Ciw-restr

Deryn Dierth

Llinellau gan Geinor (Cyfanswm: 101)

 
(1, 0) 25 Oeddech chi'n breuddwydio?
 
(1, 0) 27 Breuddwydio am y cornel clyd yna sydd yn y "Prince of Wales" yn Nhre-cyll.
 
(1, 0) 30 A'r barmaid yna sy'n bowdwr a lipstic i gyd yn dod a pheth yfed i chi.
 
(1, 0) 32 Ydych chi'n drwm eich clyw y pnawn yma.
 
(1, 0) 34 Am danoch chi'n llymeitian yn y "Prince...
 
(1, 0) 36 Rydw i wedi cael siom fawr ynoch chi, Nwncwl─fedrai i ddim dweud faint o siom.
 
(1, 0) 39 Wel, does dim gwahaniaeth gen i─fe ellwch droi i mewn i bob tafarn yn y lle o'm rhan i...
(1, 0) 40 Ble mae modryb?
(1, 0) 41 Allan yn yr ardd?
 
(1, 0) 45 Beth sy'n bod?
 
(1, 0) 47 Fe fyddai'n anodd iawn gen i eu chredu onibai i mi eich gweld trwy ffenestr y "Prince of Wales" neithiwr â'm llygaid fy hun.
 
(1, 0) 50 O!
(1, 0) 51 O'r gorau!
(1, 0) 52 Gwadwch chi.
(1, 0) 53 Fel y dywedais i, does dim gwahaniaeth gen i.
(1, 0) 54 Dwedwch, ydy modryb yn yr ardd?
 
(1, 0) 56 Beth?
(1, 0) 57 Pryd y gwelais i chi?
(1, 0) 58 O, rywbryd rhwng chwech a saith.
 
(1, 0) 60 Dyna ddiwedd arni ynte.
 
(1, 0) 62 Nac ydw, Nwncwl.
(1, 0) 63 Peidiwch ag edrych mor ofidus.
(1, 0) 64 Ddweda i ddim wrth modryb.
(1, 0) 65 Dim ond fi ac Arthur sy'n gwybod.
 
(1, 0) 67 Oedd.
 
(1, 0) 70 Na ofidiwch, Nwncwl bach, ni ddywed Arthur air wrth neb.
(1, 0) 71 Rydych yn ddiogel eto.
(1, 0) 72 Ond gwyliwch chi eich camre o hyn allan.
(1, 0) 73 Beth petai modryb wedi digwydd edrych i mewn drwy ffenestr y bar neithiwr.
 
(1, 0) 75 Wel, meddyliwch chi am hynny y tro nesaf y trowch i mewn yno.
(1, 0) 76 Fe fyddai'n ddigon o sioc i modryb ddod i wybod eich bod chi'n mynd i mewn i'r ""Prince of Wales" heblaw...
 
(1, 0) 78 Reit.
(1, 0) 79 Fe'ch atgofia i chi am yr addewid yna eto.
(1, 0) 80 Ond, dwedwch, ble mae pawb?
(1, 0) 81 Ble mae modryb?
 
(1, 0) 84 Ble mae'r Ianci?
 
(1, 0) 88 O'r gorau.
(1, 0) 89 Ble mae Carnolyn R. Rees, Ysw., Chicago?
 
(1, 0) 92 Wel, gobeithio y gall e wneud y lle hwn yn debycach i Chicago, beth bynnag.
(1, 0) 93 Mari Jones yn dweud bod Arthur wedi mynd am dro, chi yn cysgu yn nhraed eich sanau, Modryb Sara a Modryb Jane yn cario cawl ar hyd y lle, Carnolyn R. Rees yn meindio ei fusnes ei hun a neb yn barod i'm helpu i i dreulio'r pnawn braf yma.
 
(1, 0) 97 Gwnâi, efallai, ond chaiff e mo'r cyfle.
 
(1, 0) 99 Os ydych chi yn mynd i siarad felna, fe af innau i sôn am y "Prince of Wales."
 
(1, 0) 103 Rhaid i chithau beidio â sôn am Demetrius bach hefyd.
(1, 0) 104 Rwy'n fodlon i chi fy mhryfocio am bopeth arall, ond nid amdano ef.
 
(1, 0) 106 Dydw i ddim am fod, a dyna ddigon ar y pwnc yna.
(1, 0) 107 Nawr, dim gair yn rhagor.
(1, 0) 108 Mae'r cadoediad wed dechrau; ond i chi beidio â sôn am Demetrius fe gadwa innau oddi wrth bwnc y "barmaid."
 
(1, 0) 111 Hylo!
(1, 0) 112 Mae'r allweddau yn y drôr yna─rwyf wedi bod eisiau gwybod pa gyfrinach sydd gennych ynddo ers oesoedd a dyma gyfle.
 
(1, 0) 145 A gaf i ymofyn yr ïodin, modryb?
 
(1, 0) 246 Buwyd yn trafod y sefyllfa ariannol, do fe, Nwncwl?
 
(1, 0) 249 O, fe glywais y geiriau "hanner coron yr wythnos" yn fflotio allan drwy'r ffenestr.
 
(1, 0) 251 Ydynt, bawb am wn i.
(1, 0) 252 Pam nad ewch chi ar streic, Nwncwl?
 
