Ciw-restr

Cyfyng-Gyngor

Llinellau gan Morus (Cyfanswm: 116)

 
(1, 0) 159 Hanner munud, os gwelwch yn dda.
(1, 0) 160 Popeth yn ei dro.
 
(1, 0) 162 Sut ydych chi'n teimlo?
 
(1, 0) 165 Beth am y goes?
(1, 0) 166 Dal yn boenus?
 
(1, 0) 170 Hm! Fe all hynny fod yn arwydd da.
(1, 0) 171 Y peth pwysica' rwan ydy' rhoi terfyn ar yr ansicrwydd yma.
 
(1, 0) 173 Ac y mae hynny'n dibynnu arnoch chi.
(1, 0) 174 'Rwy'n gobeithio eich bod yn sylweddoli...
 
(1, 0) 177 Beth...?
 
(1, 0) 187 Ydy'—a dyna pam 'rydy' ni'n y picil truenus yma efo'n gilydd.
 
(1, 0) 200 Mae o'n berffaith syml.
(1, 0) 201 Anghofiwch bopeth am Awen ac ysbrydoliaeth.
(1, 0) 202 'Dydy'nhw'n golygu dim.
(1, 0) 203 'Rydych chi mewn penbleth am ein bod |ni|'n dal yn ôl.
 
(1, 0) 259 Mae Lewis yn iawn, Seth.
(1, 0) 260 Nid dyna'r ffordd.
(1, 0) 261 Ein hunig obaith ydyw iddo fynd o'i ewyllys ei hun.
 
(1, 0) 265 Arhoswch Seth...!
 
(1, 0) 337 Ia, cofiwch mai ni sy'n y mwyafrif,—chwech yn erbyn un.
 
(1, 0) 344 I beth?
 
(1, 0) 361 Pam 'rydych chi'n petruso?
(1, 0) 362 Agorwch y drws.
 
(1, 0) 415 Maddeuwch i mi, ond 'ga' fi ofyn i rywun fy nghyflwyno?
 
(1, 0) 421 O? Mae'n ddrwg gen' i.
(1, 0) 422 'Wyddwn i ddim─
 
(1, 0) 454 Yn hollol.
(1, 0) 455 Mae'r amser wedi dwad i chi benderfynu.
(1, 0) 456 Rydych yn sylweddoli erbyn hyn fod gennym fodolaeth annibynnol.
 
(1, 0) 491 O'r diwedd!
 
(1, 0) 498 Na, 'does yna ddim golwg ohono fo.
 
(1, 0) 515 Wel, mae hi'n achlysur go arbennig, wyddoch chi Sioned.
 
(1, 0) 539 Chware teg iddi!
 
(1, 0) 553 Gora' oll.
(1, 0) 554 Fe gewch well blas arno fo.
 
(1, 0) 570 Mi ddof i fyny i'ch gweld mewn munud, Abram Morgan.
 
(1, 0) 575 Na, mae o'n agosau at ben 'i gŵys, 'rhen greadur.
 
(1, 0) 603 Wel, gair bach efo'r hen ŵr cyn iddo fo gysgu.
 
(1, 0) 605 Poen eto?
 
(1, 0) 607 Hidiwch befo, 'phery o ddim yn hir.
(1, 0) 608 Mi ro'i dabledi i chi fory i leddfu tipyn arno fo.
 
(1, 0) 610 Esgusodwch fi.
 
(1, 0) 654 Na, mae o wedi blino, 'rhen greadur.
(1, 0) 655 'Rwy'n fodlon 'rwan ar ôl 'i weld o'n setlo i lawr am y noson...
(1, 0) 656 Mae'n amser i chitha' fynd i fyny hefyd, Lewis.
(1, 0) 657 Gorffwys ydy'r peth pwysica' 'rwan.
 
(1, 0) 660 'Alla' i ddim ateb hynna.
 
(1, 0) 662 Wel, 'fyddwch chi ddim o gwmpas eich petha'n iawn am chwe' mis, beth bynnag.
 
(1, 0) 667 Dim o gwbl.
(1, 0) 668 Fe fydd yn llesol i chi.
(1, 0) 669 Peidio â gorweithio wrth gwrs.
 
(1, 0) 671 Beth ydy'r maes?
 
(1, 0) 673 O ia. 'Wn i ddim am dano fo, 'rwy'n ofni!
 
(1, 0) 676 Na, mi arosa' i nes y bydd eich un chi wedi'i gyhoeddi!
 
(1, 0) 681 Nos dawch.
(1, 0) 682 Mi gaf eich gweld yfory.
 
(1, 0) 687 Wel... fe glywsoch be' dd'wedais i funud yn ôl.
 
(1, 0) 689 Oeddwn, hyd y gwyddwn i.
(1, 0) 690 Rhaid cofio, wrth gwrs, fod ei salwch o,—wel yn un braidd yn gymhleth.
(1, 0) 691 Ond ar ôl heno mae'r rhagolygon yn fwy calonogol, efallai.
 
