Ciw-restr

Cofia'n Gwlad

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 298)

 
(1, 1) 3 Golygfa 1
(1, 1) 4 ~
(1, 1) 5 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn cyntaf...
 
(1, 1) 36 Yn ystod yr emyn, araf-ddiffoddir y golau.
(1, 1) 37 O oleuni llachar yr 21ain ganrif dychwelwn at oleuni sy'n gydnaws â lampau olew ddechrau'r 20fed ganrif.
(1, 1) 38 Atgyfnerthir y siwrne hon yn ôl mewn amser wrth i organ gyfoes y cyfeiliant droi'n harmoniwm neu'n biano.
(1, 1) 39 ~
(1, 1) 40 Yn ystod yr ail bennill, daw gwraig (Mrs. Jones) i'r sêt fawr.
(1, 1) 41 Mae hi'n bresennol yn y capel ond nid yw'n ymddangos pe bai'n rhan o bresenoldeb y gynulleidfa.
(1, 1) 42 Mae parsel yn ei llaw.
(1, 1) 43 Yn ei phwysau, mae'n datod y parsel ac yn gwisgo'r dilladach sydd ynddo amdani.
(1, 1) 44 Dillad galar ydynt.
(1, 1) 45 Eto, yn ei phwysau, mae'n dringo i'r pwlpud.
(1, 1) 46 Yn araf, mae'n codi ac yn ymestyn ei breichiau tuag at holl blant colledig ei bro.
(1, 1) 47 Wrth fôn ei hystym y mae galar am ei phlentyn ei hun.
(1, 1) 48 Ei hunig blentyn.
(1, 1) 49 ~
(1, 1) 50 Wrth i'r emyn bennu dal i dyfu a chryfhau y mae ymestyniad y fam.
 
(1, 2) 52 Golygfa 2
(1, 2) 53 ~
(1, 2) 54 Ar ddiwedd yr emyn darllenir...
 
(1, 2) 81 Yn ystod y darlleniad datblygir cyfeiliant tympani.
(1, 2) 82 Wrth i'r cyfeiliant gryfhau, cryfhau hefyd a wna goslef y darllenwr.
(1, 2) 83 Yn y pen draw, nid darllenydd gwrthrychol mohono ond cennad 'dial cyfiawn'.
(1, 2) 84 ~
(1, 2) 85 Trwy gydol y darlleniad mae'r fam yn cynnal ei hystym gan wrthweithio pob ymgais ar ran y lladmerydd i'w gorchfygu.
(1, 3) 86 Golygfa 3
(1, 3) 87 ~
(1, 3) 88 Mae drws y capel yn agor.
(1, 3) 89 ~
(1, 3) 90 Clywir, o bell, pump o wŷr ifainc uchel eu hysbryd, os nad lled-feddw, yn agosau.
(1, 3) 91 Wrth iddynt ddod mewn trwy'r drws gwelir – o'u gwisg a'u hyder - mai boneddigions ydynt.
(1, 3) 92 Golygfa fyrfyfyr fydd hon i'w phrifio o'r hadau canlynol...
(1, 3) 93 ~
(1, 3) 94 Mae bob yr un ohonynt â photel siampên yn ei law.
(1, 3) 95 ~
(1, 3) 96 Mae pob potel wedi'i lapio â baner ymerodraethol, sef... Awstro-Hwngari, Rwsia, yr Almaen, Ffrainc a Phrydain.
(1, 3) 97 ~
(1, 3) 98 Eu hymateb cyntaf wrth 'ddarganfod' y gofod newydd yw hawlio eu cyfran yn enw eu hymerodraeth. cyflawnir hyn pe byddent yn chwarae gêm.
(1, 3) 99 ~
(1, 3) 100 Mae'r gêm yn datblygu yn ei sbri wrth i'r pump ruthro i 'feddiannu' mwy a mwy o 'diroedd'.
(1, 3) 101 ~
(1, 3) 102 Digwydd rhyw fath o anffawd.
(1, 3) 103 Ond nid yw'r sawl a anafwyd yn fodlon derbyn mai damwain ydoedd.
(1, 3) 104 Mae'r chwarae yn troi'n chwerw wrth i'r cwmni meddw ymrannu'n garfannau cecrus (yr Almaen ac Awstria-Hwngari yn erbyn Ffrainc, Prydain a Rwsia).
(1, 3) 105 ~
(1, 3) 106 Mae cyfeiliant y tympani yn dychwelyd.
(1, 3) 107 Yn frawychus o gyflym mae'r cyfeiliant hwn yn troi'r ymgecru yn ffieidd-dra gwirioneddol brawychus.
(1, 3) 108 Clywir y geiriau 'this means war'/ 'this is war'/ 'war' drosodd a throsodd.
(1, 3) 109 ~
(1, 3) 110 Wedi cyrraedd ei ben llanw...
(1, 3) 111 ~
(1, 3) 112 Tywyllwch dudew a thawelwch llethol am funud gyfan.
(1, 4) 113 Golygfa 4
(1, 4) 114 ~
(1, 4) 115 Clywir llais merch ifanc...
 
