Ciw-restr

Castell Martin

Llinellau gan Siencyn (Cyfanswm: 40)

 
(1, 0) 447 Wel, wel {yn chwerthin yn iachus} dyma fi yng nghanol gwersyll y gelyn.
(1, 0) 448 Ha, ha, ha.
(1, 0) 449 Shwt ych-chi, Nathanial?
 
(1, 0) 455 A shwt ma'r gwaithda yndod 'mlân?
 
(1, 0) 458 'Rwy'n synnu atoch chi, Nathanial.
(1, 0) 459 'Rych-chi wedi dod yn f'erbyn i yn y lecshwn 'ma o felltith a drygioni'ch calon.
(1, 0) 460 Ond druan o chi, 'dôs fawr gopath y llwyddwch-chi.
 
(1, 0) 464 Nagos, dim yfflyn o opath.
(1, 0) 465 Fuoch-chi eriod yn ddyn cyhoeddus, fel fi.
 
(1, 0) 467 Pam ych-chi'n sefyll y lecshwn 'ma, Nathanial?
(1, 0) 468 Jelosi─ha, ha, ha─jelosi; fe ffaelsoch gita'ch côr─
 
(1, 0) 470 Do.
(1, 0) 471 Côr pwy enillws ym Mhen-yr-Englyn?
 
(1, 0) 474 Y chi─ond pwy enwad ôdd yn cynnal yr eisteddfod?
(1, 0) 475 Ond sôn am ganu, pwy gas y wopor yn Hendrefadog?
 
(1, 0) 479 Ho, ho; dyna'ch barn chi.
(1, 0) 480 Ta pun, fe enillas-i ddwywaith o dair, a fe'ch maedda chi eto fel |Rural District Councillor|. {Yn estyn rhaglen i NATHANIEL.}
(1, 0) 481 Dyma'n |address| i.
(1, 0) 482 Fe benderfynas ddod â hi mâs cyn y gnelsa chi.
(1, 0) 483 Allwch chi ddim gwêd nawr mod-i wedi cymryd dim byd o'ch program chi, a wy-i am i chitha, os gwelwch chi'n dda, i bito efelychu dim o'n un inna {gyda gwên ddireidus} fel y gnithoch-chi gita'r canu.
 
(1, 0) 486 Galla'n rhwydd, a dyma'r tyst {gan gyfeirio af ISAAC}.
(1, 0) 487 Isaac, nawr 'rwy-i am i chi gyfadda'r gwir, sawl gwaith y buoch chi'n gwrando ar y slei o dan ffenast Carmal ar 'y nghôr-i'n canu?
 
(1, 0) 490 Ddwseni o witha.
 
(1, 0) 492 O ble cesoch-chi'r syniad o ddwbwl |piano| yn "Worthy is the Lamb ─oddiwrtho-i, Nathanial, odd'wrtho i.
 
(1, 0) 496 Ha, ha, ha─fe fuws 'na ddyn yn gwrando o dan ffenast ych capal chi, ond nid fi helws-a.
(1, 0) 497 Wyddoch-chi beth wetws-a ar ol dod 'nol?
 
(1, 0) 499 Wel, gofynnwch i Tomos Jones ych cefnocydd politicadd mwya chi.
(1, 0) 500 Dyna'r dyn fuws dan y ffenast.
(1, 0) 501 Beth wetsoch-chi, Tomos, otych-chi'n cofio?
 
(1, 0) 503 Wyddoch-chi beth wetws-a, Nathanial─nag odd 'na ddim byd yn ych hen ganu chi!
 
(1, 0) 517 Sawl gwaith wy-inna wedi gofyn i ti atal y merched yn llonydd.
 
(1, 0) 519 Nawr, darllenwch yr |address| yna, a gofalwch na chymrwch-chi ddim |points| odd'wrthi.
 
(1, 0) 522 Nagos, fyth yn ych bywyd, Nathanial.
(1, 0) 523 Ma 'mhwyllgor i wedi pwyso petha'n ofalus.
(1, 0) 524 Ma gen-i fantas o 30 o fôts, o leia, yn y petwar capal, a fe gaf y rhan fwya o fôts gwŷr yr eclws.
 
(1, 0) 527 Am wn-i na chaf-fi nhw i gyd, wâth ych-chi wedi bod mor afresymol ynglŷn â'r Datgysylltiad a'r Dadwaddoliad.
 
(1, 0) 537 Beth yw hyn, Nathanial!
(1, 0) 538 'R ych chi wedi bradychu egwyddorion mawr Rhyddid a Chydraddoldeb crefyddol, 'r ych-chi wedi gwerthu'ch henad am saig afiach o fôts.
(1, 0) 539 Ond fe'ch maedda chi, gnaf!
(1, 0) 540 Fe fydd ych hanas chi'n destun drewllyd ar bob aelwyd yn y plwyf, a fe'ch cospir chi'n dragwyddol am fargan yr hen fuwch ddu!