Fuas-i wthnos gyfan, ar dro, yn meddwl pwy i ddoti ar y pwyllgor, a 'rwy'n cretu mod-i wedi dewis y tri gora yn Llanybryn.
 
(1, 0) 274 Dynon o farn a syniata, 'lwch-chi.
 
(1, 0) 276 Dyma restar y pleidleiswyr: fuas-i oria maith nithwr yn 'u rannu a'u dethol nhw: a ma-hi'n dod i hyn: ma 'na 372 o bleidleiswyr ar y restar, yn mynychu capeli fel y canlyn: Seion, capal Nathanial a finna, 94; Carmal, capal Siencyn Bifan, a wth gwrs, ych capal chitha, Tomos Jones, 87; Nebo, ych capal chi, Rhys Pritchard, 62; Pisgah, ych capal chi, Dafydd Peters, 57; 61 yn mynd i'r Eclws; cyfanswm 361.
 
(1, 0) 278 372.
 
(1, 0) 280 Pump gwrthgiliwr, petwar ddim yn cretu, a ma 'na ddou, wn-i ddim beth i wêd am danyn-nhw.
 
(1, 0) 282 Ia, ia, ond cofiwch fod gan bob un ohonyn nhw fôt.
 
(1, 0) 286 Ma nhw lawar mwy tepyg o foto drosto-chi na thros Siencyn.
(1, 0) 287 Ta pun, fe gymrwn y capeli nawr bob yn un: Carmal gynta, capal Siencyn Bifan.
(1, 0) 288 Chewn-ni fawr os dim fôts o Garmal.
 
(1, 0) 297 Da iawn.
(1, 0) 298 Capal ni nesa, Seion, 94 o fôts.
(1, 0) 299 Fe ddylsan gal rheina i gyd ond rhyw ddwy ne dair.
 
(1, 0) 302 Hugh Parry, dyna un; fe wrthodsoch iddo fa arwan y |Band of Hope|.
 
(1, 0) 304 'Dwy-i ddim yn gwêd 'i fod-a, ond fe 'llwch fentro hyn; yn ol barn Hugh Parry, fyddwch-chi ddim yn deilwng i fod yn |Rural District Councillor|.
(1, 0) 305 Dyna un arall, Moses Griffith, fe'i troisoch-a mâs o'r Rechabiaid.
 
(1, 0) 307 'Dwy-i ddim yn gwêd llai, ond fydd dim fôt i chi manna.
(1, 0) 308 Nawr, os dotwn-i Seion a Charmal gita'i gilydd, 'rwy'n barnu fod 'na fajority o ryw ucian ar ochor Nathanial.
 
(1, 0) 311 Beth am ych capal chi, Rhys─Nebo, 62 o fôts?
 
(1, 0) 313 'Dwy-i ddim yn meddwl y caiff-a 40, gwetwch 35.
(1, 0) 314 Chi nesa, Dafydd─Pisgah, 57 o fôts.
(1, 0) 315 DAFYDD
 
(1, 0) 317 Wel a gwêd y gwir, ma hi dicyn yn lletwith.
(1, 0) 318 Chi'n gweld, ma-hi'n sefyll fel hyn: ma gwraig Siencyn Bifan yn gnithar i fam-yng-nghyfraith whâr gwraig yn gwinitog ni.
(1, 0) 319 Ia, dyna'r gwaetha o-heni.
(1, 0) 320 Otych-chi'n cretu y caiff-a ddeg o fôts?
 
(1, 0) 324 Fe wetwn bymthag.
(1, 0) 325 Nawr, a chymryd y petwar capal gita'i gilydd, 'dos 'na fawr o waniath rhwng un a'r llall; falla fod gen Nathanial fantas o rhyw ddeg ne racor o fôts.
(1, 0) 326 Fe welwch felny fod y lecshwn yn troi ar fôts yr Eclws, a ma'n hyfrydwch mawr gen-i i hysbysu i chi fel pwyligor y bydd gwŷr yr Eclws o'n hochor ni bron bob un.
(1, 0) 327 Ma Nathanial wedi addo buwch i'r Ficar, idd 'i rafflo yr wthnos nesa.
 
(1, 0) 330 Ia, buwch, rial Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd.
(1, 0) 331 Dyna 'ngwaith i 'lwchi, tocynna swllt yr un.
 
(1, 0) 348 |Political Economy|.
 
(1, 0) 352 Gallwn, yn enw'r bendith.
(1, 0) 353 'Ryn-ni wedi ennill y lecshwn; fe ddylsan ofalu i bito 'i cholli hi eto.
(1, 0) 354 Os gen un o chi awgrym?
 
(1, 0) 367 Os.
 
(1, 0) 374 Wath yn y byd am y trethi, dim ond i ni gâl cyfla i faclu Siencyn ynglŷn â'i dai.
 
(1, 0) 378 Cymrwch chi bwyll gita'r mab, Nathanial; 'n ol dim glywa-i, fe fydd ych mab-yng-nghyfrath chi ryw ddwarnod.
 
(1, 0) 394 Naddo; 'dyw hi ddim mas eto.
 
(1, 0) 433 Y chi a'ch "itha right"; enillwch chi byth os na newch-chi.
 
(1, 0) 437 O'r gora ta!
(1, 0) 438 Dyma fi yn ymddiswyddo.
 
(1, 0) 440 Dyna'ch agant-chi o hyn i mâs.
(1, 0) 441 Rwy'n ymddiswyddo!
 
(1, 0) 443 Otw, Mr. Bifan, dewch miwn.
 
(1, 0) 488 Y fi!
(1, 0) 489 Gofalwch be 'chi'n wêd, Mr. Bifan, ne fe fynna'r gyfrath arnoch-chi, am slander a |damages|.