(1, 5) 125 Golygfa 5
(1, 5) 126 ~
(1, 5) 127 Cyhoeddir a chyd-gennir yr ail emyn.
 
(1, 6) 152 Golygfa 6
(1, 6) 153 ~
(1, 6) 154 Mae'r wraig yn dod i mewn.
(1, 6) 155 ~
(1, 6) 156 Mae'n gosod y lamp wrth ei hymyl cyn mynd ati i bolisio gwaith coed y sêt fawr.
(1, 6) 157 Gwelwn ei bod yn rhoi o'i nerth i'r gwaith.
(1, 6) 158 ~
(1, 6) 159 Ymhen hir a hwyr mae'n syrthio i'w phengliniau er mwyn dechrau ar y gwaith o bolisio'r pwlpud.
(1, 6) 160 ~
(1, 6) 161 Gyda hyn, mae drws y capel yn agor – ei mab, Ifan-John, yn chwilio amdani.
 
(1, 6) 188 Ifan-John yn cnoi ei dafod.
 
(1, 6) 243 Ifan-John yn ymadael.
 
(1, 7) 246 Golygfa 7
(1, 7) 247 ~
(1, 7) 248 Canwr Gwerin...
 
(1, 8) 277 Golygfa 8
(1, 8) 278 ~
(1, 8) 279 daw pump person i eistedd yn y sêt fawr.
 
(1, 8) 299 Yr arweinydd yn esgyn i'r pwlpud...
 
(1, 8) 305 Gŵr y Plas yn eistedd mewn cadair seml-urddasol. Yr Arweinydd, y Mistir, y Gwas Mawr a'r Gwas Bach yn ei godi yn ei gadair i'w hysgwyddau.
 
(1, 9) 312 Golygfa 9
(1, 9) 313 ~
(1, 9) 314 Daw Ifan-John i bwyso ar flaen y sêt fawr – pe bai'n pwyso ar glwyd, neu fonyn coeden.
(1, 9) 315 Ar yr un pryd, mae'r pedwarawd yn gostwng gŵr y plas yn ofalus i'r llawr.
(1, 9) 316 Â'r Pedwar i gyfeiriadau gwahanol cyn sefyll a loetran, megis Ifan-John.
 
(1, 9) 326 Amnaid sydyn a chynnil gan un o'r bechgyn. Bachgen 3 yn deall.
 
(1, 9) 336 Dim ymateb gan Ifan-John.
(1, 9) 337 ~
(1, 9) 338 Mae'r pedwar yn dechrau cau yn lled-fygythiol amdano.
 
(1, 9) 342 Â'r Pedwar ar ei war.
 
(1, 9) 344 Y Pedwar yn rhannu gwên fuddugoliaethus wedi tynnu ymateb oddi wrtho.
 
(1, 9) 359 Y Pedwar yn torri o fod yn berfformwyr coeglyd i fod yn bedwar ffrind, go iawn.
 
(1, 9) 362 Y perfformio'n dechrau ail-adeiladu...
 
(1, 9) 369 Tawelwch.
(1, 9) 370 ~
(1, 9) 371 Yn y pen draw...
 
(1, 9) 376 Yn ei amser ei hun.
 
(1, 9) 383 Yn ei amser ei hun, eto.
 
(1, 9) 400 Ifan-John yn dechrau cerdded bant.
 
(1, 9) 405 Ifan-John wedi sefyll â'u hwynebu eto.
 
(1, 9) 407 Ysbaid.
 
(1, 10) 413 Golygfa 10
(1, 10) 414 ~
(1, 10) 415 Yn torri ar draws yr olygfa flaenorol...
 
(1, 10) 417 Mae'r pedwar milwr yn diflannu.
 
(1, 10) 433 Ysbaid.
 
(1, 10) 442 Ysbaid.
 
(1, 10) 453 Amnaid yn unig gan Dafydd.
 
