Ciw-restr

Cyfyng-Gyngor

Llinellau gan Seth (Cyfanswm: 77)

 
(1, 0) 126 Celwydd meddaf eto!
(1, 0) 127 'Rydym mor fyw â chwithau pob tipyn.
(1, 0) 128 Y presennol dd'wedsoch chi?
 
(1, 0) 130 Heriwch faint â fynnoch.
(1, 0) 131 Beth am y presennol i chi?
(1, 0) 132 'Ydych chi'n fodlon arno fo?
(1, 0) 133 Chi, sydd mewn poen meddwl ers misoedd.
 
(1, 0) 138 Yn hollol!
(1, 0) 139 Myn enaid, 'ydych chi'n meddwl mai hanner dwsin o erthylod ydy' ni?
 
(1, 0) 141 Gan bwyll, o ddiawl!
(1, 0) 142 'Rwy' wedi diodde' digon oddiar ei law heb iddo goroni'r cyfan â'i sarhad!
 
(1, 0) 145 Os wyt ti am awgrymu dwad i delerau, Lewis, cei arbed dy wynt.
(1, 0) 146 'Does yna ddim cyfaddawd i fod.
 
(1, 0) 150 Fe fydd yma unrhyw funud 'rwan.
(1, 0) 151 Paid â phryderu, mae o yng ngofal Sioned.
(1, 0) 152 'Chaiff o ddim cam.
 
(1, 0) 182 Synnwyr cyffredin...!
 
(1, 0) 208 Nid dyma'r amser i ffraethineb.
 
(1, 0) 229 Na fedrwch byth!
 
(1, 0) 231 'Rydych wedi methu hyd yma.
 
(1, 0) 247 Ai dyna'r cyfan sy' gennych i' ddweud?
 
(1, 0) 249 Mi fedra'i wneud heb dy ymyrryd parhaus, Lewis.
(1, 0) 250 Edrych ar dy wraig; 'wyt ti am adael i hwn ei gwawdio?
(1, 0) 251 'Oes gennyt ti ddim mymrun o asgwrn-cefn?
 
(1, 0) 254 Gafael yn ei war a'i daflu allan.
 
(1, 0) 258 Pam na fedrwn ni?
 
(1, 0) 264 Ar fy llw!
 
(1, 0) 293 Am ei fod yn haeru mai rhywle arall ydy' o, 'nhad.
 
(1, 0) 304 Wel, 'goeliwch chi rwan?
 
(1, 0) 325 'Dydych chi ddim yn edrych mor hyderus rwan.
(1, 0) 326 Dechra' gweld y gwirionedd hwyrach?
 
(1, 0) 334 A pheidiwch â rhygnu ar y busnes creu yna.
(1, 0) 335 Oni fedre' ni haeru mai nyni a'ch dewisodd chi i'n dibenion ein hunain.
(1, 0) 336 Mai chi ydy'r cysgod wedi'r cyfan!
 
(1, 0) 340 Safwch yn y fan yna.
 
(1, 0) 342 'Rwy'n eich herio.
 
(1, 0) 353 Symuda' i 'run fodfedd.
 
(1, 0) 356 Ond 'nhad, 'dydych chi ddim yn deall!
 
(1, 0) 386 O peidiwch ag edrych mor hurt, da chi!
(1, 0) 387 Os ydych yn holl-wybodol pam 'rydych chi'n gofyn?
(1, 0) 388 Chi ydy'r Awdur: fe ddylech wybod pwy ydy' hi...
(1, 0) 389 'Ydy'r enw Mabli yn golygu rhywbeth i chi?
 
(1, 0) 428 'Does a wnelo Dr. Morus ddim â fo, Mabli.
(1, 0) 429 Gad iddo.
 
(1, 0) 439 'Dydy' o ddim mor syml â hynna.
 
(1, 0) 441 Un cyfeiriad bach sy'n eich drama am f'amser i yn y fyddin.
(1, 0) 442 'Ydych chi'n meddwl y medrwch chi gronni pedair blynedd o uffern i hanner dwsin o eiriau?
 
(1, 0) 448 Paid!
 
(1, 0) 463 Nid plant diymgeledd ydy' ni.
(1, 0) 464 'Thâl y tric yna ddim chwaith.
 
(1, 0) 493 Yn rhydd, a'r dyfodol yn ein dwylo!
 
(1, 0) 502 A 'does dim peryg' i hynny ddigwydd.
(1, 0) 503 Pa garcharor fynnai fynd yn ôl i'w gell a'i gyffion?
(1, 0) 504 O'r nefoedd, prin y galla' i goelio!
(1, 0) 505 Rwy'n teimlo fel dawnsio,—dowch Sioned!
 
(1, 0) 508 Bywyd, 'rhen chwaer, bywyd!
 
(1, 0) 517 Dim "ond" o gwbwl.
(1, 0) 518 Mae hyn yn haeddu ei ddathlu â gwin.
 
(1, 0) 520 Dowch, Sioned, helpwch fi efo'r gwydrau yma.
 
(1, 0) 522 Te ar adeg fel hyn?
(1, 0) 523 Dim o'r fath beth!
(1, 0) 524 Cadwch de i gyn'ebrwn'.
(1, 0) 525 Mae yna fflam i mewn yn y botel yma, Sioned, a mi ydw' i'n dyheu am 'i gwres.
(1, 0) 526 "Gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn."
(1, 0) 527 Gwaed y grawnwin a heulwen y de!
 
(1, 0) 540 Ia, 'rhen Sioned druan!
 
(1, 0) 542 Pan ddaw ei hamser, fe fydd yn cyrraedd y Porth Aur yn 'i siwt Ysgol Sul a'i sana' duon gwlan...
(1, 0) 543 Dyma chi, Ann.
 
(1, 0) 548 Na, 'waeth i chi heb na chynnig dim i 'nhad, chwaith.
(1, 0) 549 Tipyn o hen Biwritan ydy' ynta' hefyd.
 
(1, 0) 555 Wel, ydy' ni'n barod?
(1, 0) 556 Mi ydw' i am gynnig llwnc-destun i Ryddid!
 
(1, 0) 561 Ia, gwell cael bendith yr hen batriarch!
 
(1, 0) 585 I beth?
 
(1, 0) 587 Oes rhaid i ti ddifetha'r cyfan?
 
(1, 0) 589 'Fedra'i ddim bod yn rhesymol heno.
 
(1, 0) 593 O, o'r gora' os wyt ti'n mynnu.