Ciw-restr

Cyfyng-Gyngor

Llinellau gan Lewis (Cyfanswm: 101)

 
(1, 0) 102 Mae'n rhy hwyr i hynny, wyddoch chi.
(1, 0) 103 Mae pethau wedi mynd yn rhy bell.
 
(1, 0) 105 Amser a ddengys.
(1, 0) 106 Fe ddaw'r lleill yma'n y man.
 
(1, 0) 108 Ia, y gweddill ohono' ni.
(1, 0) 109 Fy nhad, a Seth fy mrawd, Sioned y forwyn a Doctor Morus.
(1, 0) 110 'Rydych yn eu 'nabod i gyd...
(1, 0) 111 Maddeuwch i mi am eistedd i lawr.
 
(1, 0) 113 Fel y gwyddoch chi, 'dydy' fy iechyd i ddim fel y dyla' fo fod.
(1, 0) 114 'Wna' i ddim cweryla efo chi am hynny, er mai chi sy'n gyfrifol.
(1, 0) 115 Y dyfodol sy' gen' i dan sylw, nid y gorffennol.
 
(1, 0) 136 Ond 'dydy'r gwewyr ddim yn gyfyngedig i chi.
 
(1, 0) 140 Gan bwyll, Seth.
 
(1, 0) 144 Gwranda arna' i am funud...
 
(1, 0) 147 'Doeddwn i ddim yn bwriadu awgrymu'r fath beth.
(1, 0) 148 Ond 'setlwn ni mo'r broblem y naill ffordd na'r llall nes y bydd pawb wedi cyrraedd....
(1, 0) 149 P'le mae nhad?
 
(1, 0) 154 Dyma nhw ar y gair 'rwy'n credu.
 
(1, 0) 157 Na, Doctor Morus ydy' hwn.
 
(1, 0) 163 O rhywbeth yn debyg, doctor.
(1, 0) 164 Ac wedi blino braidd wrth gwrs.
 
(1, 0) 168 Ydy' weithia.
(1, 0) 169 Ac yn ddiffrwyth bob yn ail.
 
(1, 0) 175 Dyna'r drwg, gwaetha'r modd, doctor.
(1, 0) 176 'Dydy' o ddim.
 
(1, 0) 183 Hanner munud, Seth.
 
(1, 0) 185 'Ydych chi'n meddwl bod rheswm yn ddigon?
 
(1, 0) 188 Ystyriwch hyn; i fyny i dri mis yn ôl 'roeddech chi'n cael hwyl ar eich gwaith; yn sgrifennu'n rhwydd, a'r ddrama'n datblygu'n foddhaol...
 
(1, 0) 190 Ac yna, yn sydyn, dyma saib.
(1, 0) 191 'Fedrech chi symud 'run cam ymlaen ond troi yn eich unfan.
(1, 0) 192 Pam?
 
(1, 0) 197 Yn hollol,—am ei fod yn ddirgelwch y tu hwnt i ddeddfau rheswm.
(1, 0) 198 'Rydych yn dod yn nes ato' ni ar eich gwaetha'.
 
(1, 0) 213 Peidiwch â chymryd y peth yn ysgafn.
(1, 0) 214 Mae'r hyn a ddywedodd Doctor Morus yn berffaith wir.
(1, 0) 215 'Roedde' ni'n ddigon bodlon cyd-gerdded â chi ar y cychwyn.
(1, 0) 216 Roedd popeth mewn cytgord, a datblygiad naturiol ymhob cymeriad.
(1, 0) 217 Ond yn y man, dyma ni'n cyrraedd y groesffordd.
(1, 0) 218 'Roedde' ni'n hollol sicr pa lwybr i' ddewis.
(1, 0) 219 Ond 'fynnech chi ddim gadael i ni fynd.
(1, 0) 220 Roeddech yn benderfynol o'n hudo ar eich ôl i gyfeiriad arall.
(1, 0) 221 O ganlyniad, ar y groesffordd 'rydy' ni o hyd, a chwithau efo ni.
 
(1, 0) 248 Seth!
 
(1, 0) 252 Nid mater o asgwrn-cefn ydy' o.
(1, 0) 253 Beth wyt ti'n 'i ddisgwyl i mi 'i wneud.
 
(1, 0) 256 Paid â siarad yn wirion, Seth.
(1, 0) 257 'Fedrwn ni ddim.
 
(1, 0) 275 Dyma fi, 'nhad.
 