(1, 10) 500 Ysbaid.
 
(1, 10) 503 Ysbaid.
 
(1, 10) 511 Ysbaid.
 
(1, 10) 522 Ar ei draws...
 
(1, 10) 526 Ifan-John yn syllu'n ofalus arno. Wedi'r archwiliad...
 
(1, 10) 529 Ysbaid.
 
(1, 10) 533 Amnaid yn unig o ddealltwriaeth gan Ifan-John.
 
(1, 10) 546 Ar ei draws.
 
(1, 10) 557 Ar ei draws...
 
(1, 10) 570 Ysbaid.
 
(1, 10) 575 Ysbaid.
(1, 10) 576 ~
(1, 10) 577 Ei lygaid yn codi ac yn edrych ar Dafydd.
 
(1, 10) 579 Dim symudiad o ran Dafydd ac amnaid yn unig gan Ifan-John.
(1, 11) 580 Golygfa 11
(1, 11) 581 ~
(1, 11) 582 Cyhoeddir a chyd-genir yr emyn...
 
(1, 11) 604 Tra fod yr emyn yn cael ei ganu dechreua'r fam hulio'r ford swper.
(1, 12) 605 Golygfa 12
(1, 12) 606 ~
(1, 12) 607 Ar ddiwedd yr emyn clywir y drws mas yn agor a chau. Mae'r fam 'yn y gegin'.
 
(1, 12) 629 Y fam yn dod i'r amlwg.
 
(1, 12) 632 Ymhen ennyd.
(1, 12) 633 ~
(1, 12) 634 Yn dawel, yn y cefndir, cenir yr hwiangerdd...
 
(1, 12) 643 Mae'r golau'n araf wanhau nes ildio'r adeilad i dywyllwch llethol.
(1, 13) 644 Golygfa 13
(1, 13) 645 ~
(1, 13) 646 Wrth i'r golau ail-gynnau agorir drws y capel.
(1, 13) 647 ~
(1, 13) 648 Mae'r fam yn y capel, wrth y gwaith o olchi'r lloriau.
(1, 13) 649 ~
(1, 13) 650 Yn betrusgar braidd, daw merch ifanc i'r amlwg.
 
(1, 13) 664 Mati'n oedi cyn ymateb.
 
(1, 13) 687 Ysbaid.
 
(1, 13) 725 Ysbaid.
 
(1, 13) 730 Ysbaid.
 
(1, 14) 734 Golygfa 14
(1, 14) 735 ~
(1, 14) 736 Yn y sêt fawr, mae gweinidog yn ymarfer wrth ymwisgo.
(1, 14) 737 Mae ei goler gron yn amlwg, ond dim ond wrth eu gwisgo gwelwn mai siaced a chapan cyrnol sydd ganddo.
(1, 14) 738 ~
(1, 14) 739 Wrth i'r ymwisgo fynd rhagddo try'r ymarfer yn berfformiad – yn bererasiwn didwyll a dilyffethair.
 
(1, 15) 761 Golygfa 15
(1, 15) 762 ~
(1, 15) 763 Digwydd chwarae'r olygfa hon mewn dau le ar yr un pryd.
(1, 15) 764 Nid oes perthynas uniongyrchol rhwng y naill a'r llall.
(1, 15) 765 ~
(1, 15) 766 Yn y naill le, Mae kitty ifanc yn eistedd gan fagu plentyn yn ei chôl.
(1, 15) 767 ~
(1, 15) 768 Yn y llall mae Ifan-John yn gosod y pethau olaf yn ei fag teithio...
 
(1, 15) 783 Wedi'r cam petrus cyntaf, Mae Ifan-John yn troi ac yn brasgamu o'r adeilad.
(1, 15) 784 Nid yw'n mentro nag oedi na throi yn ei ôl o gwbl.
(1, 15) 785 ~
(1, 15) 786 Rai eiliadau'n ddiweddarach, daw rhywun/rhywrai at Kitty gan fynd a'r plentyn o'i gafael ac o'n golwg.
(1, 15) 787 ~
(1, 15) 788 O'r cysgodion daw ail bennill yr hwiangerdd...
 
(1, 16) 797 Golygfa 16
(1, 16) 798 ~
(1, 16) 799 Offrymir gweddi gyfoes o'r frest.
(1, 16) 800 ~
(1, 16) 801 Ar ddiwedd y weddi, gwahoddir pawb i gydadrodd gweddi'r arglwydd...
 
(1, 17) 820 Golygfa 17
(1, 17) 821 ~
(1, 17) 822 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf...
 