(1, 0) 694 Diolch yn fawr.
(1, 0) 695 Mae'n anodd gwrthod.
(1, 0) 696 Beth ydy'o?
 
(1, 0) 701 Diolch.
 
(1, 0) 703 Meddwl oeddwn i rwan...
 
(1, 0) 705 Am y tro cyntaf y dois i yma.
(1, 0) 706 Pa bryd oedd o,─ chwe mis yn ôl, ynte' chwe canrif?
(1, 0) 707 Mae amser wedi colli 'i ystyr rhywsut.
(1, 0) 708 P'run bynnag, 'roedd hi'n noson stormus—.
 
(1, 0) 713 Ia, rwy'n eich gweld rwan,—eich llygaid yn llawn pryder, a'r gwynt yn datod modrwy fach o'ch gwallt─
 
(1, 0) 717 'Rydy' ni wedi yfed eisoes i Ryddid.
(1, 0) 718 Beth fydd o y tro yma?
 
(1, 0) 721 Pam?
 
(1, 0) 723 Ond 'dydy' o ddim gormod i' ofyn.
(1, 0) 724 Onid dyna'r rheswm i ni ddewis mynd ein ffordd ein hunain?
 
(1, 0) 727 Ein bai ni fyddai hynny.
(1, 0) 728 Os oes unrhyw rwystr yn ein ffordd, mae modd i ni ei symud rwan.
 
(1, 0) 734 'Does dim rhaid i chi ddiolch.
(1, 0) 735 Wnes i ddim ond fy nyletswydd.
 
(1, 0) 738 Os gwnes i, roedd yn waith agos iawn at fy nghalon i.
 
(1, 0) 746 Gwn,─ llun Sant Jerôm yn 'i guro'i hun â charreg i ddarostwng y cnawd.
 
(1, 0) 748 Ydy', mi greda'i hynny...
 
(1, 0) 750 Naddo.
(1, 0) 751 'Dydw'i ddim yn bwriadu ei yfed nes...
 
(1, 0) 753 Nes y byddwn wedi dewis y llwnc-destun priodol.
 
(1, 0) 755 Ydy', rhy hawdd.
(1, 0) 756 Mae'n amser i ni gymryd cam ymlaen rwan.
(1, 0) 757 Wnaeth 'run ohono' ni hawlio Rhyddid er 'i fwyn ei hun.
(1, 0) 758 'Roedd yna amcan mwy pendant na hynny.
(1, 0) 759 Mae'n syn i'r Awdur beidio â gofyn—Rhyddid i beth?
(1, 0) 760 'Roedd o'n gwestiwn mor amlwg.
(1, 0) 761 A'r ateb i'r cwestiwn fydd ein llwnc-destun.
 
(1, 0) 763 'Does a wnelo' ni ddim â nhw rwan.
 
(1, 0) 765 Mae ganddyn' nhw eu rhesymau eu hunain.
(1, 0) 766 Seth yn ceisio rhedeg oddi wrth ei gyfrifoldeb, a Mabli oddi wrth ei phenbleth.
(1, 0) 767 A dyna Lewis,—wel, does dim angen dweud am dano fo.
 
(1, 0) 769 Mae nhw'n wahanol.
(1, 0) 770 'Roedden' nhw'n ddigon bodlon ar yr hen fywyd...
(1, 0) 771 Roeddwn innau'n fodlon hefyd, nes y gwelais i chi, Ann.
 
(1, 0) 773 Mae'n ddrwg gen'i os ydy' hynna'n eich digio.
(1, 0) 774 Maddeuwch i mi.
 
(1, 0) 776 'Ydych chi'n dweud...?
(1, 0) 777 Ann, beth wnaeth i chi ddyheu am ryddid?
(1, 0) 778 Beth oedd eich cymhelliad?
 
(1, 0) 780 Dianc oddi wrth beth?
 
(1, 0) 782 Ia, mi wyddwn i hynna.
(1, 0) 783 'Doedd dim rhaid i mi ofyn.
 
(1, 0) 786 'Rydych chi allan o'r diffaethwch 'rwan, Ann.
(1, 0) 787 Edrychwch i gyfeiriad arall.
(1, 0) 788 Hyd yma, 'rwy' wedi cuddio fy nheimladau, ond rwan...
 
(1, 0) 790 'Rwy'n eich caru, Ann.
(1, 0) 791 'Rwy'n eich caru, gorff ac enaid.
 
(1, 0) 795 Ann!
 
(1, 0) 798 Ydw'—ein serch!
 
(1, 0) 800 Ond 'dyw gwydriad o win Medoc ddim yn deilwng i'r achlysur.
 
(1, 0) 802 Mae gwin eich gwefus yn felysach, Ann!