(1, 0) 328 Cymaint â chwithau.
(1, 0) 329 'Does dim ystyr iddo y tu allan i brofiad unigol.
 
(1, 0) 416 Seth?
 
(1, 0) 418 O wel...
(1, 0) 419 Mabli, 'ga'i gyflwyno Dr. Morus?...
(1, 0) 420 Gwraig Seth ydy' Mabli, Doctor.
 
(1, 0) 457 Dyma'r dewis i chi, felly,—un ai aros mewn cyfyng-gyngor parhaus, neu adael i ni gyflawni'n tynged yn ein ffordd ein hunain.
 
(1, 0) 495 'Ydy' o wedi mynd o ddifri'?
(1, 0) 496 Doctor, edrychwch rhag ofn.
 
(1, 0) 535 Ond 'rydych yn falch 'i fod o wedi mynd, Sioned?
 
(1, 0) 560 Beth am air gennych chi, 'nhad?
 
(1, 0) 574 'Dydy' hyn yn golygu fawr o ddim i 'nhad, mae arna'i ofn.
 
(1, 0) 606 Ia,—pwl sydyn.
 
(1, 0) 612 'Does gen' i fawr o awydd eu cymryd nhw—y tabledi yna 'rwy'n 'i feddwl.
 
(1, 0) 615 Hwyrach eich bod yn iawn.
(1, 0) 616 Ac eto, 'dyw poen ddim heb ei fantais.
 
(1, 0) 618 Mae o wedi cryfhau fy ffydd i yn ystod y misoedd diwetha' yma, yn un peth.
(1, 0) 619 'Fedra'i ddim esbonio pam, ond mae'n ffaith.
 
(1, 0) 621 P'run bynnag, 'rwy'n hyderus y ca' fi ymwared o'r aflwydd ar ôl heno.
 
(1, 0) 624 la?
 
(1, 0) 626 Dyna'r prif reswm, yn naturiol...
(1, 0) 627 Wrth gwrs 'dydw' i ddim yn disgwyl gwyrth.
(1, 0) 628 Mae o'n siŵr o gymryd tipyn o amser.
(1, 0) 629 Ond mae'r ansicrwydd wedi mynd rwan.
(1, 0) 630 'Roedd hwnnw'n waeth na'r poen os rhywbeth...
(1, 0) 631 Ar be 'rydych chi'n edrych.
(1, 0) 632 Ann?
 
(1, 0) 637 Dyna sy'n achosi poen yn fy nghoes, hwyrach...
(1, 0) 638 Ond mae hi'n 'stwythach 'rwan.
 
(1, 0) 640 Yr hen simdde fawr!...
(1, 0) 641 'Rwan 'rwy'n sylweddoli,─ 'dydw' i ddim wedi llosgi f'enw ar y pren yma eto.
(1, 0) 642 Wel, pa well achlysur na heno i ddathlu'n rhyddid?
(1, 0) 643 Ple mae'r procer?
 
(1, 0) 645 Mae'r hen ŵr wedi f'atgoffa fi lawer tro am hyn.
(1, 0) 646 Fe fydd yn falch pan glyw o fory...
(1, 0) 647 Mae Seth wedi gwneud ers talwm.
 
(1, 0) 649 'Does yna ond un lle,—yn y fan yma, o dan enw 'nhad.
 
(1, 0) 651 Dyna fo...
 
(1, 0) 653 O,—'fuoch chi ddim yn hir iawn, Doctor.
 
(1, 0) 658 Ia, mi ydw' i ar gychwyn...
(1, 0) 659 'Fydda' i'n hir, ydych chi'n meddwl, cyn adfer fy iechyd?
 
(1, 0) 661 Ond mae gennych ryw syniad?
 
(1, 0) 663 Cymaint â hynny?
(1, 0) 664 O, wel, mae Adran Hanes y Brifysgol yn siŵr o fynd ymlaen heb un darlithydd!
(1, 0) 665 A mi fedra' i fanteisio ar y seibiant i orffen fy ngwaith ymchwil.
(1, 0) 666 Dim gwrthwynebiad gobeithio?
 
(1, 0) 670 Ia, rhaid i mi gofio.
 
(1, 0) 672 Hanes yr Eglwys Geltaidd.
 
(1, 0) 674 Mae o'n hynod o ddiddorol.
(1, 0) 675 'Hoffech chi gael benthyg llyfr?
 
(1, 0) 677 Gweniaith!
 
(1, 0) 679 Diolch yn fawr i chi am bopeth, Doctor...
(1, 0) 680 Nos dawch.