(1, 17) 847 Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd...
(1, 17) 848 Gras ein Harglwydd Iesu Grist
(1, 17) 849 a chariad Duw
(1, 17) 850 a chymdeithas yr Ysbryd Glân
(1, 17) 851 a fyddo gyda ni oll.
(1, 17) 852 Amen.
(1, 17) 853 Diwedd Act 1.
(2, 1) 854 Act II
(2, 1) 855 Golygfa 1
(2, 1) 856 ~
(2, 1) 857 Cyhoeddir a chyd-genir yr emyn cyntaf...
 
(2, 2) 881 Golygfa 2
(2, 2) 882 ~
(2, 2) 883 Wrth i'r gynulleidfa eistedd ar ddiwedd yr emyn daw dau berson i'r capel o'r tu fas.
(2, 2) 884 Mae'r naill yn ymwelydd o loegr.
(2, 2) 885 Cymro lleol yw'r llall.
(2, 2) 886 ~
(2, 2) 887 Mae'r ymwelydd yn gyfarwydd â phensaerniaeth eglwys.
(2, 2) 888 Mae pensaerniaeth capel yn gwbl ddieithr iddo.
 
(2, 2) 893 Amnaid gan y tywysydd.
 
(2, 2) 916 Yr ymwelydd i'w weld mewn dryswch eto.
 
(2, 2) 982 Y tywysydd yn pwyntio at y pwlpud.
 
(2, 2) 990 Ysbaid.
 
(2, 2) 1008 Ennyd.
 
(2, 2) 1019 Cwyd ysbryd bardd o ganol y gynulleidfa.
 
(2, 2) 1037 Mae ysbryd y bardd yn troi at y gynulleidfa...
 
(2, 2) 1039 Mae'r bardd yn ymadael â'r adeilad.
(2, 2) 1040 ~
(2, 2) 1041 Wedi i'r drws mas gau...
 
(2, 3) 1048 Golygfa 3
(2, 3) 1049 ~
(2, 3) 1050 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn...
 
(2, 3) 1094 Yn ystod y pennill olaf gwelir y fam yn ail-afael yn ei theclynnau glanhau.
(2, 4) 1095 Golygfa 4
(2, 4) 1096 ~
(2, 4) 1097 Tra fod y fam wrth ei gwaith daw'r bardd (Mr. Jones) i'r capel.
(2, 4) 1098 Heb ei gwled, â tua'r sêt fawr i chwilio am rywbeth.
(2, 4) 1099 ~
(2, 4) 1100 Wedi'i wylio am eiliad neu ddwy...
 
(2, 4) 1120 Yn sylweddoli iddo anghofio am ei gofid.
 
(2, 4) 1125 Ennyd.
 
(2, 4) 1132 Eiliad letwhith.
(2, 4) 1133 Dim rhagor i'w ddweud.
(2, 4) 1134 Yn y pen draw...
 
(2, 4) 1137 Mr. Jones yn troi i fynd.
 
(2, 4) 1139 Yn cynnig ei nodiadau iddo.
 
(2, 4) 1145 Kitty'n oedi, yna'n galw ar ei ôl...
 
(2, 5) 1165 Golygfa 5
(2, 5) 1166 ~
(2, 5) 1167 Ffilm:
(2, 5) 1168 Caledfryn Evans, Tal-y-bont, yn siarad am ei brofiadau yn filwr yn y rhyfel byd cyntaf.
(2, 6) 1169 Golygfa 6
(2, 6) 1170 ~
(2, 6) 1171 Ar ddiwedd y ffilm, darganfyddir Mati yn y pwlpud...
 
(2, 6) 1196 Yn ystod y gân dechreua Kitty hulio'r bwrdd ar gyfer swper.
(2, 6) 1197 Mae'n gosod cyllyll a ffyrc ar gyfer dau.
(2, 7) 1198 Golygfa 7
(2, 7) 1199 Ar ddiwedd y gân, daw Mati o'r pwlpud.
(2, 7) 1200 Caiff Kitty rywfaint o sioc o'i gweld.
 
(2, 7) 1213 Ysbaid fer.
 
(2, 7) 1216 Y sôn am dato yn ei hatgoffa...
 
(2, 7) 1229 Ennyd fer.
 
(2, 7) 1253 Ennyd.
 
(2, 7) 1260 Ennyd.
 
