Ciw-restr

Cwm Glo

Llinellau gan Lewis (Cyfanswm: 54)

 
(1, 1) 332 Bore da, Dai.
 
(1, 1) 335 Sut mae pethau'n mynd?
 
(1, 1) 338 Ie, fel arfer, mae'n debyg.
 
(1, 1) 340 Pam wyt ti'n colli cymaint o amser nawr yn ddiweddar?
 
(1, 1) 342 Dai bach, wyt ti wedi anghofio eich bod chwi'n byw o fewn ergyd carreg i'n tŷ ni?
(1, 1) 343 Mi glywais dy fod wedi meddwi'n garn echnos.
(1, 1) 344 Ym mhle wyt ti'n cael arian i dorri peth o'r syched ofnadwy 'na sy'n dy flino di?
 
(1, 1) 346 Rwyt ti ar y bŵs bob tro daw ceffyl adre mae'n debyg.
(1, 1) 347 Mae gen ti ffitach gwaith i'th geiniogau, siwr o fod.
 
(1, 1) 349 Sut wyt ti, boi bach?
(1, 1) 350 Wyt ti'n cael digon o waith...
(1, 1) 351 Gofala am y lamp yna.
 
(1, 1) 361 Arnat ti neu Dai mae'r bai am yr holl lo mân yma sy tan draed?
(1, 1) 362 Rych chi braidd yn anniben gyda'ch gwaith.
(1, 1) 363 Bydd yn fwy cryno, machgen i.
 
(1, 1) 366 Dysg y crwtyn yna i fod yn fwy cryno Dai, neu fydd e dda i ddim byth; mae'r lle 'na yn ddychrynllyd.
 
(1, 1) 370 Dere yma Dai... ar unwaith!
 
(1, 1) 376 Rwy i wedi sylwi bod lot o fwc yn cael ei dipio'r diwrnodau diwetha 'ma.
 
(1, 1) 379 Ac y mae lot o slag yn hon.
 
(1, 1) 381 Dyw hyn ddim yn ddigon da.
 
(1, 1) 384 Does dim rhyfedd nad ŷm ni'n gallu gwerthu glo.
(1, 1) 385 Beth wyt ti'n ddisgwyl ond colli marchnadoedd â glo fel hyn!
 
(1, 1) 387 A thi a'th short fydd y cynta i achwyn pan fydd y pyllau yma wedi eu cau.
 
(1, 1) 391 Rwy i'n dy dalu di am ddysgu'r crwtyn na'n iawn.
(1, 1) 392 Sawl tram wyt ti wedi'i lanw heddi?
 
(1, 1) 397 Does dim o'th eisiau di.
(1, 1) 398 Cer nôl at dy waith machan bach i...
(1, 1) 399 Na, ateb...
(1, 1) 400 Ti lanwodd y dram yma?
 
(1, 1) 402 A dim ond hon sydd wedi ei llanw gyda chwi'r bore ma?
(1, 1) 403 Pam hynny?
 
(1, 1) 407 Bydd ddistaw.
(1, 1) 408 Paid â dweud dim rhagor o gelwyddau, da ti.
 
(1, 1) 410 O'r gorau, machgen i...
 
(1, 1) 412 Dowch yma am funud.
 
(1, 1) 414 Rwy'n ofni y bydd raid iti fynd, Dai.
 
(1, 1) 416 Bore da, Dic.
(1, 1) 417 Mae yna le go lew fan hyn, oes e ddim?
(1, 1) 418 Faint ych chwi wedi'i wneud bore ma?
 
(1, 1) 423 Dyna oeddwn innau'n feddwl.
(1, 1) 424 A dim ond hon mae Dai wedi'i llanw.
(1, 1) 425 A mae hi'n ddychrynllyd.
 
(1, 1) 427 Mae'n ddrwg gen i am Mrs. Davies, ac am Marged fach, ond dyna fe, beth sy gen i i'w wneud?
(1, 1) 428 Gwisg dy got!
 
(1, 1) 430 Beth arall alla i wneud?
(1, 1) 431 Mae Dai yn colli yn agos hanner ei amser—ceffylau a chwrw; mae e'n anniben, dyw e ddim gwerth ei halen; a mae'r hyn mae e'n ei wneud yn fwy o golled na dim arall.
(1, 1) 432 Glywaist ti Dai, casgla dy dŵls.
 
(1, 1) 439 Beth well fydda i.
(1, 1) 440 Run peth yn union fydd e.
(1, 1) 441 Na, alla i ddim rhoi cynnig arall iddo fe.
 
(1, 1) 446 O'r gorau, cer nawr cyn digwydd gwaeth iti.
(1, 1) 447 Galw am dy gardiau yn yr offis.
 
(1, 1) 451 A glywaist ti fi'n dweud wrthyt ti am fynd?
(1, 1) 452 Nawr te!