(1, 0) 255 Ie, fe glywais; gamblo!
 
(1, 0) 257 Wel, fe allai fod yn swllt, oni allai?
(1, 0) 258 Byddai hynny yn fwy nag yr ydw i'n ei gael.
 
(1, 0) 260 O!
(1, 0) 261 Sut?
 
(1, 0) 263 Does gennych chi ddim cof da, oes e, Nwncwl?
(1, 0) 264 Ydych chi wedi anghofio'r fargen ynglŷn â'r...
 
(1, 0) 267 Do, ac fe addawsoch chithau beidio â son am Demetrius bach, hefyd.
 
(1, 0) 269 Ydych chwi yn dweud y gwir i gyd, Nwncwl?
 
(1, 0) 271 Onid dilyn ordors o H.Q. ydych chi?
 
(1, 0) 273 Dyna un pwnc arall nad yw i gael ei drafod rhyngom.
 
(1, 0) 275 Fe allwn bob amser sôn am y cwestiwn mawr y lwans wythnosol.
(1, 0) 276 Rwy'n addo un peth i chi, Nwncwl, pan fydda i wedi bod trwy'r "School of Dramatic Art" ac yn actres fawr a'm henw mewn goleuadau llachar uwchben drws theatr yn Llundain, rwy'n addo dwblu'ch lwans chi, o leiaf.
(1, 0) 277 Os bydda i'n cael deg punt yr wythnos, ac y mae llawer actres yn cael tipyn yn fwy na hynny, fe gewch chi bunt yr wythnos.
(1, 0) 278 Meddyliwch beth fydd hynny yn ei olygu i chi yn lle ceisio fy mherswadio i aros yn y pentre hwn dan wab modryb a phriodi gwidman sydd wedi reteirio ar arian ei wraig gyntaf.
 
(1, 0) 280 Dim un tamaid.
 
(1, 0) 284 Nid arian yw'r cwbl, Nwncwl.
 
(1, 0) 288 Arian neu beidio, i Lundain i ddysgu bod yn actres yr wyf yn mynd beth bynnag a ddywed modryb a phawb arall.
 
(1, 0) 290 Y peth sy'n fy ngwneud yn ynfyd yw bod Dcmetrius bach yn gwneud i modryb garu drosto.
(1, 0) 291 Buasech yn disgwyl bod gwidman fel efe, wedi cael profiad, yn gallu gwneud ei garu ei hunan.
 
(1, 0) 293 Rydw i wedi rhoi digon o gyfle iddo.
(1, 0) 294 Rwyf am siawns i ddweud wrtho ble mae e'n sefyll i orffen y peth am byth.
(1, 0) 295 Ond wnaiff e ddim.
(1, 0) 296 Mae'n rhaid cael Modryb Jane fel rhyw fath o "chaperone" bob amser.
(1, 0) 297 Os mynd am dro yn ei gar rhaid mynd yn dri.
(1, 0) 298 Os mynd i'r sinema, ni'n tri.
(1, 0) 299 Rwyf wedi cael digon ar ei garu ac am gyfle i roi stop arno am byth.
 
(1, 0) 304 Dim ond Modryb Jane.
(1, 0) 305 Na, mae Demetrius yna hefyd.
(1, 0) 306 Dwedwch wrthyf i, rydw i wedi meddwl gofyn i chwi sawl gwaith, a fu rhywbeth rhwng Modryb Jane a'r Ianci cyn iddo fynd i'r America.
 
(1, 0) 308 Beth alwaf i arno?
(1, 0) 309 Mae Carnolyn R. Rees yn ormod o lond pen, a rywsut nid yw Rees Chicago, yn swnio'n reit.
(1, 0) 310 Ond, dwedwch, a fu rhywbeth rhyngddynt?
 
(1, 0) 312 Wel, os yw e wedi dod yn ôl yma i'w hymofyn, mae'n rhaid i mi edrych i mewn i'w "gredentials."
(1, 0) 313 Mae Modryb Jane yn llawer rhy neis i briodi pob un sydd wedi gwneud arian yn America.
 
(1, 0) 317 A oedd e'n siarad ac yn bragio cymaint yr amser hwnnw?
 
(1, 0) 319 Dwedwch, Nwncwl, beth achosodd i Modryb Sara i ofyn iddo aros yma?
 
(1, 0) 322 Nid eisiau ei gadw yn weddol agos at Modryb Jane, ai e?
 
(1, 0) 335 A fydd Modryb Jane yn dod hefyd?
 
(1, 0) 337 A ydych chi am fynd, modryb?
 
(1, 0) 350 Mr. Carnolyn R. Rees, Modryb─rhaid i chi beidio ag anghofio'r "R"; John D.
(1, 0) 351 Rockfeller, nid John Rockfeller.
 
(1, 0) 360 Wrth ei glywed yn siarad gellwch feddwl ei fod yn adnabod gangsters Chicago i gyd.
 
(1, 0) 368 Fu e ddim yn hir, beth bynnag.
(1, 0) 369 Dyma fe'n dod.
 
(1, 0) 380 Ydych chi'n bwriadu gwneud ail ffortiwn y ffordd hyn eto?
(1, 0) 381 Os ydych, yr wyf am fod yn bartner.