(2, 7) 1272 Wrth iddi ddechrau ei ddweud, mae Kitty'n sylweddoli mai bwriad Mati yw mynd bant.
(2, 7) 1273 ~
(2, 7) 1274 Mati yn gweld y realiti yn taro kitty ac yn edrych yn ymddiheuriol tuag ati.
 
(2, 7) 1287 Kitty'n edrych arni'n syn.
 
(2, 7) 1290 Ennyd.
 
(2, 7) 1293 Ennyd.
 
(2, 7) 1305 Ennyd.
 
(2, 7) 1322 Edrychiad gan Kitty.
(2, 7) 1323 Mati'n ateb yr edrychiad...
 
(2, 7) 1329 Kitty yn edrych yn ddwys-ymchwilgar arni, unwaith eto.
(2, 7) 1330 Yn y pen draw, Mati'n ateb yr edrychiad...
 
(2, 7) 1333 Amnaid gan Kitty tra'i bod yn rhagdybio'r hyn sydd gan Mati i ddweud nesaf, sef...
 
(2, 7) 1337 Ennyd.
 
(2, 7) 1345 Kitty yn edrych arni.
(2, 7) 1346 Mati'n ateb yr edrychiad...
 
(2, 7) 1355 Mae Kitty'n fud am ba bynnag amser y cymer i ddarnau olaf ei breuddwyd gwympo a chwalu'n deilchion.
(2, 7) 1356 ~
(2, 7) 1357 Yn y pen draw...
 
(2, 8) 1361 Golygfa 8
(2, 8) 1362 ~
(2, 8) 1363 Cyhoeddir a chyd-gennir y trydydd emyn...
 
(2, 8) 1397 Yn ystod ail hanner yr emyn dechreua Kitty ar ei gwaith glanhau, unwaith eto.
(2, 9) 1398 Golygfa 9
(2, 9) 1399 ~
(2, 9) 1400 Wrth i Kitty weithio, gwelwn fod blinder mawr yn gwasgu arni.
(2, 9) 1401 Gwelwn hefyd ei bod yn gweithio â phenderfyniad i beidio ildio.
(2, 9) 1402 ~
(2, 9) 1403 Am gyfnod da, y tyndra mewnol hwn yw canolbwynt y ddrama.
(2, 9) 1404 ~
(2, 9) 1405 Yna, clywir darllenwr nad ydym yn ei weld, er ei fod yn bresennol (nid tâp) yn darllen...
 
(2, 9) 1430 Ennyd.
 
(2, 9) 1433 Ennyd.
 
(2, 10) 1439 Golygfa 10
(2, 10) 1440 ~
(2, 10) 1441 Daw'r ymwelydd yn ei ôl.
(2, 10) 1442 Mae ganddo gamera neu ffôn-gamera yn ei law ac â ati i dynnu lluniau'r capel.
(2, 10) 1443 ~
(2, 10) 1444 Wedi ysbaid daw'r tywysydd o'i ôl.
 
(2, 10) 1461 Ennyd.
 
(2, 10) 1468 Ennyd.
 
(2, 10) 1524 Ennyd.
 
(2, 10) 1530 Ennyd.
 
(2, 10) 1536 Y ddau yn symud i fynd.
(2, 10) 1537 ~
(2, 10) 1538 Yn ymyl y drws, mae'r ymwelydd yn sefyll yn sydyn.
 
(2, 10) 1545 Y ddau yn ymadael.
(2, 11) 1546 Golygfa 11
(2, 11) 1547 ~
(2, 11) 1548 Offrymir gweddi gyfoes o'r frest.
(2, 11) 1549 ~
(2, 11) 1550 Ar ddiwedd y weddi, gwahoddir pawb i gydadrodd gweddi'r arglwydd...
 
(2, 12) 1569 Golygfa 12
(2, 12) 1570 ~
(2, 12) 1571 Cyhoeddir a chyd-gennir yr emyn olaf...
 
(2, 12) 1595 Yn ystod y canu gwelir ar y sgrîn ddyfyniadau archif Hansard / newyddion...
(2, 12) 1596 ~
(2, 12) 1597 Gwleidyddion Senedd Prydain yn cyfiawnhau mynd i ryfel, 1914
(2, 12) 1598 ~
(2, 12) 1599 Gwleidyddion senedd prydain yn cyfiawnhau rhyfel Irac, 2003, a chyrchoedd awyr, 2014
(2, 12) 1600 ~
(2, 12) 1601 Ar ddiwedd yr emyn, gwahoddir y gynulleidfa i gyd-adrodd y weddi apostolaidd...
 
(2, 12) 1606 Y Diwedd